Cais llawn
i newid defnydd cae amaethyddol i gynnwys 10 llain carafán teithiol tymhorol yn
ychwanegol i'r prif safle ynghyd a chodi adeilad toiledau/cawodydd, gwelliannau
tirlunio meddal, creu mynedfa/allanfa bwriedig a gosod offer trin
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Gareth Williams
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i wrthod – rhesymau:
1. Ni fyddai'r datblygiad hwn wedi ei leoli o fewn
lleoliad anymwthiol fyddai wedi'i guddio'n llwyr gan nodweddion presennol y
dirwedd a’r cynnig tirlunio, fe fyddai’n niweidiol i ansawdd y dirwedd ac ni
fyddai’n integreiddio'n briodol gyda’i leoliad mewn cefn gwlad agored. Ni
fyddai'r bwriad ychwaith yn ychwanegu at gynnal, gwella neu adfer cymeriad
cydnabyddedig Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn. Fe ystyrir felly
fod y bwriad yn groes i ofynion Polisïau TWR 5, PCYFF 4 ac AMG 1 Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn.
2. Nid oes gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno fel
rhan o’r cais cynllunio i alluogi’r Awdurdod Cynllunio Lleol fel yr awdurdod
cymwys o dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y’u
diwygiwyd), i wneud asesiad priodol o oblygiadau'r prosiect ar gyfer Ardal
Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau. Nid yw’r cynnig felly’n dangos y
byddai’r bwriad yn gwarchod na gwella’r amgylchedd naturiol ac felly mae’r cais
yn groes i ofynion Polisi PS 19 a AMG 5 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd
a Môn 2011-2026.
3. Ni chyflwynwyd tystiolaeth
ddigonol fel rhan o’r cais cynllunio i ddangos fod ystyriaeth lawn wedi ei roi
i’r effaith o golli tir amaethyddol gorau a mwyaf aml bwrpas. Ystyrir felly fod
y cais yn groes i ofynion maen prawf 6 Polisi PS 6 Cynllun Datblygu Lleol ar y
Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 ynghyd a’r cyngor a roddir ym mharagraffau 3.58 a
3.59 Polisi Cynllunio Cymru.
4. Mae’r bwriad fel y cyflwynwyd
yn golygu defnyddio mynedfa israddol a defnydd o ail fynedfa heb ei gyfyngu.
Ystyrir fod y bwriad yn annerbyniol ac yn groes i ofynion polisi TRA 4 o’r
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 sy’n cadarnhau y
gwrthodir cynigion a fyddai’n peri niwed annerbyniol i weithrediad diogel ac
effeithlon y briffordd.
5. Nid oes datganiad draenio wedi
ei gyflwyno fel rhan o’r cais, ac felly nid oes gwybodaeth ddigonol wedi ei
gyflwyno er mwyn sicrhau fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion rhan 7 o
NCT 15: Datblygu, llifogydd ac erydu arfordirol (2025) o ran darparu system
draenio gynaliadwy.
6. Mae’r safle wedi ei leoli yn
rhannol o fewn Parth Llifogydd 2 a 3 ar gyfer dwr wyneb a chyrsiau dwr bychain
fel y nodir gan y ‘Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio’. Nid oes Asesiad o
Ganlyniad Llifogydd wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais ac mae’r cais yn golygu
darparu datblygiad newydd bregus iawn ar lefel llawr gwaelod ac felly nid yw’r
bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion paragraffau 6.1, 10.19 na 10.20 o Nodyn
Cyngor Technegol 15: Datblygu, llifogydd ac erydu arfordirol (2025) sy’n
sicrhau nad yw datblygiadau bregus iawn yn cael eu lleoli o fewn parthau
llifogydd ble byddai’n achosi risg i fywyd.
Cofnod:
Cais llawn i newid defnydd cae amaethyddol i
gynnwys 10 llain carafán deithiol dymhorol yn ychwanegol i'r prif safle ynghyd
a chodi adeilad toiledau/cawodydd, gwelliannau tirlunio meddal, creu
mynedfa/allanfa bwriedig a gosod offer trin.
a)
Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd yn ymwneud ag ymestyn safle carafanau presennol i dir
amaethyddol gerllaw. Eglurwyd bod caniatâd cynllunio ar gyfer safle ar wahân i
39 carafanau teithiol ar gaeau i’r gogledd a’r gogledd ddwyrain o safle’r cais
ynghyd â llecyn i’r gogledd o safle’r cais presennol wedi ei ganiatáu o dan
gyfeirnod C16/0878/30/LL i storio hyd at 15 o garafanau teithiol trwy gydol y
flwyddyn; gweddill y safle yn cynnwys adeiladau amaethyddol, adeiladau allanol
a dau dŷ preswyl.
Nodwyd bod y safle cyfan wedi ei leoli yng nghefn gwlad agored ac o fewn
Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Llŷn, ac oddi fewn i Dirwedd o
Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli, ac yn rhannol o fewn Parth
Llifogydd 2/3 (Dŵr Wyneb a Chyrsiau Dŵr Bach) fel y dangosir yn y Map
Llifogydd ar gyfer Cynllunio. Gwasanaethir y safle gan ffordd di ddosbarth sy’n
rhedeg yn gyfochrog a’r fferm a’r safle carafanau presennol. Byddai safle’r datblygiad yn rhannol oddi
mewn i safle bywyd gwyllt Porth Meudwy.
Tynnwyd sylw bod gwrychoedd sefydledig ar rai
o ymylon y safle yn arbennig felly'r ffin orllewinol gyda’r ffordd gyhoeddus.
Disgrifiwyd y tir ble lleolir y datblygiad yn dir amaethyddol presennol sydd
wedi ei gynnwys o fewn dosbarth 3a yn ôl mapiau Llywodraeth Cymru sy’n golygu
bod tiroedd 3a ynghyd a thiroedd dosbarth 1 a 3 yn cael eu nodi fel y tiroedd
amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas. Yn yr achos yma, fe’i nodir fel “tir
amaethyddol o ansawdd da i gymedrol”.
Cyflwynwyd y
cais i Bwyllgor gan fod y safle yn fwy o ran maint na’r hyn a ellid ei
benderfynu trwy’r drefn ddirprwyedig. Ategwyd bod y bwriad wedi bod yn destun
cais cynllunio o dan gyfeirnod C24/0413/30/LL, ond bu i’r ymgeisydd dynnu’n
cais yn ôl cyn iddo gyrraedd Pwyllgor
Cynllunio 30.09.2024.
Adroddwyd bod bwriad creu lleiniau ffurfiol ychwanegol i safle presennol
ar gyfer 10 carafán deithiol dymhorol ynghyd a chodi adeilad toiledau/cawodydd,
gwelliannau tirlunio meddal, creu mynedfa/allanfa bwriedig
a gosod offer trin. Byddai tirlunio ar ffurf plannu coedlan fechan wrth ochr
isaf yr ail fynedfa i’r cae yn rhan ddeheuol y safle tra byddai gwrych newydd
i’w blannu tu cefn i’r adeilad toiled arfaethedig. Amlygwyd bod y gwrych
presennol ar hyd ffin y cae gyda’r ffordd gyhoeddus gyfochrog, a’r bwriad fydd
rheoli’r gwrych yma a chreu ardal o wair hir rhwng y gwrych a lleoliad y 10
llain newydd o fewn y cae.
Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, nodwyd bod Polisi TWR 5 y CDLl yn gofyn i unrhyw ddatblygiad carafanau teithiol
gydweddu’n briodol gyda’r dirwedd mewn modd nad ydyw’n peri niwed i’w hansawdd
gweledol. Byddai’r datblygiad yn anorfod yn niweidiol i’r tirlun o fewn yr
AHNE, a hynny yn cael ei gefnogi gan sylwadau’r Uned AHNE.
Er yn cydnabod y pwyntiau a wnaethpwyd gan yr ymgeisydd oedd yn cynnwys
gwerthusiad tirlun a gyflwynwyd, nid oedd y wybodaeth yn newid y ffaith bod y
safle yn weledol yn y dirwedd ac y byddai’r estyniad dan sylw mewn lleoliad
cwbl ar wahân i’r safle carafanau teithiol presennol ger y fferm. Ni ystyriwyd y byddai’r estyniad wedi’i guddio’n
llwyr gan nodweddion presennol y dirwedd ac ni ystyriwyd y byddai’n
integreiddio yn dda gyda’r hyn sydd o’i amgylch. Yn sgil hyn ni ystyriwyd y
byddai’r bwriad yn gwneud dim i gynnal, gwella neu adfer cymeriad cydnabyddedig
yr AHNE a bod y bwriad felly yn groes i ofynion Polisi TWR 5, PCYFF 4 ac AMG 1
y CDLl.
Yng nghyd-destun materion bioamrywiaeth, amlygwyd nad oedd gwybodaeth
ddigonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais i alluogi’r Awdurdod Cynllunio Lleol
fel yr awdurdod cymwys o dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017
(fel y’u diwygiwyd), i wneud asesiad priodol o oblygiadau'r prosiect ar gyfer
Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau. Nid oedd y cynnig felly’n
dangos y byddai’r bwriad yn gwarchod na gwella’r amgylchedd naturiol ac felly’r
cais yn groes i ofynion Polisi PS 19 a AMG 5 y CDLl.
Yn ychwanegol, ni chyflwynwyd tystiolaeth
ddigonol fel rhan o’r cais cynllunio i ddangos fod ystyriaeth lawn wedi ei roi
i’r effaith o golli ‘tir amaethyddol gorau a mwyaf aml bwrpas’. Ystyriwyd fod y
cais yn groes i ofynion maen prawf 6 Polisi PS 6 y CDLl
ynghyd a’r cyngor sy’n ymddangos ym mharagraffau 3.58 a 3.59 Polisi Cynllunio
Cymru.
Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a
mynediad, amlygwyd bod pryderon wedi codi mewn perthynas â’r brif fynedfa i’r
safle arfaethedig a hynny yn benodol oherwydd bod potensial i fwd a deunydd rhydd gael eu cludo i’r briffordd gyhoeddus,
ynghyd â’r posibilrwydd o ddifrod i ymylon y ffordd o ganlyniad i’r cynnydd
mewn traffig fyddai’n defnyddio’r fynedfa. Er mwyn lliniaru’r effeithiau hyn ac
er budd diogelwch y briffordd, roedd sylwadau’r Uned Priffyrdd wedi gwneud cais
i’r ymgeisydd uwchraddio’r fynedfa i safon briodol a boddhaol a darparu
manylion y gwaith arfaethedig, yn ogystal â chyfyngu’r ail fynedfa i ddefnydd
cerddwyr a cherbydau’r gwasanaethau brys yn unig. Ystyriwyd y byddai hyn yn
fodd o reoli symudiadau traffig i mewn
ac allan o’r safle, gan sicrhau bod pob traffig arferol yn defnyddio’r
brif fynedfa sydd wedi’i huwchraddio i safon dderbyniol. Ystyriwyd fod y bwriad
yn annerbyniol ac yn groes i ofynion polisi TRA 4 o’r CDLl
sy’n cadarnhau bydd cynigion a fyddai’n peri niwed annerbyniol i weithrediad
diogel ac effeithlon y briffordd yn cael eu gwrthod.
Amlygwyd nad oedd datganiad draenio wedi ei
gyflwyno fel rhan o’r cais, ac eto nid oedd gwybodaeth ddigonol wedi ei
gyflwyno er mwyn sicrhau fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion rhan 7 o
Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 15: Datblygu, llifogydd ac erydu arfordirol; y
cais yn groes i’r polisi yma. Eglurwyd bod safle'r datblygiad arfaethedig
wedi'i leoli'n rhannol o fewn Parth Llifogydd 2/3 (Dŵr Wyneb a Chyrsiau
Dŵr Bach) fel y dangosir yn y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio. Unwaith
eto, ni chyflwynwyd Asesiad Risg
Llifogydd fel rhan o’r cais ac felly ni ellid bod yn sicr na fydd y bwriad mewn
perygl annerbyniol o lifogydd dwr wyneb ac felly’r cais fel y cyflwynwyd yn
groes i ofynion Adran 6.1 NCT 15: Datblygu, llifogydd ac erydu arfordirol.
Yn ogystal, mae’r cyngor a roddir o fewn NCT
15 yn nodi na ddylid neilltuo safleoedd ar gyfer datblygiadau newydd bregus
iawn (sy’n cynnwys datblygiadau preswyl gan gynnwys carafanau teithiol)
oherwydd ni ystyrir bod perygl a chanlyniadau llifogydd yn dderbyniol ar gyfer
y mathau hyn o ddatblygiadau o fewn parth llifogydd 3. Mewn sefyllfa ble mae’r bwriad yn dderbyniol
yn nhermau holl bolisïau perthnasol y CDLl a lle nad
yw’n darparu defnydd preswyl ar lawr cyntaf, y gall datblygiadau fod yn addas o
fewn parth llifogydd 2. I’r perwyl hyn, nid yw’r bwriad yn cydymffurfio gyda
gofynion NCT 15.
Cydnabuwyd bod sefyllfa economaidd cefn gwlad
ac un sydd ynghlwm ag amaethyddiaeth yn gwbl wybyddus o ran difrifoldeb sicrhau
hyfywdra economaidd. Nodwyd bod yr egwyddor o ddatblygiad newydd fyddai’n
cyfrannu tuag at wella’r economi yn lleol yn cael ei gefnogi yn llwyr. Er
hynny, nid yw hyn yn golygu y gellid caniatáu unrhyw gynnig a gyflwynir, a bod
rhaid i gynigion gydymffurfio yn llwyr gyda gofynion perthnasol polisïau sydd
yn gwarchod ardal hynod sensitif fel sydd yma rhag datblygiadau newydd annerbyniol.
Roedd y swyddogion yn argymell gwrthod y cais.
b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd merch yng ngyfraith yr ymgeisydd y
sylwadau canlynol:
·
Nid yw’r fenter yn cael
ei hadnabod fel menter fawr o garafanau teithiol nac yn ceisio bod yn un
·
Yn deulu lleol, trydedd
genhedlaeth yn gofalu am y tir sydd wedi darparu gwasanaeth gwersylla ers y
60au ac yn dymuno parhau i wasanaethu cenedlaethau’r dyfodol
·
Penodwyd penseiri lleol,
ecolegwyr a phenseiri tirwedd lleol i baratoi y cais ar eu rhan fel ei fod yn
bodloni gofynion.
·
Wedi cysylltu gyda'r
Cyngor am awgrymiadau i sicrhau bod y cais yn bodloni gofynion – nid oedd yn
broses cyflym, hawdd na rhad ond wedi dilyn cyngor
·
Yn gae bach cul sy’n
anodd ei gynnal a’i weithredu yn llawn i safonau amaethyddol modern
·
Yn safle yn guddiedig ac
eisoes wedi ei sgrinio yn dda, ac yn breifat. Nid yw’n amlwg nac yn effeithio yn negyddol ar ansawdd
tirwedd genedlaethol gydnabyddedig yr ardal. Does dim angen sgrinio gan fod y
safle mewn lleoliad isel naturiol - yn
gorwedd yn is na’r ffordd
·
Er mwyn cydymffurfio
gyda pholisïau'r Cyngor ac ecolegwyr, bod cynnig wedi ei wneud i blannu coed i
gryfhau’r gwrychoedd presennol
·
Bod bwriad defnyddio
mynedfa bresennol y safle ac felly dim angen addasiadau pellach i’r briffordd
·
Bloc toiled arddull
amaethyddol wedi ei gynnwys yn y cais
·
Bod carafanau teithiol
ar y safle yn sicrhau y byddai’r tir yn cyfrannu at gynhyrchiant cyffredinol y
fferm
·
Byddai cymeradwyo’r cais
yn fudd i’r teulu - mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd byddai’n arall gyfeirio
yn rhoi sefydlogrwydd ariannol iddynt
·
Byddai’r bwriad yn
cyfrannu at yr economi leol, ehangach.
c)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:
·
Bod y fferm yn un 70
acer; yn drydedd genhedlaeth o deulu sydd wedi bod yn ffermio a godro 50 o
wartheg
·
Fel nifer o ffermydd yn
Aberdaron (mawr a bach), un elfen gyffredin yw eu gweld i gyd yn arall gyfeirio
gyda safleoedd carafanau
·
Yn 1950 cafodd y fferm
ganiatâd cynllunio ar gyfer cadw carafannau; yn 1994 cafwyd caniatâd ar gyfer
adeiladau cyfleusterau; rhoddwyd hawl ar gyfer 30 o unedau teithiol yn 1996;
cynyddu’r hawl i 39 yn 2016.
·
Bod rhai o’r teuluoedd
sydd yn aros wedi bod yn dychwelyd ers 40 mlynedd, gyda rhai yn drydedd
genhedlaeth
·
Nad oedd llain wag ar y
safle – bod 8 teulu ar y rhestr aros – hyn yn brawf bod Ti’r Glyn yn safle sydd
yn cael ei redeg yn effeithiol gyda galw clir am leiniau yno
·
Bod y tir yn cael ei
ddisgrifio fel ‘tir dosbarth 3a yn ôl mapiau Llywodraeth Cymru. Tir 3a yn cael
ei ddisgrifio fel tir amaethyddol gorau a mwyaf, amlbwrpas ac yn yr achos yma yn ‘dir o ansawdd da i
gymedrol’ . Er nad yn dadleu'r categori, rhimyn tenau o dir sydd yma wedi ei
leoli rhwng y briff ffordd a Phorth Meudwy - pori yn unig sydd yn bosib ac
anodd yw ei drin gyda pheiriannau mawr - byddai taenu slyri arno yn peri risg o lygredd gyda nant fechan yn rhedeg ar hyd ochr y cae i lawr i
Porth Meudwy.
·
Pe byddai’n dir
amaethyddol da, defnyddiol, ni fyddai’r
ffermwr yn ei ystyried ar gyfer carafanau gan ei fod yn llawer rhy
werthfawr ar gyfer ffermio
·
Yn cadarnhau bod y
Cyngor Cymuned wedi cyflwyno sylwadau ac yn cefnogi’r cais - ni dderbyniwyd
sylwadau na chwynion gan drigolion lleol, cyfagos yn ystod yr ymgynghoriad
cyhoeddus a hynny oherwydd na fyddai’r estyniad yn effeithio ar lawer o neb
·
Bod y safle 1m yn is
na’r ffordd gyda chlawdd drain, trwchus, naturiol yn sgrinio’r cae
·
Siom bod y swyddogion yn
gofyn am fwy o wybodaeth a bod diffyg tystiolaeth - yr ymgeisydd o dan yr
argraff bod yr holl wybodaeth wedi ei gyflwyno gan yr asiant
·
‘Gwarchod a gwella'r
amgylchedd naturiol’ - y tir o leiaf 1m
yn is na’r ffordd fawr ac yn cael ei sgrinio yn naturiol. Gofyn sydd yma am 10
uned - byddai hawl gan gymydog osod 5 uned heb gais cynllunio o dan reolau Clwb
Carafanau
·
‘Effaith colli defnydd
tir gorau’ - Tebyg bod y ffarmwr yn adnabod ansawdd y tir yn well na
swyddogion? - stribyn tenau sydd yma rhwng ffordd a dibyn. Nid ydynt yn elwa
ohono fel tir amaethyddol ac felly’n berffaith ar gyfer ymestyn maes carafanau
·
Bod cyfeiriad at ddwy
fynedfa yn anghywir – un fynedfa fydd yn cael ei defnyddio, sef y brif fynedfa
i’r cae; yr ymgeisydd yn fodlon cau yr ail fynedfa arall yn llwyr neu osod
ffens os bydd angen cadw hanner y cae ar gyfer tir pori
·
‘Pryder am fwd a defnydd rhydd yn cael ei gludo i'r briffordd a phosibilrwydd i ddifrod i ymylon y ffordd
oherwydd cynnydd mewn traffig’ - hyn yn siomedig. Ffordd goncrid i lawr i’r
safle sydd fel pin mewn papur. Bydd y brif fynedfa hefyd yn goncrit. Pryder am ymylon
y ffordd yn wan - tymhorol yw’r defnydd o Fawrth tan fis Medi.
·
Bod yr ymgeisydd eisoes
wedi rhoi darn o dir i Cyngor Gwynedd i ledu’r ffordd a chreu man pasio – hyn
yn union gyferbyn a’r fynedfa, sydd bellach y fynedfa gydag ymlediad a
gwelediad clir i’r ddwy ochr
·
Yn derbyn y sylwadau
ynglŷn a diffyg ymateb draenio – yr ymgeisydd yn hapus i gomisiynu arolwg
draenio, ac yn cynnig modd o osod amod ar gyfer hyn os penderfynu caniatáu‘r
cais.
·
Argyfwng tai yn taro yn
galed yn yr ardal. Onid gwell fyddai i ymwelwyr aros mewn carafán dros fisoedd
yr Haf yn hytrach na phrynu tŷ yn y pentref a’i adael yn wag am hanner
blwyddyn?
·
Ymwelwyr nid yn unig yn
cefnogi’r fferm – maent hefyd yn cyfrannu a chefnogi’r economi leol - y bwytai,
y cigydd a’r becws lleol
·
Bod Ward Pen Draw Llyn
yn un o’r ardaloedd mwyaf gwledig yn y Sir; sefyllfa byd amaeth yn fregus ac
ansicr ac felly dyma’r amser i’r Cyngor wneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi
amaethwyr
·
Yn gofyn i’r Pwyllgor
gefnogi’r cais am ymestyn safle carafanau symudol ar gyfer 10 uned ychwanegol;
10 uned fydd yn anweladwy oherwydd natur y cae sydd yn is na’r ffordd fawr ac
wedi ei sgrinio yn dda. 10 uned fydd yn cael eu gosod ar y lleiniau o fis Mawrth
tan ddiwedd Medi a'r cae yn dychwelyd i dir porfa dros fisoedd y Gaeaf. Nid Haven neu Warren sydd yma!
·
Yn erfyn ar y Pwyllgor i
gefnogi’r cais ac i gefnogi teulu fferm lleol o Uwchmynydd sydd yn gweithio yn galed i gadw’r fferm ac i
roi dyfodol i’r genhedlaeth nesaf ffermio Ti’r Glyn.
ch) Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais yn
unol â’r argymhelliad
d)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y
sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Nad oedd y cais yn gais
cyflawn - gwybodaeth ar goll ac efallai yn y dyfodol bydd modd ymweld â’r safle
·
Bod y safle tu allan i’r
ffin datblygu
·
Yn dir amaethyddol da
·
Bod angen ystyried
pwyntiau cryf yr Aelod Lleol o ran cefnogi ffermwyr
Mewn ymateb i awgrym y dylid ymweld a’r
safle, nododd y Pennaeth Cynorthwyol bod chwech rheswm gwrthod wedi eu rhestru,
ac mai dim ond un oedd yn ymwneud â materion gweledol (yn benodol oherwydd yr
AHNE). Ategodd y Swyddog Monitro, bod bylchau yn y wybodeth
a gyflwynwyd, a hyd nes bydd y materion hynny wedi eu cydnabod, cynamserol
fyddai cynnal ymweliad safle.
Mewn ymateb
i gwestiwn ynglŷn â’r rhesymau gwrthod, amlygodd y Pennaeth Cynorthwyol y
rhesymau yn gryno;
·
yr effaith
weledol ar yr AHNE (a fydd y datblygiad yn niweidiol i ansawdd y dirwedd?)
·
diffyg
gwybodaeth o safbwynt materion amgylcheddol (a fydd effaith neu beidio ar yr
Ardal Cadwraeth gerllaw ?)
·
yr agwedd
amaethyddol o golli tir amaethyddol da (er yn derbyn sylwadau’r Aelod Lleol)
·
bod y
fynedfa yn israddol (Uned Priffyrdd ddim yn fodlon gyda’r fynedfa bresennol,
ond derbyn sylw'r Aelod Lleol bod posibilrwydd o ddatrysiad, er nad oedd
gwybodaeth wedi dod i law)
·
datganiad
draenio yn ofyn ychwanegol newydd
·
nad oedd
asesiad effaith llifogydd wedi ei gyflwyno.
Ategodd bod
y rhesymau gwrthod yn faterion sydd angen deall eu heffaith yn llawn cyn gosod
amodau priodol. Petai materion gweledol yn cynnig ei hun fel yr unig reswm dros
wrthod y cais, yna byddai cyfiawnhad dros gynnal ymweliad safle. O ystyried bod
pump pwynt technegol arall i’w hystyried fel rhesymau gwrthod, nid oedd sail
digonol i gynnal ymweliad safle.
PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i
wrthod – rhesymau:
1. Ni fyddai'r datblygiad hwn wedi ei leoli o fewn
lleoliad anymwthiol fyddai wedi'i guddio'n llwyr gan nodweddion presennol y
dirwedd a’r cynnig tirlunio, fe fyddai’n niweidiol i ansawdd y dirwedd ac ni
fyddai’n integreiddio'n briodol gyda’i leoliad mewn cefn gwlad agored. Ni fyddai'r
bwriad ychwaith yn ychwanegu at gynnal, gwella neu adfer cymeriad cydnabyddedig
Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn. Fe ystyrir felly fod y bwriad
yn groes i ofynion Polisïau TWR 5, PCYFF 4 ac AMG 1 Cynllun Datblygu Lleol ar y
Cyd Gwynedd a Môn.
2. Nid oes gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais cynllunio
i alluogi’r Awdurdod Cynllunio Lleol fel yr awdurdod cymwys o dan Reoliadau
Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y’u diwygiwyd), i wneud asesiad
priodol o oblygiadau'r prosiect ar gyfer Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn
a’r Sarnau. Nid yw’r cynnig felly’n dangos y byddai’r bwriad yn gwarchod na
gwella’r amgylchedd naturiol ac felly mae’r cais yn groes i ofynion Polisi PS 19
a AMG 5 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026.
3. Ni chyflwynwyd tystiolaeth ddigonol fel rhan o’r
cais cynllunio i ddangos fod ystyriaeth lawn wedi ei roi i’r effaith o golli
tir amaethyddol gorau a mwyaf aml bwrpas. Ystyrir felly fod y cais yn groes i
ofynion maen prawf 6 Polisi PS 6 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn
2011-2026 ynghyd a’r cyngor a roddir ym mharagraffau 3.58 a 3.59 Polisi
Cynllunio Cymru.
4. Mae’r bwriad fel y cyflwynwyd yn golygu
defnyddio mynedfa israddol a defnydd o ail fynedfa heb ei gyfyngu. Ystyrir fod
y bwriad yn annerbyniol ac yn groes i ofynion polisi TRA 4 o’r Cynllun Datblygu
Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 sy’n cadarnhau y gwrthodir cynigion a
fyddai’n peri niwed annerbyniol i weithrediad diogel ac effeithlon y briffordd.
5. Nid oes datganiad draenio wedi ei gyflwyno fel
rhan o’r cais, ac felly nid oes gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno er mwyn
sicrhau fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion rhan 7 o NCT 15: Datblygu,
llifogydd ac erydu arfordirol (2025) o ran darparu system draenio gynaliadwy.
6. Mae’r safle wedi ei leoli yn rhannol o fewn
Parth Llifogydd 2 a 3 ar gyfer dwr wyneb a chyrsiau dwr bychain fel y nodir gan
y ‘Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio’. Nid oes Asesiad o Ganlyniad Llifogydd
wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais ac mae’r cais yn golygu darparu datblygiad
newydd bregus iawn ar lefel llawr gwaelod ac felly nid yw’r bwriad yn
cydymffurfio gyda gofynion paragraffau 6.1, 10.19 na 10.20 o Nodyn Cyngor
Technegol 15: Datblygu, llifogydd ac erydu arfordirol (2025) sy’n sicrhau nad
yw datblygiadau bregus iawn yn cael eu lleoli o fewn parthau llifogydd ble
byddai’n achosi risg i fywyd.
Dogfennau ategol: