Codi 8 o
gytiau bugail, gosod cynhwysydd dŵr budr a suddfan dŵr a seilwaith i
wasanaethu’r cytiau bugail
AELOD LLEOL: Cynghorydd Elwyn Edwards
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gwrthod
Cofnod:
Codi 8 o gytiau bugail, gosod cynhwysydd dŵr budr a suddfan
dŵr a seilwaith i wasanaethu’r
cytiau bugail
Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr
a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog
Cynllunio bod bwriad codi 8 o gytiau bugail fel rhan o fusnes Gwesty Palé Hall.
Gostyngwyd y nifer cytiau bugail o’r cynnig gwreiddiol o 10 i 8 yn dilyn
diwygiadau i’r cais.
Byddai tri cwt bugail wedi eu lleoli mewn rhan ogleddol o’r safle yn
agosach at y gwesty, gyda phump arall wedi eu lleoli ymhellach i’r de-orllewin
o amgylch llyn bach presennol. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn
tiroedd Gwesty Palé Hall, tŷ gwledig Fictoraidd rhestredig Gradd II*, sydd
oddeutu 1km o Landderfel a thua 5.5km o’r Bala; y safle tu allan i unrhyw ffin
ddatblygu ac felly o fewn cefn gwlad agored.
O ran cyfyngiadau cynllunio perthnasol, lleoli’r y safle o fewn Tirwedd
Hanesyddol Dyffryn Afon Dyfrdwy ac Ardal Tirwedd Arbennig Cefnwlad y Bala; o
fewn dalgylch Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid; yn agos
at Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig SoDdGA) Afon Dyfrdwy, yn rhannol o
fewn Safle Bywyd Gwyllt Wern Dywyll ac mae'r safle cyfan o fewn Gorchymyn Cadw
Coed Parcdir Palé Hall; rhan o’r safle hefyd o fewn Parthau Llifogydd 2 a 3 ar
gyfer dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bychain ar Map Llifogydd ar gyfer
Cynllunio.
Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor gan fod y safle yn fwy o ran maint na’r hyn
y gellid ei benderfynu trwy drefn ddirprwyedig.
Yng nghyd-destun asesiad o’r ystyriaethau cynllunio perthnasol
nodwyd bod y bwriad, o greu safle llety
gwersylla amgen parhaol newydd o fewn Ardal Tirwedd Arbennig, wedi cael ei
ystyried o dan Bolisi TWR 3 y CDLl. Nodwyd bod maen prawf 1 Polisi TWR 3 yn
datgan y gwrthodir cynigion ar gyfer safleoedd newydd o'r fath mewn Ardaloedd
Tirwedd Arbennig, ac felly ystyriwyd bod y cynnig yn sylfaenol groes i’r polisi
ac i ofynion Polisi PCYFF 1.
Cyfeiriwyd at bryderon Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch yr effaith bosibl
ar ACA Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid. Er bod gwybodaeth wedi ei gyflwyno
ynglŷn â'r trefniadau draenio budr, nid oedd yr ymgeisydd wedi darparu
tystiolaeth hydroddaeareg nac Asesiad Risg Dŵr Daear, yn unol â'r gofyn. O
ganlyniad, ni ellid diystyru effaith andwyol ar yr ACA ac nid oedd gwybodaeth
ddigonol wedi ei dderbyn fel bod yr Awdurdod yn gallu cwblhau Asesiad priodol.
Yng nghyd-destun materion llifogydd a draenio, er bod y safle wedi ei
leoli'n rhannol o fewn Parthau Llifogydd 2 a 3, nid oedd Asesiad o Ganlyniad
Llifogydd wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais. Gyda’r cynnig yn cynnwys
datblygiad sy’n cael ei ystyried yn ddatblygiad bregus iawn, ystyriwyd ei fod
yn groes i ofynion perthnasol NCT 15: Datblygu, Llifogydd ac Erydu Arfordirol.
Yn ogystal, nid oedd Datganiad Draenio wedi ei gyflwyno i ddangos sut y bydd
dŵr wyneb yn cael ei reoli ar y safle ac felly nid oedd gwybodaeth ddigonol
i amlygu cydymffurfiaeth â gofynion Rhan 7 o NCT 15.
Cydnabuwyd bod rhai elfennau o’r datblygiad yn dderbyniol. Nid oedd gan
yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r cais ac ystyriwyd bod effaith y
datblygiad ar fwynderau gweledol, mwynderau preswyl ac ar osodiad yr adeilad
rhestredig yn dderbyniol yn yr achos hwn.
Roedd y swyddogion yn argymell i’r Pwyllgor wrthod y cais.
b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd yr Aelod Lleol ei fod yn cytuno gyda’r argymhelliad.
c)
Cynigiwyd ac eiliwyd
gwrthod y cais yn unol â’r argymhelliad
ch) Yn ystod
y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Bod y datblygiad yn rhy
agos i’r adeilad rhestredig
·
Bod diffyg gwybodaeth
·
Siomedig bod
argymhelliad i wrthod menter fyddai’n cefnogi busnes presennol a chreu gwaith
yn yr ardal
Mewn ymateb i gais am eglurhad dros reswm gwrthod 1, sef ‘byddai’r
bwriad yn creu safle llety gwersylla amgen parhaol newydd o fewn Ardal Tirwedd
Arbennig ac felly yn groes i bwynt 1 o bolisi TWR 3 a PCYFF 1 o’r CDLl sy'n
diogelu'r Ardal Tirwedd Arbennig rhag y math yma o ddatblygiad’; er
cydnabyddiaeth bod effaith y datblygiad ar fwynderau gweledol, mwynderau
preswyl a’i osodiad ger adeilad rhestredig yn dderbyniol, nodwyd bod y cais yn
un am lety gwersylla parhaol oedd felly yn groes i bolisi.
Mewn ymateb i sylw ategol bod y cais yn un am lety gwersylla parhaol,
ond bod y cytiau bugail gydag olwynion ac felly bod modd eu symud, nodwyd mai’r
ymgeisydd oedd wedi nodi bwriad o adael y cytiau ar y safle drwy’r flwyddyn.
PENDERFYNWYD: Gwrthod
Dogfennau ategol: