Agenda item

I ystyried a chymeradwyo'r cynnig i godi’r uchaf bris yn weithredol o’r 1af o Hydref 2026 yn unol â’r argymhellion; ac yn unol a’r darpariaethau cyfreithiol;  gan nad oes gwrthwynebiad na cynigion wedi eu derbyn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Yn weithredol o’r 1af o Hydref 2026 yn unol â’r argymhellion a’r darpariaethau cyfreithiol, gan nad oedd gwrthwynebiad na chynigion wedi eu derbyn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r cynnig i:

 

  • Gynyddu  uchaf bris cyfradd taith un filltir o £3.60 i £4.00 er mwyn bod yn gyson gydag amryw o gynghorau eraill, ac i gyfarch y cynnydd mewn costau rhedeg tacsi.
  • Gynyddu oriau gweithredol tariff hwyr y nos i fod yn weithredol o 22:00 yr hwyr tan 07:00 y bore, yn hytrach na bod yn weithredol o 00:00 hanner nos.
  • Ostwng cyfradd cost teithiau tariff hwyr o 60% uwch na’r gyfradd sylfaenol yn ôl i 50% yn uwch na’r gyfradd sylfaenol er mwyn cyd - fynd yn gyffredinol gyda chynghorau eraill.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth yr Adran Amgylchedd yn nodi bod cais wedi ei dderbyn gan dri o berchnogion cwmnïau tacsi yng Ngwynedd i’r Awdurdod Trwyddedu adolygu uchaf bris teithiau cerbydau tacsi hacni. Atgoffwyd yr Aelodau ei bod yn ofynnol i unrhyw gais am newid yn yr uchaf bris gael ei gyflwyno gan y diwydiant. Adroddwyd bod cais i gynyddu’r uchaf bris wedi ei gymeradwyo yn 2019 ac yn ddiweddarach yn 2022, ond nad oedd newid wedi bod ers hynny. Gwelwyd cynnydd yn  yr uchaf bris am y ddwy filltir gyntaf mewn taith, ond nid oedd cynnydd wedi bod yn y cyfraddau sylfaenol.

 

Yng nghyfarfod y Pwyllgor 22ain o Fehefin 2026, penderfynwyd cymeradwyo'r cynigion i gynyddu rhai uchaf brisiau a rhoddwyd cyfarwyddyd i’r Gwasanaeth Trwyddedu gynnal ymgynghoriad gyda’r diwydiant, ac yn dilyn hynny, ymgynghoriad statudol wedi ei hysbysebu mewn papur lleol am 14 diwrnod.

 

Yn ystod yr ymgynghoriad gyda’r diwydiant, rhannwyd gohebiaeth gyda’r diwydiant tacsis am bedair wythnos ac fe dderbyniwyd dau e-bost yn cefnogi’r egwyddor o godi uchaf brisiau. Cynhaliwyd y cyfnod ymgynghori statudol rhwng 19 o Awst a’r 3ydd o Fedi 2026 ac ni dderbyniwyd unrhyw ymatebion.

 

Cyfeiriwyd at ymateb a dderbyniwyd tu allan i’r cyfnod ymgynghori statudol, ond nodwyd mai priodol fyddai i’r Pwyllgor ystyried yr ymateb gan y diwydiant – roedd yr ymateb yn amlygu pryder ynghylch symud yr amser y daw’r tariff hwyr y nos (sy’n codi’r pris o 50%) i rym yn gynharach na 22:00, gan y gall hynny arwain at golli cwsmeriaid sy’n defnyddio tacsis rhwng 22:00 a hanner nos; ystyriwyd y byddai codiad o 50% o 22:00 ymlaen yn sylweddol, yn enwedig i bobl sy’n dibynnu’n rheolaidd ar dacsis oherwydd gwaith yn hytrach na’u defnyddio ar gyfer nosweithiau cymdeithasol.

 

Roedd y Gwasanaeth Trwyddedu yn argymell i’r Pwyllgor gymeradwyo’r cynnig i godi’r uchaf bris yn weithredol o’r 1af o Hydref 2026.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mynegodd y Cyng. Arwyn Herald ei fod wedi derbyn pryderon gan drigolion yn ei ward oedd yn poeni am godi taliadau tacsi o 22:00 ymlaen a hwythau yn gweithio shifftiau mewn archfarchnad a / neu gartref gofal. Eu dadl oedd nad oedd bysiau cyhoeddus yn gweithredu yn hwyr yn yr ardal, ac felly bod rhaid defnyddio tacsis lleol. Os bydd y costau yn codi, ni fydd gwerth iddynt fynd i’r gwaith.

 

Mewn ymateb i’r sylw, nododd Arweinydd Tîm Trwyddedu a Rheolaeth Llygredd, mai cynnig gwreiddiol y diwydiant oedd gweithredu tariff hwyr y nos i fod yn weithredol o 20:00, bod y Gwasanaeth Trwyddedu wedi argymell 21:00, ond bod y Pwyllgor Trwyddedu wedi penderfynu 22:00 gan fod unrhyw amser cyn hyn yn ymddangos yn rhy gynnar a bod 22:00 yn gyfaddawd teg rhwng 20:00 a 00:00. Ategwyd nad oedd y tariff hwyr y nos yn cael effaith ar deithiau oedd wedi eu trefnu / bwcio ymlaen llaw, a bod gan y diwydiant yr hawl i osod lefelau eu hunain.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd derbyn yr argymhelliad

           

PENDERFYNWYD

 

Yn weithredol o’r 1af o Hydref 2026 yn unol â’r argymhellion a’r darpariaethau cyfreithiol, gan nad oedd gwrthwynebiad na chynigion wedi eu derbyn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r cynnig i:

 

·        Gynyddu  uchaf bris cyfradd taith un filltir o £3.60 i £4.00 er mwyn bod yn gyson gydag amryw o gynghorau eraill, ac i gyfarch y cynnydd mewn costau rhedeg tacsi.

·        Gynyddu oriau gweithredol tariff hwyr y nos i fod yn weithredol o 22:00 yr hwyr tan 07:00 y bore, yn hytrach na bod yn weithredol o 00:00 hanner nos.

·        Ostwng cyfradd cost teithiau tariff hwyr o 60% uwch na’r gyfradd sylfaenol yn ôl i 50% yn uwch na’r gyfradd sylfaenol er mwyn cyd - fynd yn gyffredinol gyda chynghorau eraill.

 

 

Dogfennau ategol: