Agenda item

DRAGON SHOP LTD, 280 HIGH STREET, BANGOR, LL57 1UL

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Gwrthod y cais

 

COFNODION:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)               Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth yr Adran Amgylchedd yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer The Dragon Shop Cyf, 280 Stryd Fawr, Bangor. Gwnaed y cais gan Asiant Trwyddedu ‘The Licensing Guys’, ar ran yr ymgeisydd oedd yn gwmni cyfyngedig gyda Mr Bayzidiazar wedi ei enwi fel unig gyfarwyddwr y cwmni hwnnw.

 

Amlygwyd bod yr eiddo eisoes yn gweithredu fel Siop Hwylus: bod y cais yn un i werthu alcohol oddi ar yr eiddo o 07:00 tan 23:00, 7 diwrnod yr wythnos.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded pe byddai’n cael ei ganiatáu.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad. Cynigiwyd sylwadau gan BIPBC oedd yn mynegi pryder ynglŷn ag effaith posib y cais ar amcanion trwyddedu atal troseddu ac anrhefn, diogelwch y cyhoedd, ac amddiffyn plant rhag niwed. Cyfeiriwyd at dystiolaeth leol o niwed sydd yn gysylltiedig ag alcohol yng Ngwynedd, lefelau yfed alcohol ymhlith pobl ifanc sydd yn uwch na’r cyfartaledd, pryderon ynghylch diogelwch cymunedol o fewn ardal ward Deiniol, a’r berthynas rhwng argaeledd alcohol a throseddau, anrhefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig ag alcohol. Awgrymwyd i’r Is-bwyllgor ystyried materion gorfodi blaenorol oedd yn ymwneud â’r safle.

 

Roedd Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd (Gwasanaeth Safonau Masnach) hefyd wedi mynegi gwrthwynebiad ar sail tystiolaeth o drosedd ac anrhefn. Nodwyd, yn unol â darpariaethau rhan 4 o’r Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014 bod Hysbysiad Cau wedi ei gyflwyno ar yr eiddo busnes yn 280 Stryd Fawr, Bangor, ar yr 26 o Chwefror 2026, ac yn ddiweddarach, yn dilyn achos Llys lle cyflwynwyd tystiolaeth yn dilyn sawl prawf bryniant o sigaréts/tybaco anghyfreithlon, cipio (seizure) eitemau ffug megis teganau ffug, fêps, sigaréts a thybaco.  Rhoddwyd Rhybudd Cau ar yr eiddo (nid y Cwmni/busnes) oedd yn weithredol am 3 mis tan yr 2il o Fehefin 2026.

 

Cyfeiriwyd at wybodaeth oedd wedi ei rannu ar system gudd - wybodaeth a data sydd yn weithredol gan wasanaethau Safonau Masnach ledled y DU. Darganfuwyd bod Mr Bayzidiazar yn gysylltiedig â siop yn 85 Drake Street, Rochdale. Roedd y siop yn destun gorchymyn cau, a  Mr Bayzidiaza yn gyfarwyddwr ar gwmni arall, sef Cloud 9 Vape Shop Ltd o’r un cyfeiriad, gyda’i fab yn gysylltiedig â’r siop, oedd hefyd yn destun gwerthiant tybaco anghyfreithlon honedig drwy siopau eraill tebyg. Ymddengys mai tenant yn yr eiddo oedd Mostafa Bayzidiazar.

 

Derbyniwyd gwrthwynebiad gan Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd - Iechyd Amgylchedd ar sail yr amcan trwyddedu o atal trosedd ac anrhefn, yn benodol oherwydd bod y siop wedi ei chau i lawr yn gynharach yn y flwyddyn gan swyddogion safonau masnach oherwydd gwerthiant o gynnyrch tybaco ffug (counterfeit). Cyfeiriwyd at sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan y Swyddog oedd yn nodi,

·        ‘Er bod y cais wedi dod gan fusnes newydd, yr un staff sydd yn parhau i weithio yno,  sy’n dilyn patrwm trafferthion busnesau blaenorol ar y safle gyda hysbyseb safon bwyd a hysbyseb cipio ar fwydydd oedd ddim yn cyrraedd gofynion Rheoliadau Prydain gyda llawer o nwyddau o dramor ar werth yno.

·        Nid yw’r busnes newydd wedi cofrestru fel busnes bwyd. Er wedi cysylltu drwy e-bost a llythyr drwy’r post nid oes cofrestriad wedi ei weithredu – hyn yn arwain at amheuon gan fod cofrestru busnes bwyd yn ofyniad cyfreithiol. Diffyg hyder hefyd yn y busnes i gydweithio gyda’r Cyngor’

 

Derbyniwyd gwrthwynebiad gan Aelod Lleol ac aelod o’r cyhoedd mewn perthynas â’r pedwar amcan trwyddedu oedd yn amlygu bod hanes diffyg cydymffurfiaeth yr eiddo yn rhoi diffyg hyder iddynt yng ngallu'r ymgeisydd i gydymffurfio gyda’r cyfrifoldebau ehangach sydd yn gysylltiedig â gwerthu alcohol. Nodwyd nad oedd sgôr hylendid bwyd o 1 yn argoeli yn dda o ran gallu i gadw busnes y cyhoedd yn ddiogel. Ategwyd bod y siop yn denu nifer helaeth o bobl ifanc all arwain at risg o bobl ifanc yn bresennol o gwmpas y siop ar adegau lle ceir digwyddiadau o ymddygiadau gwrthgymdeithasol, gyda hawl i werthu alcohol yn cynyddu’r broblem. Nodwyd hefyd bod anghysondebau gydag oriau agor y siop - er bod 23:00 wedi ei nodi yn adroddiad y Rheolwr Trwyddedu, bod honiadau bod y siop weithiau yn agor tan 2:00

 

Nid oedd gan Heddlu Gogledd Cymru na Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wrthwynebiad i’r cais.

 

Roedd y swyddogion, yn unol â Deddf Drwyddedu 2003,  yn argymell fod yr Is-bwyllgor yn gwrthod y cais oherwydd hanes o drosedd ac anrhefn  a phryderon oedd yn gysylltiedig â’r eiddo;  ac yn gysylltiedig â chyfarwyddwr y cwmni oedd yn cyflwyno’r cais am drwydded.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

 

·          Cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·          Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·          Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ar y cais a galw tystion

·          Rhoi cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd

·          Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd

·          Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig

·          Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu hachos.

·          Swyddog cyfreithiol i grynhoi gofynion y cais

 

b)           Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd  yr ymgeisydd y sylwadau canlynol (drwy ei gyfieithydd)

·        Ei fod yn agored i drafod oriau agor y busnes gyda’r Gwasanaeth Trwyddedu

·        Nad oedd y materion hylendid bwyd yn berthnasol iddo gan nad ef oedd perchennog y siop

·        Pe byddai yn cael trwydded, byddai yn prynu'r siop

·        Amheuon yn unig oedd i’r eiddo yn Rochdale oherwydd gwybodaeth ffug – nid oedd wedi ymddwyn yn anghyfreithlon

·        Dyn busnes ydoedd ac ni fuasai yn gwneud dim byd yn anghyfreithlon

·        Ei fod yn prynu sigaréts rhad, ond dim rhai anghyfreithlon

·        Nad oedd ganddo unrhyw gollfarnau yn ei erbyn ac nid oedd wedi gweithio yn anghyfreithlon

·        Ei fab oedd yn rhedeg y siop yn Rochdale erbyn hyn a’i fod yn cefnogi ei fab i sicrhau bod y siop yn rhedeg yn gyfreithlon

·        Ni fuasai yn ymddwyn yn anghyfreithlon na chaniatáu i’w staff werthu cynnyrch ffug neu anghyfreithlon

·        Ei fod angen un cyfle.

·        Ei fod eisiau buddsoddi yn y busnes

 

c)           Rhoddwyd cyfle i Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor ac i’r ymgeisydd

 

         Mewn ymateb i gwestiwn pwy oedd  yn rhedeg y siop, nododd cynrychiolydd y Cyngor, ar yr Awst 11eg 2026, daeth Safonau Masnach yn ymwybodol o gais am drwydded eiddo newydd ar gyfer yr eiddo 280 Stryd Fawr, Bangor ac amlygwyd mai’r ymgeisydd oedd Dragon Shop Ltd, cwmni sydd wedi cofrestru â'r Tŷ Cwmnïau ers 21 Gorffennaf 2026 gyda Mr Mostafa Bayzidiazar fel Cyfarwyddwr y Cwmni Cofrestredig. Ategwyd, ers i’r cais am drwydded gael ei gyflwyno,  bod cwynion wedi eu derbyn gan y cyhoedd yn honni bod y siop yn gwerthu nwyddau anghyfreithlon.

 

         Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag oriau agor y siop ac os oedd yr eiddo wedi agor ar gyfer masnachu, nododd yr ymgeisydd ei fod yn barod i agor yn unol â dymuniad yr is-bwyllgor, ond na fyddai yn prynu'r siop os na fyddai yn cael trwydded alcohol. Mewn ymateb i gwestiwn ategol ynglŷn â sut y byddai yn rheoli’r siop petai yn cael trwydded a sicrhau mai alcohol cyfreithiol yn unig fyddai yn cael ei werthu o ystyried hanes nwyddau ffug, nododd yr ymgeisydd y byddai yn cydymffurfio a gofynion y drwydded ac yn gwneud addewid i beidio gwerthu unrhyw beth anghyfreithlon.

 

         Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r hyn a ddigwyddodd yn Rochdale, nododd yr ymgeisydd mai perchennog blaenorol y siop oedd wedi gwerthu nwyddau anghyfreithlon - nid oedd y siop yn ei enw ef ac felly yn cwestiynu pam bod hyn yn berthnasol. Ategodd ei fod wedi prynu'r siop yn rhad a bod y siop bellach yn rhedeg fel safle cyfreithiol.

 

ch)    Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ganddynt:

 

Donna Marie Evans : Arweinydd Tîm Safonau Masnach (Gwarchod Defnyddwyr)

·        Bod Safonau Masnach wedi cynnal ‘Ymweliad Busnes Newydd’ â’r siop ar yr 8fed o Fedi 2026 ac yn ôl eu cofnodion, Mr Mostafa Bayzidiazar oedd perchennog newydd y siop.

 

Mr Chris O’Neal – Aelod o’r Cyhoedd

·        Bod cymuned Bangor yn ceisio adfywio'r Stryd Fawr ac yn croesawu unrhyw siopau newydd i gynyddu’r ôl troed

·        Ei fod yn gwrthwynebu’r cais oherwydd materion oedd yn ymwneud â’r eiddo

·        Bod Rhybudd Cau diweddar wedi ei osod ar y siop

·        Ei fod yn pryderu am ddiogelwch plant – bod y siop wedi bod yn gwerthu nwyddau anghyfreithlon i blant dan oed

·        Bod sgôr hylendid o 1 yn rhoi rhyw fath o safonau’r eiddo ac felly'r mater angen sylw

·        Bod yr eiddo presennol yn agor hyd at 02:00, er mai oriau masnachu yw 23:00 – dim mesurau diogelu

·        Bod gwerthiant nwyddau niweidiol yn hollol annerbyniol - os oes sigaréts a fêps anghyfreithlon eisoes yn cael eu gwerthu yn y siop, beth sydd i wahardd gwerthiant alcohol anghyfreithlon?

·        Nad oedd ganddo unrhyw fater yn erbyn yr unigolion, ond bod ei wrthwynebiad yn berthnasol i’r hysbyseb ar yr eiddo

·        Ei fod yn gobeithio y bydd y perchennog yn ymddwyn mewn modd cyfrifol

·        Bod angen sicrhau bod mesurau diogelu mewn lle

 

d)           Yn manteisio ar yr hawl i grynhoi ei hachos nododd y Rheolwr Trwyddedu,

·         Bod y cais a gyflwynwyd yn un am drwydded eiddo ar gyfer The Dragon Shop Cyf, 280 Stryd Fawr, Bangor;

·         Bod y cais wedi ei gyflwyno gan ‘The Licensing Guys’ oedd wedi tynnu’r cais yn ôl ar ôl gweld y sylwadau’r, felly Mr Mostafa Bayzidiazar yn cyflwyno’r cais.

·         Nad oedd Mr Mostafa Bayzidiazar yn siŵr o oriau agor y siop

·         Nid oedd ganddo wybodaeth na thystiolaeth ynglŷn â rheoli gweithredoedd anghyfreithlon y siop i’r dyfodol

·        Bod rhaid cael enw person dynodedig ar yr eiddo  - byddai wedi bod yn bosib i Mr Mostafa Bayzidiazar ei hun wneud cais am drwydded

 

Nid oedd gan yr ymgeisydd sylwadau pellach

 

dd)        Cymerodd y Swyddog Cyfreithiol y cyfle i grynhoi a chadarnhau gofynion y cais.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gyfieithydd, y Rheolwr Trwyddedu, Arweinydd Tîm Safonau Masnach (Gwarchod Defnyddwyr), y wasg a’r cyhoedd y cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob parti oedd yn bresennol yn y gwrandawiad.  Ystyriwyd  Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau gan eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

 

                             i.         Atal trosedd ac anhrefn

                           ii.         Atal niwsans cyhoeddus

                          iii.         Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                          iv.         Gwarchod plant rhag niwed

 

Diystyrwyd y sylwadau a ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion uchod.

 

PENDERFYNWYD: GWRTHOD y cais.

 

Cyflwynwyd cais trwydded eiddo ar gyfer 280 Stryd Fawr, Bangor. Ffurfiwyd cwmni newydd o’r enw Dragon Shop Ltd yn Companies House ar 21 Gorffennaf 2026 gyda chyfeiriad cofrestredig y lleoliad fel 280 Stryd Fawr, Bangor. Unig gyfarwyddwr y cwmni oedd Mr Mostafa Bayzidiazar, ac ymddangosodd ar ran y cwmni oedd wedi cyflwyno’r cais. Dywedodd Mr Bayzidiazar wrth yr Is-bwyllgor nad oedd wedi prynu’r eiddo, a bod y cais wedi’i wneud er mwyn penderfynu a oedd yn mynd i brynu’r eiddo ai peidio.

 

Cyflwynodd Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd, fel awdurdod perthnasol, sylwadau  yn nodi bod yr eiddo wedi bod yn destun Hysbysiad Cau ym mis Mehefin 2026 a hynny oherwydd tystiolaeth bod sawl prawf bryniant o sigaréts/tybaco anghyfreithlon, cipio nwyddau ffug gan gynnwys teganau, dyfeisiau fêps, sigaréts a thybaco. Dywedodd yr ymgeisydd bod hyn wedi digwydd cyn iddo ystyried prynu’r eiddo. Fodd bynnag, hysbyswyd yr Is-bwyllgor bod honiadau pellach ynghylch sigaréts a thybaco anghyfreithlon wedi’u hadrodd ar 30 Mehefin 2026 a 27 Awst 2026. Yn ogystal, adroddwyd bod gweithwyr y siop wedi egluro ar 8 Medi 2026 mai Mr Bayzidiazar oedd perchennog presennol y siop.

 

Cafodd yr Is-bwyllgor wybod drwy’r Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd, oedd wedi derbyn gwybodaeth a data drwy fforwm gwasanaethau Safonau Masnach led led y DU, fod Mr Bayzidiazar hefyd yn gysylltiedig ag eiddo yn Rochdale a oedd wedi bod yn destun Hysbysiad Cau. Bu i Mr Bayzidiazar wadu ei fod yn ymwneud ag unrhyw Hysbysiad Cau, gan nodi iddo brynu'r eiddo ar ôl cyhoeddi'r Hysbysiad Cau am bris llawer is oherwydd y gweithgareddau anghyfreithlon oedd wedi bod yn digwydd yno, a'i fod bellach yn masnachu fel endid cyfreithlon.

 

Darparwyd gwybodaeth hefyd i'r Is-bwyllgor fod gan yr eiddo presennol sgôr hylendid o 1 a bod yr eiddo wedi methu â chofrestru fel man gwerthu bwyd yn unol â Deddfwriaeth Diogelu'r Cyhoedd gan amlygu pryderon ynghylch diffyg cydweithredu a chydymffurfio â rheoliadau. Ni fu i Mr Bayzidiazar egluro'r oriau agor arfaethedig ar gyfer y siop, na darparu'r oriau agor presennol ar gyfer yr eiddo, gan nad oedd yn ymwneud â'r busnes eto.

 

Wrth ystyried sylwadau gan aelod o'r cyhoedd a oedd wedi cyflwyno gwrthwynebiadau yn llafar yn y cyfarfod a drwy wrthwynebiad ysgrifenedig, bu i’r Is-bwyllgor, ystyried y sylwadau oedd yn disgrifio problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol o ganlyniad i'r siop fod ar agor yn hwyr i'r nos (weithiau tan 2am neu 3am), a bod hyn yn denu rhagor o ymddygiad gwrthgymdeithasol i’r ardal. Roedd yr Is-bwyllgor yn pryderu y byddai rhoi trwydded, o bosib yn denu mwy o bobl ifanc i’r man cyfarfod a allai waethygu problemau ymddygiad.

 

Ystyriodd yr Is-bwyllgor y wybodaeth a ddarparwyd gan Mr Bayzidiazar ar ran y cwmni a wnaeth y cais. Fodd bynnag, canfuwyd diffyg eglurder ynghylch nifer o faterion allweddol, oedd yn cynnwys perchnogaeth yr eiddo, yr oriau agor arfaethedig, a'r mesurau a fyddai'n cael eu gweithredu i ddiogelu'r cyhoedd. O ganlyniad  nid oedd yr Is-bwyllgor wedi eu perswadio y byddai popeth yn cael ei gynnal yn "gyfreithlon" gan nad oedd unrhyw gynllun rheoli cadarn na strategaeth fanwl wedi ei gyflwyno

 

Nid oedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod yr amserlen weithredu a gyflwynwyd gyda'r cais yn mynd i'r afael yn ddigonol â'r pryderon a godwyd yn ystod y gwrandawiad. Ni dderbyniwyd unrhyw dystiolaeth y byddai mesurau effeithiol yn cael eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â'r materion yn ymwneud â nwyddau ffug, a oedd wedi'u nodi yn y safle yn ystod y misoedd diwethaf. Ar ben hynny, ni ddarparwyd digon o dystiolaeth na sicrwydd i'r Is-bwyllgor y byddai unrhyw nwyddau alcohol, fêpio, neu dybaco a werthwyd yn y safle yn ddilys (genuine) ac o ffynhonnell gyfreithlon, y tu hwnt i honiad Mr Bayzidiazar oedd yn nodi y byddai pob gweithrediad yn y dyfodol yn cael ei gynnal yn gyfreithlon.

 

Roedd yr Is-bwyllgor hefyd yn bryderus ynghylch y wybodaeth a dderbyniwyd gan  Safonau Masnach Rochdale mewn perthynas â safleoedd oedd yn gysylltiedig â Mr B, ac felly bu iddynt eu hystyried yn berthnasol i'r cais.

 

Roedd yr Is-bwyllgor hefyd wedi darllen sylwadau Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus BIPBC oedd wedi gwrthwynebu'r cais ar sail amcanion trwyddedu diogelwch y cyhoedd ac amddiffyn plant rhag niwed. Roedd eu pryderon yn ymwneud â niwed oedd yn gysylltiedig ag alcohol yng Ngwynedd, yn enwedig gan fod ward Deiniol yn cael ei chydnabod fel un o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Ngwynedd, a bod cysylltiad clir rhwng argaeledd alcohol a throseddau, anhrefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol. Bu iddynt wneud cais i'r Is-bwyllgor ystyried goblygiadau lles ehangach y cais, yn enwedig mewn perthynas ag unigolion sydd yn agored i niwed, plant a phobl ifanc.

 

Nododd yr Is-bwyllgor nad oedd Heddlu Gogledd Cymru na'r Gwasanaeth Tân yn gwrthwynebu'r cais.

 

Wrth ystyried yr amcanion trwyddedu, daeth yr Is-bwyllgor i'r casgliad nad oedd y cais, fel y'i cyflwynwyd, yn rhoi sicrwydd digonol y byddai'r amcanion trwyddedu yn cael eu cynnal. Yn benodol, nid oedd yr Is-bwyllgor yn fodlon y byddai'r amcanion o atal trosedd ac anhrefn, sicrhau diogelwch y cyhoedd, ac amddiffyn plant rhag niwed yn cael eu hyrwyddo'n ddigonol gan Mr Bayzidiazar a Dragon Shops Ltd, o ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd ynghylch materion diweddar yn ymwneud â'r safle, a'r unigolyn oedd yn gysylltiedig â'r cais.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad

 

Dogfennau ategol: