Agenda item

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r Cyfansoddiad.

Cofnod:

(Cyhoeddwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.)

 

1.     Cwestiwn Y Cynghorydd Dawn Lynne Jones

 

Gan gyfeirio at y data diweddaraf ynghylch pobl ifanc 16-25 oed sy’n cysgu allan neu sydd wedi’u hasesu’n ddigartref yn fwriadol, pa asesiad y mae’r Aelod Cabinet wedi’i wneud o faint digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Ngwynedd? A yw’n fodlon bod polisïau a gwasanaethau presennol y Cyngor yn ddigonol, a pha gamau pellach sy’n cael eu cymryd i atal pobl ifanc rhag mynd yn ddigartref?

 

Ateb yr Aelod Cabinet Tai ac Eiddo, y Cynghorydd Paul Rowlinson 

 

Nid oes unrhyw berson ifanc 16-25 oed wedi’i adnabod yn cysgu allan ar y stryd yng Ngwynedd ar hyn o bryd. Mae’r Adran Tai ac Eiddo yn comisiynu ystod o wasanaethau cymorth tai sydd wedi eu hanelu’n benodol ar gyfer pobl ifanc 16 i 25 oed. Mae’r gwasanaethau yma yn ymestyn o brosiectau galw-i-mewn, i gefnogaeth symudol yn y gymuned, yna i gynnig llety dros dro â chefnogaeth ac wedyn yn gefnogaeth symudol mewn eiddo â chefnogaeth wasgaredig yn y gymuned. Mae’r ystod yma o wasanaethau yn rhoi cylch cyfan o gefnogaeth i bobl ifanc.

 

Mae’r Cyngor yn comisiynu gwasanaeth allgymorth (outreach) drwy Tai Gogledd Cymru i adnabod ac ymateb i unrhyw achosion o gysgu allan. Pe canfyddir unigolyn yn cysgu allan, bydd y gwasanaeth allgymorth yn cysylltu â'r person ac yn cynnig cymorth i'w helpu i gael mynediad at wasanaethau tai a chefnogaeth. Mae'r Cyngor hefyd yn defnyddio'r system StreetLink, sy'n galluogi aelodau'r cyhoedd i roi gwybod am unigolion y maent yn amau eu bod yn cysgu allan. Caiff pob atgyfeiriad StreetLink ei ystyried, a lle bo'n briodol bydd swyddogion neu'r gwasanaeth allgymorth yn cynnig cymorth.

 

Mae GISDA a Cyfle yn darparu gwasanaethau cefnogaeth symudol i bobl ifanc ar draws y sir. Mae’r gefnogaeth yma yn rhan bwysig o’r ddarpariaeth ehangach o geisio atal digartrefedd trwy fynd i’r afael â materion cyn cyrraedd argyfwng. Fodd bynnag, mae amgylchiadau yn codi lle mae angen llety dros dro â chefnogaeth a chomisiynir hynny gan GISDA mewn sawl lleoliad ar draws y sir. Mae’r ddarpariaeth yn cynnwys defnydd hosteli ac unedau unigol gwasgaredig o lety ac mae canlyniadau positif iawn i’w gweld o’r cynlluniau hynny.

 

Ar hyn o bryd mae Cyfle a GISDA yn darparu gwasanaethau galw-i-mewn, ond daethpwyd i’r penderfyniad bod hwn yn faes lle y gellir ehangu a datblygu’r ddarpariaeth ac felly comisiynwyd gwasanaeth galw-i-mewn llawer mwy eang a chynhwysfawr nag o’r blaen. Yn dilyn proses dendro ddiweddar roedd Cyfle yn llwyddiannus ac mi fyddant yn darparu gwasanaeth galw-i-mewn sirol o’r 1af o Ragfyr. Rhan o’r cytundeb yma fydd canfod gwell dealltwriaeth o anghenion cefnogi pobl ifanc ac adnabod cyfleoedd i ddatblygu ac ehangu gwasanaethau ymhellach. Bydd y gwasanaeth galw-i-mewn hefyd yn cyflwyno ap newydd i ddefnydd pobl ifanc - “Showt” - sydd yn ddatblygiad cyffrous ac arloesol i’r sir, edrychwn ymlaen at ei weld pan fydd y cytundeb yn dechrau.

 

Mae’r Cyngor hefyd yn rhedeg gwasanaeth SPOA (Single Point of Access) sy’n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Mae'r SPOA yn darparu llwybr ymyrraeth gynnar sy'n galluogi adnabod pobl ifanc sydd angen cymorth cyn gynted â phosibl a'u cyfeirio at y gwasanaethau mwyaf priodol yn unol â'u hanghenion unigol. Gall hyn gynnwys cyngor tai, cyfryngu teuluol, gwasanaethau iechyd meddwl, cymorth camddefnyddio sylweddau, gwasanaethau cyflogadwyedd, cyngor lles ac ystod o wasanaethau arbenigol eraill. Drwy gydlynu atgyfeiriadau a hwyluso mynediad at gymorth perthnasol, mae'r SPOA yn helpu i fynd i'r afael â phroblemau cyn iddynt ddatblygu'n argyfwng tai ac yn cefnogi pobl ifanc i gynnal llety sefydlog lle bynnag y bo modd.

 

Mae swydd benodol o fewn yr Adran Addysg sy’n canolbwyntio ar waith ataliol mewn ysgolion a lleoliadau eraill, gyda’r nod o adnabod risgiau’n gynnar a chefnogi unigolion cyn i’w sefyllfa waethygu i’r pwynt o fod mewn perygl o ddigartrefedd.

 

Credaf bod y ddarpariaeth cefnogaeth tai ar gyfer pobl ifanc yn gynhwysfawr a grymus yng Ngwynedd a byddwn yn sicrhau bod y ddarpariaeth yn cael ei adolygu’n rheolaidd.

 

2.     Cwestiwn Y Cynghorydd Elin Hywel

 

Gwyddom fod tir sych, cryno (compact), sydd wedi caledu yn ystod tywydd sych eithafol yn methu amsugno dŵr ar gyfradd arferol. Gwyddom fod hyn yn cynyddu’r risg o ddŵr ar y wyneb yn sylweddol pam fo glaw mawr yn dilyn. Y flwyddyn hon bu'r Gorffennaf sychaf ers 190 o flynyddoedd. Bu i CNC ddatgan bod Cymru gyfan mewn sychder, ac roedd hyn yn cynnwys dalgylchoedd Gwynedd.

 

Er nad oes posib rhagweld gyda sicrwydd pa dywydd ddaw gyda’r hydref a’r gaeaf, gwyddom fod patrwm tywydd El Nino erwin i’w ddisgwyl y flwyddyn hon, a bod y patrwm tywydd yma yn cynyddu'r posibilrwydd o dywydd garw a gwlyb iawn yma yng Nghymru. Rydym wedi derbyn sawl rhybudd gan lywodraeth y DU a sefydliadau megis y Met Office i’r perwyl hwn.

 

Pa baratoadau ychwanegol traws adrannol sydd wedi ei gwneud y flwyddyn hon er mwyn ymateb i’r risg hysbys a chynyddol o dywydd gwlyb garw sydd yn cynyddu'r risg o lifogydd - ym Mhwllheli yn benodol, Gwynedd yn ehangach, yng ngolau ffactorau megis y tywydd a ddisgwylir a’r posibiliadau o ddŵr ffo ar ôl sychder (post-drought runoff) sydd yn cynyddu’r risg o lifogydd difrifol?

 

Yn ogystal, gan ystyried safbwynt cyhoeddedig y Cyngor ar fater o lifogydd sydd yn nodi “mewn sawl achos mae atal yn amhosibl” a phwyslais y Cyngor ar beth allwn ni fel unigolion wneud i atal llifogydd yn ein cartrefi, pa gyfathrebu sydd wedi ei gynllunio ar gyfer y flwyddyn hon i sicrhau bod trigolion yn deall y risg i’w heiddo penodol, yn gwybod beth i’w wneud o flaen llaw os daw llifogydd, a lle gallent gael cefnogaeth?

 

Ateb yr Aelod Cabinet dros Briffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd, y Cynghorydd June Jones 

 

Diolch am y cwestiwn. Mae'n bwynt dilys bod priodweddau pridd yn gallu newid yn ystod cyfnodau hir o sychder, gyda'r tir yn mynd yn fwy cryno ac mewn rhai amgylchiadau yn amsugno llai o ddŵr. Gall hyn arwain at gynnydd dros dro mewn dŵr wyneb yn dilyn glaw trwm. Fodd bynnag, yn dilyn y cyfnod o dywydd mwy anwadal a gwlypach ers diwedd mis Awst, mae'n debygol fod llawer o'r tir bellach wedi dychwelyd yn nes at gyflwr mwy arferol. Wrth symud i mewn i'r gaeaf, y prif bryder yn aml fydd tir sydd eisoes wedi ‘waterlogged’ gan law blaenorol ac sydd felly â llai o allu i ymdopi â rhagor o law trwm.

 

O ran parodrwydd y Cyngor, mae trefniadau sefydledig mewn lle gyda ni fel gwasanaeth cynnal priffyrdd ac asedau dŵr fel y gallwn ymateb i ddigwyddiadau tywydd garw a llifogydd. Yn ogystal â'r trefniadau hyn, mae gwaith pellach wedi bod yn cael ei ddatblygu eleni i gryfhau ein gallu i ragweld ac ymateb i risgiau llifogydd. Mae hyn yn cynnwys datblygu templedi rhagolygon glaw manwl fesul ardal gan ddefnyddio data o systemau monitro fel synwyryddion Hydromaster, cryfhau trefniadau rheoli asedau llifogydd yn ystod digwyddiadau, a blaenoriaethu rhaglenni gwaith i wella ac uwchraddio rhai sgriniau malurion ("debris screens") mewn lleoliadau ble bu problemau yn y gorffennol.

 

Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo i gryfhau'r broses o ddefnyddio gwybodaeth a rhybuddion gan y Swyddfa Dywydd a Chyfoeth Naturiol Cymru. Er bod trefniadau clir eisoes mewn lle ar gyfer ymateb i stormydd arfordirol, rydym yn parhau i ddatblygu ein trefniadau ar gyfer digwyddiadau glaw trwm. Mae hyn yn cynnwys archwilio sut y gellir defnyddio data hanesyddol a gwybodaeth leol i sefydlu trothwyon glaw sy'n debygol o achosi problemau mewn ardaloedd penodol, gan helpu i sbarduno trafodaethau ac ymatebion gweithredol ar yr adeg briodol.

 

Yn achos Pwllheli yn benodol, rydym yn awyddus i sicrhau bod cynlluniau lleol yn parhau'n gyfredol ac yn berthnasol. Mae adolygu a diweddaru trefniadau cymunedol lleol ar gyfer llifogydd yn parhau i fod yn elfen bwysig o waith paratoi'r Cyngor a'i bartneriaid.

 

O ran cyfathrebu â'r cyhoedd, rydym yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod trigolion yn deall y risgiau sy'n berthnasol i'w hardaloedd ac yn gwybod pa gamau y gallent eu cymryd i baratoi. Byddwn yn ystyried cyfleoedd i weithio gyda phartneriaid megis Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Swyddfa Dywydd i atgoffa trigolion, yn enwedig mewn ardaloedd sydd â hanes o lifogydd, am y camau ymarferol y gallent eu cymryd cyn y gaeaf. Gallai hyn gynnwys cyfeirio pobl at wybodaeth am gynlluniau llifogydd personol, gwasanaethau rhybuddio, a ffynonellau cymorth a chyflenwadau lleol a allai fod o gymorth pe bai digwyddiad llifogydd yn digwydd.

 

Mae’r tîm Rhybuddio a Hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn rheoli ac yn darparu’r gwasanaeth rhybuddio llifogydd lleol i bartneriaid proffesiynol ac i’r cyhoedd, ochr yn ochr â pharodrwydd ar gyfer digwyddiadau.

 

Maent hefyd yn arwain ar gydlynu ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dilyn llifogydd, gan sicrhau bod gweithgareddau adfer a dysgu gwersi yn cael eu rheoli’n effeithiol.

 

Er nad yw'n bosib atal pob digwyddiad llifogydd, ein nod yw parhau i gryfhau ein trefniadau monitro, ein trefniadau ymateb a'n gwaith gyda chymunedau er mwyn lleihau'r risgiau ble bo modd a sicrhau ymateb cydlynol pan fydd tywydd garw yn digwydd.

 

Cwestiwn Atodol Y Cynghorydd Elin Hywel

 

Diolch am y wybodaeth defnyddiol iawn. Rwy’n falch o glywed bod gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu trothwy glawiad penodol ar gyfer gwahanol ardaloedd, gan fod hyn yn bwysig. Ond, o ystyried y risgiau a drafodwyd, rwy’n gobeithio bydd modd symud yn gyflym o’r cam archwilio at weithredu.

 

Yn fy nghwestiwn gwreiddiol, gofynnais pa baratoadau ychwanegol trawsadrannol sydd wedi cael eu gwneud eleni. Nid wyf yn teimlo bod hyn wedi cael ei ateb yn llawn. Mae angen i drigolion wybod bod y Cyngor yn barod at beth fydd yn digwydd os daw tywydd eithriadol. Felly, a all yr Aelod Cabinet gadarnhau ba gamau ychwanegol bydd yn cael eu cymryd cyn y gaeaf, a sut bydd y gwaith hwn yn cael ei gydlynu ar draws adrannau’r Cyngor?

 

Fel yr awdurdod llifogydd lleol arweiniol, sut y bydd y Cyngor yn rhybuddio trigolion am lifogydd dŵr wyneb, o ystyried nad yw rhybuddion llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cwmpasu'r risg hon?

 

Beth fydd yn sbarduno'r rhybuddion hyn a sut bydd trigolion yn cael gwybod o flaen llaw, beth i’w wneud a ble i gael cymorth?

 

Ateb yr Aelod Cabinet dros Briffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd, y Cynghorydd June Jones 

 

Diolch am y cwestiwn atodol. Mae paratoi at dywydd eithriadol yn waith parhaus ar draws nifer o wasanaethau’r Cyngor a’n partneriaid. Fel awdurdod llifogydd lleol arweiniol, rydym yn gweithio’n agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, sydd yn gyfrifol am gyhoeddi rhybuddion llifogydd swyddogol ble’n berthnasol.

 

Yn ogystal â’r trefniadau rhybuddio hyn, rydym yn parhau i adolygu ac archwilio asedau ein hunain, gan gynnwys cwlferi, draeniau, sgriniau malurion a safleoedd ble rydym yn ymwybodol o broblemau neu beryglon hanesyddol. Mae gwaith cynnal a chadw ac ymyrraeth dargedig yn cael eu blaenoriaethu yn y lleoliadau hyn er mwyn lleihau’r risg gymaint â phosib, cyn y gaeaf.

 

Yn weithredol, mae’r Cyngor hefyd, drwy’r gwasanaeth Cynnal Priffyrdd yn paratoi ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau drwy drefniadau arferol sydd gennym mewn lle. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod bagiau tywod ar gael ym mob ‘depot’ strategol ledled y Sir, er mwyn gallu ymateb yn gyflym i broblemau lleol, yn ystod cyfnodau o law trem neu lifogydd.

 

Er na allwn atal pob digwyddiad tywydd eithafol, ein nod yw cyfuno gwybodaeth a rhybuddion gan Gyfoeth Naturiol Cymru, gyda monitro lleol, archwilio a chynnal ein hasedau a pharodrwydd gweithredol effeithiol fel bod y Cyngor yn y sefyllfa orau posib i ymateb a chefnogi cymunedau trwy gydol y gaeaf.

 

3.     Cwestiwn Y Cynghorydd Richard Glyn Roberts

 

O ystyried:

·       Bod y cynllun datblygu lleol presennol yn seiliedig ar ragolygon anghywir ynghylch twf y boblogaeth a nifer y swyddi yn ystod cyfnod y cynllun;

·       A bod swyddogion cynllunio Gwynedd yn sylweddoli hynny ac wedi cyfleu hynny mewn cyflwyniadau i aelodau etholedig;

·       A bod y cymdeithasau tai yn sgramblo i gyflwyno ceisiadau cynllunio am stadau tai cymdeithasol ym mhentrefi a threfi Llŷn ac Eifionydd cyn i gyfnod y cynllun presennol ddod i ben;

·       A bod maint a graddfa’r cyfryw ddatblygiadau’n peryglu gwead ieithyddol cymdeithasol bregus cymunedau hynny - Botwnnog, Nefyn, Trefor, Chwilog, Y Ffôr, Abererch - ac yn destun gwrthwynebiad lleol cryf;

·       Ond bod dwylo’r swyddogion a’r pwyllgor cynllunio wedi eu rhwymo gan y cynllun presennol, er gwybod ei fod yn gorwedd ar sail dystiolaeth amryfus;

 

Pa gamau y bwriedir eu cymryd i dorri’r cylch absẃrd yma o anwiredd?

 

Ateb yr Aelod Cabinet dros Amgylchedd, y Cynghorydd Craig ab Iago 

 

Cyn ymateb i’r cwestiwn, mae’n bwysig cyfarch camargraff yn rhai o’r pwyntiau sydd wedi eu codi yn ogystal â’r cwestiwn a ofynnir.

 

O ran Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn a gafodd ei fabwysiadu gan y Cyngor Llawn yn 2017, roedd y Cynllun yn seiliedig ar y dystiolaeth a’r rhagolygon oedd ar gael ar y pryd o ran materion yn cynnwys twf poblogaeth a niferoedd swyddi. Mae newidiadau mewn amgylchiadau oherwydd rhesymau amrywiol yn anorfod yn ystod cyfnod 15 mlynedd Cynllun, ac mae hyblygrwydd o fewn y Cynllun sy’n golygu fod modd ymateb i hynny. Mae hynny wedi ac yn parhau i ddigwydd yn ystod cyfnod y Cynllun, ac rwyf yn hyderus mai dyna sydd wedi ei gyfleu mewn cyflwyniadau i Aelodau.

 

I gyfarch byrdwn y cwestiwn, does dim dwywaith fod Gwynedd yn wynebu argyfwng tai, gyda theuluoedd ifanc yn methu cael mynediad at dai addas yn eu cymunedau. Mae hynny’n cynnwys pob math o gartrefi gwahanol sy’n cynnwys tai marchnad agored, tai fforddiadwy a thai cymdeithasol.

 

Fel Cyngor, rydym yn arwain y ffordd drwy sicrhau fod ystyriaeth o’r Gymraeg yn rhan allweddol o bolisïau cynllunio lleol, gydag arweiniad manwl yng Nghanllaw Cynllunio Atodol y Cynllun Datblygu presennol ar sut i roi ystyriaeth i’r iaith wrth ymdrin â cheisiadau am ddatblygiadau newydd.

 

Mae pob cais yn cael ei asesu’n unigol ac ar ei haeddiant yn erbyn polisïau'r Cynllun Datblygu Lleol a pholisïau cenedlaethol, gan asesu’r dystiolaeth berthnasol, a rhoi ystyriaeth i’r holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys yr angen am dai ac ystyriaeth o’r iaith Gymraeg.

 

Fel y bydd yr holl aelodau’n ymwybodol, mae gwaith yn bwrw ymlaen ar Gynllun Datblygu Lleol newydd gan bwysleisio bod yn rhaid i’r Cynllun fod yn seiliedig ar dystiolaeth ar draws sawl maes gwaith, a bydd ystyriaeth o’r Gymraeg yn ganolog i’r broses o’i baratoi.

 

Cwestiwn Atodol Y Cynghorydd Richard Glyn Roberts

 

Deallaf fod gan y Cabinet rôl arweiniol yn y Bartneriaeth Dai, sy’n gwneud penderfyniadau mawr o fewn y maes hwn. Sut mae cyfiawnhau bod yn glustfyddar a di-ystyrru barn Cynghorwyr lleol, Cynghorau Cymuned, deisebau gan drigolion a gwrthwynebiadau ar sail data cyfrifiad, sy’n dangos bod maint a graddfa’r datblygiadau, yn mynd i wanhau’r Gymraeg yn Llŷn ac Eifionydd.

 

Ateb yr Aelod Cabinet dros Amgylchedd, y Cynghorydd Craig ab Iago 

 

Nodwyd nad oes modd darparu ateb ffeithiol i’r cwestiwn atodol, gan ei fod yn seiliedig ar farn unigol.

 

4.     Cwestiwn Y Cynghorydd Gruffydd Williams

 

Yn 2020 Dywedodd y Cynghorydd , a chyn arweinydd Cyngor Gwynedd , Dyfrig Siencyn, Cadeirydd Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru: “Rydym yn hynod falch o gefnogi’r argymhelliad hwn er mwyn galluogi’r pum prosiect cyffrous yma i symud ymlaen i’r cam nesaf o sicrhau arian o’r Cynllun Twf. Maen nhw i gyd yn brosiectau trawsnewidiol sydd â'r potensial i gyfrannu i economi Gogledd Cymru trwy ddod a buddsoddiad ychwanegol a chyfleoedd gwaith mewn sectorau allweddol. Mae’r prosiectau hefyd yn adlewyrchu ein gweledigaeth ni i hybu ffyniant economaidd sy’n arloesol a chynaliadwy yn yr ardal a hynny trwy annog cydweithio rhwng y sector cyhoeddus a phreifat."

 

Ia ba raddfa y bu i’w honiadau am greu hyd at 4,300 o swyddi droi yn fethiant ysgubol?

 

Ateb yr Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned, y Cynghorydd R Medwyn Hughes

 

Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn cydnabod fod Cynllun Twf Gogledd Cymru wedi wynebu llawer o heriau ac oedi ers i'r Cytundeb Terfynol gael ei arwyddo gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain ym mis Rhagfyr 2020. Er bod rhai o'r ffactorau hyn yn fewnol, gan gynnwys amserlenni prosiect gor-obeithiol a heriau cynllunio, mae ffactorau allanol hefyd wedi cyfrannu at oedi gan gynnwys effaith economaidd Covid-19, gwrthdaro rhyngwladol a phwysau chwyddiant costau. Yn 2025, cytunodd yr Is-bwyllgor Lles Economaidd ar nifer o newidiadau i'r Cynllun Twf er mwyn gwell cyfradd y gweithrediad gan gynnwys tynnu prosiectau oedd wedi oedi, creu rhestr wrth gefn o brosiectau posibl a chytuno proses sicrwydd a chymeradwyo mwy syml. Mae'r newidiadau hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar berfformiad gyda nifer yr achosion busnes a gymeradwywyd yn cynyddu'n sylweddol.

 

Mae'n bwysig cofio mai rhaglen 15-mlynedd ydi hon ac mae 10 mlynedd o waith buddsoddi eto i ddod i gyflawni deilliannau. Hyd at ddiwedd chwarter 1 2026/27 mae yna 8 prosiect yn cael eu cyflawni ar draws Gogledd Cymru gan gynnwys y prosiectau canlynol yng Ngwynedd - Parc Bryn Cegin, Canolfan Prosesu Signal Digidol a'r Canolfan Biotechnoleg Amgylcheddol gyda Phrifysgol Bangor a’r elfen Llaeth Defaid Cymru o’r prosiect Hwb Economi Wledig Glynllifon. Mae 10 prosiect ychwanegol wedi cymeradwyo ar gyfer y rhanbarth ond heb eto symud fewn i gyflawni. Er bod y ffigurau buddsoddiad a chreu swyddi yn weddol isel ar hyn o bryd, byddant yn cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd nesaf wrth i'r prosiectau sydd yn cael eu cyflawni symud drwy'r gwaith adeiladu i'w camau gweithredol. Mae'r 18 prosiect yma wedi gwneud ymrwymiadau i greu 2003 swyddi erbyn 2036 gyda'r gweddill o'r targed i'w gyflawni gan brosiectau sydd eto i gael eu cymeradwyo.

 

Cwestiwn Atodol Y Cynghorydd Gruffydd Williams

 

Gan ystyried y diffyg twf ym mhoblogaeth, a bregusrwydd y Gymraeg, onid oes rheidrwydd bellach i wneud Cynllun Economaidd Lleol sy’n seiliedig ar realiti'r cwymp mewn genedigaethau, yn hytrach na breuddwydion ffôl am dwf.

 

Ateb yr Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned, y Cynghorydd R Medwyn Hughes

 

O’r cynlluniau sydd ar y gweill, bydd 11 cynllun buddsoddi yn uniongyrchol yng Ngwynedd. Os bydd y cynlluniau hyn yn cael eu gwireddu, bydd dros £57miliwn o arian Cynllun Twf wedi ei fuddsoddi yng Ngwynedd yn ystod y cyfnod, gan arwain at gyfanswm buddsoddiad o bron i £115miliwn yng Ngwynedd dros y 15 mlynedd nesaf. Mae hwn yn swm sylweddol a rhagwelir bod y buddsoddiad yn arwain at greu dros 650 o swyddi ar draws y Sir. Diolchwyd am y sylwadau diddorol a gyflwynwyd o fewn y cwestiynau.

 

5.     Cwestiwn Y Cynghorydd Gwynfor Owen

 

Mae pryderon anferth yn ardal Llanbedr ac yn ehangach am be syn digwydd ym Maes Awyr Llanbedr. Mae’r sŵn annifyr maer dronau yn ei wneud wrth hedfan mewn cylchoedd o amgylch y pentre’ yn peri gofid mawr i'r trigolion ynghyd ar ymwelwyr. Mae pryder hefyd ynglŷn ar ddefnydd militaraidd o’r safle a all roi Llanbedr mewn peryg o fod yn darged i elynion y Deyrnas Gyfunol. Gai ofyn felly i Gyngor Gwynedd pa fonitro/oruchwyliaeth syn digwydd o ddefnydd y safle unai gan y Cyngor neu unrhyw asiantaeth arall?

 

Ateb yr Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned, y Cynghorydd Craig ab Iago

 

Nid yw Cyngor Gwynedd yn monitro gweithgareddau dydd i ddydd tenantiaid Maes Awyr Llanbedr nac yn cynnal goruchwyliaeth uniongyrchol o natur eu gweithrediadau. Mae gwybodaeth gyffredinol ar gael ynghylch pa gwmnïau sydd wedi’u lleoli ar y safle, ond nid oes gan y Cyngor fynediad at wybodaeth fanwl am eu gweithgareddau na’u cwsmeriaid.

 

Mae hyn yn rhannol oherwydd trefniadau masnachol a chyfrinachedd sydd mewn lle rhwng y landlord a’r tenantiaid. O ganlyniad, nid yw’r Cyngor mewn sefyllfa i wneud sylwadau manwl ar natur y gwaith sy’n cael ei gyflawni gan gwmnïau unigol ar y safle.

 

O ran y cwestiwn am fonitro neu oruchwylio’r safle, nid yw’r Cyngor yn cynnal rhaglen fonitro benodol o ddefnydd gweithredol y maes awyr. Fodd bynnag, mae gweithgareddau ar y safle yn ddarostyngedig i'r fframweithiau rheoleiddio a thrwyddedu perthnasol sy'n berthnasol i'r gweithredwyr a'u gweithgareddau.

 

Anogwyd trigolion i gysylltu gyda’r Cyngor gydag unrhyw bryderon a chwynion, fel bod modd gweithredu arnynt.

 

Cwestiwn Atodol Y Cynghorydd Gwynfor Owen

 

Diolch yn fawr iawn am yr ymateb. Er bod yr ateb yn dangos yn glir bod diffyg democratiaeth leol yma, sy’n golygu na all Cyngor Gwynedd edrych yn ddyfnach i’r hyn sy’n digwydd. O gofio bod Llywodraeth Cymru fel perchnogion y safle, a’r ffaith eu bod wedi rhoi miloedd o bunnoedd mewn grantiau i’r maes awyr yn ddiweddar er mwyn hybu’r economi, nid oes unrhyw swyddi wedi cael eu cyflwyno i drigolion lleol. Gofynnaf a wnaiff y Cyngor ysgrifennu i’r Llywodraeth i ofyn iddynt hwy pa fonitro neu oruchwylio sydd wedi ei wneud ar yr hyn sydd yn digwydd ar y safle, a pha monitro sydd wedi digwydd o’r grantiau sydd wedi cael eu rhoi i’r safle? Ydi’r grantiau wedi cael ei ddefnyddio yn gywir?

 

Ateb yr Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned, y Cynghorydd Craig ab Iago

 

Cytunwyd gyda’r sylwadau a wnaed yn y cwestiwn atodol. Sicrhawyd bydd trafodaethau yn mynd yn rhagddo er mwyn sicrhau bod trefniadau priodol mewn lle o’r ffynhonnell gywir, er mwyn llythyru’r Llywodraeth.

 

6.     Cwestiwn Y Cynghorydd Rhys Tudur

 

O ystyried llesiant plant sy’n byw yn gyfartal rhwng dwy aelwyd a diffyg eglurder polisi ar gyfer yr amgylchiadau hynny, yma fodd y mae’r Cyngor am ac yn ystyried y ddwy aelwyd yn gyfun wrth ymdrin â chludiant plant i’r ysgol a’r cynllun seddi gweigion?

 

Ateb yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Dewi Jones

 

Mae'r Cyngor yn cydnabod bod nifer cynyddol o blant yn byw rhwng dau gartref ac yn rhannu eu hamser yn gyfartal rhwng y ddwy aelwyd. Wrth weithredu'r Polisi Cludiant Addysg a'r Cynllun Seddi Gweigion, fodd bynnag, mae angen mabwysiadu trefn sy'n glir, yn gyson ac yn deg i bob teulu. Mae'r polisi felly yn defnyddio un prif gyfeiriad preswyl wrth asesu cymhwysedd.

 

Mae'r dull hwn yn osgoi'r angen i geisio cyfrifo hawliau ar sail dau gyfeiriad neu bwynt canolog rhwng dau gartref, a fyddai'n gymhleth iawn i'w weinyddu ac yn debygol o arwain at anghysondebau. Mae hefyd yn ddull sydd wedi ei hen sefydlu ac a ddefnyddir yn eang gan awdurdodau lleol eraill.

 

Lle mae plentyn yn rhannu ei amser rhwng dau gartref, mae'r Cyngor yn dibynnu ar y prif gyfeiriad preswyl a ddefnyddir at ddibenion gweinyddol ac addysgol. Gall hynny gynnwys y cyfeiriad sy'n cael ei gydnabod ar gofnodion swyddogol megis Budd-dal Plant, cofrestriad ysgol neu ddogfennau swyddogol eraill. Drwy weithredu ar sail un prif gyfeiriad, gall y Cyngor sicrhau bod y polisi'n cael ei gymhwyso'n gyson ac yn deg ar draws y sir gyfan.

 

Ni chytunwyd bod y polisi yn aneglur, gan nodi bod llawer mwy o eglurder wedi cael ei gynnwys yn y polisi cyfredol.

 

Cadarnhawyd bod yr Adran yn ymrwymo i barhau i gynnal trafodaethau ar y pwnc hwn, fel a wnaed yn y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi yn ddiweddar yn ogystal ag ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Ystyriwyd nad oedd canfod pwynt daearyddol rhwng dau aeliwyd yn ymarferol bosib a gallasai greu dryswch i’r Cyngor a theuluoedd.

 

Cwestiwn Atodol Y Cynghorydd Rhys Tudur

 

O ystyried bod Cymal 1.55 o Ddarpariaeth Statudol Gweithredol Teithio gan Ddysgwyr yn dweud, lle bod gan ddysgwyr breswyliad deuol, dylid ystyried y ddau leoliad fel cartref arferol y dysgwr.

 

A ddylai’r polisi cludiant newydd gael ei adolygu fel nad yw’r pwyslais cyfredol, ar un prif gyfeiriad gweinyddol, yn rhoi gormod o ryddid i swyddogion unigol ddehongli’r polisi mewn ffordd benodol, a rhoi llai o ystyriaeth i’r ail fan breswyl, neu’r ail fan breswyl gyda’i gilydd, wrth asesu cymhwysedd am gludiant, a drwy hynny, yn rhoi plant sydd â phreswyliad deuol, a phreswyliad deuol cytbwys, o dan anfantais?

 

Ateb yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Dewi Jones

 

Eglurwyd yn y gorffennol, nid oedd unrhyw waith yn cael ei weithredu ar gyfer preswyliad deuol. Erbyn hyn, mae ystyriaeth o 5 milltir wedi cael ei nodi o fewn y polisi. Golyga hyn bod y Cyngor yn rhoi mantais i  ddysgwyr sydd â phreswyliad deuol, ac yn ystyried bod ganddynt ddau gartref.

 

Gofynnwyd sut byddai gweithredu’r newidiadau a gynigwyd yn ymarferol, gan ei fod yn creu dryswch. Mewn byd delfrydol, byddai mwy yn cael ei wneud i gefnogi trigolion, ond cydnabuwyd nad oes cyflawni popeth. Bodlonwyd bod mwy o ystyriaeth wedi cael ei roi i’r teuluoedd hyn, gan gadarnhau bod angen parhau i ddarparu polisïau rhesymol.

 

Ymhelaethwyd bod yr Adran yn parhau i gynnal trafodaethau ar y mater hwn, gan gadarnhau ei fod yn agored i newidiadau cadarnhaol er mwyn cynnig gwasanaeth teg.

 

7.     Cwestiwn Y Cynghorydd Beca Roberts

 

Gofynnwyd y cwestiwn gan y Cadeirydd yn absenoldeb y Cynghorydd Beca Roberts.

 

Mae nifer o’m hetholwyr wedi cysylltu â mi gyda phryderon ynghylch y posibilrwydd o ddatblygu canolfannau data yng Ngwynedd, yn enwedig yng ngoleuni dynodi Trawsfynydd yn safle allweddol o fewn Parth Twf Deallusrwydd Artiffisial Gogledd Cymru. Mae fy etholwyr yn gofyn pa fesurau diogelu fydd ar waith i sicrhau nad yw datblygiadau o’r fath yn dod yn rhai echdynnol yn unig; gan ddefnyddio ein tir, ein hadnoddau ynni a’n dŵr tra bod y buddion economaidd i raddau helaeth yn gadael yr ardal.

 

A all yr Aelod Cabinet nodi a yw’r Cyngor yn datblygu unrhyw fframwaith neu ddisgwyliadau penodol ar gyfer datblygiadau canolfannau data yng Ngwynedd, fel y byddant, os daw’r datblygiadau hyn yma, yn sicrhau budd gwirioneddol a pharhaol i’n cymunedau? Yn benodol, sut y bydd y cyngor yn sicrhau bod disgwyliadau o ran budd economaidd lleol, cyflogaeth, seilwaith a’r defnydd o adnoddau lleol yn cael eu bodloni, a sut y bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau bod unrhyw ddatblygiadau yn gymesur ag anghenion a blaenoriaethau cymunedau Gwynedd yn hytrach na gwasanaethu galw allanol yn bennaf?

 

Ateb yr Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned, y Cynghorydd R Medwyn Hughes

 

‘Nid oes fframwaith ar gyfer datblygu canolfannau data ar safle Parc Gwyddoniaeth Trawsfynydd mewn lle eto.

 

Mae’n bwysig tynnu sylw nad oes unrhyw fframwaith ddatblygu mewn lle ar gyfer Canolfannau Data yng Nghymru ar hyn o bryd, yn wahanol i Loegr a’r Alban. Mae canllawiau yno sydd yn cael eu defnyddio wrth ystyried ceisiadau cynllunio.

 

Byddai pob cais am ddatblygiad newydd ar safle yng Ngwynedd yn cael ei asesu’n unigol ac ar ei haeddiant yn erbyn polisïau'r Cynllun Datblygu Lleol a pholisïau cenedlaethol, gan asesu’r dystiolaeth berthnasol, a rhoi ystyriaeth i’r holl faterion cynllunio, gan gynnwys ystyriaethau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd. Felly, drwy asesu’r holl ystyriaethau cynllunio perthnasol, mae effeithiau posib unrhyw ddatblygiad newydd yn cael ei ystyried fel rhan o’r broses o ddelio gyda’r cais cynllunio.

 

Er bod cais Parth AI Gogledd Cymru yn gwneud cyfeiriad at gyfle i ystyried datblygiad canolfan data ar safle Trawsfynydd yn y dyfodol, nid ydym yn ymwybodol o unrhyw gynnig penodol ar gyfer datblygu canolfan ddata ar y safle ar hyn o bryd.

 

Cam un sefydlu Parc Gwyddoniaeth Trawsfynydd ydi sefydlu Canolfan Sgiliau, Busnes ac Arloesedd ar safle. Nod y cynllun ydi gwarchod a chynnal swyddi o ansawdd sydd yn Nhrawsfynydd; yna gweithio gyda phartneriaid i adnabod cyfleoedd newydd ar gyfer y dyfodol. Bydd y ganolfan yma yn ofod i fusnesau bychan sefydlu a datblygu gyda chefnogaeth buddsoddwyr a phartneriaid arbenigol. Bydd y ganolfan hefyd yn gatalydd i ddatblygu parthau gwahanol ar y Parc Gwyddoniaeth dros gyfnod o flynyddoedd er mwyn paratoi ar gyfer y cyfnod pan fydd gwaith dadgomisiynu ar safle yn dod i ben. Mae gwaith ymchwil ar barciau gwyddoniaeth yn dangos pa mor allweddol ydi gwreiddio’r gwaith yn lleol a thyfu’n raddol dros gyfnod o amser; gyda sgiliau lleol ac arloesedd yn gyrru’r gwaith. Dylid ei ystyried fel buddsoddiad hir dymor, a gall gymryd hyd at 25 mlynedd i gyflawni ei lawn botensial.

 

Mae swyddogion Cyngor Gwynedd wedi cychwyn trafodaeth gyda swyddogion Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i ddeall mwy am yr hyn fyddai’n addas i’w ddatblygu ar y safle i’r dyfodol.

 

Mae achos busnes Trawsfynydd yn dangos y bydd y gwaith o adnabod opsiynau datblygu addas ar gyfer gweddill o’r tir er mwyn cyflawni’r weledigaeth hir dymor yn digwydd rhwng 2027 a 2029 a bydd sicrhau fod buddion lleol amlwg yn ganolog i’r gwaith yma.

 

Fe gofiwch ein bod wedi mabwysiadu Strategaeth Economi Gwynedd 2035 yn ein cyfarfod mis Mai. Mae’r uchelgais yn y ddogfen yma yn glir; creu economi arloesol, gynhyrchiol a charbon isel sy'n cryfhau'r Gymraeg, yn creu cyfleoedd newydd ac yn cyfrannu at lesiant pawb. Ond nid twf economaidd yn unig yw'r nod. Rydym eisiau gweld economi sy'n cefnogi ein cymunedau, yn cadw mwy o fudd yn lleol, ac yn helpu pobl i fyw ac i ffynnu yma yng Ngwynedd. Dyma fyddwn yn ei hyrwyddo ar gyfer safle

 

Dogfennau ategol: