Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned.

Penderfyniad:

Derbyniwyd  yr adroddiad.

 

Cytunwyd i dderbyn adroddiad cyflawn i benderfynu a ddylid cyflwyno Ardoll Ymwelwyr yng Ngwynedd a’i peidio unwaith y bydd y gwaith o ddadansoddi, ystyried ac ymateb i gynnwys yr Ymgynghoriad wedi ei gwblhau’n llawn a phriodol.

 

Cofnod:

Atgoffodd y Cadeirydd nad oes modd gwneud penderfyniad o blaid neu yn erbyn yr ardoll o fewn y cyfarfod hwn, gan nodi’r angen i rannu barn ar rinweddau’r ardoll yn unig. Pwysleisiwyd bydd cyfle yn y dyfodol i gynnal trafodaeth bellach.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned, Y Cynghorydd R Medwyn Hughes.

 

Atgoffwyd bod y Cyngor Llawen wedi cytuno yn ei gyfarfod ar 14 Mai 2026 i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y posibilrwydd o gyflwyno Ardoll Ymwelwyr yng Ngwynedd. Ymhelaethwyd mai’r bwriad oedd casglu barn trigolion, busnesau, ymwelwyr a rhanddeiliaid cyn gwneud penderfyniad. Cadarnhawyd bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal rhwng 20 Mai a 26 Gorffennaf eleni gan nodi bod y cyfnod ymgynghori wedi cael ei ymestyn 11 diwrnod yn ychwanegol yn Dilyn sylwadau a chais gan Bartneriaeth Gwynedd ac Eryri 2035, yn ystod eu cyfarfod arbennig i drafod y mater ar 12 Mehefin 2026. Diolchwyd I bawb a gymrodd rhan o fewn yr ymgynghoriad cyhoeddus, gan ei fod yn caniatáu i ddeall yr effaith byddai unrhyw gefnogaeth neu wrthwynebiad yn ei gael ar gymunedau.

 

Cadarnhawyd bod 6,856 o ymatebion wedi ei gyflwyno i’r ymgynghoriad, sydd yn sylweddol uwch na nifer o ymatebion i awdurdodau lleol cyfagos, megis 2,000 o ymatebion ym Môn a 1,300 o ymatebion yng Nghonwy. Nodwyd bod cynnwys yr ymatebion yn gymysg a bod ystyriaethau cychwynnol yn awgrymu bod trigolion yn cefnogi’r bwriad, a busnesau ac ymwelwyr yn gwrthwynebu.

 

Diolchwyd i bob cyfrannwr am ddarparu barn a thystiolaeth ar:

·       Effaith economaidd bosibl ar fusnesau twristiaeth

·       Effaith ar ymwelwyr a phenderfyniadau teithio

·       Y defnydd mwyaf priodol o unrhyw incwm a gesglir

·       Effaith ar gymunedau lleol, yr amgylchedd a’r Gymraeg

·       Sut y gellid gweithredu’r ardoll yn effeithiol yng Ngwynedd

·       Barn ar gefnogaeth I gyflwyno Cynnig Ardoll Ymwelwyr Gwynedd

 

Pwysleisiwyd yr angen i oedi cyn gwneud penderfyniad ar gyflwyno Ardoll Twristiaid yng Ngwynedd, er mwyn cael amser digonol i brosesu pob ymateb a chanfod y prif themâu sydd yn effeithio cymunedau. Nodwyd bod hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod unrhyw wybodaeth bellach yn cael ei wneud gyda gwybodaeth gyflawn ar gael.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Mewn ymateb i ystyriaeth am amserlen benodol i ail-gyflwyno adroddiad i’r Cyngor Llawn, eglurodd yr Aelod Cabinet nad oes amserlen bendant wedi cael ei lunio hyd yma, gan bwysleisio’r angen i sicrhau bod amser digonol yn cael ei roi i bwyso a mesur cynnwys pob ymatebiad. Ystyriwyd bod awdurdodau lleol cyfagos eisoes wedi dod i benderfyniad ar y mater, ond teimlwyd bod angen arafu’r broses yma er mwyn cael y darlun llawn. Derbyniwyd sylwad gan Aelod y byddai hyn yn gyfle da i edrych ar unrhyw arfer dda a phenderfyniadau o awdurdodau cyfagos, er mwyn sicrhau bod y penderfyniad a gweithdrefnau cywir yn cael eu mabwysiadu yng Ngwynedd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.   

 

Cytunwyd i dderbyn adroddiad cyflawn i benderfynu a ddylid cyflwyno Ardoll Ymwelwyr yng Ngwynedd a’i peidio unwaith y bydd y gwaith o ddadansoddi, ystyried ac ymateb i gynnwys yr Ymgynghoriad wedi ei gwblhau’n llawn a phriodol. 

 

Dogfennau ategol: