Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Panel Strategol Diogelu.
Penderfyniad:
Derbyniwyd yr Adroddiad gerbron sy’n adrodd ar waith y Panel
Strategol Diogelu ar gyfer y flwyddyn 2025/26.
Nodwyd y Polisi Diogelu diwygiedig.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet dros Addysg a Chadeirydd y Panel Strategol Diogelu, Y Cynghorydd
Dewi Jones, gan gadarnhau mai pwrpas yr adroddiad
yw darparu diweddariad ar yr hyn sydd wedi’i gyflawni
yn y Panel Strategol Diogelu yn ystod
2025/26, a chyflwyno adolygiad
‘r polisi diogelu, i holl aelodau’r
Cyngor.
Atgoffwyd bod yr adroddiad blynyddol hwn wedi cael
ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu
Gofal ym mis Mehefin.
Nodwyd bod Gwaith y Panel yn uno Adrannau Plant a Chefnogi Teuluoedd, Oedolion Iechyd a Llesiant,
Addysg ac elfennau o’r
Adran Gwasanaethau Corfforaethol, er mwyn trafod materion
sydd yn ymwneud
â diogelu a sut mae gwarchod plant ac oedolion yn
y ffordd orau bosib.
Diolchwyd i
holl staff y Cyngor sydd wedi bod yn weithgar
iawn o few neu dimoedd a gwasanaethau er mwyn cyflawni’r gwaith allweddol hwn.
Cydnabuwyd digwyddiadau
sydd wedi dod i’r amlwg
dros y flwyddyn ddiwethaf. Hyderwyd bod gweithdrefnau wedi cael eu haddasu,
gan sicrhau bod sawl agwedd o’r
maes diogelu yn fwy gwydn.
Pwysleisiwyd ar yr angen i sicrhau bod yr addasiadau hyn yn gwreiddio ac yn cael dylanwad
gwirioneddol ar weithrediad
a diwylliant y Cyngor I’r dyfodol. Nodwyd bod y newidiadau hyn wedi deillio yn
dilyn cyhoeddi adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder, a datganwyd yr angen i sicrhau bod y newidiadau hyn yn llwyddo, er mwyn darparu cyfiawnder
i’r unigolion hynny oedd wedi
cael eu cam-drin dan ofal Pennaeth ysgol yng Ngwynedd. Credir byddai hyn
yn sicrhau y byddai’n lleihau unrhyw risgiau y byddai achos cyffelyb
yn digwydd eto yn y dyfodol.
Manylwyd ar rai o lwyddiannau sydd wedi bod yn ystod
y flwyddyn 2025/26 megis:
· Mae 75.9% o staff y Cyngor wedi cwblhau’r Hyfforddiant Diogelu (cynnydd o 39.5%)
· Mae 100% o ysgolion Gwynedd wedi cyflwyno Hyfforddiant
diogelu i’r holl staff (cynnydd o 3%)
· Mae 74.7% o staff y Cyngor wedi cwblhau’r Hyfforddiant VAWDASV
(Violence Against Women, Domestic Assault and Sexual Violence) (cynnydd o 15.2%).
Fodd bynnag,
cydnabuwyd bod cynnydd i weld mewn niferoedd
o gyfeiriadau diogelu oedolion (792 - cynnydd o 42) a chyfeiriadau diogelu plant (8,069
- cynnydd o 284). Mynegwyd tristwch bod camdriniaeth yn parhau i
fodoli o fewn Cymdeithas, ond amlygwyd ei
fod yn amlygu
pwysigrwydd yr hyfforddiant
allweddol ac i godi ymwybyddiaeth o’r Cymorth sydd
ar gael.
Mynegwyd balchder
bod gwelliant mewn amseroedd ymateb i geisiadau, er bod cynnydd yn y galw
am gefnogaeth. Fodd bynnag, cydnabuwyd bod y cynnydd yn y galw
am Adnoddau yn rhoi adnoddau’r gwasanaethau dan straen, gan egluro
bod hyn yn her estynedig yn genedlaethol.
Ymfalchïwyd bod Cyngor Gwynedd wedi
Buddsoddi £600,000 ychwanegol
i wasanaethau hollbwysig eleni, gan hefyd ddiolch
I Lywodraeth Cymru am gefnogaeth
ychwanegol.
Tynnwyd sylw
bod fersiwn hawn i’w ddeall o’r
adroddiad, er mwyn cynnwys gwybodaeth mewn amrywiol dulliau
er mwyn sicrhau fod y wybodaeth yn cyrraedd pawb.
Adroddwyd bod y polisi diogelu wedi cael ei
ddiweddaru, a’i fod wedi derbyn
ystyriaeth fanwl gan y Pwyllgor Craffu Gofal, cyn ei gymeradwyo gan
y Cabinet. Pwysleisiwyd bydd
newidiadau parhaus yn cael ei
wneud i bolisïau
er mwyn sicrhau bod y gweithredoedd gorau yn deillio ohonynt.
Atgoffwyd bod gan bob Aelod a Swyddog gyfrifoldebau diogelu, er mwyn sicrhau Gwynedd ddiogel a gwydn a chadarn.
Rhoddwyd cyfle
i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.
Diolchwyd i’r
Panel am adroddiad gonest, mewn cyfnod sydd
wedi gweld newidiadau mawr.
Mewn ymateb
i ymholiad, eglurodd yr Aelod Cabinet dros
Addysg nad oes cyfeiriad o fewn yr adroddiad at Uned Brynffynnon. Nodwyd bod yr adroddiad hwn yn
manylu ar ddatblygiadau hyd at fis Mawrth 2026, gan nodi nad oedd
hanes yr uned wedi dod i
lygad y cyhoedd nes yn ddiweddarach
yn yr haf. Pwysleisiwyd bydd manylion am yr Uned yn cael ei
gynnwys o fewn adroddiad blynyddol y panel ar gyfer 2026/27. Cymerwyd y cyfle i nodi bod y Cyngor yn edifar y dioddef
a chamdriniaeth a ddigwyddodd
o fewn yr Uned, gan bwysleisio bod ymchwilwyr annibynnol wedi cael eu
penodi er mwyn edrych ar bopeth ynghlwm a’r achos,
a chyflwyno argymhellion i’r Cyngor I’r dyfodol. Cadarnhawyd bod pob un o’r argymhellion
hynny eisoes wedi cael eu
cyflawni neu ar drac i’w cyflawni yn
fuan, yn dilyn cyhoeddi adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder.
Mynegwyd balchder
bod cynnydd i’w weld o fewn sawl agwedd
o’r maes diogelu er y llwyth gwaith cynyddol.
Mewn ymateb
i ymholiad am eiriad rhan o’r
adroddiad a nodir bod ‘gofyn i bob adran
gynnwys diogelu fel eitem reolaidd
ar agenda eu timau rheoli adrannol’, sicrhaodd yr Aelod Cabinet dros
Addysg nad oedd yn hapus gyda’r derminoleg hwn, gan bwysleisio bod disgwyliad i’r eitem hon gael ei gynnwys fel
rhan o bob Agenda. Ychwanegodd
y Prif Weithredwr y cytunai y dylai’r rhan hon o’r adroddiad
gael ei addasu
i nodi bod y Cyngor yn ‘Cyfarwyddo pob adran i gynnwys
diogelu fel eitem reolaidd ar agenda eu timau rheoli
adrannol’. Ychwanegwyd bod hyn yn addasiad
pwysig sydd wedi ei gynnwys
ar fel rhan o’r polisi diogelu
addasedig. Er hyn, mynegwyd balchder bod y trafodaethau hyn yn cael eu
cynnwys ar bob achlysur, boed ar y rhaglen ai peidio.
Nodwyd bod 75.9% o staff wedi cwblhau
Hyfforddiant diogelu, gan egluro bod hyn yn ddwbl
y gyfradd o’r adroddiad blynyddol blaenorol. Nodwyd bod 87% o Gynghorwyr Gwynedd wedi ei gwblhau.
Mewn ymateb i ymholiad ar sut
gall y cyfraddau hyn gael eu cynyddu
I 100%, eglurodd yr Aelod Cabinet dros
Addysg bod swyddog wedi cael ei phenodi
i fod yn
‘Bencampwr Diogelu’. Eglurwyd y golyga hyn bod y Pencampwr Diogelu yn darparu
Hyfforddiant ar gyfer
Aelodau staff sydd heb gyfarpar technolegol fel rhan o’u
swydd, fel eu bod yn derbyn
y wybodaeth a bod cyfraddau
Aelodau staff sydd yn cyflawni’r Hyfforddiant yn cynyddu. Cyfeiriwyd
hefyd at gysyniadau eraill i gynorthwyo
gyda hyn megis darparu offer technegol i leoliadau
gwaith, fel bod modd i staff eu
rhannu ar gyfer cyflawni hyfforddiant allweddol. Pwysleisiwyd y gobeithir bydd 100% o Aelodau staff a chynghorwyd wedi cyflawni’r Hyfforddiant erbyn yr adroddiad blynyddol nesaf.
Derbyniwyd sylw
bod cynnydd i’w weld mewn nifer o blant
sydd yn derby neu addysg adref (282 - cynnydd o 7.63%). Mewn ymateb i ymholiadau,
eglurodd yr Aelod Cabinet dros
Addysg bod cyfraddau’r niferoedd
y plant sydd yn derbyn addysg adref
yn amrywiol drwy gydol y flwyddyn
gan fod amgylchiadau
unigolion yn newidiol. Fodd bynnag, cydnabuwyd bod cynnydd i’w weld o fewn y flwyddyn hon, gan nodi bod hon yn batrwm a welir yn genedlaethol. Adroddwyd bod y cyfraddau a welir yng Ngwynedd yn gyffelyb i’r
cyfraddau hyn, gan sicrhau y dymunir
gweld gwelliant yn y dyfodol. Pwysleisiwyd
y dymunir gweld holl blant y Sir yn mynychu’r ysgol
gan eu bod yn rhoi cefnogaeth
ar gyfer anghenion Dysgu ychwanegol, cyflyrau sydd heb gael
eu hadnabod neu eu hasesu yn
ogystal â chefnogaeth emosiynol a diogelwch. Fodd bynnag, cydnabuwyd
nad oes gan
y Cyngor y gallu i drawsnewid y sefyllfa hon gan nad oes
modd gorfodi unrhyw un i
fynd a’u plant i’r ysgol. Adroddwyd
nad oes datrysiad
cyflym na hawdd iddo a bod ffactorau cyllidol hefyd yn cael
eu heffeithio. Sicrhawyd bod y sefyllfa hon yn derbyn ystyriaeth
barhaus o fewn Cyfarfodydd herio perfformiad yr adran, gan nodi nad yw’n mynd
yn angof.
PENDERFYNWYD Derbyn
yr Adroddiad gerbron sy’n adrodd ar waith y Panel Strategol Diogelu ar gyfer y
flwyddyn 2025/26.
Nodwyd y Polisi Diogelu diwygiedig.
Dogfennau ategol: