Agenda item

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Craffu.

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad.

Cofnod:

Eglurwyd bod yr adroddiad yn manylu ar waith y Pwyllgorau Craffu, yn hytrach na manylu ar bynciau unigol a drafodwyd o fewn y Pwyllgorau hynny.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gadeirydd y Fforwm Craffu ar gyfer 2025/26.

 

Atgoffwyd mai pwrpas Craffu yng Ngwynedd yw cyfrannu at yrru gwelliant mewn gwasanaethau i drigolion Gwynedd. Nodwyd yr angen i’r Pwyllgorau Craffu fod yn ffrind beirniadol i’r Cabinet, gofyn cwestiynau anodd, gwrando ar brofiadau trigolion lleol a chyflwyno argymhellion a ellir arwain at newid.

 

Adroddwyd bod 43 o eitemau wedi eu Craffu yn ystod 2025/26. Nodwyd bod 44 o Aelodau yn rhan o’r gwaith Craffu hwnnw.

Darparwyd enghreifftiau i dystiolaethu’r gwahaniaeth mae Craffu yn ei gael yng Ngwynedd:

Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi:

 

·       Wrth graffu Strategaeth Ysgolion, gofynnodd yr aelodau i gryfhau’r agweddau diogelu, tlodi, tegwch cymdeithasol, llais rhieni, llais staff, llywodraethant a’r Gymraeg.

·       Wrth graffu’r Cynllun Twf, mynegwyd pryder am gyflymder araf datblygiad cynlluniau yn ogystal â’r gwahaniaeth buddsoddiad rhwng ardaloedd gwledig a threfol. Nodwyd bod yr aelodau wedi gofyn i adroddiadau’r dyfodol amlygu’n gliriach y niferoedd o swyddi sydd wedi eu creu yn benodol yng Ngwynedd.

·       Wrth graffu’r Gyfundrefn Addysg Drochi, gofynnodd yr aelodau am ystyriaeth bellach i hyd y ddarpariaeth, lles disgyblion a’r posibilrwydd o ddychwelyd ac 5 diwrnod yn y canolfannau.

·       Wrth graffu’r Ardoll Twristiaid, pwysleisiodd yr Aelodau’r angen am ymgynghori trylwyr ac eglurder ar sut bydd unrhyw incwm yn cael ei wario.

·       Ffurfiwyd Grŵp Tasg a Gorffen i graffu’n fanylach ar Bolisi Iaith Addysg Drafft. Cadarnhawyd bod y gwaith hwnnw wedi cyfrannu at ddiwygio geiriad y polisi, gan atgyfnerthu rôl y Gymraeg fel prif gyfrwng addysg ac amlygu’r disgwyliadau ar ysgolion.

 

Pwyllgor Craffu Cymunedau

 

·       Wrth graffu’r Gwasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu, trafododd yr aelodau'r angen i wella perfformiad a chyrraedd targedau Llywodraeth Cymru./ Ystyriwyd hefyd pwysigrwydd addysgu a hysbysu pwysigrwydd ail-gychu er mwyn annog unigolion i ailgylchu’n effeithiol.

·       Wrth graffu Teithiau Llesol, holiwyd cwestiynau am gynnal a chadw’r llwybrau, eu diogelwch ac ymholiadau ar sut mae barn pobl leol yn cael ei ystyried.

·       Ymfalchïwyd bod Aelod o’r cyhoedd wedi gwneud cais i graffu trefniadau ariannu'r Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur. Yn dilyn hyn, bu i’r Aelodau graffu llywodraethant a thryloywder y Cynllun cyn argymell i sicrhau mwy o Ymgysylltu gyda’r cyhoedd ac am fwy o wybodaeth ynghylch gwariant o fewn yr adroddiad blynyddol.

 

Pwyllgor Craffu Gofal

 

·       Wrth graffu trefniadau rhyddhau o’r Ysbyty, tynnwyd sylw y dylid unrhyw ddarpariaeth gynnwys trigolion sydd yn dychwelyd adref o ysbytai y tu hwnt i Wynedd. Nodwyd bod yr Aelodau wedi gofyn am adroddiad cynnydd i amlygu unrhyw newidiadau.

·       Wrth graffu Strategaeth Cadw Teuluoedd Gyda’I Gilydd, amlygwyd gwerth Cymorth cynnar i blant a theuluoedd gan hefyd dynnu sylw at y risgiau o ddibynnu ar grantiau tymor byr.

·       Amlygwyd bod yr Aelodau wedi trafod heriau lletyau neu ddigartrefedd sydd yn wynebu pobl ifanc sydd yn gadael gofal, wrth graffu’r gwasanaethau perthnasol.

·       Sefydlwyd Grŵp Tasg a Gorffen i edrych ar gwynion o fewn y maes gwasanaethau cymdeithasol, a’r gwersi sydd i’w dysgu ohonynt.

 

Cadarnhawyd bod diogelu plant yn flaenoriaeth i’r Pwyllgor Craffu Gofal a'r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi. Cynhaliwyd Cyfarfodydd arbennig er mwyn Craffu Cynllun Ymateb y Cyngor yn dilyn adroddiad Cyfiawnder Drwy Ein Dewrder. Datganwyd bod 37 o argymhellion wedi deillio o’r Cyfarfodydd arbennig hynny, er sylw’r Cabinet. Atgoffwyd bod y Cabinet wedi mabwysiadu Cynllun Ymateb diwygiedig ym mis Mawrth 2026 ac mae’r adroddiad blynyddol perthnasol yn manylu ar y newidiadau a waned yn dilyn y broses Craffu.

 

Nodwyd bod ymchwiliad Craffu ar drefniadau diogelu mewn ysgolion yn mynd rhagddo yn ystod y flwyddyn, gydag 11 o ysgolion ac 88 o Aelodau staff a llywodraethwyr yn cymryd rhan yn y trafodaethau. Atgoffwyd bod adroddiad yr ymchwiliad wedi ei gyhoeddi gan nodi bydd yr Aelodau yn olrhain yr argymhellion gan ystyried os yw’r argymhellion wedi cael eu gweithredu.

 

Tynnwyd sylw at newid arwyddocaol i drefniadau herio perfformiad yn ystod y flwyddyn, gan egluro bod adroddiadau llawn yn dod gerbron y Pwyllgorau dwywaith y flwyddyn. Eglurwyd bod hyn yn rhoi cyfle I Aelodau herio Aelodau Cabinet a phrif swyddogion adrannau yn gyhoeddus tra hefyd yn adnabod materion sydd angen eu Craffu ymhellach. Fodd bynnag, mae’r trefniadau hyn wedi cael effaith sylweddol ar lwyth gwaith y Pwyllgorau, gan gadarnhau bod hyn yn cael ei asesu’n barhaus er mwyn sicrhau bod lle digonol o fewn y rhaglen waith i graffu materion pwysig, ar yr adeg ble all Craffu wneud y mwyaf o wahaniaeth.

 

Cadarnhawyd bod yr Aelodau Craffu yn hunanasesu’r gwaith gan nodi nad yw’r Pwyllgorau wedi nodi eu bod wedi craffu’n effeithiol ar bob achlysur. Pwysleisiwyd mai nod yr hunanasesu hwn yw sicrhau bod yr Aelodau yn cofio am yr angen i wneud argymhellion priodol a all gael eu monitro dros amser.

 

Diolchwyd i Gadeiryddion ac Is-gadeiryddion, Aelodau, Swyddogion a phawb sydd wedi cyfrannu at waith allweddol y Pwyllgorau Craffu

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Diolchwyd am yr adroddiad blynyddol gan fynegi balchder bod gwaith cadarnhaol wedi cael ei gyflawni er lles trigolion Gwynedd.

 

Derbyniwyd sylwadau ynghylch Cadeiryddiaeth y Pwyllgorau Craffu, gan ystyried yr angen i sicrhau bod amrywiol grwpiau gwleidyddol yn derbyn cynrychiolaeth deg o fewn rolau Craffu. Pryderwyd bod modd ystyried bod yr un grŵp gwleidyddol yn arwain drwy’r Cabinet a Phwyllgorau Craffu gan ei wneud yn annelwig os yw herio gwirioneddol a thryloyw yn cael ei gyflawni.

 

Adroddwyd bod Cadeiryddion y Pwyllgorau Craffu bellach yn mynychu Cyfarfodydd y Cabinet i gyflwyno sylwadau’r Aelodau ar faterion penodol. Nododd Arweinydd y Cyngor bod y cyfraniadau hynny yn werthfawr iawn i drafodaethau’r Cabinet.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.   

 

Dogfennau ategol: