Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Paul Rowlinson yn cynnig fel a ganlyn:-
Mae’r Cyngor
Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon, mae’r Cyngor yn
galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DG i ystyried pa gamau y gallent eu
cymryd / pa reoliadau y gallent eu cyflwyno, er mwyn mynd i’r afael â’r
broblem.
Penderfyniad:
Mae’r Cyngor
Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon, mae’r Cyngor yn galw
ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DG i ystyried pa gamau y gallent eu cymryd
/ pa reoliadau y gallent eu cyflwyno, er mwyn mynd i’r afael â’r broblem.
Cofnod:
A.
Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig gan y Cynghorydd
Paul Rowlinson o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i heiliwyd.
Gosododd yr Aelod
y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi-
·
Pwysleisiwyd
bod sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael hwyl y tu allan i’w cartrefi yn
bwysig iawn, ond bod nifer o bryderon wedi amlygu bod e-sgwteri yn gallu bod yn
beryglus.
·
Adroddwyd
bod defnyddio e-sgwteri ar ffyrdd cyhoeddus yn anghyfreithlon.
·
Pryderwyd
bod rhai e-sgwteri yn gallu teithio mor gyflym
â 70mya, a bod adroddiadau o fwy nag un person yn eu defnyddio ar unwaith, a
defnyddwyr yn aml ddim yn gwisgo helmed. Er nad yw’r e-sgwteri yn debygol o
deithio mor gyflym â hynny, maent yn parhau i fod yn berygl, yn enwedig yn
nwylo pobl ifanc a defnyddwyr dibrofiad.
·
Tynnwyd
sylw at risg o berygl i drigolion eraill wrth i’r e-sgwteri gael eu defnyddio
ar balmentydd, gan roi cerddwyr a phobl fregus mewn risg.
·
Diffiniwyd
e-sgwteri fel cerbyd modur/mecanyddol, a olygir bod angen trwydded i’w gyrru, bod
wedi eich yswirio a thalu trethiant cerbyd. Nid yw’n bosib cael yswiriant a
thrwydded e-sgwteri ar hyn o bryd ac o’r herwydd, ni ddylent gael eu defnyddio
ar ffyrdd a llwybrau cyhoeddus. Pwysleisiwyd nad yw’n anghyfreithlon prynu,
berchen neu werthu e-sgwteri.
·
Yr
unig fodd o’u defnyddio yn gyfreithiol yw ar dir preifat gyda chaniatâd y
tirfeddiannwr.
·
Adroddwyd
y gallai’r heddlu atal y sgwteri os byddent yn cael eu dal yn gyrru ar y
ffyrdd, yn ogystal â rhoi hyd at 6 pwynt ar drwydded gyrru a £300 am ddefnyddio
cerbyd heb ei drwyddedu ar ffyrdd cyhoeddus. Ymhelaethwyd nad oes gan nifer o
ddefnyddwyr e-sgwteri drwydded yrru, a arweinir at drosedd ychwanegol o yrru
cerbyd ar ffordd gyhoeddus heb drwydded, a byddai unrhyw bwyntiau cosb yn cael
ei ychwanegu i’w trwydded pan fyddent gydag un.
·
Cadarnhawyd
bod yr heddlu yn gweithio i godi ymwybyddiaeth ac addysgu am e-sgwteri drwy ddefnydd
cyfryngau cymdeithasol a phosteri er mwyn sicrhau diogelwch ar y ffyrdd.
·
Mynegwyd
dyhead i’r Cyngor drefnu ymgyrch cyhoeddusrwydd i amlygu peryglon e-sgwteri,
a’r ffaith nad yw’n bosib eu defnyddio’n gyfreithlon ar ffyrdd cyhoeddus. Rhannwyd dyhead i gydweithio gydag
ysgolion y Sir i ategu’r neges honno.
·
Gofynnwyd i’r Cyngor gynnal trafodaethau gyda llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU I ofyn iddynt fynd i’r
afael a’r her, gan nad oes
gan y Cyngor bwerau uniongyrchol i ddatrys yr her genedlaethol hon. Cynigwyd rhai datrysiadau
megis gwell rheoliadau, sicrhau bod rhybuddion yn cael
ei nodi wrth eu prynu
Mynegwyd cefnogaeth frwd i’r cynnig gan
Aelodau.
PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r cynnig, sef:-
Mae’r Cyngor
· yn pryderu
am y nifer o blant a phobl ifanc sy’n
reidio e-sgwteri ar balmentydd a ffyrdd cyhoeddus;
· yn credu bod
hyn yn peryglu
diogelwch y rhai sy’n eu defnyddio
a diogelwch cerddwyr, yn enwedig y rhai
sydd â nam ar eu golwg;
· yn nodi bod e-sgwteri
yn dod o fewn y diffiniad cyfreithiol o ‘gerbyd modur’. O ganlyniad, maent yn destun
yr un gofynion ag sy’n ofynnol ar gyfer cerbydau modur eraill, megis eu
trwyddedu a’u hyswirio a’r angen
i fod â thrwydded
yrru i’w defnyddio ar ffyrdd cyhoeddus. O ganlyniad, ni ellir eu
defnyddio yn gyfreithlon heblaw ar dir preifat gyda
chaniatâd y tirfeddiannwr;
· yn nodi bod e-sgwteri
yn cael eu
treialu gan lywodraeth y DG ac fe’u caniateir ar ffyrdd o fewn rhai ardaloedd
ond nid yw’r
un o’r rhain
o fewn Gwynedd;
· yn credu nad yw llawer
o rieni a phobl ifanc yn sylweddoli
bod defnyddio e-sgwteri ar ffyrdd cyhoeddus yn anghyfreithlon ac y gall yr heddlu atafaelu’r e-sgwter a chyflwyno adroddiad trosedd traffig sef ‘gyrru
cerbyd modur heb yswiriant trydydd
parti’, gan arwain at ddirwy o £300 a 6 phwynt ar drwydded yrru’r gyrrwr.
Er mwyn mynd i’r
afael â’r broblem hon, mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth
Cymru a Llywodraeth y DG i ystyried pa gamau y gallent eu cymryd
/ pa reoliadau y gallent eu cyflwyno, er mwyn mynd i’r
afael â’r broblem.