Gorsaf betrol arfaethedig, hwb gwefru ceir trydan, adeilad manwerthu, chreu myneda newydd a gwaith cysylltiedig gan gynnwys tirlunio.
AELODAU
LLEOL Cynghorydd Menna Trenholme a’r Cynghorydd Cai Larsen
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gwrthod
Cofnod:
Gorsaf betrol
arfaethedig, hwb gwefru ceir trydan, adeilad manwerthu, chreu mynedfa a gwaith
cysylltiedig gan gynnwys tirlunio.
Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr
a)
Amlygodd y Swyddog
Monitro bod y cais yn cael ei gyflwyno am ail ystyriaeth a hynny oherwydd bod
un elfen yn ymwneud ag arwynebedd yr ardal manwerthu a ‘bwyd i fynd’ angen
ystyriaeth bellach gan nad oedd y rheswm gwrthod wedi ei egluro yn llawn yng
nghyfarfod 13eg o Orffennaf 2026. Nodwyd
bod angen adolygu penderfyniad y Pwyllgor gan nad oedd y wybodaeth ar gael yn
llawn i’r Pwyllgor wrthynt ddod i benderfyniad yn y cyfarfod hwnnw. Gan nad
oedd y sail gwrthod ychwanegol wedi ei ystyried na’r penderfyniad wedi ei
ryddhau yn ffurfiol, nodwyd mai priodol fyddai ail ystyried y cais yng
ngoleuni’r sail gwrthod ychwanegol. Rhoddwyd cyngor i adolygu’r penderfyniad ac
i’r Pwyllgor ystyried y sail gwrthod ychwanegol fel rhan o’r cais yn ei
gyfanrwydd.
b)
Nododd y Rheolwr
Cynllunio, ers trafod y cais ym mhwyllgor
13eg o Orffennaf 2026 bod mater
wedi ei ddwyn i sylw’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn amlygu nad oedd yr adroddiad
gwreiddiol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ar gyfer y cais wedi rhoi ystyriaeth lawn
na digonol i ddarpariaeth unedau “bwyd i
fynd” ( “food to go”) a’r ardal manwerthu a gynigiwyd fel rhan o’r bwriad. Amlygwyd bod yr adroddiad
gwreiddiol wedi dod i gasgliad effaith manwerthu’r bwriad heb roi ystyriaeth
lawn i gynnwys yn y cais a’r polisïau cynllunio perthnasol ynghyd destun yr
ardal manwerthu a ‘bwyd i fynd’. Yn dilyn cyngor cyfreithiol ar y mater ac o
ystyried nad oedd y dyfarniad wedi ei gyhoeddi a bod y mater yma wedi dod i law
oedd yn amlygu nad oedd y Pwyllgor Cynllunio wedi meddiannu’r wybodaeth lawn
wrth ddod i benderfyniad ym Mhwyllgor 13.07.2026, ystyriwyd ei fod yn briodol
cyfeirio’r cais yn ôl i’r Pwyllgor Cynllunio ar gyfer ei ail ystyried. Ategwyd
bod yr adroddiad bellach wedi ei ddiwygio i gynnwys yr ardal “bwyd i fynd” ac
asesiad llawn o’r mater wedi ei gwblhau ac wedi ei gynnwys fel rhan o asesiad
o’r cais yn ei gyfanrwydd.
Adroddwyd mai cais llawn ydoedd ar gyfer adeiladu gorsaf gwasanaethu
sy’n darparu tanwydd i gerbydau ac yn cynnwys hwb gwefru ceir trydan, adeilad
manwerthu i gynnwys dwy ardal ‘bwyd i fynd’ ynghyd a chreu mynedfa newydd a
gwaith cysylltiedig gan gynnwys tirlunio.
Eglurwyd bod y safle yn eistedd tu allan i’r ffin datblygu fel y nodir
yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl); Nid yw’r safle yn
eistedd o fewn unrhyw ddynodiadau tir arbennig ond, ar sail effaith Ffosfforws,
amlygwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn parth ymgynghori Ardal Cadwraeth
Arbennig (ACA) Afon Gwyrfai. Lleolir y safle yn union ger yr A487, sydd yn rhan
o’r rhwydwaith ffyrdd strategol. Bydd natur y datblygiad yn canolbwyntio ar
ddarparu gwasanaeth i ddefnyddwyr y ffordd yma ac felly aseswyd egwyddor y
datblygiad drwy bolisïau TRA 1 ac PCYFF1 y CDLl.
Mae’r datblygiad yn cynnwys gofod manwerthu sylweddol ynghyd ag ardal
"bwyd i fynd", gyda maint yr arwynebedd manwerthu a’r “bwyd i fynd”
yn gyfanswm o 427m sgwâr (dwy ardal ‘bwyd i fynd’ 90m sgwâr yr un, a siop
manwerthu 247m sgwâr). Er hynny, nid oedd manylion digonol ynglŷn â
gweithrediad yr elfennau "bwyd i fynd", ac a fydd yr ardaloedd yma yn
gweithredu fel rhan annatod o’r siop fanwerthu neu fynedfeydd annibynnol a’r
gallu i weithredu fel defnydd ar wahân? Nid oedd eglurder ychwaith ynglŷn
ag union natur y gwasanaeth a fyddai’n cael ei ddarparu.
O ystyried diffyg eglurder ynghylch natur a gweithrediad yr elfen “bwyd
i fynd” a'i pherthynas â'r defnydd manwerthu ehangach, ni ystyriwyd bod
gwybodaeth na thystiolaeth ddigonol sy’n bodloni’r dull dilyniannol wedi ei
gyflwyno i ddangos na fyddai'r datblygiad “bwyd i fynd” ynghyd a’r elfen
manwerthu yn cael effaith andwyol ar fywiogrwydd a hyfywedd canolfannau trefi
nac i asesu'r cynnig yn llawn yn erbyn gofynion Polisïau PS15, MAN 1, MAN 6 a
MAN 7 y CDLl.
O ganlyniad, ni ellid dod i gasgliad bod y cynnig yn cydymffurfio â'r
polisïau na maen prawf v o bolisi TRA 1. Nid oedd modd chwaith gadarnhau bod
lleoliad cefn gwlad holl elfennau'r bwriad yn hanfodol ac felly ystyriwyd ei
fod yn groes i bolisi PCYFF 1.
Yng nghyd-destun materion cyffredinol a phreswyl, ystyriwyd fod y
bwriad, oherwydd ei leoliad graddfa a’r defnydd yn annerbyniol o ganlyniad i’r
lefel o aflonyddwch a chynnydd mewn gweithgaredd o’i gymharu â’r sefyllfa
bresennol ac o ganlyniad, yn groes i faen prawf 7 o bolisi PCYFF 2 sy’n diogelu
mwynderau meddianwyr eiddo lleol. Yn yr un modd yng nghyd-destun materion
gweledol, nid yw’r safle’n cael ei ystyried yn addas ar gyfer datblygiad o’r
natur yma, yn enwedig ei amlygrwydd yn y dirwedd a’r methiant i leihau’r
effaith weledol. I’r perwyl hyn ni ystyriwyd fod y datblygiad yn adlewyrchu
dull sensitif na phriodol o ddylunio. Mae’n ymddangos yn anghydnaws ac yn
ymwthiol o fewn ei gyd-destun, ac felly nid yw’n cydymffurfio â pholisïau PCYFF
3 a PCYFF 4 y CDLl, sy'n sicrhau bod cynigion a'r
cynlluniau tirweddu yn parchu eu cyd-destun a'i lleoliad yn y dirwedd leol.
Yng nghyd-destun materion bioamrywiaeth, eglurwyd y gall datblygiadau
arfaethedig sy’n arwain at gynnydd yn y llwyth ffosfforws o fewn y dalgylch
arwain at effeithiau andwyol ar ansawdd dŵr ac felly ar gyflwr ecolegol yr
ACA. Cyflwynwyd gwybodaeth fel rhan o’r cais yn cadarnhau bod bwriad cysylltu
gyda Safle Trin Gwastraff Caernarfon yn lle Llanfaglan, a bod sylwadau Dwr
Cymru yn cadarnhau fod hynny yn dderbyniol; ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn
cael unrhyw effaith ar lefelau ffosfforws yn Afon Gwyrfai ac felly'r bwriad yn
dangos niwtraliaeth o ran hyn. Er hynny, gall y bwriad achosi effaith sylweddol
ar rinweddau ACA Glynllifon, yn benodol yr ystlum pedol leiaf sy’n nodwedd o
ACA Afon Gwyrfai gyda thystiolaeth bod ystlumod pedol leiaf yn defnyddio’r
ardal. Byddai’r bwriad yn amharu ar y gwrychoedd mae’r ystlumod yn ei
ddefnyddio. Ni gyflwynwyd gwybodaeth ddigonol fel rhan o’r cais i’r Awdurdod
gwblhau Asesiad Priodol yn yr achos yma. Daethpwyd i’r casgliad felly na ellid
cael unrhyw sicrwydd na fydd y bwriad yn cael effaith sylweddol neu andwyol ar
yr ACA.
Ategwyd nad oedd datganiad seilwaith gwyrdd wedi ei gyflwyno fel rhan
o’r cais ac felly nid oedd sicrwydd fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion
Pennod 6 Polisi Cynllunio Cymru.
Wrth drafod materion draenio tir, dwr tir a llifogydd, nodwyd bod y
safle'n cynnwys prif afon ddynodedig (Afon Rhosdican)
ac roedd pryderon ynghylch y datblygiad yn ymwneud â risg llifogydd yn y dyfodol i'r cynnig ac i
drydydd parti. Nid oedd gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais
er mwyn sicrhau mynediad addas a digonol i beiriannau er mwyn galluogi gwaith
cynnal a chadw'r brif afon yn y dyfodol ac i ddarparu llwybr llif
llifogydd/parth byffer i'r brif afon. Ystyriwyd heb y wybodaeth yma na ellid
sicrhau fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion maen prawf rhif 4 polisi
PS6.
Yng nghyd-destun materion halogiad tir, amlygwyd nad oedd gwybodaeth
ddigonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais ar gyfer asesu effaith o ganlyniad
i unrhyw halogiad yn y tir ac felly eto, ni ellid cadarnhau os yw’r bwriad yn
cydymffurfio gyda gofynion maen prawf 7 o bolisi PCYFF 2 na pholisi PS6. Yn
ychwanegol, ni gyflwynwyd tystiolaeth ddigonol fel rhan o’r cais cynllunio i
ddangos fod ystyriaeth lawn wedi ei roi i’r effaith o golli tir amaethyddol
gorau a mwyaf aml bwrpas ac felly ystyriwyd y cais yn groes i ofynion maen
prawf 6 Polisi PS 6 ynghyd a’r cyngor a roddir ym mharagraffau 3.58 a 3.59 o
Bolisi Cynllunio Cymru.
Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau
a chanllawiau lleol a chenedlaethol yn ogystal â'r holl sylwadau a dderbyniwyd,
ystyriwyd fod y bwriad yn annerbyniol yn y ffurf fel y cyflwynwyd gan ei fod yn
methu bodloni gofynion y polisïau a’r canllawiau perthnasol fel y nodir uchod.
Roedd y Swyddogion yn argymell gwrthod y cais.
c)
Nid oedd gan yr Aelodau
Lleol sylwadau pellach i’w cyflwyno.
d)
Cynigiwyd ac eiliwyd
gwrthod y cais
PENDERFYNWYD: Gwrthod
Dogfennau ategol: