Estyniad i gompownd ceblau selio pen presennol Wern gan gynnwys mynediad parhaol newydd, Compownd selio pen newydd ac adeilad pen twnnel gyda mynediad parhaol ym Minffordd; tynnu compownd selio pen presennol Garth; gosod ceblau 400 cilofolt (kV) newydd i ddisodli ceblau 400 kV a 132 kV di-angen; ac isadeiledd a gwaith atodol cysylltiedig.
AELODAU LLEOL:
Cynghorydd Nia Jeffreys
Cynghorydd Gwilym Jones
Cynghorydd June Jones
Cynghorydd Meryl Roberts
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu
Rhaid i'r datblygiad ddechrau o
fewn 5 mlynedd i'r dyddiad caniatâd.
Y datblygiad i'w wneud yn unol
â'r cynlluniau a'r dogfennau a gymeradwywyd.
Yn cyfyngu ar oriau gwaith
adeiladu ac yn rheoli gweithrediadau y tu allan i oriau.
Yn gofyn am ddulliau distaw (non-percussive) o osod seilbyst
ac yn cyfyngu ar oriau gosod y seilbyst.
Yn gofyn am gymeradwyo cynllun
goleuo i amddiffyn ystlumod a rheoli gorlif golau cyn gosod goleuadau
gweithredol.
Yn gofyn am gymeradwyo lliwiau a
gorffeniadau ar gyfer ffensys, waliau, giatiau a thriniaethau eraill ar gyfer
terfynau.
Yn gofyn am waith ymchwilio a
chyweirio unrhyw halogiad nas nodwyd o'r blaen a ganfuwyd yn ystod y
datblygiad.
Yn gofyn am gymeradwyo a
gweithredu cynllun lliniaru llifogydd dros dro ar gyfer y gwaith adeiladu.
Yn gofyn am gynllun
lliniaru/gwrthbwyso ar gyfer effeithiau ar Barc a Gardd Gofrestredig y Wern.
Yn sicrhau gwneud iawn am
gynefinoedd, budd net i fioamrywiaeth, monitro cynefinoedd a rheoli INNS dros
yr hirdymor.
Yn sicrhau adfer tirwedd,
plannu, rheoli cynefinoedd, monitro ecolegol a chynnal a chadw hirdymor.
Yn ei gwneud yn ofynnol cael
ymchwiliad a chofnod archeolegol cyn dechrau'r gwaith paratoi tir.
Yn gofyn am gyflwyno adroddiad
archeolegol ac archif yn dilyn gwaith maes.
Yn sicrhau rheolaeth gynaliadwy,
ailddefnyddio, adfer a chael gwared ar ddeunyddiau a gloddiwyd a gwastraff.
Yn gofyn am drefniadau rheoli ar
gyfer hawliau tramwy cyhoeddus a Llwybr Beicio Cenedlaethol 8 yn ystod y gwaith
adeiladu.
Cyn dechrau unrhyw waith ar y
safle, Datganiadau Dull Adeiladu (CMS) ac Asesiadau Risg i fodloni'r Sefydliad
Goruchwylio ar gyfer y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol (SRN).
Cyn dechrau unrhyw waith ar y
safle, bydd angen cyflwyno dyluniad ailsefydlu'r ffordd gerbydau a manyleb
palmant a fydd yn bodloni Llywodraeth Cymru, fel y Sefydliad Goruchwylio ar
gyfer y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol
Yn ei gwneud yn ofynnol cynnal
arolygon a threfniadau diogelu/dargyfeirio ar gyfer seilwaith dŵr a
charthffosiaeth.
Yn atal dŵr wyneb rhag
cysylltu â'r rhwydwaith carthffosiaeth cyhoeddus.
Yn ei gwneud yn ofynnol i
arwyddion sy'n gysylltiedig â'r datblygiad fod yn y Gymraeg neu'n ddwyieithog
gyda blaenoriaeth i'r Gymraeg.
Yn gofyn am Gynllun Rheoli
Traffig Adeiladu pecyn-benodol ar gyfer gwaith Tŷ Pen Twnnel
Minffordd.
Yn gofyn am Gynllun Rheoli
Amgylcheddol Adeiladu pecyn-benodol ar gyfer gwaith Tŷ Pen Twnnel
Minffordd.
Yn gofyn am Gynllun Rheoli
Cynefinoedd pecyn-benodol ar gyfer gwaith Tŷ Pen Twnnel Minffordd.
Yn gofyn am Gynlluniau Rheoli
Traffig Adeiladu ar wahân ar gyfer pecynnau gwaith CSEC y Wern, CSEC Garth,
CSEC Minffordd a Cheblau Glaslyn.
Yn gofyn am Gynlluniau Rheoli
Amgylcheddol Adeiladu ar wahân ar gyfer pecynnau gwaith CSEC y Wern, CSEC
Garth, CSEC Minffordd a Cheblau Glaslyn.
Cae Chwarae Bodawen
ac Ysgol Eifionydd.
Nodyn: Diwygio amodau Dŵr Cymru yn unol â’r sylwadau hwyr a
dderbyniwyd
Cofnod:
Estyniad i gompownd
ceblau selio pen presennol Wern gan gynnwys mynediad parhaol newydd, compownd selio pen newydd ac adeilad pen twnnel gyda
mynediad parhaol ym Minffordd; tynnu compownd selio
pen presennol Garth; gosod ceblau 400 cilofolt (kV) newydd i ddisodli
ceblau 400 kV a 132 kV
diangen; ac isadeiledd a gwaith atodol cysylltiedig.
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr, yn benodol sylw gan Dŵr
Cymru am eiriad yr amod. Cyfeiriwyd at gywiriad bod sylwadau ynglŷn â’r
Rheilffordd (paragraff 5.299 - 5.303 o’r adroddiad) wedi eu cyflwyno gan
Rheilffordd Ucheldir Cymru (Welsh Highland Railway Ltd) sydd yn gweithredu Rheilffordd Treftadaeth
Ucheldir Cymru (Welsh Highland Heritage
Railway)
a)
Amlygodd
yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff
bod y Prosiect yn rhan o'r uwchraddiadau trawsyrru rhwydwaith ehangach
sydd eu hangen i hwyluso'r gwaith o gysylltu 50 Gigawat
(GW) o ynni gwynt ar y môr erbyn 2030. Mae cynyddu capasiti
ar y llinell drawsyrru bresennol rhwng is-orsafoedd Pentir a Thrawsfynydd wedi cael ei nodi fel cam y mae angen ei
gymryd ar frys i ddarparu mwy o gapasiti trawsyrru.
Mae hyn yn cael ei gydnabod gan Ofgem, y rheolwyr
ynni cenedlaethol, sydd wedi nodi bod y gwaith angenrheidiol yn Fuddsoddiad
Trawsyrru Strategol Cyflym.
Roedd gwaith arfaethedig y cais yn cynnwys
cwmpasu 106.4 hectar ac yn mesur oddeutu 6 km, rhwng CSEC (Cable Sealing End Compounds)
Wern a Minffordd. Bydd llwybr y gwaith yn pasio drwy Gylchfan Porthmadog, o dan
Ffordd Osgoi Porthmadog yr A487, ac yn croesi Rheilffordd Ucheldir Cymru (WHHR)
a Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru (FfWHR);
Yn parhau i'r gogledd o Glwb Chwaraeon Madog cyn pasio eto o dan Ffordd Osgoi
Porthmadog. Bydd yn croesi Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Glaslyn (SoDdGA), gan barhau i gyfeiriad y dwyrain tuag at ei derfyn
yn CSEC presennol Garth. Rhennir y gwaith arfaethedig i'r elfennau canlynol;
CSEC Wern, Ceblau Glaslyn, CSEC Garth, Tŷ Pen Twnnel a CSEC Minffordd
Adroddwyd bod y cais a gyflwynwyd yn gais
Asesiad Effaith Amgylcheddol sydd wedi ystyried yr holl ddatblygiadau sy'n rhan
o Brosiect Atgyfnerthu cyfan rhwng Pentir a Trawsfynydd.
O ran egwyddor y datblygiad, nodwyd y
byddai'r ceblau newydd yn defnyddio technoleg XLPE, yn lle'r system geblau
presennol sydd wedi'i llenwi ag olew ac felly bod manteision o ran moderneiddio
a gwytnwch y rhwydwaith, yn ogystal â lleihau'r risg amgylcheddol sy'n
gysylltiedig â'r ceblau olew presennol. Ategwyd bod y prosiect hefyd yn rhan
o'r gwaith rhwydwaith ehangach sydd ei angen i hwyluso cynnydd yn y
ddarpariaeth ynni adnewyddadwy ac felly’r egwyddor yn derbyn cefnogaeth polisïau
cenedlaethol, sy’n cynnwys Cymru'r Dyfodol a Pholisi Cynllunio Cymru, sy’n
cydnabod yr angen am seilwaith grid ychwanegol i gefnogi'r newid i ynni carbon
isel.
Yng nghyd-destun tirwedd a mwynderau
gweledol, gan fod y ceblau'n cael eu gosod dan ddaear, ystyriwyd y byddai’r
effeithiau gweledol mwyaf yn digwydd yn ystod y cyfnod adeiladu.
Eglurwyd bod yr Asesiad Effaith Tirwedd a
Gweledol yn adnabod effeithiau cymedrol andwyol a sylweddol dros dro mewn
rhannau o'r coridor, gan gynnwys mewn perthynas â gosodiad Parc Cenedlaethol
Eryri. Er hynny, effeithiau lleol a dros
dro sydd yma gyda’r tir, ar ôl gosod y ceblau, yn cael ei adfer. Ategwyd nad
oedd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) nac Awdurdod Cynllunio Parc Cenedlaethol
Eryri yn gwrthwynebu'r cynnig ar sail ei effaith ar y Parc Cenedlaethol. Nodwyd
hefyd bod amod yn gofyn am Gynllun Rheoli Tirwedd ac Ecolegol manwl, fydd yn
rheoli'r gwaith adfer, plannu, gwarchod coed a rheolaeth hirdymor.
Yng nghyd-destun ecoleg a bioamrywiaeth, sydd
yn un o ystyriaethau mwyaf sensitif y cais, adroddwyd bod llwybr yn croesi
neu'n mynd yn agos at nifer o safleoedd o bwysigrwydd ecolegol, yn fwyaf
nodedig SoDdGA Glaslyn ac ACA Coedydd Derw a Safleoedd
Ystlumod Meirion. Bydd oddeutu 1.6 hectar o gynefin o fewn SoDdGA
Glaslyn yn cael ei effeithio dros dro, ynghyd â cholled barhaol gyfyngedig.
Nodwyd bod y dyluniad wedi defnyddio Drilio Llorweddol, neu HDD, mewn nifer o'r
lleoliadau mwyaf sensitif er mwyn pasio o dan gynefinoedd, cyrsiau dŵr a
seilwaith yn hytrach na'u torri drwyddynt. Bu i Uned Bioamrywiaeth y Cyngor
godi pryderon sylweddol ynghylch, adfer cynefinoedd, llygod pengrwn y dŵr,
moch daear, colli coed a gwrychoedd, goleuadau a'r posibilrwydd o effeithio ar
lwybrau hedfan yr ystlum pedol leiaf.
Gan fod y gwaith yn croesi ACA, bu i'r Cyngor
gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd. Daeth yr Asesiad Priodol i'r casgliad,
gyda'r mesurau lliniaru perthnasol, na fyddai'r cynnig yn cael effaith andwyol
ar gyfanrwydd yr ACAau perthnasol. Yn dilyn
ymgynghoriad gyda CNC ar yr Asesiad Priodol cytunwyd â'r casgliad, yn
ddarostyngedig i osod mesurau lliniaru fyddai’n cynnwys rheolaeth sylweddol
drwy amodau, gan gynnwys rheolaeth a monitro cynefinoedd hirdymor, LEMP (Landscape and Ecology Management Plan), rheoli rhywogaethau ymledol,
goleuadau ac arolygon ecolegol.
Wrth drafod sŵn a dirgryniad nodwyd bod
y Datganiad Amgylcheddol yn cydnabod y gallai rhai gweithgareddau adeiladu greu
effeithiau sŵn sylweddol dros dro, yn arbennig gwaith drilio HDD mewn rhai lleoliadau ym Mhorthmadog a
Minffordd gyda phosibilrwydd y bydd rhai gweithrediadau drilio HDD angen parhau
am 24 awr am resymau technegol a diogelwch. Amlygwyd bod Gwasanaeth Gwarchod y
Cyhoedd wedi codi pryder oherwydd nad yw'r holl fanylion gweithredu wedi'u
cwblhau – hyn yn cynnwys union amseriad y gwaith mwyaf swnllyd, y mesurau
lliniaru a'r trefniadau monitro. Fodd bynnag, barn swyddogion yw y gellid
rheoli'r materion hyn drwy amod CEMP mewn pecyn-penodol ar gyfer pob ardal
waith, cynlluniau rheoli sŵn a dirgryniad ac, fel bo'n briodol, y broses
Adran 61 o dan Ddeddf Rheoli Llygredd 1974. Nid oedd y swyddogion Cynllunio yn
anwybyddu'r effeithiau posibl, ond yn hytrach, yn argymell bod rheolaethau
manwl ar waith cyn i bob pecyn gwaith perthnasol ddechrau.
Yng nghyd-destun llifogydd, nodwyd bod cyfran
helaeth o'r gwaith mewn ardal sydd mewn perygl llifogydd gyda’r gwaith modelu
cychwynnol yn dangos y gallai'r seilwaith adeiladu dros dro gynyddu lefelau
llifogydd mewn rhai ardaloedd o Borthmadog a Thremadog.
O ganlyniad, cynhaliwyd modelu hydrolig ychwanegol a datblygwyd cynllun
lliniaru dros dro gyda’r strategaeth yn cynnwys trefniadau pwmpio i reoli'r
cynnydd mewn perygl llifogydd yn ystod y prif waith adeiladu. Adolygwyd y model
gan CNC ac nid oeddynt yn gwrthwynebu'r datblygiad, yn ddarostyngedig i
sicrhau'r cynllun lliniaru drwy amod. Derbyniwyd cadarnhad gan yr Awdurdod
Llifogydd Lleol Arweiniol yn mynegi nad oedd ganddynt bryder ynghylch cynnwys yr
Asesiad Canlyniadau Llifogydd. Roedd y swyddogion o’r farn y byddai’r cynnig yn
gallu cydymffurfio â gofynion NCT 15.
O ran materion traffig, bydd disgwyl cynnydd
mewn traffig adeiladu oherwydd y datblygiad yn ogystal â chreu mynedfeydd
newydd dros dro. Tynnwyd sylw at y Datganiad Amgylcheddol oedd yn rhagweld tua
148 o symudiadau cerbydau dwy ffordd y dydd, gan gynnwys tua 100 o symudiadau
HGV, ar gyfer gwaith Ceblau Glaslyn. Roedd yr asesiad hefyd yn nodi cynnydd
cyfrannol mewn traffig HGV ar rai ffyrdd, ond y cynnydd yng nghyfanswm y
traffig yn parhau'n gymharol fach. Yn dilyn trafodaethau gyda'r ymgeisydd,
roedd Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru wedi cadarnhau y gellid
rhoi caniatâd, yn ddarostyngedig i amodau fyddai’n sicrhau cynlluniau rheoli
traffig, datganiadau dull adeiladu ac asesiadau risg mewn perthynas â'r
Rhwydwaith Ffyrdd Strategol. Bydd amod hefyd yn sicrhau rheolaeth fanwl o'r
Hawliau Tramwy Cyhoeddus a Llwybr Beicio Cenedlaethol 8 yn ystod y gwaith.
Mae prif effeithiau ar dreftadaeth i’w gweld
yn ardal Y Wern gyda’r asesiad yn nodi
effaith andwyol sylweddol ar Barc a Gardd Hanesyddol Gofrestredig Wern ac ar
osodiad y plas dy. Adroddwyd bod Cadw wedi codi pryder sylweddol ynghylch hyn
yn wreiddiol, ond yn dilyn trafodaethau pellach, roeddynt yn fodlon y gellid
mynd i'r afael â'r effaith drwy gynllun lliniaru neu wrthbwyso, wedi'i sicrhau
drwy amod cynllunio - o ganlyniad nid oeddynt bellach yn gwrthwynebu’r cyngor o
ganiatáu’r cais. Ategwyd bod amodau yn sicrhau Cynllun Ymchwilio Ysgrifenedig
archeolegol a gwaith cofnodi dilynol ar gyfer gweddill y datblygiad.
Wrth ddod i gasgliad , nododd y swyddog bod y cynllun
yn un mawr, ac yn nodi, yn amlwg bydd
effeithiau adeiladu sylweddol, dros dro mewn rhai lleoliadau. Ystyriwyd yr holl
effeithiau tirwedd, amwynder, sŵn a dirgryniad, traffig, llifogydd, ecoleg
a bioamrywiaeth, yr amgylchedd hanesyddol a hawliau tramwy cyhoeddus yn ogystal
â’r pwysau sylweddol sydd wedi'i roi ar bwysigrwydd strategol y seilwaith
trydan, moderneiddio'r rhwydwaith, natur danddaearol rhan helaeth o'r
datblygiad, natur dros dro llawer o'r effeithiau, a'r mesurau lliniaru, adfer a
gwella arfaethedig.
Wedi pwyso a mesur yr holl effeithiau yn
erbyn yr angen strategol a'r budd cyhoeddus, roedd y swyddogion yn argymell
caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i osod mesurau lliniaru ac amodau cynllunio
perthnasol.
b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd siaradwr ar ran yr ymgeisydd
·
Bod y cais yn rhan o
brosiect Pentir Trawsfynydd i atgyfnerthu ac adnewyddu llinellau trydan
presennol
·
Bydd y cynnig yn cynnwys
newid y ceblau tanddaearol rhwng safle’r Wern, Penmorfa a Garth, Minffordd
·
Bydd y gwaith yn
gyfuniad o greu ffosydd agored (open trench) a thechnegau di-ffôs sydd
wedi eu dylunio fel bod cyn lleied o darfu a phosib
·
Bydd gwaith yn cael ei
wneud i ymestyn seilwaith presennol ar safle’r Wern ac adeiladu compownd ceblau newydd ym Minffordd - bydd yn safle cysylltu ar gyfer ceblau
tanddaearol ac uwchben
·
Bydd seiliau safle Garth
yn cael ei ddadgomisiynu
·
Wedi cwblhau’r gwaith
adeiladu, bydd ardaloedd gwaith dros dro yn cael eu hadfer a’r fioamrywiaeth yn
cael ei wella mewn lleoliadau oddi ar y safle yn yr ardal leol
·
Bod y prosiect yn rhan o
uwchraddiad y grid cenedlaethol - trawsnewid mawr i rwydwaith trydan y Deyrnas Unedig
·
Llywodraeth Cymru wedi
nodi bod hwn yn gynllun pwysig fydd yn gwella dibynadwy a diogelwch y cyflenwad
trydan, ac yn cefnogi uchelgais Cymru i ddiwallu 70% o anghenion trydan
ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030
·
Polisi Cynllunio Cymru
yn cydnabod bod rhwydwaith drydan effeithiol yn hanfodol er mwyn cyflawni
amcanion adnewyddadwy a charbon isel Cymru
·
Bydd y cynnig yn darparu
capasiti traws yrru trydan ychwanegol hanfodol yng
Ngogledd Cymru gan helpu i gysylltu â dosbarthu ynni adnewyddadwy sydd yn cael
ei gynhyrchu nawr ac yn y dyfodol
·
Bod y datblygiad
arfaethedig yn cyd-fynd â pholisïau
lleol a chenedlaethol a’r cwmni wedi
gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau nad oedd unrhyw faterion allweddol heb eu
datrys mewn perthynas â’r cais
·
Nid oedd gwrthwynebiadau
gan rhanddeiliaid statudol
·
Y datblygiad arfaethedig
yn seilwaith hanfodol fydd yn cyfrannu at gyflawni nod ynni adnewyddadwy
llywodraeth Cymru
·
Pwysig bod y cysylltiad
wedi ei uwchraddio ac ar waith erbyn 2030 i gyflawni’r uchelgais yma
c)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd yr Aelod Lleol, Y Cynghorydd Nia Jeffreys (Ward Dwyrain
Porthmadog) y sylwadau canlynol:
·
Yn diolch i’r swyddogion
am y gwaith
·
Nad oedd ganddi
wrthwynebiad i’r cais, er hynny yn cymryd y cyfle i amlygu rhai sylwadau roedd
trigolion ei ward wedi eu codi megis ecoleg unigryw ardal y Glaslyn, bywyd
gwyllt ac adar, ardal Y Cob.
·
Bod angen sicrhau
mesurau lliniaru yn ystod y cyfnod adeiladu i leihau’r effaith ar y bobl leol -
materion megis traffig, teithio, sŵn, llwch
·
Bod Cae Chwarae Bodawen yn bwysig iawn i blant Porthmadog a Tremadog ac
felly yn gofyn am sicrwydd y byddai’r cae chwarae yn cael ei ail agor cyn
gynted a bod modd ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau - yr un oedd y gofyn am
gaeau chwarae Ysgol Eifionydd - cais i beidio cau'r caeau am gyfnod rhy hir.
Mewn ymateb i’r sylwadau ynglŷn â’r caeau chwarae cyfeiriodd y
Swyddog at y cytundeb a wnaed gyda Cyngor Tref Porthmadog y byddai popeth yn
cael ei ail osod ar ôl y cyfnod cwblhau, ond bod modd gosod amod ychwanegol,
manylach i sicrhau rheolaeth dros ail osod yr offer.
Yn manteisio ar
yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol, Y Cynghorydd Gwilym Jones (Ward
Gorllewin Porthmadog) y sylwadau canlynol:
·
Ei fod yn cytuno gyda
sylwadau’r Cyng. Nia Jeffreys yn enwedig gyda’r sylw am Cae Bodawen
gan fod trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r Cyngor Tref a’r National Grid.
·
Bod angen sicrwydd nad
oedd y hen geblau yn cynnwys cyfansoddiad
polychlorinated biphenyl,
sef deunydd oedd yn cael ei ddefnyddio mewn offer trydan yn y 70au – er wedi
trafod hyn a chael sicrwydd nad oedd forever
chemicals fel y’i gelwir yn gyffredinol, yn
yr hen geblau, nid oedd cyfeiriad at y mater yn yr adroddiad
ch)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais yn unol â’r argymhelliad
d)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y
sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Pam mai Pentir i Drawsfynydd yw’r flaenoriaeth o ystyried bod ardaloedd
eraill yn y Sir angen cysylltiad gwell?
·
Bod y cynllun yn
ymddangos fel un sydd wedi ei frysio ac er cydnabod risgiau sylweddol megis,
traffig, sŵn a llwch, nad oedd risgiau cymunedol wedi eu hystyried
·
Bod angen mwy o
wybodaeth ar sut i liniaru'r risgiau i sicrhau bod y broses yn llai ymwthiol
i’r gymuned leol a natur ac ecoleg yn yr ardaloedd
·
Bod yr Uned
Bioamrywiaeth wedi nodi mesurau lliniaru annigonol o ran manylion cyfnod hir
dymor gan awgrymu monitro’r sefyllfa am 25 mlynedd ac nid 5 mlynedd. Oes modd
cryfhau’r amodau bioamrywiaeth cyn ei ganiatáu
·
Bod y cynllun yn mynd
drwy ardal hynod o sensitif – angen cysondeb a thegwch wrth ddehongli beth yw
‘ardal sensitif’ mewn ceisiadau cynllunio
·
Bod yr angen wedi ei
nodi yn glir; gwaith swmpus wedi ei wneud ar y cais gyda nifer o argymhellion
ac amodau i’w reoli
·
Croesawu mai cais i danddaearu sydd yma ac nid gosod peilonau
·
Nid yw’r grid
cenedlaethol fel y mae yn ffit i bwrpas wrth edrych i’r dyfodol
·
Cyfle yma i fanteisio ar
ynni gwyrdd
Mewn ymateb i sylw bod y cais yn ymddangos fel un sydd wedi ei frysio,
nododd y swyddog bod y cais a gyflwynwyd yn un oedd wedi ei flaenoriaethu gan Ofgem i wella’r rhwydwaith rhwng Pentir a Trawsfynydd i
hwyluso'r gwaith o gysylltu 50 Gigawat (GW) o ynni
gwynt ar y môr erbyn 2030. Ategodd y Pennaeth Cynorthwyol, nad oedd y cais wedi
cael ei frysio ac ni fyddai'n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor oni bai ei fod yn
barod. Nododd bod asesiad manwl o bob ystyriaeth cynllunio berthnasol wedi ei ystyried
yn drwyadl ac ar ôl pwyso a mesur yr holl ystyriaethau cynlluniau perthnasol,
barn yr Awdurdod Cynllunio oedd bod y datblygiad yn dderbyniol gyda mesurau
lliniaru pellach yn gysylltiedig i’r amodau. Ategodd nad oedd y cais o
uwchraddio rhwydwaith trydan yn unigryw i Wynedd - bod datblygiadau yn digwydd
ar hyd a lled Prydain; y cais yn cael ei gefnogi o ran egwyddor gan bolisïau
Llywodraeth Cymru a pholisïau lleol.
PENDERFYNWYD:
Caniatáu gydag amodau
1.
Terfyn Amser
Rhaid
i'r datblygiad ddechrau o fewn 5 mlynedd i'r dyddiad caniatâd.
2.
Cynlluniau a Gymeradwywyd
Y
datblygiad i'w wneud yn unol â'r cynlluniau a'r dogfennau a gymeradwywyd.
3.
Oriau Gwaith
Yn
cyfyngu ar oriau gwaith adeiladu ac yn rheoli gweithrediadau y tu allan i
oriau.
4.
Gosod Seilbyst
Yn
gofyn am ddulliau distaw (non-percussive) o osod seilbyst ac yn cyfyngu ar oriau gosod y seilbyst.
5.
Goleuadau
Yn
gofyn am gymeradwyo cynllun goleuo i amddiffyn ystlumod a rheoli gorlif golau
cyn gosod goleuadau gweithredol.
6.
Rhannau Caeedig
Yn
gofyn am gymeradwyo lliwiau a gorffeniadau ar gyfer ffensys, waliau, giatiau a
thriniaethau eraill ar gyfer terfynau.
7.
Halogiad
Yn
gofyn am waith ymchwilio a chyweirio unrhyw halogiad nas nodwyd o'r blaen a
ganfuwyd yn ystod y datblygiad.
8.
Lliniaru Llifogydd
Yn
gofyn am gymeradwyo a gweithredu cynllun lliniaru llifogydd dros dro ar gyfer y
gwaith adeiladu.
9.
Parc a Gardd Gofrestredig y Wern
Yn
gofyn am gynllun lliniaru/gwrthbwyso ar gyfer effeithiau ar Barc a Gardd
Gofrestredig y Wern.
10.
Cynllun Rheoli a Monitro Cynefinoedd
(HMP)
Yn
sicrhau gwneud iawn am gynefinoedd, budd net i fioamrywiaeth, monitro
cynefinoedd a rheoli INNS dros yr hirdymor.
11.
Cynllun Rheoli Tirwedd ac Ecolegol
(LEMP)
Yn
sicrhau adfer tirwedd, plannu, rheoli cynefinoedd, monitro ecolegol a chynnal a
chadw hirdymor.
12.
Ymchwiliad Archeolegol (WSI)
Yn ei
gwneud yn ofynnol cael ymchwiliad a chofnod archeolegol cyn dechrau'r gwaith
paratoi tir.
13.
Adrodd Archeolegol
Yn
gofyn am gyflwyno adroddiad archeolegol ac archif yn dilyn gwaith maes.
14.
Cynllun Rheoli Deunyddiau a Gwastraff
Yn
sicrhau rheolaeth gynaliadwy, ailddefnyddio, adfer a chael gwared ar
ddeunyddiau a gloddiwyd a gwastraff.
15.
Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Yn
gofyn am drefniadau rheoli ar gyfer hawliau tramwy cyhoeddus a Llwybr Beicio
Cenedlaethol 8 yn ystod y gwaith adeiladu.
16.
Datganiad Dull Adeiladu
Cyn
dechrau unrhyw waith ar y safle, Datganiadau Dull Adeiladu (CMS) ac Asesiadau
Risg i fodloni'r Sefydliad Goruchwylio ar gyfer y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol
(SRN).
17.
Dyluniad ailsefydlu'r ffordd gerbydau
Cyn
dechrau unrhyw waith ar y safle, bydd angen cyflwyno dyluniad ailsefydlu'r
ffordd gerbydau a manyleb palmant a fydd yn bodloni Llywodraeth Cymru, fel y
Sefydliad Goruchwylio ar gyfer y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol
18.
Asedau Dŵr Cymru
Yn ei
gwneud yn ofynnol cynnal arolygon a threfniadau diogelu/dargyfeirio ar gyfer
seilwaith dŵr a charthffosiaeth.
19.
Draenio Dŵr Wyneb
Yn atal dŵr wyneb rhag cysylltu â'r rhwydwaith
carthffosiaeth gyhoeddus.
20.
Arwyddion Cymraeg
Yn ei
gwneud yn ofynnol i arwyddion sy'n gysylltiedig â'r datblygiad fod yn y Gymraeg
neu'n ddwyieithog gyda blaenoriaeth i'r Gymraeg.
21.
Tŷ Pen Twnnel (THH) Minffordd
Yn
gofyn am Gynllun Rheoli Traffig Adeiladu pecyn-benodol ar gyfer gwaith Tŷ
Pen Twnnel Minffordd.
22.
CEMP Tŷ Pen Twnnel Minffordd
Yn
gofyn am Gynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu pecyn-benodol ar gyfer gwaith
Tŷ Pen Twnnel Minffordd.
23.
HMP Tŷ Pen Twnnel Minffordd
Yn
gofyn am Gynllun Rheoli Cynefinoedd pecyn-benodol ar gyfer gwaith Tŷ Pen
Twnnel Minffordd.
24.
CTMPs ar gyfer y Prif Becynnau Gwaith
Yn
gofyn am Gynlluniau Rheoli Traffig Adeiladu ar wahân ar gyfer pecynnau gwaith
CSEC y Wern, CSEC Garth, CSEC Minffordd a Cheblau Glaslyn.
25.
CEMPs ar
gyfer y Prif Becynnau Gwaith
Yn
gofyn am Gynlluniau Rheoli Amgylcheddol Adeiladu ar wahân ar gyfer pecynnau
gwaith CSEC y Wern, CSEC Garth, CSEC Minffordd a Cheblau Glaslyn.
26.
Cynllun adfer cyfleusterau cymunedol
Caeau
Chwarae Bodawen ac Ysgol Eifionydd.
Nodyn: Diwygio
amodau Dŵr Cymru yn unol â’r sylwadau hwyr a dderbyniwyd
Dogfennau ategol: