Adeiladu 36 o dai a gwaith
seilwaith cysylltiedig gan gynnwys ffyrdd a llwybrau troed, gofod hamdden,
tiroedd, draeniau, ac is- gorsaf newydd.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Dewi Jones
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau
1.
5 mlynedd
2.
Unol a’r cynlluniau
3.
Amodau Priffyrdd
4.
Rhaid gosod ffensys diogelu coed cyn
dechrau unrhyw waith adeiladu er mwyn osgoi difrod i’r coed ac unrhyw
atebolrwydd posib
5.
Amod bioamrywiaeth - Gwrych ac yn unol
â’r datganiad seilwaith gwyrdd
6.
Amodau Dwr Cymru
7.
Amodau Gwarchod y Cyhoedd - mesurau
lliniaru sŵn, gosod ffens acwstig, manylion pympiau gwres ffynhonnell aer,
oriau gwaith
8.
Cyflwyno Cynllun Rheoli Amgylcheddol
Adeiladu
9.
Amodau llygredd tir
10.
Amodau Archeolegol
11.
Enw Cymraeg
12.
Amod Tai Fforddiadwy
13.
Amod C3 yn unig
14.
Tynnu hawliau dirprwyedig a ganiateir
Nodiadau
Priffyrdd
SUDS
Datblygiad Mawr
Cofnod:
Adeiladu 36 o dai
a gwaith seilwaith cysylltiedig gan gynnwys ffyrdd a llwybrau troed, gofod
hamdden, tiroedd, draeniau, ac is-orsaf
newydd
a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog
Cynllunio bod y cais yn ymwneud ag adeiladu 36 o anheddau ar dir sydd wedi’i
leoli ar gyrion tref Caernarfon - safle sydd wedi ffinio a stad breswyl ar un
ochr ac annedd unigol a safle diwydiannol ar yr ochr arall. Bydd y datblygiad
yn darparu 10 fflat, 3 byngalo a 23 o dai gyda phob uned yn fforddiadwy, ac yn
cynnwys cymysgedd o dai rhent cymdeithasol a thai rhent canolradd. Yn ogystal
â’r anheddau, bydd y cynllun yn cynnwys mynedfa a ffordd ystâd, mannau parcio,
llecynnau agored ac ardal draenio gynaliadwy a gwaith tirlunio cysylltiedig.
Saif y safle y tu allan, ond yn union gyfagos i ffin datblygu Caernarfon
fel y’i diffinnir yn y CDLl. Ceir mynediad i’r safle
o ffordd sirol Dosbarth 1 sy’n rhedeg ar hyd ffin ogleddol y safle gyda llwybr
troed cyhoeddus yn rhedeg ar hyd ffin ddwyreiniol y safle. Mae parth llifogydd
2 a pharth llifogydd 3 dwr wyneb a chyrsiau dwr bychan wedi ei leoli yn agos i
ffin de ddwyreiniol y safle.
Yn unol â’r drefn, derbyniwyd Adroddiad Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio fel
rhan o’r cais gyda’r adroddiad yn dangos fod y datblygwr wedi hysbysebu’r
bwriad i’r cyhoedd ac ymgynghorwyr statudol cyn cyflwyno cais cynllunio
ffurfiol.
Cyfeiriwyd at sylwadau Uned Strategol Tai oedd yn cadarnhau’r angen
fforddiadwy cyffredinol (heb gysylltiad lleol) ar gyfer Peblig, gyda gwybodaeth
bellach wedi ei dderbyn gan yr Uned yn cadarnhau bod angen fforddiadwy gyda
chyswllt 5 mlynedd a Chaernarfon (Band 1A-2) yn 199
(Medi 2026) a bod 323 o bobl ar restr Tai Teg am eiddo canolraddol 2/3 llofft
(cyfanswm ar gyfer pob math o annedd yn 351). Nodwyd nad oedd y ffigyrau hyn yn
cynnwys yr angen gwledig o fewn 6km i Gaernarfon, ac felly’r ffigwr dros ben yn
debygol o fod yn uwch.
Adroddwyd bod y cynnig ar gyfer tai ble mae angen lleol fforddiadwy clir
wedi ei brofi ar safle sydd wedi ei leoli y tu allan i’r ffin datblygu, ond yn
cyffwrdd â ffin ddatblygu ar gyfer Caernarfon. Ystyriwyd fod y bwriad yn
ffurfio estyniad rhesymegol i’r dref ac felly yn cydymffurfio yn llawn a
gofynion polisïau PCYFF 1 a PCYFF 2, TAI 8, TAI 15 a TAI 16 o’r CDLl yn ogystal â’r cyngor perthnasol a roddir o fewn y
Canllawiau Cynllunio Atodol a chyfarwyddyd cenedlaethol o fewn Polisi Cynllunio
Cymru a Nodiadau Cyngor Technegol.
Eglurwyd mai tir amaethyddol yw’r tir presennol ac y bydd bwriad i
blannu a chadw gwrych i amgylchynu’r safle er mwyn lliniaru effaith andwyol
sylweddol ar y dirwedd ehangach. Wrth ystyried fod y bwriad wedi ei leoli ar
gyrion y dref, ac y byddai’n ymdoddi i mewn i dirwedd adeiledig Caernarfon yn
ehangach, ystyriwyd ei fod yn dderbyniol ac na fyddai’n cael effaith andwyol
sylweddol ar gymeriad yr ardal na’r dirwedd ehangach. Ystyriwyd fod y bwriad yn
dderbyniol ac yn darparu estyniad rhesymegol i’r anheddle ac yn cydymffurfio
gyda gofynion perthnasol polisïau PS 5, PCYFF 3 a PCYFF 4 a TAI 16.
Yng nghyd-destun materion ieithyddol, nodwyd bod maen prawf 2 o Bolisi
PS 1 yn datgan bydd angen Asesiad Effaith Iaith Gymraeg gyda datblygiad
arfaethedig ar safle ar hap annisgwyl ar gyfer datblygiad tai ar raddfa fawr –
mae’r ffaith fod hwn yn safle eithrio y tu allan i’r ffin datblygu yn golygu ei
fod yn safle ar hap annisgwyl. Cyfeiriwyd at y Canllawiau Cynllunio Atodol
‘Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy’, sydd yn nodi byddai
datblygiad fel yma yn cael ei ystyried yn ddatblygiad tai ar ‘raddfa fawr’.
Cadarnhawyd bod Asesiad Effaith Iaith Gymraeg wedi ei gyflwyno gyda’r cais, ac
yn ymateb yr Uned Iaith i’r
ymgynghoriad, cadarnhawyd bod yr asesiad ieithyddol yn gynhwysfawr ar y cyfan a
bod y risg / effaith ieithyddol a gydnabuwyd gan yr ymgeisydd yn niwtral.
Ategwyd y byddai amod ar gyfer darparu enw Cymraeg i’r stad yn cael ei roi ar
unrhyw benderfyniad. O ganlyniad, ni
ystyriwyd fod y bwriad yn groes i ofynion perthnasol polisi PS 1.
Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol, ystyriwyd fod y
bwriad yn dderbyniol gan ei fod yn bodloni gofynion y polisïau a’r canllawiau
perthnasol. Roedd y swyddogion yn argymell caniatáu’r cais gydag amodau.
b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd siaradwr ar ran yr ymgeisydd
·
Ei fod yn hynod o falch
o allu cyflwyno’r datblygiad gerbron y Pwyllgor
·
Y cynllun yn un ar gyfer
codi 36 o gartrefi newydd mewn cyfnod lle mae prinder cartrefi o’r fath yn
argyfwng cenedlaethol
·
Bod yr argyfwng tai yn
effeithio’r ddinas, trefi a phentrefi'r Sir ac Adra yn ceisio eu gorau i geisio
diwallu’r angen ymhobman ac yn deg
·
Bod y bwriad yn cynnig
cymysgedd dda o dai fydd yn gymysg o dai rhent cymdeithasol a chanolraddol
·
Bod dros 360 o bobl ar
restr tai cymdeithasol y Cyngor a dros 350 ar restr Tai Teg ar gyfer rent
canolradd, ac yn dymuno byw yng Nghaernarfon – yr angen am gartrefi yn y dref
yn aruthrol
·
Y bwriad i’w ddatblygu
ar dir eithriedig, ond oherwydd gwahanol gyfyngiadau yn y Dref, mae prinder
ardaloedd addas i ymateb i’r angen.
·
Y datblygiad yn y
lleoliad yma yn creu estyniad synhwyrol i’r dref
·
Bod y cartrefi
arfaethedig yn 100% fforddiadwy, nid yn unig mewn lefelau rent, ond hefyd wedi
eu dylunio i ragori gofynion perfformiad ynni rheolaeth adeiladu
·
Yn defnyddio trydan yn
unig, gyda phaneli solar, pympiau gwres ac yn cyrraedd safon A uchel ar y
gyfradd ynni effeithlon
·
Bod mannau parcio,
llefydd chwarae, llwybrau cerdded o amgylch ac at y gwasanaeth bws wedi eu
cynnwys yn y cynllun ynghyd â nodweddion tawelu traffig – yn creu cymuned saff
a braf i fyw ynddi
·
Bod y cynllun yn bodloni
prif ofynion polisïau cynllunio'r Cyngor
·
Nad oedd gwrthwynebiadau
wedi eu derbyn gan ymgynghorwyr statudol na’r gymuned leol ac yn diolch i‘r
Cyngor Tref ac i’r Swyddogion Cynllunio am eu cefnogaeth i’r cynllun
c)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:
·
Ei fod o blaid y cais
·
Yn cymryd y cyfle i
dynnu sylw at sylwadau Gwarchod y Cyhoedd at faterion sŵn oherwydd agosatrwydd y datblygiad i Stad
Ddiwydiannol Cibyn (sylwadau hefyd wedi codi gan drigolion lleol); yn annog
felly bod yr holl argymhellion sydd wedi eu cynnig i liniaru’r effaith sŵn
angen eu cymryd o ddifrif.
·
Neb eisiau gweld pobl yn
symud i dai newydd ac yna darganfod problem sŵn, ac felly yn falch bod y
mater wedi derbyn asesiad manwl a bod amodau pendant ynglŷn ag insiwleiddio ffenestri ac awyru a gosod ffens
acwstig wedi derbyn sylw, ynghyd â gosod gyfyngiadau oriau gwaith i leihau
effaith ar bobl sydd yn byw gerllaw
·
Y buasai’n hoffi gweld
llwybr yn cysylltu'r stad arfaethedig gydag ardal Glan Peris a Ffordd Cibyn a
bod y datblygiad i'w gweld fel rhan o stad Ysgubor Goch ac nid wedi ei dorri i
ffwrdd.
·
Bod yr angen am dai
fforddiadwy yn enfawr yng Nghaernarfon
·
Bod 79 o geisiadau band
1A yn Peblig - bydd 36 o’r cartrefi felly yn cael eu cynnig i bobl leol
·
Bod 253 cais 1A, 1B ac
A2 - rhain i gyd angen cartref yng Nghaernarfon ac felly yn gweld y cynllun fel
cyfle i 36 o’i etholwyr gael cartref
·
Bod y datblygiad yn 100%
fforddiadwy
·
Bydd y cynllun yn helpu
pobl sydd eisoes yn byw yng Nghaernarfon a rhai sydd â chysylltiad gyda’r dref
i aros yn eu cymuned leol - yr angen yn glir
·
Bod cymysgedd dda o dai
wedi eu cynnwys
·
Y datblygiad yn cynnig
gwelliannau i lwybrau cerdded, mynediad
at safle bws; y cynllun yn cynnwys
llecyn chwarae a mannau agored
·
Yn gyfle i ddarparu tai
sydd gwir eu hangen yng Nghaernarfon fyddai’n sicrhau bod pryderon lleol, yn
enwedig pryderon ynglŷn â sŵn, yn cael eu trin yn iawn
·
Yn hapus i gefnogi’r
cais
d)
Cynigiwyd ac eiliwyd
caniatáu y cais yn unol â’r argymhelliad
ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y
sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Yn croesawu’r datblygiad
·
Braf gweld cynllun am
dai gyda chefnogaeth gymunedol leol
·
Yn llecyn braf ar gyrion
y Dref gyda llwybrau cerdded a safle bws cyfleus
·
Yn creu cymuned saff,
cymuned Gymreig
·
Y cynllun yn ymateb i’r
angen amlwg sydd wedi ei ddatgan gan y nifer sydd eisiau byw yn ward Peblig
·
Yn gymysgedd addas o dai
·
Yn stâd
o faint digonol i ardal Caernarfon
·
Hanfodol bod y cartrefi
yn cael eu hinsiwleiddio'n safonol rhag sŵn
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r angen ‘lleol’ ac os oedd y cais
yn berthnasol i’r gymuned leol yntau ‘lleol i Wynedd’, nodwyd gan fod hwn yn
safle eithrio, sydd yn cynnig 100% o dai fforddiadwy ar safle sydd yn union
gerllaw’r ffin datblygu, bydd yn diwallu angen lleol Caernarfon ac ardal wledig
gyfagos, sef pellter o 6km o
safle'r cais a holl ardal unrhyw Gyngor Cymuned sy'n cael ei rhannu gan y
pellter 6km, gan eithrio eiddo o fewn ffin ddatblygu unrhyw anheddiad oni bai
am yr anheddiad hwnnw lle mae’r cais wedi’i leoli.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sylwadau Cyngor Tref Caernarfon nad
oedd tai cymdeithasol Gwynedd yn cyrraedd safon passive
house ac yn gresynu nad oedd cynllun amgen ar
gyfer gwresogi’r tai e.e., distric heat, nododd y Pennaeth Cynorthwyol bod gofyn i dai
sydd yn cael eu hadeiladu gan Gymdeithasau Tai gwrdd â safonau penodol o ran
gwneuthuriad a chynaliadwyedd. Byddai paneli solar yn rhan integredig o’r tai
yma, a phympiau gwres, ac felly yn sicr o fod yn gynllun cynaliadwy nid yn unig
o ran adeiladu a deunyddiau, ond hefyd oherwydd ei leoliad.
PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag
amodau
1. 5 mlynedd
2. Unol a’r cynlluniau
3. Amodau Priffyrdd
4. Rhaid gosod ffensys diogelu coed cyn
dechrau unrhyw waith adeiladu er mwyn osgoi difrod i’r coed ac unrhyw
atebolrwydd posib
5. Amod bioamrywiaeth - Gwrych ac yn
unol â’r datganiad seilwaith gwyrdd
6. Amodau Dwr Cymru
7. Amodau Gwarchod y Cyhoedd - mesurau
lliniaru sŵn, gosod ffens acwstig, manylion pympiau gwres ffynhonnell aer,
oriau gwaith
8. Cyflwyno Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu
9. Amodau llygredd tir
10. Amodau Archeolegol
11. Enw Cymraeg
12. Amod Tai Fforddiadwy
13. Amod C3 yn unig
14. Tynnu hawliau dirprwyedig a ganiateir
Nodiadau
Priffyrdd
SUDS
Datblygiad Mawr
Dogfennau ategol: