Agenda item

I graffu Adroddiad Blynyddol Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur 2025/26.

Penderfyniad:

1.     Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

2.     Croesawyd y bwriad i drafod gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru o ran methodoleg  cyfrifo allyriadau carbon yn y maes Caffael, ynghyd a dilyniant i’r cynllun EC04 sydd yn dirwyn i ben.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd gan nodi ei fod yn adrodd ar waith a wnaethpwyd yn 2025/26 ac o dan y cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur gwreiddiol, sydd bellach wedi ei ddiweddaru a’i fabwysiadu gan y Cabinet yn haf 2026.

 

Mynegwyd fod y Cyngor yn adrodd ar allyriadau Carbon i Lywodraeth Cymru ers pedair blynedd bellach. Esboniwyd fod hyn yn rhoi sail gadarn i weld os yw’r cynnydd yn mynd i’r cyfeiriad cywir. Nodwyd yn ogystal fod ffigyrau yn cael ei gyflwyno gan gynnwys mesuriadau caffael a hebddynt, gan nad yw’r fethodoleg yn hollol gywir gyda chaffael am ei fod yn seiliedig ar wariant. Eglurwyd o edrych ar y ddau ddarlun ei fod yn dangos eu bod ar y  trywydd cywir. Manylwyd fod allyriadau carbon yn gostwng a bod lefelau amsugno carbon yn aros yn gyfartal oherwydd eu bod wedi defnyddio ystadegau 2024/25, ond fod y bwlch yn cau. Ychwanegwyd fod esboniadau dros hyn yn yr adroddiad, ond eu bod yn cynnwys buddsoddiad gwaith ar leihau allyriadau o ddefnydd ynni adeiladau, gosod pwyntiau gwefru fflyd a bod y strategaeth wastraff bellach yn weithredol. Pwysleisiwyd fod y darlun yn eang a chymhleth ond eu bod ar y trywydd cywir.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

 

Diolchwyd am yr adroddiad a thynnwyd sylw at gyfrifo allyriadau carbon o’r drefn caffael, gan nodi os yw’n cael ei fesur ar wariant yn unig sut mae modd cyrraedd sero net. Gyda chynnydd mewn costau ni fydd modd ei gyrraedd gan ei fod yn darged sydd yn symud yn gyson. Ychwanegwyd gyda chynnydd mewn costau tanwydd mae’r allyriadau am godi drwy’r mesurydd hwn. Nodwyd ei fod yn wallgof cyfri ôl troed carbon drwy gaffael gan nad oes modd i neb gyrraedd sero net. Pwysleisiodd ei fod yn ymwybodol mae mesurydd Llywodraeth Cymru yw hwn ond nad yw’n adlewyrchu’r sefyllfa a bod gwir angen ei gwestiynu. Ymatebwyd gan nodi eu bod yn cytuno yn llwyr gyda’r sylwadau ond fod y Cyngor wedi gwneud un cam positif wrth edrych ar brosesau caffael. Esboniwyd fod llawer o amser wedi ei dreulio i gefnogi cyflenwyr ac i’w cynorthwyo i ddatblygu cynlluniau rheoli carbon eu hunain. Drwy wneud hyn, eglurwyd ei fod wedi arwain at leihau lefelau carbon o fewn y cwmnïau a'u galluogi i roi data carbon cywir sydd yn cael ei fwydo yn ôl i Lywodraeth Cymru. Ymhelaethwyd drwy nodi fod canran uwch o’r data yn gywir o ganlyniad i’r gefnogaeth sydd wedi’i gynnig, ond os am weld y math yma o brosiect ar draws Cymru mae am fod angen llawer mwy  o adnoddau. Ychwanegwyd fod yr Aelod Cabinet wedi holi’r Llywodraeth newydd am drafodaeth bellach am y mesur hwn.

 

Tynnwyd sylw at y siart Amsugno Carbon o asedau tir y Cyngor gan holi pam fod gostyngiad mawr wedi bod yn ddwy flynedd gyntaf y cynllun ac yna cynnydd graddol i’w gweld yn dilyn hynny, gyda niferoedd 2025/26 yn uwch na beth oeddent yn 2021/22. Ymatebwyd drwy nodi fod y fethodoleg a ddefnyddiwyd yn y ddwy flynedd gyntaf yn wahanol i beth a ddefnyddiwyd yn dair blynedd ddilynol. Mynegwyd fod angen y cyd-destun i gyd-fynd a’r siart er mwyn cael y darlun llawn. Ategwyd nad oes llawer o newid wedi bod mewn defnydd tir ac felly fod data 2024/25 wedi ei ddefnyddio ar gyfer eleni a bod trafodaethau yn mynd rhagddi rhwng Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddod o hyd i’r dull cywir o fesur lefelau amsugno carbon.

 

Mynegwyd fod y blwch i sero net yn parhau i fod yn uchel ers y gostyngiad cychwynnol yn ôl yn 2020/21.Ymatebwyd drwy nodi fod y bwlch wedi gostwng ers y flwyddyn waelodlin yn 2019, ond ei fod yn dod yn ôl i’r ffaith fod lefel amsugno carbon o asedau tir yn llawer yn is yn 2020/21 o’i gymharu ar flwyddyn ddilynol. Mynegwyd y bydd gwelliant eleni, ond y gellir cadarnhau hyn pan fydd trefniadau mesur newydd ar gyfer mesur y lefel amsugno.

 

Diolchwyd i’r staff sydd yn gweithio mor galed yn y maes hwn, a bod y gwaith sydd yn cael ei wneud yn wyrthiol gyda chyn lleied o gyllideb. Pwysleisiwyd fod cannoedd ar filoedd o arian yn cael ei arbed i’r Cyngor drwy’r cynlluniau yma sydd yn cynorthwyo gydag arbedion angenrheidiol y Cyngor yn flynyddol. Amlygwyd fod Cynllun ECO4 yn dod i ben eleni, sy’n gynllun sy’n cyd-weithio gyda’r Llywodraeth i gynorthwyo trigolion Gwynedd i leihau costau ynni. Holwyd beth fydd yn digwydd nesaf, ac os oes lle i’r Pwyllgor Craffu gefnogi’r Aelod Cabinet i holi’r Llywodraeth am y camau nesaf o ran cynllun ECO4. Ymatebwyd drwy nodi fod trafodaeth am fod gyda’r Llywodraeth am gaffael a bydd modd codi cynllun ECO 4 fel rhan o’r drafodaeth honno.

 

Holwyd pa brosiectau a gwblhawyd yn 2025/26 a gafodd effaith mesuradwy ar leihau'r bwlch sero net, a pa rai na lwyddwyd i leihau allyriadau a faint o gynnydd sydd o ganlyniadau i grantiau yn hytrach na newidiadau cynaliadwy i leihau gwariant o’r gyllideb graidd. Ymatebwyd drwy nodi fod nifer o gynlluniau adeiladau ac ynni wedi derbyn llawer o grantiau ac y bydd rhai yn arwain at arbedion ariannol oherwydd y gostyngiad mewn costau ynni. O ran arbed arian mynegwyd fod rhai cynlluniau yn cyrraedd niwtraliaeth ble nad oes cynnydd na gostyngiad.

 

Tynnwyd sylw fod y blwch i sero net heb gaffael yn parhau i fod yn 16,937,946 kgCO2e ar y gyfradd, a gofynnwyd faint o flynyddoedd y bydd yn ei gymryd i gyrraedd sero net a pam fod angen glynu wrth y targed 2030 sydd yn parhau i edrych yn afrealistig. Ychwanegwyd fod y lefel amsugno carbon wedi aros yn llonydd, a gofynnwyd felly a yw’n dangos fod strategaeth ecolegol yn fethiant hyd yma neu oes esboniad ehangach. Mynegwyd sut fod allyriadau carbon Cyngor Gwynedd yn cyfrannu o gwbl at newid hinsawdd fyd-eang pan maent mor fychan, a hynny pan fo nifer o wledydd bellach yn cefnu ar Gytundeb Paris o ganlyniad i dystiolaeth wyddonol yn amlygu effaith negyddol ar yr economi. Ymatebwyd drwy nodi fod y Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur ddiweddaraf a fabwysiadwyd gan y Cabinet ym mis Gorffennaf yn rhoi mwy o wybodaeth o ran targed 2030 gan bwysleisio ei fod yn heriol. Mynegwyd fod hyn wedi ei atgyfnerthu gan Lywodraeth Cymru sydd wedi sôn ei fod yn darged i’w gyrraedd yn 2040. Pwysleisiwyd fod hon yn drafodaeth fyw ar hyn o bryd rhwng nifer o sefydliadau.

 

Gofynnwyd beth yw’r gwir gost a amcangyfrifir i gau’r bwlch erbyn 2030 ac o ble fydd yr arian yn dod os yw grantiau yn dod i ben, a fydd y Cyngor yn barod i newid y targed neu pa wasanaethau fydd yn dioddef oherwydd y ffocws a gwariant ar y cynllun hwn. Ymhelaethwyd fod arian grant yn dod o boced y trethdalwr ac felly fod angen bod yn ofalus ble mae’n cael ei wario. Ymatebwyd drwy nodi nad oes dim am ddim yn y gymdeithas yr ydym yn byw ynddo, ond fod angen i’r Cyngor wneud y mwyaf o’r grantiau sydd yn cael ei gynnig. Mynegwyd fod gan y Cyngor gynllun Carbon yn ôl yn 2005 ac felly ei fod yn rhan o ddiwylliant y Cyngor i barhau gyda’r gwaith gan ei fod yn arbed arian i’r Cyngor a’r trethdalwr ac yn sicrhau fod gwasanaethau yn cael ei darparu mor effeithiol â phosib.

 

PENDERFYNWYD

1.     Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth. 

2.     Croesawyd y bwriad i drafod gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru o ran methodoleg  cyfrifo allyriadau carbon yn y maes Caffael, ynghyd a dilyniant i’r cynllun EC04 sydd yn dirwyn i ben. 

 

Dogfennau ategol: