Agenda item

I adolygu trefniadau presennol.

Penderfyniad:

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth. 
  1. Datgan cefnogaeth i ddatblygu cynllun busnes ar gyfer buddsoddi i alluogi’r gwasanaeth i ymgymryd â chanran uchel o waith marcio ffyrdd yn fewnol. 
  1. Argymell i’r Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC y dylid datblygu mesurydd perfformiad o ran blaenoriaethu gosod marciau ffyrdd a diogelwch pob defnyddiwr ffordd, gan gynnwys cerddwyr a beicwyr. 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adran ar hyn o bryd yn edrych ar gamau i wella’r gwasanaeth. Nodwyd y trefniadau presennol sef fod contractwr allanol yn gwneud y gwaith o farcio ffyrdd, oni bai am un cyfarpar marciau ffyrdd a llaw yn ne'r Sir. Pwysleisiwyd mai dim ond dau gontractwr sydd yn gweithio ar draws y Gogledd, ac felly fod yr amser aros i wneud y gwaith yn gallu bod yn hir. Tynnwyd sylw at y camau i wella’r gwasanaeth sydd i’w weld yn yr adroddiad. Nodwyd mai cam dau yw buddsoddi mewn cyfarpar marciau ffyrdd a llaw ychwanegol, ynghyd a hyfforddi staff i’w ddefnyddio, ar gyfer ei weithredu yng Ngogledd y sir.

 

Eglurwyd fod cam 3 ar gyfer datblygu cynllun busnes i fuddsoddi mewn cerbyd pwrpasol gosod marciau ffordd, gan gyflwyno bid buddsoddi i arbed. Ychwanegwyd y buasai hyn yn sicrhau fod gwaith yn cael ei gwneud yn gynt ac y buasai cyfle i gynnig gwaith i siroedd cyfagos a chodi incwm. Ychwanegwyd y buasai ei weithredu yn fewnol yn ei gwneud yn llawer haws i reoli’r sefyllfa.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

Nodwyd fod y ffaith mai dim ond dau gontractwr sydd ar gael i wneud y gwaith, yn amlygu’r angen i gefnogi’r achos yma. Er hynny, mynegwyd y buasai yn ddefnyddiol gweld yr achos ariannol dros hynny yn ogystal, efallai wrth gyflwyno i’r Cabinet i weld y darlun dros y 5-10 mlynedd o ran cost staffio, cynnal a chadw ynghyd a’r incwm ychwanegol. Ymatebwyd drwy nodi fod cael y ffigyrau yn hanfodol i gyflwyno’r bid, ond heb gyrraedd y pwynt hwn eto. Mynegwyd o ran costau y buasai cost o oddeutu £200k o ran buddsoddiad i brynu’r peiriant. Eglurwyd fod sgyrsiau cychwynnol wedi cychwyn gyda’r Asiantaeth Cefnffyrdd, sydd wedi nodi cefnogaeth a gwaith os yn mynd lawr y trywydd buddsoddi. Ymhelaethwyd bod trafodaeth gychwynnol wedi bod â siroedd cyfagos. Mynegwyd fod yr elfen ariannol yn allweddol ond fod enw da’r Cyngor yn ogystal, hynny yw ymateb yn amserol a chyflym. Nodwyd fod buddsoddiad wedi ei wneud ar gyfer cam 2, a’i fod yn gam i’r cyfeiriad cywir.

 

Holwyd sut mae modd diffinio llwyddiant y gwasanaeth, oherwydd mae marciau ffyrdd yn bwysig o ran traffig a diogelwch ond mae’n angenrheidiol ar gyfer cerddwyr a beicwyr yn ogystal. Gofynnwyd sut mae’r drefn yn ystyried gwahanol ddefnyddwyr wrth flaenoriaethu marciau ffordd, a sut mae mesurau perfformiad yn ein galluogi i weld faint o waith, ynghyd a ble mae gwaith yn digwydd, a pha anghenion sydd yn cael eu diwallu. Ymatebwyd drwy nodi fod blaenoriaethu yn dod lawr i asesiad risg a bod diogelwch ffyrdd yn rhan o waith yr arolygwr ffordd, gan ystyried y ffordd i gyd gan gynnwys y marciau ffordd. Eglurwyd fod mesurau yn dod i mewn i’r drefn herio perfformiad ac y bydd enghreifftiau yn cael ei ystyried wrth adrodd.

 

Tynnwyd sylw at farciau ffordd yn dilyn ail wynebu, esboniwyd fod weithiau cyfnod o 6 wythnos neu fwy cyn maent yn cael ei ailosod a bod hyn yn destun pryder oherwydd bod damweiniau yn gallu digwydd a problemau diogelwch o flaen ysgolion. Holwyd os oes cyfnod ble nad oes modd marcio yn dilyn ail wynebu. Ymatebwyd drwy nodi eu bod yn ymwybodol o risgiau ble mae oedi ac yn benodol i rai nad ydynt yn adnabod yr ardal. Eglurwyd fod ail linellu yn rhan o gytundeb contractwyr wrth wneud gwaith ail wynebu a’i fod yn dueddol o ddigwydd yn eithaf agos i ddiwedd y cyfnod. Er hyn, pwysleisiwyd mai dim ond dau gontractwr sydd gyda’r offer i beintio marciau ffordd ar gyfer mannau mawr - er enghraifft peintio llinellau canol ffordd. O ganlyniad mae’r Cyngor ar ofyn y contractwr, ac yn aml mae’n rhaid cael pecyn mawr o waith iddynt ddod i’r sir. O ran marcio o flaen ysgolion, eglurwyd ei fod yn sgorio yn uchel o ran blaenoriaethu a bod yr adran yn gallu defnyddio’r cyfarpar llaw i wneud y gwaith yn fewnol.

 

Diolchwyd am y gwaith sydd wedi ei wneud gan amlygu eu bod wedi bod yn rhagweithiol iawn yn ei ward. Cefnogwyd y camau i wella gwasanaeth a holwyd beth sydd yn cael ei ddefnyddio bellach i wneud y marciau ffordd, gan fod newid wedi bod er mwyn defnyddio deunydd mwy amgylcheddol. Gofynnwyd a yw wedi gwrthsefyll traul yn ddigonol. Ymatebwyd gan nodi fod yr adran wedi bod yn defnyddio deunydd nad yw mor gadarn o ran manyleb ac sydd ar y farchnad agored. Ategwyd fod lleoliadau wedi’i hadnabod ble mae llawer o wisgo yn digwydd er mwyn treialu deunydd cadarn iawn er mwyn cymharu bywyd y marciau. 

 

Datganwyd cefnogaeth i’r buddsoddi ac amlygwyd fod peiriannau arloesol yn dod o Tsieina, a gofynnwyd a oes bwriad i fuddsoddi mewn peiriannau llai. Ymatebwyd drwy nodi eu bod yn buddsoddi mewn ail gyfarpar llaw er mwyn ei leoli yng Ngogledd y sir, a bod cam tri ar gyfer cerbyd mwy.

 

Mynegwyd nad yw’r trefniadau presennol yn gweithio a bod angen mwy o waith gael ei wneud yn fewnol. Holwyd o ran y contractwyr allanol os yw’r Cyngor yn talu iddynt aros dros nos, ac o ran y cynllun busnes a fydd angen buddsoddi mewn mwy o staff. Ymatebwyd drwy nodi y bydd y Cynllun Busnes yn amlygu’r angen am weithlu ychwanegol gan y bydd yn anorfod. Eglurwyd nad yw’r Cyngor yn talu i gontractwyr aros dros nos sydd yn gallu bod yn heriol gan fod angen amserlennu amser teithio yn ogystal.

 

Wrth drafod y marciau ffordd bu i fwy nac un aelod holi os yw’r llinellau yn cael ei pheintio neu eu llosgi ac os oes angen peiriannau gwahanol i’r gwahanol liwiau. Eglurwyd fod y marciau yn cael ei gosod yn boeth a bod yr un drefn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y cyfarpar llaw yn Ne'r Sir. Eglurwyd fod y ddau liw ar yr un cerbyd ac yn gweithio yn annibynnol i’r llall.

 

Gofynnwyd a yw awdurdod arall yn meddwl mynd lawr yr un trywydd a buddsoddi. Ymatebwyd drwy nodi fod trafodaethau wedi bod ac nad oes bwriad gwneud hyn ond yn amlwg gall y sefyllfa newid dros amser. 

 

Mynegwyd fod yr adran yn ffodus i gael camau i drio datrys y broblem. Ond holwyd os yw’r cais busnes yn aflwyddiannus be fuasent yn ei wneud. Ymatebwyd drwy nodi eu bod wedi buddsoddi yng ngham dau yn barod ac y buasai yn gwneud peth gwelliant, ond fod cam tri yn benodol ar gyfer y cynlluniau mawr ble mae gofyn i’r cyngor ddefnyddio contractwyr allanol. O ganlyniad os na fuasai buddsoddiad y buasai’r sefyllfa yn parhau fel ac y mae.

 

PENDERFYNWYD

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
  2. Datgan cefnogaeth i ddatblygu cynllun busnes ar gyfer buddsoddi i alluogi’r gwasanaeth i ymgymryd â chanran uchel o waith marcio ffyrdd yn fewnol.
  3. Argymell i’r Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC y dylid datblygu mesurydd perfformiad o ran blaenoriaethu gosod marciau ffyrdd a diogelwch pob defnyddiwr ffordd, gan gynnwys cerddwyr a beicwyr.

 

 

 

Dogfennau ategol: