Agenda item

I sicrhau bod trefniadau priodol ar waith ar gyfer rheoli a chydlynu cau ffyrdd mewn amgylchiadau brys ac argyfwng.

Penderfyniad:

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth. 
  1. Gofyn i’r Adran Amgylchedd rannu data gan gynnwys y nifer o achosion  o gau ffyrdd o dan amgylchiadau brys neu mewn argyfwng, y dyraniad ar draws ardaloedd, a gwaith sydd yn cymryd mwy o amser na’r disgwyl. 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod cau ffyrdd mewn argyfwng yn un rhan o waith yr uned Gwaith Stryd ar ffyrdd sirol. Mynegwyd eu bod yn gyfrifol yn unol â’r ddeddfwriaeth i alluogi ymgymerwyr statudol i wneud gwaith ar y ffyrdd. Ychwanegwyd fod prosesau gwahanol i’w dilyn pan mae gwaith argyfwng yn codi o’i gymharu â gwaith wedi’i gynllunio. Nodwyd pan fo argyfwng nad oes modd ymgysylltu gan nad oes modd rhagweld ymhle a pryd gall godi ar draws rhwydwaith sir mor eang. Eglurwyd mai gwaith cyd-lynu sydd gan yr uned yn y maes, ond eu bod a’r bwriad o liniaru cymaint â bo modd yr effaith ar gymunedau ond fod angen cadw mewn cof yr angen i waith brys neu argyfwng gael ei wneud gan ymgymerwyr statudol. Mynegwyd mewn oes o gyfathrebu ei bod yn hawdd cael gwybodaeth allan pan mae argyfwng yn codi sydd yn gallu bod o gymorth ond ei bod yn gallu gweithio yn eu herbyn pan fod nifer uchel o wybodaeth yn cael ei rannu neu os yw’r cyfnod amser yn fyr sydd yn gallu creu dryswch sydd yn anodd ei dynnu yn ôl.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

 

Tynnwyd sylw at faterion penodol mewn ardal gyda chau ffyrdd gan nodi diffyg cyfathrebu rhwng y Chyngor a’r rhai sydd yn gwneud y gwaith. Eglurwyd fod llawer o achlysuron ble mae’r Cynghorydd wedi cysylltu â’r Cyngor i nodi fod y lon wedi cau gan nad oedd y Cyngor yn ymwybodol o’r gwaith, yn benodol gan Dŵr Cymru. Holwyd os oes modd cael gwell cydweithrediad gyda’r cwmnïau cau ffyrdd. Eglurwyd fod Dŵr Cymru wedi comisiynu cwmni o Sir Gaer i gau ffyrdd, ond nad oedd y gwaith wedi digwydd ac o ganlyniad fod y trigolion wedi ail agor y ffordd eu hunain o ganlyniad. Ychwanegwyd fod y lon wedi cau yn dilyn hyn ond nad oedd neb yn ymwybodol ac felly fod hynny wedi arwain at broblemau trafnidiaeth gyhoeddus.

 

Ymatebwyd drwy nodi eu bod yn cydymdeimlo yn llwyr ac yn deall y rhwystredigaeth a'u bod yn ymgeisio i gael perthynas iach gyda’r ymgymerwyr statudol a bod disgwyliadau iddynt rannu gwybodaeth. Er nad oedd ganddo fanylder am yr achos dan sylw, mynegwyd fod achosion yn gallu newid yn dilyn ymchwiliad a gweld hyd a lled y gwaith. Mynegwyd nad yw’r system yn berffaith ond eu bod yn awyddus i gydweithio i’w wella. Pwysleisiwyd ei fod yn hanfodol derbyn enghreifftiau, a'u bod yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda’r ymgymerwyr er mwyn gweld gwelliant. Nodwyd fod anawsterau wedi bod gan Dŵr Cymru yn dilyn penodi cwmni rheoli traffig newydd ond fod gwelliant wedi ei weld bellach. Ychwanegwyd eu bod yn dirwyo os yn cau ffordd heb rybudd.

 

Holwyd o ran trefniadau traffig, gofynnwyd pwy oedd yn anfon y mapiau ar gyfer dargyfeirio traffig. Mynegwyd fod y rhain yn ddefnyddiol iawn er mwyn ei rhannu a thrigolion. Tynnwyd sylw at enghraifft o ddargyfeiriad yn dilyn cau ffordd gan Dwr Cymru a aeth yn llawer pellach na be oedd trigolion yn weld yr angen gan fod nifer o gyffyrdd. Ymatebwyd drwy nodi os oes angen cau'r ffordd fod rhaid i’r dargyfeiriad fod ar ffordd ddosbarth cyffelyb neu uwch er mwyn sicrhau fod cerbydau trwm fel bysiau yn gallu teithio arnynt. Eglurwyd pan fo gwaith angen ei wneud, mae’n hanfodol er mwyn cynnal gwasanaethau a fod protocolau i’w dilyn ac o ganlyniad mae rhai gwiriadau yn gallu bod yn estynedig yn ddibynnol ar ble mae’r ffordd wedi cau. Ategwyd mai’r ymgymerwyr statudol sydd yn cyflwyno’r cynlluniau amgen, ond fod gan y Cyngor rôl i herio ac i ddefnyddio gwybodaeth leol i’w haddasu pan fo angen yn unol â’r ddeddf.

 

Amlygwyd enghraifft arall ble roedd Dŵr Cymru wedi cau'r ffordd oherwydd pibell yn gollwng ar allt. Derbyniwyd rhybudd fod y gwaith yn cael ei wneud ymhen 3 wythnos a olygai fod y dŵr ar y ffordd am 5 wythnos. Bu i’r Cynghorydd gysylltu â’r Cyngor a gwnaethpwyd y gwaith o fewn 24 awr. O ddefnyddio’r enghraifft hon, gofynnwyd a oes modd i swyddogion fynd i asesu’r angen am y gwaith cyn rhannu’r rhybudd gan efallai y buasai yn uwchraddio i argyfwng. Ymatebwyd drwy nodi fod statws y gwaith yn gallu newid dros amser. Eglurwyd fod gan y gwasanaeth dri swyddog ar draws y sir i arolygu gwaith ac i weld os yw’r gwaith wedi ei gwblhau i safon. Pwysleisiwyd fod nifer ceisiadau cau'r ffordd yn uchel ac yn ychwanegol i ddyletswyddau’r swyddogion hyn felly mae’r ystod gwaith yn eang iawn.

 

Mynegwyd dealltwriaeth fod y gyfraith yn gorfod cael ei ddilyn ond tynnwyd sylw at gau ffordd ar goridor un mynediad,  a nodwyd yr angen i asesu risg ar yr effaith ar gymunedau ynghyd a chydbwyso os yw’r gwaith wir angen ei wneud. Tynnwyd sylw at achos penodol be nad oedd yn argyfwng ond yn waith brys ac roedd y dargyfeiriad yn dros 40 milltir gyda’i effaith yn fawr ar nifer o gymunedau. Nodwyd fod yr adroddiad yn nodi camau nesaf sydd yn amwys ac nad oes targedau mesuradwy i sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto. Ymatebwyd drwy nodi nad oedd neb eisiau hyn i ddigwydd ond fod y gwasanaeth yn ceisio eu gorau ond yn gallu bod yn heriol pan mae gwaith argyfwng yn codi tu allan i oriau heb wybod beth yw hyd a lled y gwaith. Pwysleisiwyd yr angen i gadw mewn cysylltiad â’r Cyngor er mwyn cael gwybodaeth gywir o’r sianeli swyddogol, ond nodwyd fod y llinyn cyfathrebu yn gallu bod yn hir. Nodwyd fod swyddogion am drefnu i ymweld â’r Cynghorydd er mwyn trafod y problemau yn ei hardal ac i amlygu'r gwaith sydd yn cael ei wneud i liniaru problemau.

 

Nodwyd fod angen protocolau gwahanol ar gyfer rhai lonydd, sydd yn cael effaith fawr ar gymunedau fel ffordd coridor un mynediad, er mwyn cael dealltwriaeth lawn o’r effaith. Holwyd os oes modd cael un person cyswllt ar gyfer argyfyngau. Nodwyd bod nifer swyddogion yn isel ond fod modd cysylltu â’r swyddfa, ac y byddant yn rhannu rhif penodol a swyddog er mwyn cysylltu yn uniongyrchol.

 

Amlygwyd fod un ymgymerwr statudol wedi ei amlygu yn ystod y cyfarfod yma sef Dŵr Cymru, a nodwyd efallai fod angen amlygu hyn iddynt.

 

Gofynnwyd a oes modd cael mwy o ddata o ran faint o gau ffyrdd sydd yn digwydd, faint ohonynt sydd yn waith argyfwng neu brys, faint sy’n cymryd mwy o amser a raglennwyd , ac ymhle mae’r gwaith o ran dyraniad. Holwyd yn ogystal os oes yna drafodaeth am y gwaith yn codi yn yr un lle gyda’r un darparwr dro ar ôl tro. Ymatebwyd drwy nodi fod modd darparu’r data yma yn dilyn y pwyllgor gan fod rhai o’r elfennau yn rhan o’r drefn Herio Perfformiad.

 

Nodwyd fod yr adroddiad yn cyfeirio nifer o weithiau at wella parhaus a gofynnwyd am esiamplau o hynny a sut mae’r gwasanaeth wedi newid. Ymatebwyd drwy nodi fod llawer o’r gwelliannau yn dod o ran deinameg y tîm o ran profiadau ac nad ydynt yn cael ei dogfennu. Ond elfen amlwg yw cyfathrebu a’r angen ac awydd i adael i bawb wybod yn amserol, ac i gadw mewn cysylltiad â Chynghorwyr.

 

Gofynnwyd pwy sy’n gyfrifol am adael i’r gwasanaethau argyfwng wybod pan fo ffordd yn cau. Ymatebwyd fod y Cyngor yn cymryd y rôl o adael i’r gwasanaethau argyfwng, Cynghorwyr a Chyngor Cymuned wybod pan fo ffordd yn cau.

 

PENDERFYNWYD

1.     Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

2.     Gofyn i’r Adran Amgylchedd rannu data gan gynnwys y nifer o achosion o gau ffyrdd o dan amgylchiadau brys neu mewn argyfwng, y dyraniad ar draws ardaloedd, a gwaith sydd yn cymryd mwy o amser na’r disgwyl.

 

Dogfennau ategol: