Aelod Cabinet: Y Cyng. Gareth
Roberts
I ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Gofal ar yr uchod.
Cofnod:
(a) Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Oedolion, ac Iechyd mewn ymateb i
gyfres o gwestiynau a ofynnwyd gan y Pwyllgor Craffu yn deillio o’r newidiadau
yn y Gwasanaeth Anabledd Dysgu.
(b) Adroddodd yr Aelod Cabinet bod angen trawsffurfio’r gwasanaeth uchod er
mwyn sicrhau bod unigolion ag anabledd dysgu yn cyrraedd eu potensial gan
sicrhau bod y gefnogaeth a gynigir yng Ngwynedd yn arloesol.
Yn ogystal bod angen cyflwyno newidiadau sydd yn mynd i ganfod arbedion
ond yn bwysicach yn gwella’r canlyniad ar gyfer yr unigolyn. Bydd y cyfathrebu a hyrwyddo’r newidiadau a
sicrhau cefnogaeth a dealltwriaeth unigolion a’u teuluoedd, staff a darparwyr
mewnol ac allanol yn allweddol ac yn arwain at gydweithio effeithiol tuag at
gyrraedd y nod er mwyn sicrhau gwell gwasanaethau ar gyfer anghenion unigolion.
(c) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau
unigol:
(i)
Dylid pwyso am gadarnhad gan
Lywodraeth Cymru am gyllid i ymestyn y ddarpariaeth ar gyfer unigolion awtistig
(ii)
Pwysigrwydd i hysbysebu rhieni
/ unigolion / defnyddwyr y gwasanaeth pan mai’n ofynnol i ail-drefnu
cyfarfodydd
(iii)
Tra’n cefnogi’r weledigaeth i
hybu unigolion i fod yn annibynnol, pryderwyd am yr effaith ar lawr gwlad ac yn
benodol cefnogi unigolion ag anabledd dysgu sydd yn mynd i fyd
gwaith ac o ganlyniad yn colli budd-daliadau
(iv)
Gofynnwyd beth mae Cyngor
Gwynedd yn mynd i wneud yn sgil bod deilydd swydd
(Gweithiwr Allweddol Awtistiaeth) wedi ymddiswyddo, i sicrhau bod yr unigolion
gydag anabledd dysgu yn cael gwasanaeth teilwng
(v)
Croesawir yr adroddiad ond
nodwyd bod gwersi i’w dysgu a chyfeiriwyd at weithgareddau a gynigwyd yn flaenorol ar gyfer unigolion gydag anabledd
dysgu yn benodol yn Ysgol Botwnnog â’r feithrinfa
goed yng Nglyn Llifon a oedd yn rhoi hunanwerth ac yn fuddiol i’r unigolion.
(vi)
Byddai toriadau i wasanaeth anableddau dysgu yn cael effaith andwyol i unigolion
(vii)
Dylid annog pob Aelod i
dderbyn hyfforddiant ar awtistiaeth a sut i ddelio ag unigolion
(viii) Nad oedd cyfeiriad at rieni / teuluoedd yn yr adroddiad a theimlwyd eu bod
yn cael eu diystyru.
(ix)
Cais i gynrychiolwyr gydag
anabledd dysgu / iechyd meddwl / awtistiaeth i gwrdd â’r
Pwyllgor Craffu er mwyn clywed barn a dod i ddeall a chodi ymwybyddiaeth y
pwyllgor o’u hanghenion
(x)
Pryder yn sgil newidiadau
rhwng Gwynedd / Ynys Môn, i unigolion golli allan ar wasanaethau.
(ch) Ymatebodd yr Aelod Cabinet Oedolion, ac
Iechyd a’r swyddogion i’r sylwadau a wnaed gan Aelodau unigol fel a ganlyn:
(a) Esboniwyd bod model “Key Ring”
yn un cenedlaethol ac yn caniatáu cefnogaeth hyd fraich gan wirfoddolwyr i
unigolion gydag anabledd dysgu a’u bod ar gael pe byddai argyfwng yn codi. Nid
oedd y cynllun yn weithredol yng Ngwynedd ond nodwyd
ymhellach bod angen i fod mwy blaengar mewn cynlluniau sydd ar gael ond rhaid
cofio nad yw pob un yn addas ar gyfer Gwynedd oherwydd natur ddaearyddol y Sir.
(b) Eglurwyd o safbwynt cyllid pellach i ariannu swydd Cefnogaeth a Monitro
Cymunedol, cydnabuwyd bod y sefyllfa’n anodd a bod neges wedi ei anfon i
Lywodraeth Cymru am wybodaeth fuan yn hyn o beth.
(c) Nodwyd ymhellach i’r uchod bod £40,000 yn cael ei drosglwyddo i Wynedd a gobeithir defnyddio rhan o’r arian ar gyfer swydd
hyd at 31 Mawrth, gyda gweddill yr arian yn cael ei gyfeirio i’r gwasanaeth
plant i hyfforddi staff ar sut i ymdrin â phlant ar y sbectrwm awtistiaeth.
Ychwanegwyd y byddai modd mynegi barn o safbwynt y sefyllfa ariannol fel rhan
o’r Gweithdai Toriadau sydd ar hyn o bryd yn mynd rhagddynt.
(d) Cydnabuwyd bod rhaid adeiladu ar gryfderau yn ogystal â pharchu barn yr
unigolion wrth ddatblygu'r modelau newydd dros y tair blynedd nesaf
(e) O safbwynt asesu anghenion unigolion sy’n blant ac wedi iddynt dyfu’n
oedolion, sicrhawyd bod perthynas dda iawn gyda’r Gwasanaeth Oedolion a bod
sustemau mewn lle ynghyd â chanllawiau sydd yn cael eu hadolygu yn rheolaidd. Cyfrifoldeb y Tîm Plant yw cyfeirio plant yn
14 oed i’r Fforymau er mwyn i’r Gwasanaeth Oedolion gynllunio ymlaen ar eu
cyfer. Cadarnhawyd ei bod yn anodd
ymdrin ag achosion lle mae anghenion cymhleth iawn a bod angen ystyriaeth
bellach oherwydd bod cyllid yn cael ei gyfeirio o ffynonellau gwahanol.
(f) Bod y Gwasanaeth Adfocatiaeth yn cynorthwyo pobl fregus i ddewis yswiriant
tŷ a materion cyffelyb
(g) Bod 243 oedolion ag anabledd dysgu wedi defnyddio’r gwasanaeth eiriolaeth
yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf a
bod grwpiau yn cyfarfod yn rheolaidd ar draws y sir
(h) Sicrhawyd bod y Tîm Allan o Oriau / Penwythnosau ar gael am bedair awr ar
hugain pe byddai unigolion yn y ddalfa gan yr Heddlu
(i) Y byddir, yn dilyn ymgynghori gyda’r Gwasanaeth, yn trafod yng nghyfarfod
paratoi nesaf y Pwyllgor Craffu ar sut orau i ymgysylltu a chwrdd defnyddwyr y
gwasanaeth.
(j) O safbwynt morâl staff, bod yr ansicrwydd a phryder ynglŷn â’r dyfodol yn ymwneud fwy â’r
sefyllfa ariannol yn gyffredinol yn hytrach na’r newidiadau sydd ar y gweill
i’r gwasanaeth. Nododd y Pennaeth
Gwasanaeth tra ei fod wedi bod yn y swydd am gyfnod byr yn unig, bod
brwdfrydedd a dealltwriaeth y staff ar gyfer newid wedi ei galonogi.
(k) Cydnabuwyd nad oedd trefniadau monitro ffurfiol mewn trefn a bod angen rhoi
sylw i hyn ond sicrhawyd y ceisir adnabod sefyllfaoedd os oes pryder drwy
rwydweithiau'r Timau rheoli o fewn gwasanaethau unigol.
Penderfynwyd: (a) Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad.
(b) Gofyn i’r Gwasanaeth
ddarparu cynllun drafft er
trafodaeth yng
nghyfarfod paratoi'r Pwyllgor Craffu hwn ar drefniadau ymgysylltu gyda’r defnyddwyr i glywed eu
barn.
Dogfennau ategol: