I adolygu’r
adroddiad a darparu adborth.
Cofnod:
Amlygodd y Rheolwr
Buddsoddi bod yr adroddiad drafft yn darparu manylion am weithgareddau’r Gronfa
Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2026. Adroddwyd bod yr
adroddiad wedi ei gwblhau yn unol â chanllawiau statudol y Bwrdd Cynghori Cynllun
(Scheme Advisory Board) ac yn ymateb i’r gofyn i adnabod a chyflwyno'r
wybodaeth drwy dri chategori - rhaid (must), dylid (should) ac efallai (may).
Sicrhawyd bod popeth sydd yn cael ei adnabod fel ‘rhaid’ a ‘dylid’ wedi cael ei
gynnwys, oni bai nad oedd y wybodaeth ar gael. Yn sgil hynny eglurwyd bod yr
adroddiad blynyddol bellach yn un swmpus ac yn cynnwys cyfuniad o adroddiadau
blynyddol gan y Pwyllgor Pensiynau, y Bwrdd Pensiwn, Partneriaeth Pensiwn
Cymru, gwybodaeth gan yr Uned Weinyddol, a’r Uned Buddsoddi.
Nodwyd y bydd yr adroddiad
blynyddol yn cael ei adolygu gan Archwilio Cymru fel rhan o archwiliad y
cyfrifon ac y bydd y fersiwn derfynol yn cael ei gyflwyno yng Nghyfarfod
Blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd, Tachwedd 2026.
Diolchwyd am yr adroddiad
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:
·
Yn diolch am y gwaith
sylweddol sydd yn cael ei wneud i gwblhau’r adroddiad mewn modd proffesiynol
·
Bod y gofyn iam wybodaeth
i’w weld yn cynyddu yn flynyddol, a’r swyddogion yn ymateb yn dda i hynny
·
Byddai cymhariaeth gyda’r
saith cronfa arall yng Nghymru yn fanteisiol i’r dyfodol
·
Yng nghyd-destun Cyfradd
Cyfraniadau Cyflogwyr, awgrymwyd gosod cyd-destun dealladwy fyddai’n egluro i’r
Aelodau eu cyfraniadau o ystyried bod y ffigwr (16.2%) yn ymddangos yn is na’r
hyn sydd wedi bod yn hanesyddol (o gwmpas 22%). Byddai hyn yn lleihau'r risg o
Aelodau yn tybio bod cyfraniad y cyflogwr hefyd wedi lleihau - angen pwysleisio
nad oes effaith i fuddion Aelodau.
·
Ynglŷn â dangosydd
perfformiad allweddol costau gweinyddol a’r ffaith bod y gost yn cynyddu, ond
nifer y staff yn ymddangos yr un fath, awgrym i gynnwys eglurhad tu ôl i’r
dangosydd i amlygu’r darlun yn well
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag awgrym i gynnwys
costau gweinyddol y cwmni newydd yn yr adroddiad, nodwyd er bod y cwmni bellach
wedi sefydlu nid oedd y costau wedi taro yn llawn ar gyfer 2025/2026.
Derbyniwyd yr angen i fod yn agored am y costau i’r dyfodol ac amlygu'r
gymhariaeth gyda chostau cyn sefydlu cwmni newydd a chostau wedi sefydlu’r
cwmni newydd.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â
pherfformiad prosesu gwaith achos ac os oedd
y Pwyllgor yn adolygu’r targedau o ystyried bod perfformiad, e.e., ‘Cyfathrebiad
a gyhoeddwyd i aelodau'r cynllun gyda chwblhau trosglwyddiad i mewn’ yn llawer
is na’r targed (canran a gwblhawyd o fewn targed y Gronfa yn 3.30% a 65.8% o
fewn y targed cyfreithiol), nodwyd mai targed tebygol gan CIPFA oedd yma ac nid
targed mewnol gan Uned Weinyddol y Gronfa gan eu bod yn gweithredu ar ‘wellhad
parhaus’ yn hytrach na bod yn gaeth i darged. Er derbyn y sylw, ategwyd bod
cyfuniad o staff newydd, dibrofiad yn yr Uned ac elfennau tu allan i reolaeth
yr Uned yn cyfrannu at y perfformiad isel, ond bod rhai prosesau gwaith yn cael
eu gweithredu yn dda iawn.
PENDERFYNWYD derbyn cynnwys yr adroddiad drafft
Dogfennau ategol: