Agenda item

 

I adolygu a nodi'r adroddiad. 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn amlygu bod Cronfa Bensiwn Gwynedd, ochr yn ochr â saith cronfa arall yng Nghymru, wedi comisiynu adroddiad gan The Good Economy er mwy arddangos gwaith a gyflawnwyd gan y cronfeydd pensiwn ar gyfer buddsoddiadau lleol yng Nghymru.

 

Eglurwyd bod yr adroddiad yn crynhoi maint y buddsoddiadau lleol y mae Partneriaeth Pensiwn Cymru wedi eu gwneud a’r effaith posib. Ar lefel genedlaethol adroddwyd bod £139m wedi ei fuddsoddi yng Nghymru, a hynny o fewn 97 ased, ynni glan, cyllid busnesau bach a chanolig (Small and Medium sized Enterprises - SME), tai ac eiddo. Cyfeiriwyd at y map oedd yn dangos lleoliadau’r buddsoddiadau yng Nghymru, ac yn anffodus, oherwydd natur demograffeg a diwydiannau Cymru, bod nifer helaeth ohonynt yn y De. Yng nghyd-destun buddsoddiadau’r bartneriaeth yn ardal ddaearyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd tynnwyd sylw at fuddsoddiadau yn Aberconwy, Ynys Môn, Bangor a meddygfeydd yng Ngwynedd.

 

Adroddwyd bod hwn yn gam cyntaf pwysig i grynhoi’r sefyllfa buddsoddi yng Nghymru, ac y bydd yn cynnig cymhariaeth dda yn y dyfodol i adeiladu arno. Ategwyd mai’r gobaith yw, gyda sefydlogrwydd WPP IM Co bydd gan y cwmni arbenigedd a phlatfform i fuddsoddi yng Nghymru, ac y bydd y sefyllfa yn cryfhau yn flynyddol. Pe bydd cyfle yn cael ei adnabod yn lleol gyda photensial i fuddsoddi ynddo, yna bydd modd rhannu’r wybodaeth gyda WPP IM Co i ddilyn i fyny ar y posibilrwydd - cyfeiriwyd at drafodaethau sydd eisoes yn cael eu cynnal gyda Chydbwyllgor Corfforedig y Gogledd.

 

Diolchwyd am yr adroddiad      

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·        Oes targed i fuddsoddi mwy yng Nghymru yn y dyfodol?

·        Oes gweledigaeth gan WPP IMCo i fuddsoddi yng Nghymru ynteu'r bwriad yw buddsoddi yn y Deyrnas Unedig, heb ystyried ffiniau

·        Bod potensial buddsoddi mewn tai cymdeithasol

·        Croesawu bod y Pwyllgor wedi gwneud cais am fwy o fanylder am y buddsoddiadau yng Ngwynedd

·        Er bod WPP IMCo yn gosod cyfeiriad ac yn edrych ar le a sut i fuddsoddi, bod angen i’r Bwrdd Pensiwn a’r Pwyllgor Pensiynau graffu ar sut i fuddsoddi a’r hyn y gellid ei reoli - angen edrych ar fuddsoddi i wella ac nid dychweliadau da yn unig

·        Angen bod yn effro i fuddsoddiadau a chael proses effeithiol, gywir.

·        Diffiniad ‘ardal leol’ = ardal Cronfa Bensiwn Gwynedd – allweddol bod y datganiad yma yn gywir.

·        Awgrym i gynnal gweithdy i graffu'r newid mewn rolau

 

Mewn ymateb i’r sylwadau nododd y Pennaeth Cyllid bod Datganiad Strategaeth Buddsoddi yn allweddol i Gronfa Bensiwn Gwynedd ac yn gosod cyfeiriad i’r cwmni buddsoddi ar ran y Gronfa.  Ategwyd, o ran gosod targed, bod ffigwr o 5% wedi ei gynnig ond ystyriwyd bod gosod targed efallai yn ddiangen ac mai buddsoddiadau doeth sydd eu hangen. Amlygwyd hefyd bod y datganiad yn ddogfen statudol ac yn y broses o gael ei hadolygu - bydd fersiwn drafft yn cael ei chyflwyno i’r Bwrdd a’r Pwyllgor i’w hadolygu ymhellach cyn cymeradwyo yn ffurfiol cyn diwedd Mawrth 2027.

 

Ategodd y Rheolwr Buddsoddi bod cyfarfod wedi ei drefnu gyda’r cronfeydd pensiwn (16-10-26) i drafod materion cyn trosglwyddo yn ffurfiol i IMCo - hyn i sicrhau bod pawb yn gytûn; yn gyfnod trosiannol ac felly yn derbyn yr angen am fwy o wybodaeth, mewnbwn, cyfraniad a thrafodaeth.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r adroddiad

 

Dogfennau ategol: