Agenda item

I dderbyn a nodi'r wybodaeth. 

 

Cofnod:

Amlygodd y Rheolwr Buddsoddi mai adroddiad ydoedd er gwybodaeth yn nodi’r hyn a drafodwyd yng nghyfarfod ymgysylltu Cadeiryddion y Byrddau Pensiwn, Ebrill 2026. Nodwyd bod Osian Richards a Sioned Parry wedi mynychu’r cyfarfod.  Amlygwyd bod trafodaeth wedi ei gynnal ar Cofrestr Risg, ac Adroddiadau Perfformiad gyda diweddariad gan WPP IMCo ar y cynnydd ers iddynt sefydlu ynghyd a gwybodaeth bellach ar lywodraethu, y gweithlu a gweithrediadau.

 

Derbyniwyd bod y cyfarfod wedi ei gynnal ddiwedd Ebrill 2026, ac ers hynny, adroddwyd bod y cwmni buddsoddi bellach wedi derbyn cofrestriad swyddogol gydag Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), ac ers 1af o Fedi, bod y cwmni wedi cymryd rôl fwy blaenllaw yn rheoli asedau Cronfa Pensiwn Gwynedd. Er enghraifft, nodwyd mai WPP IMCo, sydd bellach yn talu unrhyw arian drosodd i’r rheolwyr buddsoddi ar ran Cronfa Bensiwn Gwynedd ac yn monitro symudiadau cronfeydd y Gronfa.

 

Cydnabuwyd na fydd rheolaeth lwyr yn digwydd yn syth, ond bydd gwaith yn cael ei wneud i adeiladu perthynas gyda swyddogion WPP IMCo ac i ffurfioli sut bydd gwybodaeth yn cael ei gyfathrebu. Ategwyd y bydd disgwyl i swyddogion o WPP IMCo wneud cyflwyniad yng nghyfarfod blynyddol y Gronfa Bensiwn a chyfarfod y Pwyllgor Pensiynau ym mis Tachwedd 2026; y 6 i 12 mis nesaf yn gyfnod newydd a chyffrous gyda digon o gyfleoedd i adeiladu perthynas a dealltwriaeth.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·        Yng nghyd-destun y cwmni buddsoddi, bod cais am adolygiad o’r cytundebau ymhen 12 mis ynghyd a gwirio’r Cynllun Busnes ac effeithlonrwydd y Polisïau – llwyth  gwaith i swyddogion

·        Yng nghyd-destun y Polisi Tal (cyflogau / bonws) y cwmni newydd, bod angen gosod lefelau cyflog addas (isel ac uchel) i sicrhau tegwch a gwerth am arian.

·        Angen sicrhau bod mesurau rheoli cywir yn eu lle

·        Bod gwerth Portffolio Cronfa Bensiwn Cymru yn fwy na £25 biliwn - oes swyddi allweddol heb eu llenwi? Pwy yw aelodau’r Pwyllgor Cyflogaeth?

·        Bod gwybodaeth yn cael ei rannu am y trefniadau llywodraethu, ond dim gwybodaeth am y swyddogion allweddol - byddai rhestr o enwau a’u sgiliau perthnasol yn ddelfrydol. Awgrym bod cyflwyniad yn cael ei wneud i’r 8 Cronfa o 'pwy di pwy' a chais i’r cwmni ystyried cyhoeddi pamffled yn cynnwys y wybodaeth.

·        Bod angen ceisio cadw rheolaeth ar faint y cwmni i’r dyfodol

·        Bod angen enw Cymraeg ar y cwmni

·        Buddiol fyddai cael swyddfa ranbarthol yng Ngwynedd

 

Mewn ymateb i rai o’r sylwadau, nodwyd bod penodiad i swydd Prif Swyddog Buddsoddi Cyfrifol WPP IMCo, ond nad oedd yr unigolyn yn dechrau tan 2027 – er yr oediad, roedd pawb yn gytûn bod y person cywir wedi ei benodi. Cydnabuwyd bod llawer o newid, ond bod cyfathrebu wythnosol rhwng swyddogion yn rhoi sicrwydd yn hytrach na chodi pryderon a bod bwriad gan WPP IMCo gyflwyno eu hunain yng nghyfarfod blynyddol y Gronfa yn mis Tachwedd 2026. Er bod ychydig o wybodaeth ar y wefan am y swyddogion perthnasol, bod mwy o wybodaeth gyhoeddus i ddilyn.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r wybodaet

Dogfennau ategol: