I ystyried a derbyn
y wybodaeth
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn rhoi trosolwg
o berfformiad buddsoddi
Cronfa Bensiwn Gwynedd am y chwarter
a ddaeth i ben 30 Mehefin 2026. Amlygwyd bod y Gronfa wedi dychwelyd
6.9% dros y chwarter, gan berfformio yn is na’r meincnod.
Adroddwyd bod gwerth yr asedau wedi cynyddu
£294 miliwn gan ddod a gwerth y gronfa i bron
i bedwar biliwn; gyrrwyd y perfformiad yn bennaf gan enillion
cryf mewn ecwiti wrth i
ecwiti byd eang ddychwelyd 14.2% dros y chwarter.
Wrth ystyried perfformiad
y flwyddyn yn ei chyfanrwydd, mae’r Gronfa wedi
dychwelyd 15.4%, a hynny ychydig tu ôl
i’r meincnod. Nodwyd nad oedd
dim amheuaeth bod y meincnod
sydd yn cael
ei osod yn
un heriol, ac adroddwyd bod
perfformiad Cronfa Bensiwn
Gwynedd wedi bod yn uwch na chyfartaledd
Cronfeydd Prydain yn hanesyddol gyda’r Gronfa yn parhau
i dyfu felly. O ganlyniad, nid oedd rheswm i
bryderu (ar hyn o bryd) am y perfformiad gan fod y Gronfa hefyd
o flaen y meincnod ar y dechrau sydd
yn amlygu bod y perfformiad yn lefelu allan dros
y blynyddoedd.
Cyfeiriwyd at y Rheolwyr Buddsoddi
gan amlygu bod y Rheolwyr Buddsoddi Ecwiti, wedi perfformio
yn gryf yn
ystod y chwarter a hynny wrth i
ddeallusrwydd artiffisial
(AI) gael effaith positif ar y cwmnïau. Ategwyd bod perfformiad cronfeydd Partneriaeth Pensiwn Cymru wedi disgyn tu
ôl i’r meincnod,
(sef y cronfeydd mae Russell Investments yn gyfrifol amdanynt), ac y bydd y swyddogion yn cadw llygaid
arnynt. Yng nghyd-destun perfformiad y rheolwyr incwm sefydlog, nodwyd bod eu perfformiad
yn dechrau cryfhau ar ôl
cyfnod ansicr ac yn dechrau agosáu
at y meincnod.
Adroddwyd ei bod wedi bod yn gyfnod trosiannol
ar gyfer buddsoddiadau eiddo wrth i’r buddsoddiadau
eiddo presennol gael eu trosglwyddo
i gronfa eiddo Schroders. Ers diwedd Mehefin, nodwyd bod y buddsoddiadau eiddo i gyda bellach
o dan reolaeth Schroders, ac felly bydd y gwaith o fonitro’r Gronfa yma yn dechrau
maes o law.
Yng nghyd-destun marchnadoedd preifat PPC a chronfeydd Partners, nodwyd mai anodd yw
asesu eu perfformiad gan fod y buddsoddiad yma yn un hir dymor
ac ymhellach nid oedd Hymans Robertson wedi amlygu pryderon.
Cyfeiriwyd at y dyraniad asedau
newydd a gymeradwywyd ym mis Tachwedd 2025, gan nodi bod gwaith yn mynd rhagddo
gyda chydweithio da gyda’r WPP IM Co i weithredu’r newidiadau hyn.
Diolchwyd am yr adroddiad
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â pherfformiad blynyddol y gronfa yn erbyn
y meincnod ac er yn ymddangos yn fychan
(1.3% - oddeutu £25miliwm) ac yn
derbyn bod y targed yn uchelgeisiol, y dylid efallai gosod
cyd-destun i’r sefyllfa, nodwyd y byddai’r meincnod yn debygol o gael
ei ail asesu i sicrhau addasrwydd
i’r dyfodol. Ategwyd yr angen i fod yn
fwy pendant a chadarn am yr
hyn mae’r Gronfa yn anelu
tuag ato gan fod gormod
o amrywiaethau (variables) yn
y meincnod presennol.
PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth.
Dogfennau ategol: