I ystyried adroddiad Cadeirydd yr Ymchwiliad Craffu Gofal, Y Cynghorydd Peter Read, ar yr uchod.
Cofnod:
(a) Bu i’r Is-gadeirydd gadeirio’r eitem uchod er mwyn i’r Cadeirydd, Y
Cynghorydd Peter Read, gyflwyno'r
adroddiad uchod a chroesawyd Meinir Williams a Ffion Johnstone o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i’r cyfarfod i
ymateb i ymholiadau / sylwadau’r Pwyllgor Craffu.
(b) Cyflwynwyd adroddiad terfynol drafft gan y Cynghorydd Peter Read, Cadeirydd
yr Ymchwiliad Craffu O’r Ysbyty i’r Cartref, a oedd yn canolbwyntio ar
drefniadau rhyddhau a throsglwyddo cleifion o’r ysbyty i’r cartref. Diolchodd y Cadeirydd am y cydweithrediad
ardderchog gyda staff y Bwrdd Iechyd ynghyd â swyddogion gwahanol Adrannau’r
Cyngor a oedd wedi ychwanegu gwerth at ganlyniadau ac argymhellion yr
Ymchwiliad.
(c) Nododd y Rheolwr Aelodau – Cefnogi a Chraffu bod yr adroddiad drafft
gerbron yn ffrwyth llafur yr Ymchwiliad
Craffu a gomisiynwyd gan y Pwyllgor Craffu hwn a thynnwyd sylw at y pwyntiau
canlynol:
·
Bod natur yr adroddiad yn
wahanol i’r arferol oherwydd yn bennaf dau adroddiad ynglŷn â darpariaeth a gwaith craffu
diffygiol a ddaeth yn amlwg yn Lloegr.
Derbyniwyd arweiniad i dreialu
ffyrdd gwahanol o gynnal ymchwiliadau craffu i geisio
uchafu llais pobl sydd yn y gwasanaeth ac fe welir o’r adroddiad bod mwy o
ddadansoddi a dehongli gwahanol ddata sydd yn arwain at y prif argymhellion i’w
cyflwyno i’r Aelod Cabinet Oedolion, ac Iechyd ac i’r Bwrdd Iechyd.
·
Ymddiheurwyd am hepgor
cyfeiriad yn yr adroddiad at ymweliad dau aelod o’r Ymchwiliad i Ganolfan Heneiddio’n Dda yng Nghricieth
(ch) Croesawyd unrhyw sylwadau gan y Pwyllgor
Craffu ar y prif ganfyddiadau amlinellir yn yr adroddiad ac fe nodwyd y
pwyntiau isod:
1. Tra’n derbyn bod Gwynedd yn
perfformio’n dda ar y cyfan o ran cymhariaeth genedlaethol ar y mesurydd trosglwyddo
cleifion yn amserol o’r ysbyty i’r gymuned nodwyd bod problemau yn amlygu
yn ystod y penwythnosau.
Mewn ymateb, eglurodd cynrychiolydd o’r Bwrdd Iechyd bod y penwythnosau yn
profi’n anodd o ran trosglwyddo cleifion yn ystod cyfnod yr haf oherwydd diffyg
Gweithwyr Cymdeithasol yn yr ysbyty dros y penwythnos ond ei fod wedi
gweithio’n dda yn ystod y gaeaf. Nodwyd ymhellach bod gwaith yn mynd rhagddo ar
yr uchod ond bod gan y Bwrdd Iechyd fwy o sialensiau yn ymwneud â chartrefi yn
methu derbyn cleifion yn ôl dros y penwythnosau oherwydd lefelau staffio ynghyd
â throsglwyddo cleifion i’r ysbytai cymunedol.
2. Cydnabuwyd gan gynrychiolydd y Bwrdd Iechyd bod llunio cynllun gofal yn
flaenoriaeth ganddi'r flwyddyn yma.
1. Yr angen am gydweithio gyda’r Trydydd
Sector yn enwedig yn ardaloedd Dwyfor / Meirionnydd.
2. Cytunwyd bod lle i wella o safbwynt rhyddhau
claf ar y penwythnosau.
3. Bod angen cysoni’r trefniadau a chael cynllun o safbwynt rhyddhau claf, a
phecynnau iddynt fynd adref o Ysbyty
Bronglais i Dde Gwynedd
4. O safbwynt prinder meddygon teulu a
nyrsys, mynegwyd:
·
anfodlonrwydd nad oedd
cydymffurfiaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr o’r polisïau ysgrifenedig i’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad.
Darganfuwyd bod protocol newydd lle rhyddheir y claf o’r ysbyty ac os yw’r claf
angen gofal nyrsio mae’n ofynnol i’r unigolion sy’n gofalu chwilio, o fewn 5
diwrnod, am gartref gofal nyrsio i’r
claf hefo o leiaf un gwely gwag yn un o’r cartrefi er efallai nad yw yn gartref
o ddewis cyntaf y claf.
·
Beth ydoedd criteria a
chymwysterau'r staff nyrsio o safbwynt gofal canolradd mewn cartrefi preswyl?
·
Pryder
nad yw staff yn yr ysbytai yn ymwybodol o’r polisi rhyddhau.
·
Pryder nad oedd nyrsys yn mynd
i gartrefi preswyl mewn rhai ardaloedd ac nad oedd meddygon ar gael ychwaith ac
yn ddibynnol ar locwm sydd ddim yn
adnabod y cleifion.
·
A
yw’r Bwrdd Iechyd yn cydweithio gyda’r Colegau ar gyfer recriwtio meddygon
teulu / nyrsys
·
Bod
yr awdurdod wedi cefnogi i gael Uned Hyfforddi Meddygon yn y Brifysgol ond fe
ddargyfeiriwyd yr arian a oedd wedi ei glustnodi gan Lywodraeth Cymru
·
Pwysigrwydd yr Iaith Gymraeg o
safbwynt bod claf yn cael dewis yr iaith maent yn hyderus ynddo
Ymatebodd cynrychiolydd
y Bwrdd Iechyd i’r uchod drwy esbonio:
·
bod y polisi rhyddhau yn un
cenedlaethol a bod y Bwrdd Iechyd yn cael amser caled i sicrhau bod claf yn
cael y gofal iawn unwaith maent allan o’r ysbyty. Nodwyd dros Ogledd Cymru bod gwelyau cartrefi preswyl a nyrsio yn cau yn wythnosol a bod y sefyllfa yn
argyfyngus. Noda’r polisi os yw’r claf yn awyddus i fynd i gartref nyrsio am
dymor hir mae’n ofynnol iddynt fynd i ysbyty cymunedol. Cydnabuwyd nad oedd yn
hawdd ymateb i’r sefyllfa ond dymunir bod claf yn cael y ddarpariaeth o’u
dewis.
·
bod asesiad o’r claf yn cael
ei gwblhau o safbwynt anghenion nyrsio neu ofal preswyl. Mewn rhai achlysuron
lle nad oes angen cymaint o ofal nyrsio, gall nyrsys y gymuned fod o gymorth
ond yn sicr rhaid cael cynllun i gwrdd ag anghenion gofal y claf.
·
Bod
y Bwrdd Iechyd wedi cwrdd â meddygon
Dwyfor / Meirionnydd ac wedi penderfynu
defnyddio ychydig o arian ar gyfer recriwtio mewn dull gwahanol i geisio denu meddygon ifanc gyda’r addewid i’w datblygu i
arbenigo mewn gwahanol feysydd boed hyn yn arbenigedd gofal a / neu gweithio
hefo ymgynghorwyr arbenigol. Ar gyfer
nyrsys, hyderir y gallent weithio ar y cyd gyda rhai yn yr ardal ac eraill yn y feddygfa teulu. Sicrhawyd bod y mater uchod yn flaenoriaeth i
geisio denu mwy o rhai ifanc i’r ardal.
5.
Cytunwyd bod gormod o fiwrocratiaeth
ond ychwanegodd cynrychiolydd y Bwrdd Iechyd bod cydweithio da yn lleol gyda
Gwasanaethau Cymdeithasol a bod y ddau gorff yn herio ei gilydd. Hyderir drwy “Ffordd Gwynedd” y gellir gwaredu’r fiwrocratiaeth a rhoi'r claf yn
ganolog.
(d) Tynnwyd sylw at brif argymhellion yr Ymchwiliad
Craffu fel amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe nodwyd y sylw ychwanegol canlynol:
·
Bod
angen cryfhau’r argymhelliad yn ymwneud â phrinder meddygon a nyrsys oherwydd
bod y sefyllfa’n argyfyngus a phryderwyd
bod myfyrwyr yn tueddol i astudio meddygaeth yn Lloegr ac o ganlyniad yn
aros yno wedi cymhwyso
(dd) Gofynnwyd i’r Aelod Cabinet Oedolion, ac
Iechyd a Phrif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr weithredu ar yr
argymhellion drwy lunio Cynllun Gweithredu ar y cyd erbyn mis Gorffennaf 2015
gyda disgwyliad am adroddiad cynnydd ym mis Ionawr 2016.
(e) Mewn ymateb, diolchodd yr Aelod Cabinet Oedolion, ac Iechyd am yr adroddiad
gan nodi mai’r ffordd orau ymlaen ydoedd i’w gyfeirio at y Fforwm Sirol i gael
sylw. Ychwanegodd cynrychiolydd y Bwrdd
Iechyd y byddir yn anodd darparu Cynllun Gweithredu erbyn Gorffennaf oherwydd
nad oedd y Fforwm Sirol yn cwrdd yn fuan.
Byddir yn trafod amserlen gytunedig o safbwynt y Cynllun Gweithredu yn y
Fforwm Sirol. Cadarnhawyd yn ogystal y
byddir yn gwahodd y Cynghorydd Peter Read, Cadeirydd yr Ymchwiliad Craffu,
ynghyd â’r Rheolwr Aelodau - Cefnogi a Chraffu i’r
cyfarfodydd. Mewn ymateb i ymholiad ynglyn ag aelodaeth y Fforwm Sirol, esboniwyd ei fod wedi
ei gyfyngu o ran niferoedd rhag iddo fynd yn anferth o faint ac ar hyn o bryd
yn canolbwyntio ar drawsnewid y gwasanaeth pobl hŷn ond sicrhawyd petai
eitemau penodol ynglyn ag iechyd meddwl / anabledd
dysgu fe wahoddir aelodau ac arbenigwyr yn ôl y galw.
(f)
Er gwybodaeth bellach, nododd:
·
y
Cyfarwyddwr Corfforaethol a Chyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ei
bod ynghyd â’r Aelod Cabinet Oedolion, ac Iechyd yn
gwasanaethu ar Fwrdd Iechyd Canolbarth Cymru ac y
byddai modd ymateb rhai o’r argymhellion drwy gydweithrediad y Bwrdd hwnnw.
·
Y
Rheolwr Aelodau – Cefnogi a Chraffu bod trefniadau yn mynd rhagddynt i gynnal
cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu hwn ym mis Gorffennaf i drafod ymgysylltu
ac ymgynghori gyda’r Bwrdd Iechyd
Diolchwyd i’r Ymchwiliad
Craffu am ei gwaith ac yn benodol i’r Cynghorydd Peter Read a’r Rheolwr Aelodau
– Cefnogi a Chraffu a’i dim am arwain yr ymchwiliad.
Penderfynwyd: (a) Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad.
(b) Cymeradwyo:
(i)
Yr argymhellion amlinellir yn adroddiad yr
Ymchwiliad Craffu o’r Ysbyty i’r Cartref ynghyd â’r
sylwadau wnaed yn (ch) a (d) uchod.
(ii)
I gyflwyno adroddiad terfynol i’r Aelod Cabinet
Oedolion, ac Iechyd, Oedolion ac Iechyd a Phrif Weithredwr Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer gweithredu’r argymhellion drwy lunio Cynllun
Gweithredu ar y cyd erbyn amserlen i’w gytuno gan y Fforwm Sirol.
Dogfennau ategol: