Aelod Cabinet: Y Cynghorydd
W. Gareth Roberts
I dderbyn adroddiad cynnydd ar Ymchwiliad
Craffu Alltwen.
10.00 –
10.15 a.m.
Cofnod:
a)
Cyflwynwyd adroddiad cynnydd yr ymchwiliad yn rhoi
diweddariad i’r Pwyllgor Craffu ar y gwaith oedd wedi ei gyflawni a’r gwaith
sydd wedi ei gynllunio. Amlygodd Cadeirydd yr Ymchwiliad, Y Cynghorydd Linda
Ann Wyn Jones bod angen ymchwilio pellach i’r maes gan mai dryslyd iawn oedd
ceisio dehongli pwyt odd yn
cael y gwasanaeth a ‘r nifer oedd yn derbyn y gwasanaeth. Awgrymwyd bod angen
mwy o amser i holi ymhellach er mwyn ceisio datrys hyn ynghyd a cheisio adborth
defnyddwyr gwasanaeth. Cynigiwyd bod angen treulio diwrnod yn Alltwen yn ceisio
mewnbwn rhai o’r defnyddwyr.
b)
Amlygwyd mai tri yn unig o aelodau’r ymchwiliad
oedd yn bresennol yn y cyfarfod a gynhaliwyd mai, ac fe wnaed awgrym y dylid
fod wedi gohirio'r cyfarfod hwnnw oherwydd y nifer a fynychwyd ac oherwydd y
materion oedd yn codi yn y Pwyllgor.
Mewn ymateb,
nodwyd nad oedd cworwm ar gyfer ymchwiliad craffu ac fe benderfynwyd be fyddai
tri yn mynychu byddai’r cyfarfod yn mynd yn ei flaen. Gwnaed awgrym i osod
dyddiadau i’r dyfodol fel eu bod yn nyddiaduron yr aelodau
c)
Derbyniwyd y sylw bod angen ymateb cyn gleifion a
phobl sydd yn derbyn y gwasanaeth, ond amlygwyd yr angen i ystyried hyn yn
ofalus oherwydd materion cyfrinachedd a diogelu data. Awgrymwyd y gellid
casglu'r wybodaeth drwy swyddogion gweithredol sydd yn ymwneud ar’ defnyddwyr
gwasanaeth wyneb yn wyneb a heb greu pryder ymysg y defnyddwyr o gael eu holi
ar gyfer yr ymchwiliad.
Mewn ymateb i gynnig bod angen treulio diwrnod yn yr ysbyty yn ceisio
adborth, awgrymwyd y byddai un person yn ddigonol ar gyfer hyn.
ch) Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y sylwadau
canlynol
-
Enghreifftiau o fethu cael offer -angen datrysiad.
Nodwyd bod y broses o geisio offer yn drwsgl a bod
angen cadw budd yn lleol
-
Pwysig cael mewnbwn defnyddwyr gwasanaeth i’r
ymchwiliad a bod system yn ei le i sicrhau hyn
-
Staff y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yn gweithio
dros 24ain awr , dros saith diwrnod yr wythnos - amlygwyd nad oes staff Gwynedd
yn rhoi'r oriau i mewn dros y penwythnos - angen cyfarch hyn
-
Arafwch y Bwrdd Iechyd i ymrwymo o i rai agweddau
-
dylid ymestyn allan ymhellach - ehangu’r cynllun i
ardaloedd erial
-
Cais i’r ymchwiliad ystyried nodi oedran yr
unigolion sydd yn cael eu holi oherwydd amharodrwydd rhai pobl hyn i gwyno
-
A oes ystyriaeth wedi ei roi i’r pwysau ychwanegol
tebygol ar y gwasanaeth petai’r
penderfyniad yw gadael Ewrop?
d)
Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd yr Aelod
Cabinet ei fod yn derbyn sylwadau’r swyddogion. Amlygodd bod y cleifion yn
hoffi’r dull newydd o weithio a bod angen parhau gydag agwedd bositif.
dd)
Derbyniwyd bod gwrthdaro rhwng ceisio trefn newydd
a’r hen drefn a bod rhwystredigaethau dros ei ymestyn, ond bod rhaid ceisio
datrysiad a symud ymlaen. Cytunodd gyda’r sylw bod angen mewnbwn y defnyddwyr
gwasanaeth, ond amlygodd yr angen i wneud hyn yn ystyrlon.
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â chyllideb ar gyfer y broses, nodwyd bod cyllid ar gyfer
Cynllun Peilot Vanguard wedi ei dderbyn ar gyfer y swyddogion yn unig.
PENDERFYNWYD
-
Caniatáu estyniad
i’r ymchwiliad hyd at Fedi 2016.
-
Y byddai’r
Cynghorydd Linda Ann Wyn Jones yn treulio diwrnod yn Alltwen yn cysgodi
swyddogion a chasglu gwybodaeth ac adrodd yn ôl i’r Ymchwiliad
-
Bod trefniant yn
ei le i’r gwasanaeth rannu sylwadau cleifion gyda’r ymchwiliad.
Dogfennau ategol: