Rhan
1 – Arbedion Pellach
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Adran Rheoleiddio (Dros Dro) (ynghlwm).
Rhan
2 – Arbedion Pellach – Difa Pla
Cyflwyno adroddiad yr Uwch
Reolwr Eiddo Corfforaethol (ynghlwm).
Cofnod:
Croesawyd aelodau o’r
Pwyllgor Craffu Cymunedau i’r cyfarfod i gyd-graffu’r eitem hon gydag aelodau’r
Pwyllgor Craffu Corfforaethol.
(A) Rhan 1 – Arbedion Pellach
Cyflwynwyd –
adroddiad y Pennaeth Adran Rheoleiddio (Dros Dro) yn gofyn i’r pwyllgor graffu
cynlluniau arbedion a gyfeiriwyd gan y Cabinet am waith pellach gan y craffwyr, sef dau gynllun yn ymwneud â lleihau cyllidebau
Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd a chynllun yn ymwneud â lleihau’r gyllideb ar
gyfer hysbysebu ceisiadau cynllunio.
Gwahoddwyd
Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau i ddweud gair cyn i’r Pennaeth Adran Rheoleiddio Dros Dro amlinellu cynnwys yr
adroddiad.
Rhoddwyd
cyfle i’r aelodau holi’r Aelod Cabinet a’r swyddogion a chyflwyno
sylwadau. Yn ystod y drafodaeth:-
·
Mynegwyd cefnogaeth i gefnogi staff y Cyngor a’u grymuso.
·
Mynegwyd cymeradwyaeth i fod yn edrych ar yr arbedion o safbwynt pobl
Gwynedd yn hytrach nag o safbwynt y Cyngor.
·
Nodwyd y bydd cydweithio yn haws o hyn allan o bosib’.
·
Nodwyd risg gan yr aelodau ynghylch codi ffioedd gan nad oedd manylion
yn bodoli ar hyn o bryd.
·
Nodwyd bod budd wedi bod o graffu’r adroddiad ar y cyd rhwng y ddau
bwyllgor.
Gwahoddwyd
Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau i grynhoi cyn i Gadeirydd y Pwyllgor
Craffu Corfforaethol gloi’r drafodaeth.
PENDERFYNWYD
(a) Derbyn yr wybodaeth yn yr adroddiad, yn cynnwys yr hyn sydd wedi
ei gyflawni ar yr arbedion hyd yn hyn.
(b) Argymell i’r Cabinet bod yr Adran yn bwrw ymlaen i gyfarfod
arbediad o £278,440 drwy weithredu ar gynllun amgen a fydd yn canolbwyntio ar
gynyddu incwm, newid strwythur a lleihau risgiau sydd yn rhwystro arbedion sydd
wedi eu cymeradwyo rhag eu gwireddu.
(c) Bod yr adran yn adrodd ar y cynnydd ar yr holl arbedion a
thoriadau ynghyd â ffigurau pendant i ymrwymo iddynt o ran cynllun amgen i’r
Pwyllgor Craffu Cymunedau ymhen 9 mis.
(B) Rhan 2 – Arbedion Pellach – Difa Pla
Cyflwynwyd –
adroddiad yr Uwch Reolwr Eiddo Corfforaethol yn diweddaru’r aelodau ar opsiynau
posib’ ar gyfer darpariaeth y Gwasanaeth Difa Pla a Wardeiniaid Cŵn i’r
dyfodol ac yn gofyn iddynt graffu’r opsiynau a gynigir
i gau’r bwlch ariannol presennol.
Gwahoddwyd
Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau i ddweud gair cyn i’r Uwch Reolwr Eiddo
Corfforaethol amlinellu cynnwys yr adroddiad.
Rhoddwyd
cyfle i’r aelodau holi’r Aelod Cabinet a’r swyddogion a chyflwyno
sylwadau. Yn ystod y drafodaeth:-
·
Mynegwyd cefnogaeth i’r ffordd amgen o gwrdd â’r
arbedion / toriadau ac am feddwl yn ddyfeisgar.
·
Croesawyd y datblygiad i redeg y gwasanaeth fel busnes hunan gynhaliol.
·
Pwysleisiwyd yr angen i’r gwaith marchnata gael ei wneud gynted â
phosib’ er mwyn cynyddu lefel defnydd y gwasanaeth (yn arbennig yn Arfon).
·
Nodwyd y risg o gynyddu’r gost yn ormodol (risg y byddai pobl yn mynd â’u busnes i rywle arall), ond croesawyd lefel o 10% yn is
na’r farchnad.
·
Pwysleisiwyd hefyd bod rhaid cadw enw da’r gwasanaeth, gan barhau i
sicrhau fod safon y gwasanaeth yn gyflym ac effeithiol.
·
Croesawyd bod gwarant o wasanaeth yr un diwrnod i gleientau
bregus, e.e. cartrefi henoed.
·
Nodwyd y risg o ddileu’r gwasanaeth – gan fod llawer o’r gwaith yn
fewnol gallai arwain at gwmnïau preifat yn codi prisiau uchel iawn, a fyddai yn
ei dro yn diddymu unrhyw arbedion.
·
Croesawyd mai un pris fyddai i gleientau ar
draws y sir.
·
Nodwyd yr angen i sicrhau fod modd talu am y gwasanaeth yn rhwydd ac i
ddatblygu hynny.
·
Nodwyd y negeseuon negyddol yn y wasg, a bod yma gyfle i ymfalchïo mewn
cwrdd â’r arbedion sy’n rhaid eu gwireddu mewn modd
llawer mwy dyfeisgar.
Gwahoddwyd
Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau i grynhoi cyn i Gadeirydd y Pwyllgor
Craffu Corfforaethol gloi’r drafodaeth.
PENDERFYNWYD
(a) Argymell i’r Cabinet wireddu’r camau a argymhellir yn rhan 3 a 4
yr adroddiad gyda’r nod o wireddu cynnydd mewn incwm oddeutu £40,000 y
flwyddyn, yn hytrach na diddymu’r Gwasanaeth Difa Pla yn ei gyfanrwydd.
(b) Gofyn i’r gwasanaeth adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau
ymhen blwyddyn.
Dogfennau ategol: