I ystyried adroddiad Pennaeth yr Adran
Rheoleiddio
COFNODION:
a)
Cyflwynwyd adroddiad
Pennaeth yr Adran Rheoleiddio yn argymell y Pwyllgor i fabwysiadau Polisi
Dosbarthu Ffilm yn ogystal â chymeradwyo codi ffi ar gyfer dosbarthu ffilm a
gweinyddu’r broses er pwrpas adennill costau yn unig.
Amlygwyd bod Cyngor Gwynedd, fel yr Awdurdod Trwyddedu yn gyfrifol am
awdurdodi dangos ffilmiau’n gyhoeddus ac yn unol ag Adran 20 o Ddeddf Trwyddedu
2003. Nodwyd pan fo Trwydded Eiddo neu Dystysgrif Eiddo Clwb yn caniatáu dangos
ffilm (Iau), rhaid i’r drwydded gynnwys amod sydd yn nodi y dylid cyfyngu
mynediad plant i ffilmiau yn unol â’r argymhellion a wnaed unai gan y British
Board of Film Classification (BBFC), neu gan yr Awdurdod Trwyddedu.
Pwysleisiwyd bod rhaid i ffilmiau sy'n cael eu dangos yn gyhoeddus ar eiddo
trwyddedig gael eu dosbarthu gan y BBFC neu eu hawdurdodi gan yr Awdurdod
Trwyddedu dan bwerau Deddf Trwyddedu 2003.
Nodwyd
mai pwrpas y Polisi Dosbarthu Ffilm yw llunio trefn ffurfiol i’r Awdurdod Trwyddedu ddosbarthu ffilm. Y prif
amcan trwyddedu mwyaf perthnasol yw Amddiffyn Plant Rhag Niwed. Amlygwyd yn yr
adroddiad y canllawiau perthnasol ar gyfer dosbarthu ffilm ynghyd â
sefyllfaoedd gwahanol y gall cais ddod i law.
O
ran trefn, nodwyd y byddai'r pŵer i awdurdodi dosbarthiad ffilm yn cael ei
ddirprwyo i’r Pennaeth Rheoleiddio gan y Pwyllgor Trwyddedu Canolog. Unwaith
bydd ffilm wedi ei hawdurdodi gan yr Awdurdod Trwyddedu, bydd yn cael ei
awdurdodi ar gyfer arddangosfa neu ŵyl benodol yn unig, yn amodol ar yr
argymhellion a osodwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu (oni bai y gwnaed cais am
ailddosbarthiad pellach).
Yng
nghyd-destun gosod ffioedd, amlygwyd nad oedd unrhyw ffi statudol wedi ei bennu yn y ddeddfwriaeth ar gyfer
pwrpas dosbarthu ffilmiau ac i adennill costau'r broses yn unig mae rhai
Awdurdodau lleol yn codi ffioedd. Ystyriwyd y byddai yn rhesymol cyflwyno ffi
am y broses fyddai yn adlewyrchu cost amser y swyddog yn gwylio’r ffilm ynghyd
a chost cynhyrchu a phrosesu’r dystysgrif.
b)
Mewn ymateb i gwestiwn
nodwyd y bydd y ffi yn amrywio ac yn cael ei fesur yng nghyd-destun hyd y ffilm. O ran egwyddor, nid
oes angen gosod ffi rhy uchel gan fod angen hybu dangos ffilmiau ond eto rhaid
ystyried yr egwyddor o adennill costau. Awgrymwyd codi ffi am £30 am gynhyrchu
a phrosesu'r dystysgrif ynghyd ag amser swyddog yn gwylio’r ffilm.
c)
Mewn ymateb i gwestiwn
nodwyd na fyddai’r polisi yn cael effaith
ar noson ffilmiau mewn neuaddau cymunedol cyn belled a bod trwydded gan
y neuadd. Amlygwyd mai cyfrifoldeb deilydd y drwydded fydd sicrhau bod trwydded
yn ddilys neu geisio am drwydded digwyddiad dros dro ynghyd a phenderfynu sut
fydd y digwyddiad yn cael ei reoli.
ch) Mewn
ymateb i sylw bod angen cynnal trafodaeth am reoli ffilmiau / darnau o ffilmiau
ar ddyfeisiadau digidol, nodwyd bod cyfrifoldeb moesol ar aelodau a swyddogion
i fonitro hyn. Nodwyd bod y polisi yn
caniatáu gwrthod dosbarthu ffilm
(oherwydd rhesymau dadleuol, anaddas i blant neu peri pryder i gymdeithas), hyd
yn oed os yw wedi ei ddosbarthu gan y BBFC.
d)
Mewn ymateb i awgrym petai
penderfyniad yn mynd i apêl a bod is
bwyllgor yn cael ei ffurfio i drafod rhesymau gwrthwynebu i geisio
dealltwriaeth, amlygwyd bod hyn yn awgrym digon teg, ond nad oedd cyfundrefn
statudol ar gyfer hyn. Amlygodd y Cyfreithiwr petai cais dadleuol yn cael ei
gyflwyno byddai Pennaeth yr Adran
Rheoleiddio yn defnyddio disgresiwn i gyflwyno
adroddiad i’r Pwyllgor Trwyddedu
Canolog ynghyd ag argymhelliad.
dd)
Cynigiwyd ac eiliwyd i fabwysiadu’r polisi
e)
Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan aelodau unigol;
·
petai y nifer o geisiadau
yn cynyddu bydd rhaid ystyried capasiti yr Adran Trwyddedu
·
petai amryw o geisiadau
dadleuol yn cael eu cyflwyno bydd modd addasu'r polisi
·
rhaid sicrhau diogelwch
plant
·
angen cyfeirio'r
penderfyniad at yr Aelod Cabinet i sicrhau cymeradwyaeth
PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r polisi yn ogystal â chymeradwyo codi ffi ar gyfer dosbarthu ffilm
er pwrpas addennil costau yn unig
Dogfennau ategol: