Agenda item

(copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad gan Gyfarwyddwr Arweiniol GwE / Cadeirydd y Bwrdd Rheoli a Rheolwr Gyfarwyddwr GwE yn diweddaru aelodau’r Cyd-bwyllgor ar yr adroddiad ar ansawdd y gwasanaethau gwella ysgolion a ddarperir gan Gonsortiwm Gogledd Cymru.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Arweiniol / Cadeirydd y Bwrdd Rheoli at gasgliadau ac argymhellion arolwg Estyn a gyhoeddwyd ar 30 Mehefin.  Nododd fod angen mynd i’r afael â dau faes yn benodol, sef:-

 

1)      Y gwaith sy’n mynd rhagddo i hyrwyddo safonau uwch o fewn ysgolion, yn enwedig yng nghyfnod allweddol 4.

2)      materion yn ymwneud â gwerth am arian a phrosesau busnes ac o gwmpas y cwestiwn o effeithiolrwydd cyflenwi’r rhaglen a chysondeb ar draws y rhanbarth.

 

Manylodd y Cyfarwyddwyr Cynorthwyol ar yr argymhellion yn unigol ynghyd â’r gwaith o ddrafftio cynllun gweithredu cychwynnol mewn ymateb i’r argymhellion hynny.

 

Nododd y Cyfarwyddwyr Cynorthwyol ymhellach eu bod yn croesawu’r elfennau positif yn yr adroddiad ac yn derbyn yr atebolrwydd sydd ar y gwasanaeth. 

 

Nododd y Cyfarwyddwr Arweiniol / Cadeirydd y Bwrdd Rheoli ei fod yn hyderu y byddai’r camau gweithredu yn sicrhau bod y llinellau atebolrwydd yn hollol glir.

 

Diolchodd y Cyfarwyddwyr Cynorthwyol i’r Cyfarwyddwr Arweiniol / Cadeirydd y Bwrdd Rheoli am ei gefnogaeth yn ystod cyfnod yr arolwg.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd:-

 

·         Bod y feirniadaeth ynglŷn â mesur gwerth am arian yn thema cyffredin yn adroddiadau arolwg Estyn / SAC ar bob un o’r 4 consortiwm Cymreig, ac yn agwedd bydd y rhanbarthau yn cydweithio arno i’w gyflawni i’r dyfodol.

·         Bod y camau a amlinellir ym mharagraffau 3.8 a 3.9 o’r adroddiad yn gadael GwE allan o’r darlun ac yn ymdrin ag awdurdodau lleol yn uniongyrchol.  Atebodd y Cyfarwyddwr Arweiniol / Cadeirydd y Bwrdd Rheoli ei fod yn croesawu’r eglurder o 2017 ymlaen, ond yn y pen draw, yr awdurdod lleol sydd â’r cyfrifoldeb statudol yn y meysydd hyn.

·         Y byddai wedi bod yn fuddiol i’r aelodau gael gweld drafft o’r cynllun gweithredu cyn y cyfarfod hwn.  Atebodd y Cyfarwyddwyr Cynorthwyol (Cefnogaeth a Broceru) ei fod yn derbyn y sylw, ond y gallai sicrhau’r aelod fod y gwaith yn mynd rhagddo ac ychwanegodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Safonau) y byddai’r drafft yn debygol o fod ar gael cyn cyfarfod Medi o’r Cyd-bwyllgor.

·         Er bod GwE yn gwbl atebol am wella perfformiad ar draws y Gogledd, nid yw’n gyfrifol am y rhwydweithiau rhanbarthol (sy’n gyfrifol am weithredu elfennau penodol o’r Model Cenedlaethol) a phwysleisiwyd bod  angen edrych ar hynny yn ofalus gyda golwg ar atebolrwydd a gwerth am arian.  Mewn ymateb, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Arweiniol / Cadeirydd y Bwrdd Rheoli at y gwahanol strwythurau gan nodi y bwriedid cynnal gweithdai ar ansawdd a’r gwaith o graffu’r rhaglenni gwaith. 

 

Trafodwyd cyllido yn y tymor canolig.  Nododd Pennaeth Cyllid, Cyngor Gwynedd mai’r penderfyniad am 2016/17 oedd i ariannu GwE ar yr un toriad â grant y 6 awdurdod, ond erbyn 2017/18 a thu hwnt bod ansicrwydd bellach ar draws holl adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.  Ychwanegodd y byddai’n gweithio gyda Rheolwr Busnes a Chyllid GwE i geisio mwy o sicrwydd cyn cynllunio ar sail parhad o ariannu GwE ar lefel cymesur â ‘setliad’ y 6 Cyngor.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad ac ystyried y Cynllun Gweithredu Ôl Arolwg yng nghyfarfod mis Medi.

 

Dogfennau ategol: