Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn.
Cofnod:
Cyflwynwyd
adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn rhoi diweddariad
ar y gwaith o ddiweddaru ac adolygu Cynllun Rheoli’r AHNE. Tywyswyd yr aelodau
trwy 2 bennod drafft o Ran 2 o’r cynllun rheoli sef ‘Tirlun ac Arfordir’ a ‘Mynediad, Mwynhau a Chyfrannu’ a oedd yn
atodiad i’r adroddiad. Nodwyd yr anelir i ddod a gweddill
penodau Rhan 2 o’r cynllun diwygiedig
gerbron cyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor yn yr Hydref.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau
roi sylwadau, ymatebodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn i’r sylwadau fel
a ganlyn:
·
Bod cyfeiriad
at waith plwm a manganîs wedi ei
gynnwys mewn rhan arall o’r
cynllun ond fe ychwanegir cyfeiriad
at y gwaith o dan y pennawd ‘Nodweddion Arbennig’ ym mhennod
‘Tirlun ac Arfordir’;
·
Yr ymhelaethir ymhellach
o dan materion ffyrdd yr angen
i wneud man welliannau’r i’r A4417 rhwng Nefyn a Llanaelhaearn
a fyddai’n sympathetig i’r tirlun o dan
y pennawd ‘Materion Llosg’ ym mhennod
‘Tirlun ac Arfordir’;
·
Yr ychwanegir Tre’r Ceiri o dan y rhestr
o’r bryngaerau o dan y pennawd ‘Cymeriad y Tirlun’ ym mhennod ‘Tirlun
ac Arfordir’;
·
Bod cysylltiad
rhwng y Cynllun Rheoli a’r Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd a bod yr Uned Polisi
Cynllunio ar y Cyd bellach yn
derbyn yr angen am gyfeiriad at Gynllun Rheoli’r AHNE yn y cynllun ar
y cyd. Fe ychwanegir cyfeiriadau at y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn
y cynllun rheoli er mwyn ei
wneud yn gryfach;
·
Bod y wybodaeth a gynhwysir o ran tyrbinau gwynt o dan bolisi
TP8 yn fwriadol benagored er mwyn
gallu ymdrin â cheisiadau cynllunio yn unigol. Nodwyd
gan mai Cyngor
Gwynedd a fyddai’n mabwysiadu’r
Cynllun Rheoli y byddai’n rhaid iddo gyd-fynd efo’r
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
ond fe addasir
y cynnwys i adlewyrchu'r sylwadau a wnaed yng nghyswllt
y cynllun ar y cyd gan gyfeirio
at ddatganiad y Cyd-Bwyllgor
yng nghyswllt ceisiadau cynllunio am dyrbinau gwynt;
·
Yr edrychir ar yr opsiwn
o ddiwygio ffurf y cynllun o ran nodi’r wybodaeth gefndirol efo’i gilydd gan
fod mwy cynnil
o dan y polisïau;
·
Fe gysonir y fersiynau Cymraeg a Saesneg o ran defnydd iaith a defnyddio’r gair ‘oppose’ yn y Saesneg pan ddefnyddir gwrthsefyll yn y Gymraeg;
·
O ran polisi TP3 fe ddiwygir
y geiriad i nodi y gwrthsefyllir datblygiadau newydd arwyddocaol a fyddai’n cael effaith niweidiol
ar yr AHNE;
·
Fe gyfeirir at yr angen i
Lywodraeth Cymru weithredu ar yr
hawliau crwydro awtomatig a gynhwysir yn Neddf Cefn
Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 neu greu deddf newydd
o ran hawliau mynediad o dan y pennawd ‘Materion Llosg’ ym mhennod ‘Mynediad,
Mwynhau a Chyfrannu’ lle ymhelaethir ar effaith erydiad
arfordirol ar Lwybr yr Arfordir;
·
Fe ychwanegir
cyfeiriad at y potensial o wirfoddolwyr yn gwneud gwaith ar
lwybrau o dan y pennawd ‘Materion Llosg’ ym mhennod
‘Mynediad, Mwynhau a Chyfrannu’;
·
Nodir cyfeiriad penodol at yr angen
i gael llwybr
beics rhwng Pwllheli-Llanbedrog-Abersoch ym mhennod ‘Mynediad, Mwynhau a Chyfrannu’;
·
Y disgwylir
am gadarnhad o ran niferoedd
defnyddwyr o’r Llwybr yr Arfordir
gan Swyddog Prosiect Llwybr Arfordir er mwyn
eu nodi yn
y cynllun.
Cyfeiriodd aelodau at y toriadau ariannol a gymeradwywyd gan y Cyngor. Nodwyd bod angen
tynnu sylw at doriadau ariannol i’r Gwasanaeth Morwrol a’r effaith
ar yr AHNE. Tynnwyd sylw bod y toriadau ariannol yn golygu na fyddai gofal a rheolaeth ar draeth Nefyn
ar ôl y flwyddyn
bresennol a bod hyn yn peri pryder.
Nodwyd yn ogystal y byddai
cau toiledau cyhoeddus yn cael
effaith negyddol ar dwristiaeth yn yr ardal.
PENDERFYNWYD:
(i)
derbyn yr adroddiad;
(ii)
bod Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn diwygio’r pennodau
drafft yn unol â sylwadau’r Cyd-Bwyllgor.
Dogfennau ategol: