PANT YR ARDD, TREGARTH, BANGOR, LL57 4PL
Ystyried y cais uchod
Cofnod:
CAIS AM AMRYWIAD TRWYDDED EIDDO – PANT YR
ARDD, TREGARTH, BANGOR
Croesawyd pawb
i’r cyfarfod gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Tudor Owen . Cyflwynwyd y panel ar
swyddogion i bawb oedd yn bresennol
Ar ran yr eiddo: Mr Kenneth Richard Williams (yr ymgeisydd) a Mr Robert
Williams
Aelod Lleol: Cyng.
Gwen Griffith
Eraill a fynychwyd: Mr Huw Jones (Cyngor Cymuned
Llandygai), Mr P a Mrs H Jones (trigolion cyfagos)
Adroddiad ac argymhelliad yr Adain Trwyddedu.
a)
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr
Trwyddedu yn manylu ar gais Mr Kenneth Richard
Williams am drwydded eiddo ar gyfer Pant yr Ardd, Tregarth, Bangor. Er mai cais
ydoedd ar gyfer tŷ tafarn gyda gardd gwrw, tynnwyd sylw nad oedd cynllun yr eiddo a dderbyniwyd
gyda’r ffurflen gais yn cynnwys lleoliad yr ardd gwrw.
O ran gwybodaeth gefndirol, nodwyd bod trwydded eiddo wedi bodoli ar gyfer yr
eiddo ers 24.11.2005 ond cafodd ei ildio 20.05.15. Cyfeiriwyd hefyd bod yr
ymgeisydd wedi cynnwys camau priodol i hyrwyddo’r pedwar amcan trwyddedu fel
rhan o’i gais ac yn dilyn trafodaethau gyda Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd a’r
Awdurdod Trwyddedu wedi cytuno i’r amodau sŵn ac i amodau teledu cylch
cyfyng
b)
Yn dilyn cyfnod ymgynghori, nodwyd bod
gwrthwynebiad i’r cais gan Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd ac yr Awdurdod
Trwyddedu. Nid oedd sylwadau wedi ei derbyn gan Heddlu Gogledd Cymru ac nid
oedd gwrthwynebiad gan y Gwasanaeth Tân
ac Achub. Yn ychwanegol, derbyniwyd pum gwrthwynebiad gan bartïon eraill yn
seiliedig ar yr amcanion trwyddedu o Atal Trosedd ac Anrhefn ac Atal Niwsans
Cyhoeddus. Prif bryderon y gwrthwynebwyr oedd cynnydd mewn sŵn, anrhefn,
sbwriel a gweithgareddau trwyddedadwy fydd yn cael eu
cynnig yn yr ardd gwrw.
c)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd
ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu.
·
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais
·
Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau
·
Gwahoddwyd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd
i ymateb i’r sylwadau
·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r
Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd
y drwydded.
·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r
Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai.
Cyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 10 munud i
rannu eu sylwadau. Nodwyd hefyd bod yr Aelodau wedi cynnal ymweliad safle.
ch) Wrth ymhelaethu ar y cais nododd yr ymgeisydd
ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno a'i fod eisoes wedi cytuno
gyda’r amodau sŵn a theledu cylch cyfyng ac wedi gostwng rhai oriau agor.
Mynegodd na fydd cerddoriaeth yn cael ei chwarae tu allan i’r eiddo, yn y maes
parcio/gardd gwrw, a phe
bai eisiau cynnal digwyddiad trwyddedadwy yn y maes
parcio/gardd gwrw yn y
dyfodol, roedd yn ymwybodol o’r angen i wneud cais am drwydded ychwanegol.
Roedd yr ymgeisydd yn barod i gydweithio gyda gofynion y gymuned drwy ystyried
gostyngiad yn yr oriau a chau drysau a ffenestri i geisio
atal sŵn.
d)
Cydnabuwyd llythyr a dderbyniwyd gan Mr Brazier
dd) Mewn ymateb i’r cais nododd yr Aelod Lleol -
y Cynghorydd Gwen Griffith, ei bod yn croesawu tafarn yn y pentref gan mai’r
dafarn ar Ganolfan Gymunedol oedd yr unig adeilad cyhoeddus yn y pentref. Er
hynny, amlygodd bod Tregarth yn bentref distaw a bod angen sicrhau tegwch i
breswylwyr cyfagos. Amlygodd hefyd ei phryderon o ran diogelwch bod ffordd
brysur yn rhedeg rhwng y dafarn a’r ardd gwrw / maes
chwarae / maes parcio ac nad oedd rheolaeth dros leoliadau ysmygu. Yn dilyn
cwynion am sŵn o’r dafarn dros y blynyddoedd diwethaf mynegodd ei bod yn
croesawu’r ffaith bod yr oriau yn cael eu lleihau ac na fydd cerddoriaeth yn
cael ei chwarae tu allan i’r eiddo. Gofynnodd am sicrwydd y byddai’r safle yn
cael ei gadw’n lân a thaclus.
e)
Mewn ymateb i’r cais nododd Mr Huw Jones, Cadeirydd
Cyngor Cymuned Llandygai farn y Cyngor ar y cais a gafodd ei drafod yn eu cyfarfod mis Mehefin 2015. Nodwyd
bod y Cyngor yn derbyn pwysigrwydd y dafarn i’r gymuned leol ond amlygwyd
pryder i’r oriau agor ac i’r niwsans cyhoeddus fydd i drigolion lleol o gynnal
digwyddiadau yn y maes parcio/gardd gwrw. O ran sŵn sydd yn codi o bobl yn siarad ag
ysmygu tu allan i’r eiddo derbyniwyd bod hyn, mae'n debyg yn sylw cyffredinol
ers y gwaharddiadau ysmygu. Cydnabuwyd yr angen i sicrhau balans
o fewn y gymdeithas - nodwyd bod y pentref yn gefnogol i’r dafarn ond bod rhaid
rhoi ystyriaeth deg i anghenion a gofynion trigolion lleol ac i’r gymdeithas
sydd yn defnyddio’r dafarn. Nodwyd nad oedd cwynion ffurfiol wedi eu derbyn gan
y Cyngor, ond roedd yn ymwybodol o bryderon trigolion lleol drwy sgyrsiau
anffurfiol. Amlygodd bod y Cyngor yn gefnogol i’r cais petai'r amodau yn cael
eu derbyn gan yr ymgeisydd.
f)
Cydnabuwyd llythyr a dderbyniwyd gan Mr Roberts
ff) Mewn ymateb i’r cais nododd Mr a Mrs Jones,
trigolion cyfagos eu gwrthwynebiad i’r cais
oherwydd newidiadau i’r oriau agor, y bwriad i chwarae cerddoriaeth fyw
tu allan i’r eiddo a’r bwriad i werthu alcohol oddi ar yr eiddo. Amlygodd Mrs
Jones ei bod , fel teulu, wedi cael profiadau drwg yn y gorffennol gyda chyn
landlord ac roeddynt yn poeni y buasai rhaid iddynt wynebu'r un
pryderon/trafferthion eto. Mynegodd Mrs Jones, bod hi a’i gwr yn ymwybodol bod
yr eiddo yn bodoli fel tafarn cyn iddynt brynu eu cartref ac felly roedd
disgwyliad amlwg i ychydig o sŵn a cherddoriaeth. Er hynny, roedd
cerddoriaeth yn cael ei chwarae yn uchel tu allan i’r oriau trwyddedu ac fe
alwyd am asesiad sŵn. Gwnaed cais i’r ymgeisydd gydymffurfio â gofynion y
gymuned gan geisio diwallu gofynion sŵn,
rheoli'r hyn sydd yn digwydd yn y maes parcio a pharchu'r amgylchedd drwy
glirio ar ôl digwyddiadau cyhoeddus. Mewn ymateb i gwestiwn nododd Mrs Jones eu
bod wedi cysylltu gyda’r Heddlu unwaith ynghylch sŵn o gar
yn y maes parcio.
g)
Wrth grynhoi ei gais nododd yr ymgeisydd ei fod yn
ddiolchgar i’r gwrthwynebwyr am ddod ymlaen gyda’u sylwadau ac y bydd yn gwneud
pob ymgais i gydymffurfio â’r gofynion
h)
Cadarnhawyd yr oriau diwygiedig a’r newidiadau i’r
cais.
i)
Gadawodd y partïon perthnasol y cyfarfod.
Trafodwyd
y cais gan aelodau’r Is Bwyllgor gan ystyried yr
holl dystiolaeth a gyflwynwyd gan roddi sylw penodol
i egwyddorion Deddf Trwyddedu 2003 sef
• Rhwystro Trosedd ac Anhrefn
• Diogelwch y Cyhoedd
• Rhwystro Niwsans Cyhoeddus
• Amddiffyn Plant rhag Niwed
Ar sail y sylwadau
ysgrifenedig a llafar, roedd yr Is-bwyllgor
yn fodlon bod y cais fel y’i
diwygiwyd, a’r drwydded a roddwyd, yn briodol er
mwyn hyrwyddo’r amcanion trwyddedu. Dymunwyd y gorau i’r ymgeisydd a’r
redeg yr eiddo fel tafarn
gan gydweithio yn effeithiol gyda’r
gymuned a thrigolion cyfagos.
Penderfynodd yr
Is-bwyllgor roi’r drwydded yn unol
â’r cais fel y’i diwygiwyd
yn ystod y gwrandawiad. Yn yr amgylchiadau, mae’r drwydded a roddir fel a ganlyn:
i. Oriau
agor: yn unol â’ch ffurflen gais gwreiddiol.
ii. Digwyddiadau
chwaraeon dan do: yn unol â’ch ffurflen gais
gwreiddiol.
iii. Cerddoriaeth
fyw: dan do, Gwener 18:00-00:00, Sadwrn
18:00-01:00, Sul 12:00-00:00.
iv. Cerddoriaeth
wedi recordio: dan do, Llun-Iau 12:00-23:00, Gwener-Sul 12:00-00:00.
v. Adloniant
arall: dan do, Llun-Gwener 12:00 - 00:00, Sadwrn
12:00 - 01:00,
Sul 12:00 - 00:00.
vi. Cyflenwi
alcohol: i yfed ar ac oddi ar
yr eiddo, Llun-Gwener 12:00-01:00, Sadwrn
11:00-01:00, Sul 11:00-00:00.
vii. Ymgorfforir
rhan M o’ch ffurflen gais (atodlen weithredu) fel amodau i’r
drwydded.
viii. Ymgorfforir
fel amodau i’r drwydded yr
amodau a argymhellwyd gan Gyngor Gwynedd mewn perthynas â rheoli sŵn, golau a chamerâu teledu cylch cyfyng.
Adroddodd y
Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn bresennol. Hysbysebwyd
hefyd o’u hawl i apelio i’r dyfarniad o
fewn 21 diwrnod i dderbyn y llythyr hwnnw.
CAIS AMRYWIO TRWYDDED ‘THE ROYAL’, BERMO.
a) Adroddodd y Rheolwr
Trwyddedu bod swyddogion wedi cynnal cyfarfod rhwng y partïon perthnasol a bod
cytundeb wedi ei wneud i ganiatáu y cais. O ganlyniad, roedd y drafodaeth yn
osgoi'r angen i gynnal gwrandawiad. Nododd y cyfreithiwr os bydd cais yn cael
ei drafod drwy gymodi (mediation) nad oedd angen
dyfarniad pellach gan Is Bwyllgor.
Penderfynwyd i’r dyfodol, gyflwyno cofnod o
drafodaethau / cyfarfodydd cymodi (mediation), fel
gwybodaeth i’r Pwyllgorau Trwyddedu perthnasol.
Dechreuodd
y cyfarfod am 2:30pm a daeth
i ben am 3:50pm
Dogfennau ategol: