Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad.
Cofnod:
(Dosbarthwyd atebion
ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)
(1) Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion Jones
“A oes arian yn weddill gan yr Adran Gynllunio wrth weithredu swm
cymudol ar ddatblygwyr?”
Ateb gan yr Aelod
Cabinet Cynllunio, y Cynghorydd Dafydd Meurig
“Yn fras, y cwbl
ydi hyn yw cyfraniadau gan ddatblygwyr mewn perthynas â datblygiadau mawr lle
mae yna gyfraniad tuag at welliannau yn lleol.
Er enghraifft, mae yna £1.2m o gyfraniad gan gwmni Redrow yn ymwneud â
stad dai mawr ym Mangor ac mae’r rhan fwyaf o hwnnw yn mynd tuag at addysg yn y
ddinas. Felly, i ateb y cwestiwn, ‘rwy’n
credu bod yna tua £1.95m o gyfraniadau wedi dod i mewn dros y blynyddoedd
diwethaf yn gyfan gwbl, yn cynnwys yr arian Redrow. Wedyn, mae yna rywfaint o arian heb ei wario,
ond mae hwnnw wedi ei glustnodi a bydd yn cael ei wario’n bwrpasol ac mae’r
holl drefn, wrth gwrs, yn cael ei reoli gan gytundebau 106.”
Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Sion Jones
“Ydi’r Aelod yn cytuno gyda mi bod y Cynllun
Datblygu Lleol yn gyfle i osod mwy o symiau cymudol ar ddatblygiadau ar gyfer
rhoi’n ôl i’r cymunedau ar draws Gwynedd?”
Ateb gan yr Aelod Cabinet Cynllunio, y Cynghorydd Dafydd Meurig
“Nid yw’n bosib’ defnyddio’r symiau yma ar
gyfer unrhyw beth heblaw am rywbeth sy’n ymwneud â cheisiadau cynllunio. Dyna ydi ei bwrpas a dyna sy’n rheoli’r drefn
yn fan hyn ac ‘rwy’n siŵr bod y drefn gynllunio yn manteisio yn gyfan gwbl
ar yr arian yma o fewn beth sy’n cael ei ganiatáu.”
(2) Cwestiwn gan y Cynghorydd Cai Larsen
“Gyda Chanolfannau Hamdden Gwynedd yn cael eu
trosglwyddo i Gwmni Cyfyngedig yn yr Hydref, a oes cynnydd wedi bod yn y gwaith
o sefydlu’r Cwmni?”
Ateb gan yr Aelod
Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Craig ag Iago
“Fel ‘rydych chi’n
gallu gweld, mae popeth wedi mynd yn iawn felly mae’n bleserus iawn sefyll o
flaen pawb heddiw hefo adroddiad positif iawn.
Mae’r cwmni wedi cael ei gofrestru, mae’r Bwrdd Cysgodol yn ei le ac yn
weithredol ac ‘rydym yn mynd drwy’r broses TUPE hefo’r staff ar hyn o
bryd. Eto, mae’r ymgynghoriad yma yn
bositif iawn ac mae’r undeb wedi bod yn rhan o’r broses o’r cychwyn. Mae nhw’n ei gefnogi, mae’r staff yn ei gefnogi
a hefyd mae’r staff i gyd wedi bod yn rhan o’r broses o ddylunio’r cynlluniau
busnes. ‘Rydym yn dysgu llawer ac mae eu
barn hwy yn mynd i fod yn rhan o sut bydd y cynllun yn cael ei redeg. Mae wedi bod yn ffantastig. Yr unig beth ‘rydw i’n pryderu amdano ydi’r
amserlen, mae’n dynn, mae yna lawer o waith - nid ydw i’n gweld y staff yn cael
gwyliau haf. Os oes yna unrhyw
gwestiynau ar ôl y cyfarfod, ‘rydw i’n hapus iawn i drafod.”
(3) Cwestiwn gan y Cynghorydd Alwyn Gruffydd
“Faint o adnoddau Cyngor Gwynedd mewn amser y swyddogion ac mewn arian
parod sydd wedi’i gyfrannu ac sydd i’w gyfrannu eto tuag at sefydlu a hyfywdra
Cynllun Twf y Gogledd?”
Ateb gan yr Arweinydd, y
Cynghorydd Dyfrig Siencyn
“Mae pob un o
gynghorau’r Gogledd wedi cytuno i gyfrannu £50,000 at waith sefydlu swyddfa
rhaglen maes o law ac mae’r ddau goleg addysg bellach a dau sefydliad addysg
uwch hefyd yn cyfrannu £25,000 yr un at y gwaith hwnnw. Mi fuaswn i’n mentro dweud ei bod hi’n anodd
iawn mesur mewn oriau nac mewn arian faint ‘rydw i wedi rhoi i mewn iddo. ‘Rydw i wedi ymrwymo i’n partneriaid yn y Gogledd
fy mod yn barod i’w cynrychioli hwy yn y gwahanol drafodaethau ‘rydym yn eu
cynnal. ‘Roeddwn yn digwydd bod yn
Llundain ddoe yn cael trafodaeth gyda’r gweinidog perthnasol. Hefyd, wrth gwrs, mae yna staff o’r holl
gynghorau wedi cyfrannu at y gwaith cefndir yn y fan hyn. Mae ein Trysorydd wedi cyfrannu at y gwaith
ar yr ochr cyllidol ac mae ein Swyddog Monitro wedi bod yn rhan o dynnu allan y
cytundeb llywodraethu, sydd ar y rhaglen heddiw. Felly mae yna waith sylweddol yn digwydd ac
mae pob un cyngor, yn ei dro, yn cyfrannu at y gwaith, ond ‘rydym, ar hyn o
bryd, yn cymryd rôl arweiniol, ac ‘rwy’n credu bod hynny’n bwysig.”
Cwestiwn Atodol gan y
Cynghorydd Alwyn Gruffydd
“Yn wyneb y ffaith bod chwarter amser y Pennaeth Economi a Chymuned yn
mynd tuag at y cynllun yma a hanner gwaith y Cyfarwyddwr Corfforaethol, pwy
sy’n gwneud eu gwaith hwy yn eu habsenoldeb?”
Ateb gan yr Arweinydd, y
Cynghorydd Dyfrig Siencyn
“Mae gennym wasanaeth adfywio’r economi, ac ‘rydym wedi cael cyfarfod
hefo’r Prif Weithredwr, er enghraifft, i sicrhau ein bod yn alluog i fedru
caniatáu i’n Cyfarwyddwr wneud y gwaith yma, ac mae hwn yn waith pwysig all
ddwyn budd sylweddol i’r Cyngor yma i’r dyfodol. ‘Rydw i’n meddwl ei fod yn werth y
buddsoddiad. Os ydych yn credu fel
arall, iawn, ond dyna fy marn i. ‘Rydw
i’n credu ei bod yn bwysig bod ni’n ymrwymo cymaint ag y gallwn fel y medrwn
ddweud bod y cais yma yn llwyddo er budd, nid yn unig trigolion Gwynedd, ond
holl drigolion Gogledd Cymru. Mae
hynny’n rhan o’n cyfrifoldeb ni i gyd ac mae’n rhan hefyd, wrth gwrs, o waith
dydd i ddydd ein swyddogion, ein gwasanaeth economi a’n Cyfarwyddwr hefyd”.