skip to main content

Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Arweinydd  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn gwahodd y Cyngor i gymeradwyo’r trefniadau craffu ar gyfer gweithgaredd y Cyd-bwyllgor Prosiect Twf (“Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru”) i’w ymgorffori yn y Cytundeb Llywodraethu cam cyntaf.

 

Ar gychwyn y drafodaeth, diolchwyd i’r Arweinydd a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol am eu gwaith yn y maes hwn ac am fod yn llais cryf dros Wynedd.  Nodwyd mai dyma’r cynllun pwysicaf a ddeuai gerbron y Cyngor hwn, ac o lwyddo, byddai’n creu swyddi lawer i bobl ifanc ein hardaloedd.  Gan hynny, ‘roedd yn bwysig bod pawb yn cefnogi hyn, waeth beth fyddai’r gost i’r Cyngor hwn.

 

I’r gwrthwyneb, mynegwyd amheuon dybryd am y cynllun ar sail nifer o risgiau ariannol a gwleidyddol.  ‘Roedd Llywodraethau San Steffan a Chymru yn hapus i glymu Gogledd Cymru gyda Gogledd Orllewin Lloegr, er y byddai’n llawer mwy synhwyrol a naturiol i Wynedd gydweithio gyda siroedd Gorllewin Cymru, a byddai siroedd fel Wrecsam a Fflint yn cysylltu a Phwerdy’r Gogledd.  Pryderid am yr effaith ar yr economi wledig a’r ffaith y byddai’r cynllun yn boddi Gwynedd yn economaidd, yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol.  Hefyd, ‘roedd risg sylweddol ynghlwm â dirprwyo’r hawl i un person arwain ar y gwaith yng Ngwynedd, waeth pwy fyddai yn y swydd honno i’r dyfodol.  Ar sail hyn i gyd, erfyniwyd ar yr aelodau i beidio â chefnogi’r cynllun.  Mewn ymateb, nododd yr Arweinydd ei fod yn gwrthod y syniadaeth o gilio, codi amddiffynfeydd a gwrthod gwneud dim â phawb arall, ac i fod yn ffyniannus yn y byd modern, ‘roedd rhaid i Wynedd fod yn hyderus ac yn barod i gydweithio gyda holl siroedd y Gogledd.

 

Mewn ymateb i sylwadau pellach a chwestiynau gan aelodau, nododd yr Arweinydd:-

·         Iddo atgoffa’r Ysgrifennydd Gwladol o’i fethiannau diweddar i ddenu buddsoddiad i Gymru a bod dyfodol yr Ysgrifennydd Gwladol yn ddibynnol ar lwyddiant y cynllun hwn.

·         Nad oedd y cwestiwn o drethi busnes yn rhan o’r mater dan sylw, ond ei fod yn ymwybodol o’r pryderon a bod y sector breifat yn rhan ganolog o’r holl drafodaethau.

·         Ei fod yn ymwybodol iawn o broblemau economaidd yr ardaloedd gwledig ac er na allai’r Cynllun Twf fod yn ateb i bopeth, y byddai ef, ynghyd â’r arweinwyr eraill, yn lleisio barn gref dros brosiectau fydd yn cael effaith ar draws cefn gwlad.

·         Mai nod y Cynllun Twf a strategaeth y Cyngor hwn oedd cynyddu sgiliau pobl Gwynedd yn hytrach na bod yr arian yn mynd allan o’r ardal i’r cwmnïau mawr.

·         Er nad oedd yna gynllun yn ymwneud ag amaethyddiaeth yn uniongyrchol, y cydnabyddid pwysigrwydd sicrhau mewnbwn y ddwy undeb amaethyddol i’r prosiect, yn enwedig o ystyried goblygiadau Brexit.

·         Nad oedd cymeradwyo’r trefniadau yn golygu arwyddo unrhyw siec wag.  Er ei fod yn deall bod yna elfen o sinigiaeth am y cynllun hwn, o gofio am aflwyddiant rhai o gynlluniau’r gorffennol, ni olygai hynny na ddylid ceisio manteisio ar yr hyn sy’n cael ei gynnig y tro hwn.

·         Na allai wneud penderfyniad ar nifer o faterion heb gymeradwyaeth y Cyngor llawn.

·         Bod y Cynllun Twf wedi arwain at gytundeb gwleidyddol ar draws y Gogledd.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r trefniadau craffu ar gyfer gweithgaredd y Cyd-bwyllgor Prosiect Twf (“Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru”) i’w ymgorffori yn y Cytundeb Llywodraethu cam cyntaf.

 

 

Dogfennau ategol: