skip to main content

Agenda item

I dderbyn adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Cofnod:

(a)          Diweddariad ar Faterion Rheoli’r Harbwr

 

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Harbyrau ei adroddiad, gan nodi’r prif bwyntiau canlynol:

-       Fod y niferoedd o gychod ar yr angorfeydd wedi gostwng ychydig yn 2018, ond bod y ffigwr yn gymharol sefydlog.

-       Fod y nifer o gwsmeriaid wedi gostwng ar draws harbyrau Gwynedd, oedd yn adlewyrchiad o’r hinsawdd economaidd.

-       Fod 53 o gychod pŵer wedi eu cofrestru yn Aberdyfi yn 2018, yr un nifer a 2017. Gwelwyd cynnydd yn niferoedd y cychod pŵer oedd wedi eu cofrestru yn Nhywyn o 9 i 14.

-       Fod y nifer o fadau dwr personol wedi cynyddu ar draws harbyrau Gwynedd, gyda chynnydd o 28 i 50 yn Aberdyfi ac o 3 i 6 yn Nhywyn.

-       Pwysleisiwyd fod croeso i aelodau’r Pwyllgor i drafod y Cod Diogelwch Harbwr gyda’r gwasanaeth.

-       Fod haf 2018 wedi bod yn gyfnod prysur iawn, ond trist nodi fod yr achosion o drais yn erbyn swyddogion wedi cynyddu.

-       ‘Roedd y gwasanaeth yn gobeithio cyflogi cymhorthydd harbwr llawn amser ychwanegol ar gyfer harbyrau Porthmadog, Aberdyfi ac Abermaw, yn ddibynnol ar y gyllideb oedd ar gael.

-       ‘Roedd disgwyl i ffioedd harbyrau godi gyda chwyddiant yn 2019, gan ragweld tanwariant bychan ar gyllideb yr harbyrau.

 

Cwestiynau a sylwadau yn codi o’r drafodaeth:

-       Nodwyd siom fod disgwyl i ffioedd cychod pŵer godi

-       Fod y man lansio ar gyfer cychod pŵer yn anghyfleus ac yn fwdlyd iawn, ac y byddai’n fuddiol pe bai posib defnyddio llithrfa arall.

-       Pryder fod lefel preswylydd yr angorfeydd wedi gostwng, ac a oedd peryg fod Harbwr Aberdyfi yn cael ei adael ar ôl?

 

Mewn ymateb nododd yr Uwch Swyddog Harbyrau

-       Mai'r man lansio presennol ar gyfer cychod pŵer oedd y man mwyaf diogel. Tra’r oedd yn cydnabod ei fod yn safle anghyfleus, ‘roedd yn safle diogel ac nid oedd arian ar gael i’w wella.

-       Fod lefel preswyledd angorfeydd wedi gostwng ar draws y Deyrnas Unedig, nododd mai Harbwr Abermaw oedd wedi gweld y gostyngiad mwyaf yng Ngwynedd. ‘Roedd defnyddwyr angorfeydd yn tueddu i symud i harbyrau ble’r oedd cyfleusterau gwell. ‘Roedd yn bosib ystyried gwella cyfleusterau Harbwr Aberdyfi, ond byddai angen bod yn ofalus rhag niweidio ei gymeriad.

 

(b)          Adroddiad yr Harbwrfeistr

 

Cyflwynodd yr Harbwrfeistr ei adroddiad gan nodi’r prif bwyntiau canlynol:

-       Fod Harbwr Aberdyfi wedi cael archwiliad gan Dy’r Drindod ar drefniadau diogelwch a mordwyo, gan ganfod fod y trefniadau priodol mewn lle.

-       Fod cwrs sianel fordwyo Harbwr Aberdyfi wedi culhau a symud i’r gogledd. ‘Roedd hyn wedi achosi llawer o waith addasu er mwyn cynorthwyo a sicrhau diogelwch mordwyo. Pwysleisiwyd pwysigrwydd cysylltu â swyddfa’r harbwr er mwyn cael gwybodaeth gyfredol am ddiogelwch mordwyo.

-       Fod gwaith cynnal a chadw wedi ei wneud, a gofynnodd am sylwadau ar raglen waith cynnal a chadw ar gyfer gaeaf 2018-19.

-       Fod arwyddion diogelwch wedi eu gosod yn Nhywyn ac Aberdyfi yn dilyn adolygiad manwl ar y cyd gyda’r RNLI.

-       Fod cyflwr y llwyfan cerdded pren bellach yn rhy ddrwg i’w drwsio a bod ei ddyfodol yn ansicr yn yr hinsawdd gyllidebol ariannol gyfredol. Tra bod mesurau mewn lle dros dro i warchod y twyni, byddai’r gwasanaeth yn ystyried pob opsiwn posib i warchod y llwybr i’r dyfodol.

-       Fod y gwasanaeth yn parhau i aros i bersonau oedd ag eitemau ar y tir comin/storio i’w gwaredu. Tra bod hyn yn siom, ‘roedd canfod fod aelodau eraill o’r cyhoedd yn parhau i waredu deunyddiau gwastraffa r y safle yn siom bellach. Byddai gwaith i wella’r safle yn cael ei wneud yn fuan yn 2019.

-       Fod gwaith tacluso wedi ei wneud ar y cei, gyda’r bwriad o glirio offer segur oddi yno. Byddai mwy o offer a chewyll pysgota yn cael eu symud o’r cei yn y dyfodol.

-       Fod gwaith wedi ei wneud ar adnabod perchnogion cynwysyddion sydd wedi eu gosod yn ardal yr harbwr yn dilyn codi pryderon am eu cyflwr.

-       Fod cyflwr y bont dros y Rheilffordd sy’n rhoi mynediad i Fryn Llestair wedi dirywio nes bod angen ei chau. ‘Roedd y gwasanaeth yn aros am adroddiad strwythurol ar ei chyflwr cyn penderfynu ar ei dyfodol.

-       Diolchodd am y cynigion o gymorth oedd wedi ei dderbyn er mwyn ceisio datrys y problemau oedd wedi codi o gwmpas yr harbwr.

 

Sylwadau a chwestiynau yn codi o’r drafodaeth:

-       Diolchwyd i staff yr harbwr am eu gwaith dros haf prysur.

-       Oedd yno broblemau mordwyo wedi codi oherwydd y newid yn llwybr y sianel?

-       Canmolwyd yr arwyddion diogelwch a osodwyd ar y cyd gyda’r RNLI. Awgrymwyd cynnwys gwybodaeth am lanw terfol ar yr arwyddion er mwyn amlygu’r peryglon i nofwyr.

-       Ei fod yn synhwyrol tynnu’r arwyddion dros gyfnod y gaeaf er mwyn osgoi difrod gan dywydd garw’r gaeaf.

-       Ei fod yn bwysig fod y twyni tywod ar y llwybr i’r traeth yn cael eu gwarchod. Pe na bai’n bosib gosod llwyfan cerdded pren newydd byddai peryg i’r bwlch yn y twyni agor ac effeithio ar yr amddiffynfa a gynigwyd gan y twyni rhag y môr.

-       Gobaith y byddai’r Tir Comin/Storio yn cael ei glirio a’i ddiogelu yn fuan. Nodwyd fod y Clwb Hwylio yn cynnig helpu i glirio.

-       Nodwyd pryder ynglŷn â chyflwr wal y cei gan fod ei gyflwr wedi dirywio ymhellach a’i fod yn helpu i warchod Aberdyfi rhag difrod o’r môr.

-       Fod edrychiad y cei yn bwysig, gan fod angen iddo fod yn ddeniadol i ymwelwyr yn ogystal â diogel.

-       Fod cau'r bont i Fryn Llestair oherwydd ei chyflwr wedi ei gefnogi gan ddefnyddwyr rheolaidd er bod hynny wedi cael cryn effaith ar weithgareddau Outward Bound Wales.

-       Gan fod canolfan Outward Bound Wales yn cael ei hystyried fel ysgol, fyddai’n bosib gosod palmant ar hyd y ffordd gyfagos er mwyn hwyluso mynediad? Ychwanegodd fod risg posib i’r Cyngor pe canfuwyd nad oedd wedi cydymffurfio a’i ddyletswyddau ar gyfer sicrhau mynediad diogel i ysgolion.

 

Mewn ymateb nododd y swyddogion oedd yn bresennol o’r Gwasanaeth Morwrol a Pharciau Gwledig:

-       Fod llwybr y sianel wedi ei effeithio gan y tywydd sych, oedd wedi lleihau effaith Afon Leri a dychwelyd i’w gwrs naturiol. Ychwanegodd fod natur y bar yn medru gwneud mynediad i’r harbwr yn anodd, ond ‘roedd hefyd yn dod yn amlwg nad oedd sgiliau a gwybodaeth rhai perchnogion cychod yn cyrraedd y safon angenrheidiol. Roedd llawer o ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau fod pob bwi yn y safle cywir.

-       Fod angen cael dyfynbris gan gontractwr ar gyfer ailadeiladu llwyfan cerdded pren newydd cyn gwneud penderfyniad terfynol. Ategwyd yr angen i warchod y twyni tywod rhag erydu.

-       Nad oedd yn hawdd rheoli mynediad i’r Tir Comin/Storio rhag gwaredu anghyfreithlon, a gofynnodd i unrhyw un oedd a gwybodaeth i gysylltu gyda’r Cyngor neu'r Heddlu.

-       Fod yr Harbwrfeistr yn cydweithio’n agos gyda defnyddwyr masnachol yr harbwr er mwyn sicrhau safle diogel a deniadol.

-       Roedd dyfodol y Cei yn ddibynnol ar gynllun asedau newydd y Cyngor. ‘Roedd yn cael ei fonitro a’i asesu yn rheolaidd ac ‘roedd Ymgynghoriaeth Gwynedd yn gweithio ar achos busnes i’w ddiogelu fel rhan o’u gwaith atal llifogydd. Nid oedd yn amlwg eto faint fyddai’r gost o wneud y gwaith angenrheidiol, ond pan fyddai’r cyllid ar gael byddai’n bosib symud yn gyflym.

-       Byddai tynnu’r bont bresennol i Fryn Llestair a gosod pont newydd yn ei lle yn costio oddeutu £100,000. ‘Roedd trafodaethau wedi eu cynnal gyda Network Rail gan fod y bont yn croesi rheilffordd ‘fyw’ a byddai angen cydweithio’n gyda hwy i gwblhau'r gwaith. ‘Roedd y gwasanaeth yn ymwybodol o bwysigrwydd y bont i ddefnyddwyr lleol ac ‘roedd Ymgynghoriaeth Gwynedd yn gweithio ar yr asesiad o’r bont.

-       Talwyd teyrnged i staff y gwasanaeth dros yr haf am eu gwaith caled dros haf prysur.

 

(c)          Swyddfa’r Harbwrfeistr

 

Nododd yr Uwch Swyddog Harbyrau nad oedd safle presennol swyddfa’r Harbwrfeistr yn addas gan nad oedd y cyfleusterau yn yr adeilad yn ateb gofynion modern. ‘Roedd ystafell bellach ar gael yng Nghanolfan Dyfi a bwriedid symud swyddfa’r Harbwrfeistr yno. Byddai symud y swyddfa yn golygu gwell cyfleusterau i’r Harbwrfeistr, yn ogystal â gwell golygfa dros yr harbwr a gwell cyfleusterau ar gyfer cynnig cymorth cyntaf pe bai angen.

 

Mewn ymateb nodwyd byddai symud y swyddfa yn amddifadu busnes lleol o ofod posib mewn ardal ble’r oedd dirfawr angen denu swyddi. Fodd bynnag nodwyd fod swyddfa’r Harbwrfeistr yn fychan, a mynegwyd gobiath y byddai’r Cyngor yn medru creu incwm o’r swyddfa bresennol pan fyddai’r Harbwrfeistr wedi symud oddi yno.

 

Dogfennau ategol: