Agenda item

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.9 o’r Cyfansoddiad.

Cofnod:

(Dosbarthwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Annwen Hughes

         

“Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar y bydd niwed yn cael ei wneud i’r diwydiant amaeth ac economi cefn gwlad os bydd cynghorau sir yn parhau i werthu eu stoc o ffermydd, gofynnaf yma heddiw am sicrwydd nad oes gan y Cyngor hwn fwriad i feddwl am werthu’r mân-ddaliadau sydd yn ei berchnogaeth?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Tai, y Cynghorydd Craig ab Iago

 

“Mae’r Stad Manddaliadau yma yn rhoi grym i ni dros siapio yr economi, yr amgylchedd a’r iaith yn yr ardaloedd yma, felly nid oes yna fwriad i wneud hynny o gwbl.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Annwen Hughes

 

“Oes modd cael gwybod faint o incwm mae’r Cyngor yn wneud o’r manddaliadau hyn yn flynyddol?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Tai, y Cynghorydd Craig ab Iago

 

“10 mlynedd yn ôl, roeddem yn colli £17,000 y flwyddyn, a llynedd bu i ni ennill £31,000, rwy’n credu.  Mae hyn i gyd oherwydd y gwaith da mae’r staff yn ei gyflawni, a hoffwn ddiolch yn fawr iddyn nhw am hynny.”

 

(2)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Dewi Roberts

         

“Pa gynlluniau sydd wedi’u darparu gan y Cyngor ynglŷn â Coronafeirws ac ydi’r cynlluniau hyn a’r wybodaeth ar gael i staff a chynghorwyr?”

 

Diolchodd yr aelod i’r Prif Weithredwr am yrru neges allan i’r cynghorwyr a’r staff ers iddo anfon ei gwestiwn i mewn.

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Mae hwn yn amlwg yn gwestiwn amserol iawn ac mae hyn yn fater o drafodaeth a phryder i ni i gyd yn ddyddiol.

 

Bydd pob Aelod erbyn hyn wedi derbyn neges gan y Prif Weithredwr sy’n crynhoi ymdrechion y Cyngor i baratoi ac ymateb i ymlediad posibl Coronafeirws i Wynedd.  Mae’r neges hwnnw yn pwysleisio mai Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n gyfrifol am ymateb i’r haint ac mai rôl cefnogi sydd gan y Cyngor hwn a phob awdurdod lleol arall.

 

Nodir bod y Cyngor wedi cymryd y camau canlynol hyd yma:

 

·         Ymgynnull cyfarfod o benaethiaid / uwch swyddogion o bob adran er mwyn cyd-gordio ein paratoadau ac ymateb - mae’r grŵp wedi cyfarfod ddwywaith yn barod a bydd yn cyfarfod yn wythnosol o hyn allan;

·         Darparu arweiniad i reolwyr o ran beth i’w wneud os ydynt yn derbyn ymholiadau am y firws gan staff neu gan aelodau o’r cyhoedd, gan gynnwys dolen i dudalennau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y we;

·         Mae gwybodaeth wedi ei rannu gyda thrwch staff y Cyngor yn ogystal – gwnaethpwyd hyn drwy gyfryngau’r rhwydwaith rheolwyr, y fewnrwyd, a grŵp Facebook staff a phosteri o gwmpas lleoliadau gwaith.  Bydd ychwaneg o wybodaeth yn cael ei rhannu os a phryd caiff ei chyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Manteisir ar y cyfle yma i’ch cyfeirio at wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru am y cyngor diweddaraf.  Mae’r ddolen i’r wefan honno wedi’i chynnwys yn neges y Prif Weithredwr i chi.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Dewi Roberts

 

“Pryd fydd y cynllun argyfwng ar gael ynglŷn â’r Coronafeirws, ac ydi’r adnoddau sydd gan y Cyngor yn ddigon i ymateb i’r sefyllfa yn y dyfodol?”

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Rydw i’n ymddiried yn ein penaethiaid i weithredu ar hwn a gall y Prif Weithredwr fanylu os ydi o’n teimlo fel gwneud hynny.  Rydw i wedi bod yn rhan o drafodaethau rhwng awdurdodau lleol, drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac mae yna gydweithio ymysg cynghorau i ddeall beth rydym yn ei wneud.  Mae’n faes newydd ac mae yna gwestiynau yn codi yn ddyddiol o safbwynt pwerau’r Cyngor a phwy sy’n gweithredu, ayyb.  Un neges fyddwn yn ei rhoi fyddai mai dilyn arweiniad gwyddonol a meddygol yr arbenigwyr sydd angen wneud yn fan hyn, a bydd hwnnw’n glir i ni.  Rwyf ar ddeall hefyd bod iechyd cyhoeddus Cymru yn cysylltu â’r Cyngor yn ddyddiol i roi gwybodaeth i ni, ac fel mae’r peth yn datblygu, bydd raid i ni edrych ar y sefyllfa.  Os ydym yn edrych ar y sefyllfa waethaf un, nid oes gennym ddigon o adnoddau yn y bôn, a bydd raid i ni wneud y gorau o’r hyn sydd gennym.  Ond mae’n destun pryder sut ydym yn cynnal gwasanaethau sydd mor hanfodol i’r bobl fwyaf bregus.  Mi fyddai rhagor o adnoddau ariannol o gymorth, ond yn y pen draw, nid oes gennym yr adnoddau dynol, mae’n debyg, i wneud y gwaith i gyd.  Ond rwy’n credu mai’r neges yw i ni ei gymryd yn ddyddiol, cadw llygaid ar yr hyn sydd gennym, ar y gweithdrefnau sydd gennym, ac addasu fel mae’r clwy’n datblygu, gan obeithio wir nad ydym yn mynd i’r pellafion eithaf.  Fel roeddwn yn dweud, mae yna gydweithio agos.  Roeddwn yn derbyn poster heddiw gan un o’n penaethiaid, sef poster gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru, a byddwn yn rhannu'r math yma o wybodaeth fel mae’n dod i mewn.”

 

Ateb pellach gan y Prif Weithredwr

 

“Mae’r cynllun argyfwng ar gael rŵan os ydych yn dymuno ei weld.  Hoffwn danlinellu mai cynllun gweithredol ydyw i ymateb i pandemig ffliw mwy generig – nid yw’n sôn am y Coronafeirws, ond rydym, fel swyddogion, yn ail-ymweld ag o i’w brofi yn erbyn y cyngor rydym yn dderbyn gan y swyddogion gwyddonol er mwyn gweld a yw’n mynd i ddal i fyny i’r hyn rydym yn ddisgwyl.  Gallwn drefnu i chi ac unrhyw aelod arall gael copi unrhyw adeg y byddech yn dymuno hynny.”

 

(3)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Paul Rowlinson

         

“Yn Rhagfyr 2017, pasiodd y cyngor y cynnig canlynol:

 

“PENDERFYNWYD bod Cyngor Gwynedd yn galw am drefniant fel y bydd hanes Cymru yn cael blaenoriaeth mewn gwersi hanes ym mhob ysgol yng Nghymru. Mae’r sefyllfa bresennol lle mae diffygion yn dysgu ein hanes a’n hunaniaeth i bob pwrpas yn annerbyniol. Mae datblygiad y cwricwlwm Dyfodol Llwyddiannus yn gyfle i unioni’r cam yma a bydd angen datblygu adnoddau angenrheidiol dwyieithog i alluogi i athrawon ddysgu hanes Cymru i’r plant. Felly galwn ar Lywodraeth Cymru i gymryd y camau angenrheidiol, yn cynnwys datblygu adnoddau dwyieithog, i gywiro’r diffyg hwn a hynny yn ddiymdroi.”

 

A all yr Aelod Cabinet dros Addysg roi diweddariad i ni ar beth mae ein Cyfarwyddwr Addysg ni yn ei wneud a beth mae GwE yn ei wneud i sicrhau y bydd hanes Cymru yn cael lle teilwng yn y cwricwlwm newydd sy’n cael ei ddatblygu a bod adnoddau priodol, yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn cael eu datblygu’n amserol i alluogi i hyn ddigwydd?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Cemlyn Williams

 

“Rwy’n croesawu’r sylwadau a’r cwestiwn, ac yn cytuno’n llwyr y dylai hanes Cymru gael blaenoriaeth mewn gwersi hanes ymhob un ysgol yng Nghymru.

 

Nodaf, serch hynny, wrth ymateb i’r ymgynghoriad ar y cwricwlwm newydd bryder mwy cyffredinol am ddiffyg gweithlu dwyieithog, ac na fydd modd addysgu hanes Cymru oni bai fod gennym nifer ddigonol o athrawon cyfrwng Cymraeg i addysgu, ac i sicrhau y byddwn drwy’r gyfundrefn addysg yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru yn ei nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

 

Rydym yn ffodus iawn yng Ngwynedd gyda’r gyfundrefn addysg yn meddu ar weithlu dwyieithog medrus; gweithlu sydd yn awyddus i gynnal Cymreictod ac ymwybyddiaeth o hanes Cymru a hunaniaeth ymysg ein plant a’n pobl ifanc.

 

Yma yng Ngwynedd y cychwynnodd y Siarter Iaith a thân yn y bol dros hyrwyddo’r Gymraeg a hunaniaeth Gymreig ymysg ein plant gan godi ymwybyddiaeth o’n diwylliant a’n hanes, gan annog a chynyddu hyder ein plant i siarad Cymraeg.

 

Gobeithiaf weld hanes Cymru’n rhan greiddiol o’r cwricwlwm newydd pan ddaw i rym, ac edrychaf ymlaen at barhad gwaith caled gweithlu ein hysgolion i sicrhau Cymreictod ac ymwybyddiaeth o hunaniaeth Gymreig, hanes a threftadaeth ymysg ein plant a’n pobl ifanc.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Paul Rowlinson

 

“Ydych yn cytuno â Phwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Cynulliad y dylid cynnwys canllaw sy’n nodi corff cyffredin o wybodaeth ar gyfer yr holl ddisgyblion sy’n astudio hanes, ac a fyddwch chi’n pwyso ar y Gweinidog i dderbyn yr argymhelliad pwysig hwn, a hefyd yn ceisio cefnogaeth gan awdurdodau addysg eraill a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Cemlyn Williams

 

“Mae’n gwbl amlwg i mi nad ydi’r Gweinidog yn gwerthfawrogi hanes Cymru, ac rwy’n bwriadu ysgrifennu at y Gweinidog a chymryd i ystyriaeth y sylw mae’r aelod wedi’i wneud.”

 

(4)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Gareth Jones

         

“Bob blwyddyn mae Cyngor Gwynedd yn anfon ffurflen 'Ymholiad Aelwyd Blynyddol' i bob cartref i'r preswylydd wirio fod enwau'r rhai sydd yn byw yn y tŷ o oed pleidleisio yn gywir. Dan y pennawd 'Cenedligrwydd' printiwyd y gair 'Prydeinig'.  Bob blwyddyn felly mae trigolion Gwynedd yn gorfod derbyn ' Prydeinig / British' neu dalu dirwy o £1,000. Yn ôl nifer o etholwyr sydd wedi cysylltu â mi mae'n hen bryd newid y drefn amhoblogaidd hon a chynnig dewis i bobl yn hytrach na gorfodi un ac oll i dderbyn yn wasaidd y label 'Prydeinig' .

 

Pa gamau mae Cyngor blaengar a chynhwysol Gwynedd yn eu cymryd i sicrhau y newidir y drefn bresennol a chydnabod a pharchu'r amrywiaeth o bobl sydd yn byw yng Ngwynedd trwy roi dewis i'w dinasyddion i gofnodi eu hunaniaeth fel Cymro / Cymraes / Prydeiniwr / Prydeinwraig / Albanes / Ffrancwr / Gwyddeles /........... ? "

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Nia Jeffreys

    

“Mae’r Swyddog Cofrestru Etholiadol, swydd statudol sydd gan y Prif Weithredwr, yn ymgymryd â chanfas statudol blynyddol ar gyfer cofrestru etholiadol.  Gwneir hyn drwy’r Tîm Etholiadau yn y Gwasanaethau Cyfreithiol.  Fel rhan o’r broses cyflwynir Ffurflen Ymholiad Aelwyd i bob eiddo anheddol yng Ngwynedd yn nodi beth sydd yn y gofrestr.  Nid oes hawl gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol i ddiwygio cynnwys penodol y llythyr.  Daw’r ‘Prydeinig’ yn syth oddi ar y Gofrestr Etholwyr sydd yn cael ei atgynhyrchu yn y ffurflen ac yn deillio o’r diffiniad statudol o genedligrwydd.

 

Mabwysiadwyd Rhybudd o Gynnig gan y Cyngor yn Hydref 2015 yn beirniadu ffurf y llythyr ac yn gofyn i lythyr gael ei anfon at y Gweinidog ar Gyfer Diwygio’r Cyfansoddiad ar y pryd, John Penrose AS, i ofyn am ddiwygio’r ddeddfwriaeth.  Ni dderbyniwyd ateb i’r llythyr.  Rwy’n meddwl fod hyn yn fater y dylid ei ddilyn fyny gyda’n Haelodau Seneddol, a byddaf yn gwneud hyn yn ddiymdroi.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Gareth Jones

 

“Tra’n ddiolchgar o glywed bod gan y Cyngor gynlluniau pendant i ddal i bwyso am newid ar hen drefn annerbyniol, pa gynlluniau eraill a newydd sydd gan y Cyngor a’r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am gydraddoldeb a chyfle cyfartal o fewn y Cyngor i roi llais a hawl i bobl sydd am ddatgan heb ragfarn eu hunaniaeth ar ffurflenni swyddogol, a hefyd yr hawl i nodi ‘Cymru’ fel gwlad ar basport a chynnwys y ddraig goch ar drwyddedau gyrru yng Nghymru?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Nia Jeffreys

 

“Yn y bôn, symptom arall gwarthus o ddiffygion yn y gyfundrefn Brydeinig sy’n rheoli dros Gymru yw hyn ac mae’n sarhad ar ein pobl bod raid i ni ymgyrchu am hawl mor elfennol â’r hawl i ddweud bod ni’n Gymro neu’n Gymraes ar ffurflenni swyddogol.  Rydym wedi llwyddo, gobeithio, drwy roi pwysau mawr ar y Swyddfa Ystadegau Gwladol i weld y Cyfrifiad yn newid, ond sut ar y ddaear oedd corff fel y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn meddwl ei bod yn dderbyniol yn y lle cyntaf i beidio gadael i bobl Cymraeg nodi hynny yn y lle cyntaf?  Mae’n dorcalonnus i mi fod rhaid i ni ymgyrchu drosodd a throsodd er mwyn cael ein cydnabod hyd yn oed ar ffurflen gan San Steffan.  Nid yw San Steffan yn gweithio i bobl Cymru, ac nid yw erioed wedi gweithio i bobl Cymru.  Diolch byth, mae pobl Cymru, hen ac ifanc, ar draws ein gwlad yn deffro i hyn, ond yr unig ateb go iawn i’r sarhad yma yw annibyniaeth a bod pob penderfyniad am ffurflenni a phopeth arall sy’n effeithio arnom ni yng Nghymru yn cael ei wneud gan bobl Cymru.  Felly, yr unig ateb go iawn i hyn, a’r unig ateb effeithiol a thymor hir i hyn, ydi Cymru rydd, a byddaf yn dal i ymgyrchu ar y pwynt penodol yma, ac yn ehangach ar y pwynt annibyniaeth i’n gwlad.”

 

(5)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Menna Baines

         

Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi amcanestyniadau poblogaeth newydd yn ôl awdurdod lleol. Roedd y rhain yn awgrymu y bydd cynnydd bychan yn unig, sef 0.8%, ym mhoblogaeth Gwynedd yn y cyfnod 2018–2028; ac y bydd lleihad o 2.6% ym mhoblogaeth Môn yn ystod yr un cyfnod. Sut mae hyn yn cymharu efo’r amcanestyniadau sy’n sail i’r Cynllun Datblygu Lleol yn y ddwy sir?

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Gareth Griffith

 

“Pan oedd y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLlC) yn cael ei baratoi, amcanestyniadau sail-2011 oedd yn berthnasol yr adeg hynny.  Roedd rhain yn dangos i’r cyfnod 2011 i 2026, sef cyfnod y CDLlC, gynnydd o oddeutu 5% ym mhoblogaeth Gwynedd a lleihad o oddeutu 0.1% ym mhoblogaeth Môn.

 

O ganlyniad i hyn, mi fydd ystyriaeth yn cael ei roi i’r amcanestyniadau diweddaraf fel rhan o broses Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) y CDLlC a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Hydref 2020.  Beth bynnag fydd canfyddiadau’r AMB 2020 ar sail y gofyniad i adolygu Cynllun Datblygu Lleol o fewn 4 mlynedd i’w fabwysiadu, fe fydd yna adolygiad o’r CDLlC yn cymryd lle yn 2021.”