skip to main content

Agenda item

I ystyried adroddiad  yr Uwch Swyddog Harbyrau

Cofnod:

Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno ar faterion yr Harbwr am y cyfnod rhwng Mawrth 2019 a Hydref 2019.

 

Angorfeydd

 

Adroddwyd bod nifer yr angorfeydd yn sefydlog er newid ym mhatrwm ymddygiad defnyddwyr. Amlygwyd bod cychod pŵer a beiciau dwr bellach yn fwy poblogaidd na chychod hwylio ac yr un yw’r sefyllfa ar draws y wlad.

 

                 Cod Diogelwch

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod yr Asiantaeth Morwrol a Gwylwyr y Glannau wedi cynnal archwiliad ym Mawrth 2019 ar drefniadau penodol a system Harbyrau Bwrdeistrefol Gwynedd er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a’r Cod Diogelwch Morol.  Yn dilyn ymweliad pellach i weld sut roedd yr ychwanegiadau a awgrymwyd wedi ei gweithredu, adroddwyd bod Capten Quader (archwilydd o’r Asiantaeth) yn fodlon bod y Gwasanaeth yn cydymffurfio â darpariaethau’r Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd. Atgoffwyd yr Aelodau o’u dyletswydd i gyflwyno sylwadau ar addasrwydd y Cod Diogelwch a chyfeirio unrhyw bryderon i’r Harbwrfeistr.

 

Materion Staffio

 

Adroddwyd bod Harbwrfeistr Cynorthwyol llawn amser wedi ei benodi ac wedi ei leoli yn Harbwr Aberdyfi. Bydd y penodiad yn sicrhau cefnogaeth i’r harbwrfeistr ynghyd a chynorthwyo mewn harbyrau eraill ar draws y Sir pan fydd angen. Nododd yr Harbwrfeistr bod penodi Mr Oliver Simmonds i’r tîm eisoes wedi profi yn werthfawr a bod ei brofiad o weithio gyda’r Clwb Hwylio yn fanteisiol. Ategodd yr Aelodau bod cydweithio da ymysg y staff a bod y penodiad yn un da.

 

Materion Ariannol

 

Cyflwynwyd cyllideb yr harbwr i amlygu’r sefyllfa ariannol bresennol hyd at ddiwedd Medi 2019. Amcangyfrifwyd tanwariant o £4,121. Amlygwyd bod bwriad o godi ffioedd lansio dyddiol o £10 i £15

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â beth sydd wedi ei glustnodi ar gyfer y tanwariant, amlygwyd bod bwriad prynu bwi ynghyd a gwaith cynnal a chadw dros dymor y gaeaf.

                       

(b)          Adroddiad yr Harbwr Feistr

 

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Harbwrfeistr yn manylu ar faterion mordwyo, gweithredol a chynnal a chadw. Tynnwyd sylw at y materion canlynol:

·         Bod y gwasanaeth yn parhau i fonitro llwybr y sianel fordwyo i Aberdyfi. Nodwyd bod y sianel yn newid yn barhaol gyda symudiad gogleddol. Nodwyd bod hyn yn creu gwaith addasu i gynorthwyo a sicrhau diogelwch mordwyo.

·         Bod Ymddiriedolaeth yr Outward Bound a Chlwb Hwylio Dyfi wedi cynnal rhaglen brysur o ddigwyddiadau llwyddiannus dros yr Haf

·         Bod y Gwasanaeth wedi gweld cynnydd mewn nifer carcasau anifeiliaid wedi eu golchi i fyny ar y traeth

·         Diolchwyd i’r Ymddiriedolaeth Outward Bound a Chlwb Hwylio Dyfi am y cymorth a gafodd y Gwasanaeth tra bod gwaith atgyweirio strwythurol ar gwch yr harbwr

·         Bod ysgolion tywod pren yn galluogi mynediad ar draws y twyni i’r traeth yn dilyn gwaredu llwybr pren y clwb golff

·         Bod sefyllfa’r bont dros y rheilffordd i Fryn Llestair (Picnic Island) yn cael ei drafod a phryderon diogelwch yn cael eu hystyried.

·         Bod y Gwasanaeth wedi bod yn cydweithio gyda’r physgotwyr masnachol i dacluso lloc y pysgotwyr. Y bwriad yw cadw offer sydd ddim yn cael ei ddefnyddio yn y lloc a chylchdroi'r offer yn ôl yr angen.

·         Bod trafodaethau pellach i’w cynnal gyda Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig i sicrhau diogelwch cerddwyr ar y cei.

·         Bod trafodaethau wedi eu cynnal gydag Uned Eiddo'r Cyngor i gadw’r Swyddfa’r Harbwr yn ei leoliad presennol

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gwaredu anifeiliaid sydd wedi eu golchi i fyny ar y traeth nodwyd bod carcasau anifeiliaid (defaid gan amlaf) yn cael eu gwaredu yn Nolgellau yn unol â threfniadau gwaredu anifeiliaid. Bydd anifeiliaid y môr yn cael eu claddu yn y traeth - os yw yn anifail prin bydd y gwasanaeth yn cysylltu gyda gwasanaeth ymchwil mamaliaid môr er mwyn cofnodi pwysau, math ac ati. Ategwyd bod cydweithio da gyda mudiadau gwirfoddol lleol sydd yn glanhau’r traeth.

 

Mewn ymateb i sylw am sefyllfa’r bont dros y rheilffordd i Fryn Llestair (Picnic Island) nodwyd:

-       Bod y penderfyniad i gau’r bont wedi cael ei gefnogi gan ddefnyddwyr er efallai wedi cael effaith ar weithgareddau Outward Bound

-       Bod Ymgynghoriaeth Gwynedd wedi cynnal asesiad  strwythurol o’r bont

-       Bod amserlen drafft o 12 – 18 mis wedi ei osod ar gyfer symud y bontbydd angen atgyfnerthu’r rhwystrau atal mynediad

-       Bod gan y Cyngor Cymuned gyswllt leol defnyddiol gyda Network Rail - peiriannydd wedi cyfarfod cynghorwyr cymuned a staff Outward Bound ar y safle i drafod y sefyllfa. Amlygwyd bod y cyfarfod wedi bod yn un gwerthfawr ar prif bryderon wedi eu hamlygu.

-       Bod angen datrysiad tymor hir a chynllun priodol yn ei le

-       Ymddengys 18mis yn gyfnod hiryn ddelfrydol adeiladu pont newydd i’w gosod mewn un symudiad

-       Bod cydweithio gyda Network Rail yn rhan allweddol o’r datrysiad

 

Mewn ymateb i’r gwaith sydd wedi ei wneud o gwmpas Lloc y Pysgotwyr nodwyd bod y ffens sydd wedi ei godi o amgylch y lloc yn un o ansawdd da, yn uchel i atal tipio slei bach ac wedi ei gloi. Croesawyd y gwaith caled oedd wedi ei wneud i dacluso’r ardal a gofynnwyd am gefnogaeth gan y gymuned i gadw’r ardal yn daclus. Yn dilyn trafodaethau gyda’r pysgotwyr, amlygwyd bod oddeutu hanner yr offer pysgota wedi ei drosglwyddo o’r harbwr i’r lloc. Ategwyd mai’r bwriad yw cylchdroi'r offer sydd yn cael ei ddefnyddio gan storio unrhyw offer arall yn y lloc. Bydd offer sydd wedi torri neu offer diangen yn cael ei wared.

 

Sylwadau pellach:

-       Bod yr harbwr yn un gweithredol, yn denu llawer o ddiddordeb ymysg ymwelwyr ac yn rhan bwysig i economi a diwydiant yr ardal

-       Bod angen sicrhau bod y safle yn cael ei gynnal a’i gadw yn rheolaidd

-       Bod angen cydweithio gyda’r pysgotwyr masnachol - dyma eu bywoliaeth

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â safle swyddfa’r harbwrfeistr amlygwyd yr angen i uwchraddio’r swyddfa er lles y staff. Ategwyd nad oedd y cyfleusterau yn ddigonol. Cytunwyd bod lleoliad y swyddfa yn addas, ond yn ddelfrydol bod angen swyddfa gydag ail lawr i wella gwelededd ar draws yr harbwr a’r aber. Yn y cyfamser cynigwyd gosod teledu cylch cyfyng fel datrysiad. Awgrymwyd defnyddio swyddfeydd sydd ar osod gan Uned Eiddo'r Cyngor sydd wedi eu lleoli gerllaw yr Harbwr ar gyfer cyfleusterau toiled.

 

Mewn ymateb i’r digwyddiadau a gynhaliwyd, gwnaed sylw bod digwyddiad Nofio Aberdyfi yn un sydd wedi ei drefnu yn dda gyda’r trefnwyr yn rhoi ystyriaeth deg i ddiogelwch yr harbwr. Er bod y trefnwyr yn barod iawn i gydymffurfio gyda mesurau diogelwch, teimlwyd bod modd cynnal trafodaethau pellach i wella’r trefniadau.

 

Ategwyd bod digwyddiad elusennolWatercrat Blackrock Blast’ wedi codi hyd at £10k ar gyfer Ambiwlans Awyr. Nodwyd bod oddeutu 100 o feiciau dwr wedi cymryd rhan a bod gwaith da wedi ei wneud i hyrwyddo diogelwch yn y dŵr.

 

Diolchwyd i bawb am eu hymroddiad i gynnal a threfnu digwyddiadau

 

 

PENDERFYNWYD  derbyn yr adroddiadau.

 

Dogfennau ategol: