Agenda item

Gŵyl Glass Butter Beach

 

Ystyried y cais uchod

Cofnod:

CAIS AM AMRYWIAD I DRWYDDED EIDDO – GLASS BUTTER BEACH, CARREG Y DEFAID, LLANBEDROG, PWLLHELI

 

Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb oedd yn bresennol. Cyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 10 munud i gyflwyno sylwadau uniongyrchol ar y cais.

 

Ar ran yr eiddo:         Mr Mark Durston (ymgeisydd)

 

Aelodau Lleol:           Cynghorydd Angela Russell (Llanbedrog) a R.H Wyn Williams (Abersoch)

 

Eraill a fynychwyd:   Arolygydd Dewi Owen (Heddlu Gogledd Cymru), Ian Williams (Swyddog Trwyddedu – Heddlu Gogledd Cymru), Euron Thomas (Uwch Swyddog Iechyd yr Amgylchedd)

 

Adroddiad ac argymhelliad yr Adain Trwyddedu.

 

a)    Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am amrywiad i drwydded eiddo ar gyfer Glass Butter Beach, Carreg y Defaid, Llanbedrog mewn perthynas â chyflenwi alcohol, cerddoriaeth wedi ei recordio, cerddoriaeth fyw, perfformiadau dawns, dangos ffilmiau a dramâu, unrhyw adloniant arall a chyflenwi lluniaeth hwyr y  nos. Nodwyd bod yr Awdurdod Trwyddedu yn fodlon bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Amlygwyd bod trwydded gyfredol yn bodoli ar gyfer y digwyddiad yn y lleoliad presennol ers 2014 ac fe dynnwyd sylw at fanylion yr oriau arfaethedig ac oriau’r gweithgareddau ar y drwydded gyfredol.

Rhoddwyd ychydig o gefndir yr Ŵyl ac fe amlygwyd y prif resymau dros gyflwyno cais o’r newydd. Bod bwriad,

·         cynyddu'r Ŵyl i dderbyn cynulleidfa hyd at 9,999

·         ymestyn y penwythnos i gynnwys adloniant rheoledig a gweithgareddau trwyddedig eraill

·         dechrau gweithgareddau trwyddedig yn gynt ar y pnawn iau gan gyflenwi alcohol awr yn hwyrach ar y nos Iau (tan 00:30), ond dod a gweithgareddau trwyddedig eraill (ar wahân i ddarparu lluniaeth hwyr y nos) i ben am hanner nos fel yn y drwydded gyfredol.

·         cyflenwi alcohol am ddwy awr yn hwyrach ar y nos Wener a nos Sadwrn tan 02:00

·         cael hanner awr ychwanegol ar gyfer gweithgareddau trwyddedig eraill gan gynnwys cerddoriaeth fyw ac wedi ei recordio tan 01:30.

 

Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cynnwys camau priodol i hyrwyddo’r pedwar  amcan trwyddedu fel rhan o’r cais.

 

Yn dilyn cyfnod ymgynghori, nodwyd mai argymhellion a sylwadau am newidiadau yn unig a dderbyniwyd i’r cais ac nid gwrthwynebiadau. Cyfeiriwyd at y sylwadau a dderbyniwyd gan Cyngor Cymuned Llanbedrog, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru  ac Adran Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Gwynedd.

 

b)    Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu.

·     Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·     Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·     Gwahoddwyd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·     Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·     Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai.

c)    Wrth ymhelaethu ar y cais nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei  gyflwyno ac ategodd y sylwadau canlynol:

·         Buddsoddwyr allanol bellach yn cefnogi'r Ŵyl ac felly strwythur newydd i’r Ŵyl wedi ei gyflwyno. Amlygwyd bod penderfyniad wedi ei wneud i gyfyngu oedran y gynulleidfa (16+ - 35) a bod yr Ŵyl bellach yn cael ei ddylunio ar gyfer hyn.

·         Cynllun Busnes Tair Blynedd wedi ei gyflwyno - y bwriad yw cynyddu'r Ŵyl i dderbyn cynulleidfa hyd at 9,999.

·         Bod gwasanaethau proffesiynol yn cael eu cyflogi ar gyfer monitro sŵn, casglu sbwriel, monitro mynedfa i bobl ifanc dros 16 oed ac iechyd a diogelwch

·         Ymddiheuro bod yr elfen gyfathrebu wedi bod yn araf

·         Bod Her 21 a Her 25 yn cael ei gefnogi

·         Ei fod yn barod i gydweithio er mwyn sicrhau llwyddiant

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â safle'r Ŵyl,  cadarnhawyd y prif leoliad a beth  oedd yn digwydd ymhob cae.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chwynion oedd wedi dod i law yn hanes yr Ŵyl, amlygwyd bod nifer o gwynion am sŵn wedi eu cyflwyno gan un person dros y blynyddoedd. Amlygodd y Rheolwr Trwyddedu nad oedd cwynion swyddogol wedi ei derbyn y llynedd, ond bod amryw wedi amlygu pryderon am y gwaith clirio, y fynedfa  a sŵn cerddoriaeth.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd mai 16+ oedd oed mynychu'r Ŵyl ac nad oedd wedi ei ddylunio eleni ar gyfer teuluoedd. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut oedd sicrhau nad oedd plant o dan 16 yn cael mynediad a sut oedd rheoli ymddygiad, nododd yr ymgeisydd bod cwmni diogelwch proffesiynol ar y safle yn monitro ymddygiad y gynulleidfa ynghyd a phresenoldeb staff meddygol ac adnoddau llesiant. Nodwyd bod polisi cadarn ar y bariau i werthu i alcohol i 18+ yn unig a bod ‘pabell ddalfa’ ar gyfer cadw plant o dan 16 oed, sydd wedi ceisio mynediad, nes bydd person cyfrifol yn dod i’w casglu o’r safle. Nodwyd bod timau da ar gyfer rheoli pob sefyllfa a bod y paratoadau i gyd wedi eu trefnu ar gyfer derbyn cynulleidfa o 5,000 (er bod nifer y tocynnau ar hyn o bryd oddeutu 3,500).

           

ch)  Yn manteisio ar ei hawl i siarad, nododd  y Cynghorydd Angela Russell (Aelod Lleol a chynrychiolydd Cyngor Cymuned Llanbedrog) bod Llanbedrog yn croesawu'r Ŵyl ar y cyfan, ond bod pryderon wedi eu hamlygu mewn cyfarfod diweddar. Nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·         Cais i gadw Llwybr yr Arfordir yn agored

·         Cyfyngu'r ffordd 30 milltir yr awr i osgoi problemau traffic

·         Bod angen clirio'r safle yn gyfan gwbl ar ôl i’r Ŵyl ddod i ben

·         Awst yn fis prysur yn yr ardal - sut gellir ymdopi gyda chynnydd

·         Bod angen i’r ymgeisydd gyfathrebu yn well gyda’r Cyngor Cymuned fel bod modd cynnal trafodaethau cyn cynnig sylwadau

 

Mewn ymateb i gwestiwn, nodwyd nad oedd cwynion wedi eu derbyn gan y Cyngor   Cymuned nac yr Aelod Lleol

 

d)      Wedi derbyn hawl gan y Cadeirydd i siarad, nododd y Cynghorydd Wyn Williams (Aelod Ward Ffiniol) ei fod yr adnabod yr ymgeisydd yn dda a'i fod yn gefnogol iawn i’r digwyddiad. Er hynny, amlygodd bryderon yr hoffai i’r ymgeisydd eu hystyried i’r dyfodol megis   

·           cynnal y digwyddiad tu allan i brysurdeb mis Awst

·           ystyried symud safle petai'r Ŵyl yn cynyddu

·           ymateb yn gynt i ofynion yr Heddlu a Gwarchod y cyhoedd - cryfhau cydweithio

 

dd)  Yn manteisio ar ei hawl i siarad, cadarnhaodd Mr Ian Williams ar ran Heddlu Gogledd  Cymru nad oeddynt yn gwrthwynebu y cais. Er hynny nodwyd nad oedd yr Heddlu  wedi cael cyfle i ymateb yn llawn i’r cais gan fod dogfennau wedi cyrraedd ychydig cyn dyddiad cau y cais. Cadarnhawyd bod strwythur a chynlluniau ar gyfer yr Ŵyl yn eu lle

 

Yn manteisio ar ei hawl i siarad, ychwanegodd yr Arolygydd Dewi Jones bod yr Heddlu yn cefnogi'r Ŵyl a bod digwyddiad o’r fath yn bwysig i'r economi leol. Er hynny amlygwyd rhai pryderon a sylwadau: yn ychwanegol i’r amodau a gyflwynwyd.

·         Iechyd a diogelwch y cyhoedd yw blaenoriaeth yr Heddlu ac felly rhaid cael dogfennaeth briodol o fewn amser rhesymol i sicrhau cydweithio da a Gŵyl lwyddiannus. Cynigiwyd bod amod yn cael ei roi ar y drwydded am rybudd amser o 3 mis gyda chynlluniau trefniant yr Wyl. Gwnaed cais hefyd am wybodaeth ynglŷn â’r niferoedd disgwyliedig.

·         Gwerthiant tocynnau - amlygwyd bod yr heddlu wedi gwneud prawf gwerthiant gyda phedwar o’r sefydliadau gwerthu tocynnau. Adroddwyd bod y pedwar safle wedi methu y prawf drwy werthu tocynnau i blant o dan 16 oed. O ganlyniad, gwnaed cais am amod i’r ymgeisydd brofi'r sefydliadau eraill oedd yn gyfrifol am werthu tocynnau gyda phrawf bod hyn wedi ei weithredu

·         Cais i’r ymgeisydd arwyddo a chydweithio gyda Pubwatch Gwynedd

·         Sicrhau bod yr Heddlu yn cael gwybod am unrhyw ddigwyddiad trosedd ac anrhefn yn union syth gan y Cwmni Diogelwch

·         Cais i gynnwys amod i gynnal cyfarfod dad friffio o fewn tri mis ar ôl er mwyn dysgu gwersi  a pharatoi am y flwyddyn ganlynol. Cais i’r wybodaeth o’r cyfarfod yma gael ei gydlynu gyda’r Grŵp Ymgynghorol Diogelwch Digwyddiad

·         Cais i fiwsig y ffair ddod i ben yr un amser a cherddoriaeth yr Ŵyl

·         Cais i’r ymgeisydd wneud profion gwerthu alcohol yn ystod yr Ŵyl a bod canlyniadau’r  prawf yn cael ei rannu gyda phob awdurdod cyfrifol.

 

Ategwyd bod gwasanaethau heddlu ychwanegol wedi cael eu trefnu ar gyfer yr Ŵyl a bod yr ymgeisydd wedi cydweithio yn llawn er bod y manylion wedi eu cyrraedd yn hwyr. Mewn ymateb i gwestiwn, amlygwyd petai achos o drosedd ac anrhefn, byddai’r ddalfa yng Nghaernarfon. Gwnaed cais i’r Arolygydd baratoi geiriad i’r amodau ychwanegol yr oedd yn ei gynnig er penderfyniad.

 

e)    Cydnabuwyd llythyr a dderbyniwyd gan y Gwasanaeth Tân. Amlygwyd eto, bod sylw yn cael ei wneud ynglŷn â derbyn cynlluniau / dogfennaeth o leiaf mis cyn y digwyddiad.

 

f)     Yn manteisio ar ei hawl i siarad, amlygodd Uwch Swyddog Iechyd yr Amgylchedd y newidiadau i'r drwydded bresennol ynghyd a phryderon o fwriad yr ymgeisydd i ymestyn oriau ar gyfer adloniant. Nodwyd bod yr Ŵyl yn hanesyddol wedi arwain at gwynion sŵn gan drigolion lleol ac yn ychwanegol roedd y trefnwyr wedi methu a phenodi unigolyn i reoli materion sŵn yr Ŵyl.

 

Yn dilyn trafodaethau gyda’r ymgeisydd amlygwyd bod rhaid cydymffurfio gydag amodau rheoli sŵn. Adroddwyd bod yr ymgeisydd bellach wedi penodi dau gwmni i ddatblygu Cynllun Rheoli Sŵn ar gyfer yr Ŵyl ac i oruchwylio mater sŵn yn ystod yr Ŵyl gyda sicrwydd y bydd sŵn yn cael ei reoli yn llym. Adroddwyd bod y cwmni Aria Acoustics yn gwmni profiadol a chymwys ac wedi dangos eu gallu i reoli sŵn yn llwyddiannus o dan amgylchiadau heriol. Nodwyd bod yr Adran wedi derbyn cynllun rheoli sŵn da, sydd yn adlewyrchu'r amodau oedd yn cael eu cynnig gan yr Adran Iechyd ac Amgylchedd.

 

ff)              Wrth grynhoi ei gais, ac ymateb i’r sylwadau, nododd yr ymgeisydd ei fod yn derbyn y sylwadau ac yn cydnabod yr angen am drafodaeth ymlaen llaw. Amlygodd bod materion cyfyngu cyflymder wedi ei drafod gyda’r Adran Priffyrdd ac ymddiheurodd nad oedd y safle wedi ei glirio yn gyfan gwbl ar ôl Gŵyl 2015. Addawodd na fyddai hyn yn digwydd eto. Derbyniodd hefyd y sylwadau a wnaed i gynnal trafodaethau petai cynnydd sylweddol yn yr Ŵyl (o ran safle) a’r angen i ystyried symud yr Ŵyl allan o gyfnod gwyliau mis Awst.. Amlygodd bod nifer o gwmnïau proffesiynol yn cefnogi’r Ŵyl gyda threfniadau craff ar gyfer rheoli gwastraff a rheoli traffig - mynegodd bod bysiau wennol yn cael eu defnyddio eleni am y tro cyntaf.

 

Ymddiheurodd bod rhannu dogfennaeth gyda’r awdurdodau cyfrifol wedi bod yn hwyr a bod hyn o ganlyniad i’r gwaith caled oedd wedi ei wneud o gydlynu cwmnïau, dyrannu cyfrifoldebau a chanolbwyntio ar wella ansawdd y wybodaeth oedd i’w gyflwyno. Nodwyd hefyd bod agweddau diogelwch wedi cael ystyriaeth lawn.

 

O ganlyniad i fethiant y profion gwerthiant, nododd bod pob sefydliad wedi derbyn llythyr swyddogol a bod pob gwerthiant tocyn i dderbyn nodyn reolaeth mynediad. Adroddodd hefyd ei fod wedi gweithio yn agos gyda’r Uwch Swyddog yr Amgylchedd i sicrhau Gŵyl lwyddiannus.

 

Gadawodd y partïon perthnasol y cyfarfod.

 

Trafodwyd y cais gan aelodau’r Is Bwyllgor gan ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd ynghyd a sylwadau ysgrifenedig a llafar y partïon â diddordeb. Rhoddwyd sylw penodol i egwyddorion Deddf Trwyddedu 2003 sef

 

     Trosedd ac Anhrefn

     Diogelwch y Cyhoedd

     Rhwystro Niwsans Cyhoeddus

     Amddiffyn Plant rhag Niwed, ynghyd ag Arweiniad y Swyddfa Gartref.

 

PENDERFYNIAD  - caniatáu’r cais, yn ddarostyngedig i argymhellion yr Heddlu ac Iechyd Amgylcheddol

 

Nodwyd yn benodol nad oedd gwrthwynebiad oddi wrth unrhyw barti a gyflwynodd sylwadau ond bod pryderon wedi dod i law o ran diogelwch y ffordd, gwerthiant dan oed, sbwriel a sŵn. Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon, fodd bynnag, bod yr amodau a argymhellwyd gan yr ymgeisydd yn ei ffurflen gais, ynghyd â’r amodau teledu cylch cyfyng ac amodau parthed briffio a dad-friffio a argymhellwyd gan yr Heddlu, a’r amodau rheoli sŵn a argymhellwyd gan Iechyd Amgylcheddol, yn gamau priodol er mwyn hyrwyddo’r pedwar amcan trwyddedu.

 

Nid oedd yr Is-bwyllgor yn ystyried bod angen cyflwyno amodau ar y drwydded o ran y deilydd yn gorfod monitro cydymffurfiaeth siopau sydd yn gwerthu tocynnau ar ran y deilydd. Yn nhyb yr Is-bwyllgor, cyfrifoldeb y siopau unigol yw sicrhau cydymffurfiaeth oedran.

 

Nid oedd yr Is-bwyllgor yn ystyried bod angen amodau o ran aelodaeth Pubwatch, adrodd digwyddiadau trosedd ac anhrefn na gwasanaeth plismona arbennig. Roedd yr Is-bwyllgor o’r farn bod y pethau hyn yn faterion dylai gael eu trefnu yn wirfoddol rhwng y deilydd a’r Heddlu.

 

O ran cyfyngiadau cyflymder ar y ffordd fawr, ystyriodd yr Is-bwyllgor mai mater priffyrdd oedd hyn tu allan i sgôp y Ddeddf Trwyddedu 2003. Yn yr un modd mater rhwng deilydd y drwydded a’r tirfeddiannwr fyddai unrhyw broblem sbwriel ar y safle, ac felly ni fyddai’n disgyn o fewn y Ddeddf.

 

Gwyrwyd y drwydded fel a ganlyn:

 

  1. Gwyrwyd yr oriau a ganiatawyd mewn perthynas â gweithgareddau trwyddedig yn unol â'r cais.
  2. Bod y materion yn rhan M o’r cais yn cael eu hymgorffori fel amodau ar y drwydded.
  3. Ychwanegu amod i’r drwydded bod deilydd y drwydded yn cynnal system teledu cylch cyfyng i oruchwylio mannau mynediad y brif safle a’r ardal wersylla; bod y system honno o ansawdd digonol i allu recordio yn ystod oriau tywyllwch; bod recordiadau yn cael eu cadw heb eu golygu am gyfnod o ddim llai na mis; a bod y recordiadau ar gael ar alw ar unwaith ar gais yr Heddlu neu’r Awdurdod Trwyddedu.
  4. Ychwanegu amod i’r drwydded bod o leiaf 3 mis o rybudd o ddyddiad digwyddiad yn cael ei ddarparu i’r Heddlu, ac ar yr un pryd bod angen cyflwyno cynlluniau i’r awdurdodau cyfrifol gan gynnwys manylion niferoedd arfaethedig, amseroedd a dyddiadau.
  5. Ychwanegu amod i’r drwydded bod cyfarfod dad-friffio yn cael ei gynnal o fewn 3 mis o unrhyw ddigwyddiad, i’w gydlynu gyda’r Grŵp Ymgynghorol Diogelwch Digwyddiad.
  6. Ychwanegu fel amodau i’r drwydded yr amodau arfaethedig rheoli sŵn a argymhellwyd gan Iechyd Amgylcheddol.
  7. Dileu oddi ar y drwydded unrhyw amodau sydd yn bodoli eisoes sydd yn anghyson â’r amodau newydd a gyflwynwyd gan yr Is-bwyllgor wrth ganiatáu’r cais hwn.

 

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy  lythyr i bawb oedd yn bresennol. Hysbysebwyd hefyd  o’u hawl i apelio i’r dyfarniad o fewn 21 diwrnod i dderbyn y llythyr hwnnw.

 

 

Dogfennau ategol: