D H
CONVENIENCE STORE, 109 STRYD FAWR, BANGOR, LL57 1NS
Ysytried y
cais uchod
Cofnod:
CAIS AM AMRYWIAD I DRWYDDED EIDDO – D H
Convenience Store, 109 Stryd Fawr
Bangor, LL57 1NS.
Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb oedd yn
bresennol a cyhoeddwyd bod gan bawb hyd
at 10 munud i gyflwyno sylwadau uniongyrchol ar y cais.
Ar ran yr eiddo: Mr David James Hughes a
Carla Cordeiro
Eraill a wahoddwyd: Donna Evans (Swyddog Masnachu
Teg – Cyngor Gwynedd)
Ian
Williams (Heddlu Gogledd Cymru)
a)
Adroddiad ac
argymhelliad yr Adain Trwyddedu
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn
manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer
D H Convenience Store, 109 Stryd Fawr, Bangor mewn perthynas â gwerthu
alcohol i’w yfed oddi ar yr eiddo, cerddoriaeth wedi ei recordio (cefndirol yn y siop), a dangos
ffilmiau. Gofynnwyd ar yr hawl i gyflenwi alcohol rhwng 8:00 y bore a 23:00 yr
hwyr, 7 diwrnod yr wythnos.
Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd
yn argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd
yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd nad oedd yr Heddlu na Safonau Masnach
Cyngor Gwynedd yn gwrthwynebu’r cais, ond wedi cyflwyno sylwadau. Adroddwyd bod
yr ymgeisydd wedi cytuno, yn dilyn ymweliad
i’r safle gan yr Heddlu, nad oedd angen
gofyn am weithgareddau trwyddedig o ddangos ffilmiau a cherddoriaeth wedi ei
recordio ar y cais. Roedd yr ymgeisydd hefyd wedi cytuno i weithredu Her 25
ynghyd â derbyn amodau teledu cylch cyfyng ar y drwydded. Yng nghyd-destun
sylwadau ac argymhellion Safonau Masnach Cyngor Gwynedd, nodwyd bod yr
ymgeisydd yn destun ymchwiliad cyfredol gan y gwasanaeth a bod hyn yn
berthnasol i’r amcan trwyddedu o atal trosedd ac anrhefn.
b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r
ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr
Trwyddedu.
·
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais
·
Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau
·
Gwahoddwyd deilydd y
drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau
·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn
cwestiynau i ddeilydd y drwydded.
·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn
cwestiynau i’r ymgynghorai
c)
Wrth ymhelaethu ar y cais nododd Ms Cordeiro, ar ran yr ymgeisydd ei bod yn hapus gyda’r hyn
oedd wedi ei gyflwyno ac ategodd y
sylwadau canlynol:
·
Eu bod yn cytuno gyda sylwadau ac argymhellion yr
Heddlu ac am weithredu Her 25 a gosod teledu cylch cyfyng
·
Eu bwriad yw gwerthu alcohol i’w yfed tu allan i’r
eiddo
·
Bod ymchwiliad y gwasanaeth safonau masnach yn
ymwneud a thybaco anghyfreithlon
·
Ni fuasai unrhyw ymddygiad o niwsans yn cael ei
ganiatáu ar y safle
·
Byddai unrhyw un o dan ddylanwad alcohol yn cael ei
hel allan - dim goddefiant
·
Yn fodlon gyda chynnwys y cais
Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd eu bod
yn dileu chwarae ffilmiau a cherddoriaeth o’r cais. Mewn ymateb i sylw am sut i
atal gwerthu alcohol i unigolion o dan oed, nodwyd y byddant yn monitro
cwsmeriaid rheolaidd gyda phatrymau prynu gwahanol ac yn gofyn am weld cerdyn
adnabod yn amlygu dyddiad geni.
ch) Yn manteisio ar ei hawl i siarad,
nododd Swyddog Trwyddedu ar ran yr Heddlu y sylwadau canlynol:
·
Yn cadarnhau ei fod wedi trafod y cais gyda’r
ymgeisydd a bod yr ymgeisydd wedi derbyn yr amodau Her 25 a Theledu Cylch
Cyfyng gan sicrhau y byddai delweddau / recordiau o’r teledu cylch cyfyng ar
gael petai angen.
·
Bod y gerddoriaeth ar ffilmiau cefndir yn
achlysurol ac felly nad oedd angen trwydded
·
Bod gwerthiant alcohol o 8am bellach yn gyffredin,
o ran oriau
·
Bod yr ymchwiliad, a oedd yn ymwneud a thybaco
anghyfreithlon, wedi dod i sylw’r Heddlu yn Nhachwedd
2015. Roedd yn ymwneud a sŵm sylweddol o dybaco
anghyfreithlon
Mewn ymateb i gwestiwn, nododd y Swyddog bod
yr Heddlu wedi ymchwilio i’r cyhuddiad o feddiant tybaco anghyfreithlon heb
rybudd mewn Saesneg ar y pacedi, ac wedi penderfynu peidio mynd ymlaen gyda’r
achos ac felly, o safbwynt yr Heddlu, yr achos wedi cau.
Mewn ymateb, nododd yr ymgeisydd bod y
tybaco wedi ei brynu o Farchnad Pwllheli yn anwybod iddynt ei fod yn
anghyfreithlon. Nid oedd y tybaco wedi cael ei werthu ymlaen ac nad oedd
gwerthu sigaréts a thybaco yn fwriad yn y siop ar hyn o bryd oherwydd costau
uchel. Byddai hyn yn cael ei adolygu yn y dyfodol.
Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd y Swyddog
Masnach bod eu hymchwiliad hwy yn parhau gan fod Deddfau Gorfodaeth Safonau
Masnach yn wahanol i Ddeddfau’r Heddlu.
Amlygwyd bod cyfarfod wedi ei gynnal gyda Mr Hughes a bod penderfyniad yn
debygol o gael ei wneud o fewn yr wythnosau nesaf.
d)
Wrth grynhoi y cais, nododd yr ymgeisydd
·
Ei bod yn hapus gyda’r sylwadau
·
Bod bwriad ganddynt i gadw tu allan i’r siop yn lân
a thaclus
·
Eu gobaith yw adeiladu busnes llwyddiannus
dd) Trafodwyd y cais diwygiedig gan aelodau’r Is Bwyllgor ac fe ystyriwyd yr holl dystiolaeth
a gyflwynwyd gan roddi sylw
penodol i egwyddorion Deddf Trwyddedu 2003 sef;
• Trosedd ac Anhrefn
• Diogelwch y
Cyhoedd
• Rhwystro Niwsans Cyhoeddus
• Amddiffyn
Plant rhag Niwed
ynghyd a chanllawiau’r Swyddfa Gartref a pholisi trwyddedu’r Cyngor.
PENDERFYNWYD caniatáu y cais diwygiedig ar gyfer gwerthiant alcohol yn unig ac i gynnwys amodau teledu fel yr argymhellwyd gan yr
Heddlu.
Ystyriwyd sylwadau’r Gwasaneth
Safonau Masnach bod ymchwiliad yn mynd rhagddo i honiadau bod yr ymgeisydd wedi
gwerthu tybaco ffug a bod tybaco yn cael ei werthu heb rybudd mewn Saesneg ar y
pacedi. Tra bo’r Is-bwyllgor yn derbyn bod y materion hyn o bosib yn gallu bod
yn berthnasol i’r amcanion o atal trosedd ac anhrefn a diogelu diogelwch
cyhoeddus, nid oeddynt dim mwy na chyhuddiadau ar hyn o bryd. Roedd yr
Is-bwyllgor o’r farn, petai'r ymgeisydd yn cael ei
ganfod yn euog o’r fath gyhuddiadau, ni fyddai hynny o reidrwydd yn berthnasol
i werthiant alcohol. O dan yr amgylchiadau hyn, nid oedd yr Is-bwyllgor o’r farn bod yr ymchwiliad a oedd yn mynd rhagddo i droseddau o
werthu tybaco ffug yn cyfiawnhau gwrthod cais i werthu alcohol. Nodwyd, fodd
bynnag, petai collfarn o’r fath yn erbyn
yr ymgeisydd gan Lys, roedd yn agored i unrhyw un wneud cais i adolygu’r
drwydded.
Adroddodd y Cyfreithiwr
y byddai’r penderfyniad yn cael ei
gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn
bresennol. Hysbysebwyd hefyd o’u hawl
i apelio i’r dyfarniad o fewn 21 diwrnod i dderbyn y llythyr hwnnw.
Nodwyd nad yw darpariaethau apêl yn gymwys i
Safonau Masnach gan eu bod yn rhan o’r un corff â’r awdurdod
trwyddedu.
Dogfennau ategol: