Derbyn Adroddiad Blynyddol y Gronfa Bensiwn am 2015-2016
Cofnod:
Cyflwynodd y Pennaeth
Cyllid Adroddiad Blynyddol y Cynllun Pensiwn am 2015/16.
Rhoddwyd sylw penodol i
brif faterion yr adroddiad sef:
·
Perfformiad Buddsoddi
Gwerth
asedau:
Adroddwyd cynnydd
yng ngwerth asedau’r Gronfa o £1,497m (31/03/2015) i £1,525m (31/03/2016) -
cynnydd o £28m yn ystod y flwyddyn. Roedd y meincnod perfformiad safonol yn
-0.3% ar gyfer 2015/16, ac felly lle i ddiolch i reolwyr y Gronfa am lwyddo i
gael +1.3% mewn blwyddyn.
Rhwng 1af o Ebrill
2016 a’r 30 Mehefin 2016, nodwyd bod gwerth marchnad y Gronfa wedi codi £58m
arall i £1,583m, ond yn dilyn refferendwm y Deyrnas Unedig ar aelodaeth Undeb
Ewropeaidd a chanlyniad y bleidlais i adael, gwelwyd effaith uniongyrchol ar
werth y bunt a chyfraddau llog y DU. Bu i’r marchnadoedd byd-eang wella ar ôl y
gostyngiad gwreiddiol yn dilyn canlyniad y refferendwm, ond anodd oedd rhagweld
effaith hir dymor penderfyniad ‘Brexit’ ar Gronfa Bensiwn Gwynedd.
Amlygwyd perfformiad rhagorol gan Veritas
(buddsoddwyr mewn ecwiti ar ran y Gronfa) ynghŷd â pherfformiad da iawn
gan Threadneedle ac UBS (buddsoddwyr mewn eiddo), a dychweliadau eithriadol o
dda gan Partners Group yn 2015/16, wrth i fuddsoddiadau Ecwiti Preifat ddwyn
ffrwyth, wedi buddsoddiad tymor hir gan y Gronfa i’r categori yma.
·
Cyd-fuddsoddi
Adroddwyd bod Llywodraeth
San Steffan wedi penderfynu pŵlio
buddsoddiadau y CPLlL yn hytrach nac uno cronfeydd. Golygai hyn bod Cronfa Bensiwn Gwynedd am
barhau ar wahân i gronfeydd fel Clwyd, Powys, ayb, ond bydd buddsoddiadau yn
cael eu gwneud trwy strwythur cydweithredol. Ategwyd bod yr 8 Cronfa Gymreig
eisoes wedi cychwyn cyd-fuddsoddi.
Cynhaliwyd ymgynghoriad gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth
Leol (“DCLG”) yn mynnu cyflwyniadau gan holl gronfeydd Lloegr a Chymru, yn
esbonio eu cynlluniau cydweithio a’r arbedion y disgwylid i’w cyflawni.
Eglurwyd nad oedd prosiect cydweithio Cymru gyfan (gwerth deuddeg biliwn o
bunnoedd) yn cyrraedd gofynion safonol y Trysorlys o ran maint (pump ar hugain
biliwn), ond cytunodd y Llywodraeth y dylai’r gwaith cydweithio, barhau. Nodwyd bod strwythur llywodraethol y pŵl
yn cael ei ddylunio, a chyfrifoldebau yn cael eu cytuno, cyn i’r strwythur
newydd fod yn weithredol yn 2017. Y
gobaith yw sefydlu cydbwyllgor llywodraethu, gydag un bleidlais arno i bob un
o’r 8 Cronfa.
Bydd y drefn pŵl yn
symud penderfyniadau apwyntio, monitro a therfynu rheolwyr buddsoddi unigol
oddi wrth pob Cronfa. Fodd bynnag, bydd Pwyllgor Pensiynau Gwynedd yn parhau yn
gyfrifol am y strategaeth fuddsoddi, a’r dyraniad asedau rhwng categorïau
ecwiti, eiddo, ayb. sef y gyrrwr mwyaf
arwyddocaol ar ddychweliadau buddsoddi.
Cyhoeddwyd bod gwybodaeth
pellach am y cynlluniau cyd-fuddsoddi ar gael ar wefan y Gronfa.
Sicrhaodd y Cadeirydd bod yr atebolrwydd yn parhau
yn lleol sydd yn galluogi i’r Gronfa ymateb i anghenion yr aelodau. Nododd
mai'r cam nesaf fydd creu Cyd-Bwyllgor Cysgodol. Hyd yma, ategodd bod yr
arwyddion yn galonogol gyda chydweithio buddiol rhwng Cadeiryddion yr 8 Cronfa,
ac arbedion sylweddol eisoes wedi eu cyflawni ar y ffioedd am fuddsoddiadau
ecwiti goddefol.
·
Bwrdd Pensiwn
Adroddwyd bod
cyfansoddiad Bwrdd Pensiwn Cronfa Gwynedd wedi ei sefydlu ym Mawrth 2015 a’r
cyfarfod cyntaf wedi ei gynnal Gorffennaf 2015 (cyfeiriwyd at adroddiad blynyddol y Bwrdd Pensiwn oedd wedi
ei gynnwys yn adroddiad y Gronfa). Eglurwyd bod gan y Bwrdd sylwebydd yn
bresennol yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Pensiynau, tra bod Cadeirydd y Pwyllgor
yn mynychu cyfarfodydd y Bwrdd, er mwyn bod yn atebol am benderfyniadau a
pherfformiad, ochr yn ochr gyda swyddogion y Gronfa.
Ategodd y Cadeirydd ei fod yn croesawu lefel arall
o lywodraethu fydd yn sicrhau'r gorau i’r Gronfa. Cadarnhaodd bod y Bwrdd
Pensiwn yn herio a chraffu penderfyniadau'r Pwyllgor Pensiynau ac eisoes yn
arsylwi cyfarfodydd.
·
Canlyniad y Prisiad
Nodwyd bod canlyniad y
prisiad actiwaraidd teirblynyddol 31 Mawrth 2016 i’w gyhoeddi mewn cyfarfod i’r holl gyflogwyr ar y 10fed o
Dachwedd 2016 lle bydd Actiwari’r Gronfa yn cyflwyno’r canlyniadau. Anogwyd pob
cyflogwr i fynychu’r cyfarfod hwnnw er mwyn deall y broses a’r tybiaethau a
ddefnyddiwyd i gyrraedd cyfraddau cyfraniadau cyflogwyr unigol.
Ategwyd bod yr Uned
Weinyddu wedi bod yn trin data aelodaeth ar gyfer y prisiad dros gyfnod o
fisoedd gydag adnoddau staff y Gronfa wedi cael ei flaenoriaethu er mwyn
sicrhau bod y data yn gywir. Gofynnwyd i’r cyflogwyr barhau i anfon data ei
gweithwyr yn rheolaidd yn y dyfodol, fel bod yr adroddiadau yn fwy cywir.
Gyda sefyllfa pob cyflogwyr
unigol o fewn y Gronfa yn wahanol, yn gyffredinol, dylai cryfder y Gronfa
alluogi i gymryd dull hyblyg tuag at osod lefel cyfraddau cyfraniadau pensiwn
cyflogwyr. Adroddwyd bod y swyddogion a’r actwari yn llwyr ymwybodol fod isafu
unrhyw gynnydd mewn cyfraddau cyfraniadau yn bwysig o ystyried y wasgfa barhaus
ar wariant cyhoeddus.
Y
prif amcan fydd sicrhau bod gan gyflogwyr strategaethau cyfrannu fforddiadwy,
teg, a chynaliadwy ar gyfer 2017/18 – 2019/20, ond bydd rhaid i hynny
adlewyrchu amgylchiadau unigol y cyflogwr.
Adroddwyd bod dwy elfen o fewn cyfraniadau pensiwn cyflogwyr (employer
contributions,
ddim
yr employee contributions).
· Cyfradd y prif gyfraniad, sef “primary
contribution rate”, neu “future service rate”
· Cyfradd cyfrannu ychwanegol, sef “secondary
contribution rate”, neu “deficit
recovery element”
Disgwylir i’r brif gyfradd
ar gyfer ymrwymiadau’r dyfodol gynyddu, oherwydd gostyngiad yn y gyfradd
disgowntio (“discount rate”). Eglurwyd bod yr actiwari yn disgowntio gwerth y
pensiynau fydd yn gorfod talu allan yn y dyfodol er mwyn adnabod gwerth
presennol net (NPV) yr ymrwymiadau rheiny. Ategwyd bod y gyfradd disgowntio yn
gysylltiedig â dychweliadau bondiau’r Llywodraeth. Nodwyd fod y
Llywodraeth wedi gostwng cyfraddau llog i lefel echrydus o isel er mwyn
hybu’r economi. Un effaith o hynny yw bod gwerth presennol ymrwymiadau pensiwn yn uwch, oherwydd llai o
effaith disgowntio.
Er hynny, nodwyd fod
disgwyl gostyngiad yn y gyfradd cyfrannu ar gyfer adfer diffygion hanesyddol,
oherwydd perfformiad gwell na’r disgwyl wrth fuddsoddi ar y farchnad stoc ers
2013, a bod disgwyl i’r “diffyg” hanesyddol leihau eto. Ym mhrisiad 2013, roedd lefel ariannu'r
Gronfa yn 85%, ar gyfer y gronfa gyfan.
Disgwylir i lefel ariannu 2016 wella i tua 91% gyda chanrannau cyflogwyr
unigol yn amrywio o gwmpas y cyfartaledd yma. Yn anffodus, disgwylir i’r
cynnydd yn y prif gyfradd (pwysau’r dyfodol) fod ychydig yn fwy na’r gostyngiad
yn y gyfradd sydd yn adfer y diffyg hanesyddol.
Ni ellid proffwydo lefel
diffygion cyflogwyr unigol, na lefel cyfraniadau. Er hynny, disgwylid y byddai mwyafrif
cyflogwyr y Gronfa yn gallu dygymod gyda’r gwasgedd ar i fyny ar eu cyfraniadau
pensiwn. Amlygwyd bod staff y Gronfa a chyflogwyr wedi gweithio er mwyn sicrhau
bod y wybodaeth ar gyfer y prisiad actiwaraidd mor gywir ac amserol â phosib.
Diolchwyd i bawb
am eu cefnogaeth yn ystod 2015/16 ynghŷd â’u cyfraniadau positif a
chydwybodol yn ystod y flwyddyn
PENDERFYNWYD
DERBYN ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GRONFA
BENSIWN AM 2015/16
Dogfennau ategol: