Aelod Cabinet: Cynghorydd John Wynn Jones
Ystyried Adroddiad
Ymchwiliad Craffu Gorfodaeth Stryd
Cofnod:
a)
Cyflwynwyd adroddiad yr ymchwiliad craffu
Gorfodaeth Stryd i’r Aelod Cabinet John Wynn Jones. Atgoffwyd pawb beth oedd
cefndir y briff a rhoddwyd crynodeb o’r gwaith a wnaed gan y Cynghorydd Angela
Russell (gan fod y Cynghorydd Annwen Daniels, Cadeirydd yr ymchwiliad wedi
gorfod ymadael a’r cyfarfod yn gynnar)
b)
Ategodd yr Aelod Cabinet ei ddiolch i’r aelodau am
eu hymchwiliad trylwyr, ac wedi ymgynghori gyda sawl un, cydnabuwyd bod yr
adroddiad yn adlewyrchiad teg o’r gwaith.
c)
Yn ystod
y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:
·
Bod yr ymchwiliad yn cynnig ymateb creadigol e.e.,
defnyddio cwmni allanol i osod dirywion fel y gall yr uned fewnol ganolbwyntio
ar elfennau megis hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth
·
Awgrym y dylai
busnesau gyfrannu at gynnal a chadw cylchfannau drwy noddi
·
Ymgynghori gydag ysgolion yn allweddol - rhaid
addysgu pobl i warchod yr amgylchedd
·
Cyfleoedd yma i newid diwylliant
ch) Mewn ymateb, derbyniodd yr
Aelod Cabinet yr angen i fod yn greadigol. Adroddwyd bod gwaith codi ymwybyddiaeth
da ac ymgyrchoedd llwyddiannus yn cael ei gwneud gan yr Uned Gorfodaeth. Os
bydd penderfyniad i ddefnyddio cwmni
allanol i osod dirywion, rhaid sicrhau bod pob Cynghorydd yn gefnogol i’r penderfyniad a bod cynllun ymgysylltu,
effeithiol mewn lle.
PENDERFYNWYD derbyn
yr adroddiad, derbyn yr argymhellion
ynddo a cheisio adroddiad yn ôl
gan yr Aelod
Cabinet mewn tua 6 – 9 mis o’r hyn
sydd wedi ei gyflawni yn
dilyn yr argymhellion.
Dogfennau ategol: