Ystyried cais Mr A
(copi
arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
1.
CAIS AM DRWYDDED GYRRU CERBYD HACNI / HURIO PREIFAT (MR A)
a) Cyflwynodd y
Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig
ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat o’r newydd.
b) Ategwyd bod datganiad o gollfarnau wedi ei gyflwyno
a bod y datganiad yn nodi bod
gan yr ymgeisydd gollfarn a oedd yn berthnasol i drwyddedu gyrwyr tacsi. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r cofnod DBS, ac yn unol
â’r canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.
c) Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei
gais ac yn benodol y gollfarn o guro a ddigwyddodd yn 2011 gan nodi mai digwyddiad domestig ydoedd rhwng
ei wraig ag ef. Ni fu i’w wraig gymryd
achos yn ei erbyn ond oherwydd bod y digwyddiad wedi ei weld ar deledu cylch
gyfyng bu i Gwasanaeth Erlyn y Goron cymryd camau yn ei erbyn. Cadarnhaodd wrth y Panel ei fod yn parhau i
fyw gyda’i wraig ac wedi cael dau blentyn, ac un arall ar y ffordd ers y
digwyddiad.
ch) Cyflwynwyd neges e-bost i genfogi cais Mr A gan Arolygydd gyda’r Heddlu ac
yn datgan ei fod wedi
ei adnabod ers dros 20 mlynedd. Mynegodd bod Mr A yn berson disglair,
huawdl a charedig. Roedd ar bob achlysur yn berson call a bod y gollfarn flaenorol yn ddigwyddiad
hollol allan o’i gymeriad. Ni fyddai ganddo unrhyw
bryder i gynnig swydd i Mr A. ac yn dymuno llwyddiant
iddo dderbyn trwydded ar gyfer
gyrru tacsi.
d) Ymatebodd Mr A i nifer o gwestiynau gan Aelodau’r Panel a oedd yn cynnwys
materion am ei waith, rhesymau
pam y cyflwynwyd y cais, a.y.b.
(dd) Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’r Swyddog
Trwyddedu o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor
drafod y cais.
(e) Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y ffactorau canlynol :
·
gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen gais yr
ymgeisydd
·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad
DBS
·
sylwadau llafar
gan yr ymgeisydd
·
e-bost
o gefnogaeth gan Arolygydd gyda’r Heddlu
·
bod gan yr ymgeisydd gollfarnau blaenorol :
- bod y collfarnau
am ddifrod troseddol o 1990 a 1991 wedi digwydd 26 a 25 mlynedd yn ol.
- Bod y gollfarn
am yfed a gyrru yn 1998 wedi
digwydd 16 mlynedd yn ol ynghyd
a’r drosedd am guro wedi
digwydd yn 2011, 51/2
mlynedd yn ol
- Er bod y collfarnau uchod yn rhai
difrifol bu iddynt ddigwydd flynyddoedd yn ol
O dan baragraffau 6.5 a 11.3 o’r
polisi perthnasol, ac o ysytired bod
dros 3 mlynedd wedi mynd heibio
mewn perthynas a phob euogfarn, nad oedd
yr Is-bwyllgor yn ystyried euogfarnau
hyn yn sail
ddigonol dros wrthod y cais.
PENDERFYNWYD
bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio
preifat a chaniatawyd cais Mr A am drwydded hacni/hurio preifat.