I dderbyn
sylwadau aelodau’r Pwyllgor Iaith
Cofnod:
Derbyniwyd y cefndir gan y Swyddog Addysg
Ardal. Nodwyd bod plant Ysgolion Cynradd
wedi eu trochi yn y Siarter Iaith ers tair blynedd a’r bwriad ydi adeiladu ar
hynny. Mae’r gwaith o greu strategaeth
erbyn 31 Mawrth 2017 yn mynd rhagddo, gyda gweithrediad y strategaeth i
ddigwydd o 1 Ebrill 2017 ymlaen.
Croesawyd Carys Lake,
Arweinydd Canolfan Iaith Ysgol Eifionydd i’r cyfarfod ac eglurwyd ei bod yn
gweithio am gyfnod ar gomisiwn i i greu’r strategaeth
ar y cyd â’r Adran Addysg.
Cyflwynodd Arweinydd Canolfan Iaith Ysgol
Eifionydd prif amcanion y Strategaeth Iaith Uwchradd (drafft) a rhoddodd y
cyd-destun lleol i’r gwaith:
•
Adroddiad Trywydd
•
Adroddiad Ymchwiliad
Craffu Addysg Gymraeg
•
Adroddiad Alun Charles
•
Cynllun Strategol
y Gymraeg mewn Addysg
•
Strategaeth Iaith
Gwynedd 2014-17
•
Cynllun Strategol
Y Cyngor
Nodwyd bod yr adroddiadau uchod i gyd yn
nodi bod angen sicrhau dilyniant o’r gwaith gyda’r Gymraeg yn y Cynradd i’r
Uwchradd.
O ran y cyd-destun cenedlaethol ac i
gyrraedd y ‘Miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050’ ac i sicrhau bod y Gymraeg
yn ffynnu rhaid cael yr holl randdeiliaid ynghlwm â’r Cynllun e.e. y staff i gyd.
Nod Strategaeth Iaith Uwchradd yw hyrwyddo
defnydd cymdeithasol plant a phobl ifanc o’r Gymraeg a’i datblygu fel cyfrwng
effeithiol ar gyfer bywyd yr ysgol yn ei holl agweddau. Nodwyd bod dwy elfen i’r nod, sef y cwricwlwm
a chymdeithasol. Mae profiadau mewn
gwersi yn dylanwadu ar yr elfen gymdeithasol.
Y cam nesaf fydd rhoi cyflwyniad i weithgor
o gynrychiolwyr o blith Penaethiaid sydd wedi cyfarfod dwywaith i drafod yr
amcanion drafft. Cytunwyd ar yr wyth
amcan canlynol:
i.
Arweinyddiaeth
a disgwyliadau
ii.
Ethos
iii.
Llais
a pherchnogaeth pobl ifanc
iv.
Anghenion
hyfforddiant
v.
Rôl
yr Adran Iaith a’r Ysgol (arweiniad gan yr Adran Iaith a chael pobl ifanc i
allu gwneud pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg)
vi.
Profiadau cwricwlaidd
vii.
Dysgwyr pontio (troi dysgwyr yn Gymru
i’w galluogi i ddysgu trwy’r Gymraeg)
viii.
Yr
Ysgol a’r Gymuned (cyswllt yr ysgol efo busnesau a’r gymuned)
Adroddwyd y bwriedir defnyddio’r wyth amcan
uchod i osod meini prawf i fonitro llwybrau cynnydd. Bydd y meini prawf yn gofyn am dystiolaeth i
brofi cyrhaeddiad. Adroddwyd bod gwaith
yn mynd ymlaen i osod y meini prawf ynghyd â’r
gofynion tystiolaeth a chydnabuwyd bod angen bod yn uchelgeisiol.
Nodwyd bod Cyngor Gwynedd yn arwain yn y
maes yma a bod gweddill Cymru yn edrych ar beth sydd yn digwydd yma yng Ngwynedd i gael arweiniad ar y ffordd ymlaen. Yn ogystal, nodwyd bod Swyddogion Cyngor yn
cyfarfod Llywodraeth Cymru yn gyson i drafod y ffordd ymlaen.
Derbyniwyd sylw aelod nad oedd yr ysgolion
yn gyfarwydd neu ddim yn adnabod y broblem bod plant a phobl ifanc yn siarad
Saesneg tu allan i’r ysgol. Mewn ymateb adroddwyd
bod angen gweithio efo pobl ifanc i genhadu yn gymdeithasol. Gwnaed y sylw bod Clybiau Chwaraeon yn
greiddiol i’r ateb o gael plant a phobl ifanc yn defnyddio’r Gymraeg yn
gymdeithasol. Nodwyd bod y cyfryngau
cymdeithasol yn her a bod rhaid gwneud y Gymraeg yn berthnasol i waith a
bywydau’r plant a phobl ifanc.
Adroddodd aelod bod angen i bob un ysgol
fabwysiadu cynllun gweithredu.
Diolchwyd i Arweinydd Canolfan Iaith Ysgol
Eifionydd am y cyflwyniad a’r gwaith.
PENDERFYNWYD
nodi cynnwys y cyflwyniad ac ymgorffori’r sylwadau ychwanegol.