skip to main content

Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

Cofnod:

Tywysodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr aelodau drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

·         Bod lleihad bychan yn y nifer o gychod ar yr angorfeydd blynyddol gyda 129 o gychod o gymharu â 142 cwch yn 2015. Nodwyd bod tueddiad i gychod fod yn fwy o ran maint. Roedd 21 cwch wedi gadael yn 2016 gydag 17 cwch newydd wedi angori yn yr Harbwr yn 2016.

·         Nodwyd bod 37 cwch pwer wedi cofrestru yn yr Harbwr yn 2016 sydd yn cymharu gyda 30 a gofrestrwyd yn 2015. Cadarnhawyd bod 31 cwch pŵer wedi ei gofrestru ym Morfa Bychan o gymharu â 14 a gofrestrwyd yn 2015.

·         Ni dderbyniwyd sylwadau o ran y Côd Diogelwch Morwrol yn y cyfnod ers y cyfarfod diwethaf.

·         Bod yr Uwch Swyddog Harbyrau yn adolygu’r côd diogelwch ac y gobeithir y bydd Uwch Arolygydd Gwylwyr y Glannau yn ymweld â’r Cyngor yn fuan yn 2017 i’w archwilio a chyflwyno adborth ar y côd.

·         Fe edrychir ar Is-ddeddfau’r Harbwr yn y Gwanwyn gyda’r bwriad i’w cyflwyno a rhoi mewn grym i gynorthwyo gyda delio efo’r broblem o oryrru. Cyfeiriwyd at ymgyrch Neifion a lansiwyd yn yr haf er mwyn ei gwneud yn haws i bobl gysylltu â’r awdurdodau os ydynt yn amau fod rhywun yn aflonyddu ar fywyd gwyllt y môr a thorri’r Côd Diogelwch Morwrol.

·         Cynhaliwyd archwiliad gan Awdurdod Goleudai Tŷ’r Drindod ar 26 Gorffennaf 2016. Roedd yr adroddiad yn cadarnhau gwelliant yng nghyflwr a lleoliadau’r cymhorthion mordwyo o gymharu ag adroddiadau blaenorol.

·         Gwnaed buddsoddiad sylweddol yng Nghwch y Dwyfor a chadarnhawyd y byddai’n cael ei lleoli ym Mhorthmadog i gynorthwyo gyda chynnal a chadw cymhorthyddion mordwyo yn yr Harbwr.

·         Nid oedd unrhyw rybudd i forwyr mewn grym yn harbwr Porthmadog.

·         Bod cyfnod cyflogaeth Cymhorthydd Harbwr (tymhorol) Porthmadog wedi dod i ben 30 Medi 2016. Nodwyd er sicrhau cefnogaeth a pharhad i’r gwasanaeth ar draws y Sir, roedd cyfnod cyflogaeth Cymhorthion Harbwr Abermaw ac Aberdyfi wedi eu hymestyn hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2016. Eglurwyd y byddai Cymhorthydd Harbwr Abermaw yn cael ei ail leoli i Borthmadog am y cyfnod cychwynnol er sicrhau cymorth ychwanegol ym Mhorthmadog dros fisoedd y gaeaf.

·         Bod cyfnod secondiad yr Harbwr Feistr yn cael ei adolygu’n gyfnodol.

·         Y derbyniwyd ymholiad gan gwmni llongau masnachol yng nghyswllt mewnforio cargo trwm ar gyfer gorsaf bŵer cyfagos ar fwrdd llongau masnachol i Borthmadog. Nodwyd y tynnwyd sylw’r cwmni i’r cymhlethdodau a chadarnhawyd pe byddai penderfyniad i fewnforio, y cwmni a fyddai’n gyfrifol am unrhyw gostau yn gysylltiedig â’r bwriad.

·         Y sefyllfa gyllidebol hyd at ddiwedd Medi 2016, gan nodi na ragwelir y cyrhaeddir y targed incwm ar gyfer y flwyddyn ariannol.

·         Bod y system Teledu Cylch Cyfyng a fuddsoddwyd ynddo er gwarchod eiddo a defnyddwyr yr Harbwr wedi bod o gymorth i’r Heddlu wrth ymchwilio i 3 achos.

·         Fe argymhellir cynyddu ffioedd Harbwr Porthmadog ar gyfer blwyddyn ariannol 2017-18, 2% ar gyfartaledd er cwrdd â her cyllideb a tharged incwm y gwasanaeth. Nodwyd y credir bod y ffioedd dal yn rhesymol o ystyried yr adnoddau yn yr Harbwr a’r buddsoddiad a wneir. Eglurwyd y byddai’r Aelod Cabinet - Economi yn cadarnhau’r ffioedd yn fuan yn 2017.

 

Cyfeiriodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig at achosion lle'r oedd aelodau’r cyhoedd a oedd yn tramwyo ar Fanc y Gogledd ar lanw isel wedi mynd i drafferthion pan fo’r llanw yn dod i mewn. Nodwyd bod ymgais wedi ei wneud i godi ymwybyddiaeth o’r mater gyda thaflenni wedi eu rhannu o amgylch y meysydd carafanau. Eglurwyd bod arwydd yn y fynedfa ac arwyddion yn Ffordd Gwydryn yn nodi’r perygl a pan fo staff y Cyngor yn bresennol y gallent adrodd i’r gwasanaethau brys. Nodwyd y cynhelir adolygiad o’r sefyllfa i sicrhau bod y ddarpariaeth bresennol yn ddigonol. Adroddwyd y derbyniwyd llythyr o ddiolch gan unigolyn a oedd wedi derbyn cymorth gan staff y Cyngor, Gwylwyr y Glannau ynghyd â’r Bad Achub.

 

Rhoddwyd cyfle i Gynrychiolydd Sefydliad y Bâd Achub gyflwyno adroddiad ar y mater. Nododd bod Bad Achub Cricieth wedi achub 11 o unigolion yn yr ardal yma yn ystod y flwyddyn bresennol a’i fod yn bryderus tu hwnt o’r sefyllfa. Tynnodd sylw bod Sefydliad y Bâd Achub wedi cynnal archwiliad o ddiogelwch ardal Portmeirion rhai blynyddoedd yn ôl a bod y gwelliannau a roddwyd mewn lle yn dangos eu gwerth gan mai ond un galwad a dderbyniwyd yn yr ardal yma eleni ac nid oedd unrhyw ddigwyddiad yn ystod 2015. Amlygodd ei bryder nad oedd yr arwyddion yn ardal Banc y Gogledd yn unffurf ac yn safonol. Awgrymodd y dylid gofyn i Sefydliad y Bâd Achub gynnal archwiliad diogelwch yn ardaloedd aber y Glaslyn a Thraeth y Graig Ddu.  

 

Nododd aelodau eu cefnogaeth i gynnal archwiliad diogelwch a chael sgwrs ddilynol i edrych ar sut y gellir gwella’r sefyllfa o fewn yr adnoddau.

 

Nododd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned bod her sylweddol yn amlygu ar yr arfordir o ran cyflawni’r dyletswyddau statudol tu mewn i’r gyllideb. Yn wyneb yr her ariannol bod rhaid cydweithio efo asiantaethau eraill i sicrhau darpariaeth ac fe groesawir cymorth Sefydliad y Bâd Achub i ychwanegu at arbenigedd staff y Cyngor i ddelio efo’r mater. Nodwyd bod yr arwyddion yn yr ardal yma yn cyd-fynd ac arwyddion ar weddill arfordir Gwynedd er sicrhau cysondeb ar draws y Sir. Ychwanegwyd y dylid rhoi ystyriaeth i ddatrysiadau lleol i ymateb i sefyllfaoedd ac i edrych ar rôl endidau eraill.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y byddai’n cysylltu efo Sefydliad y Bâd Achub yng nghyswllt archwiliad diogelwch.

 

Cymerodd y Cadeirydd y cyfle i ddiolch i staff Gwylwyr y Glannau, Bad Achub a’r Cyngor am eu gwaith.

 

Manylodd yr Harbwr Feistr ar y rhaglen waith cynnal a chadw a gofynnwyd i aelodau hysbysu’r gwasanaeth o unrhyw waith arall sydd angen ei wneud. Nododd aelodau eu diolch i’r staff am ymateb mor fuan â phosib pan hysbysir hwy o waith oedd angen ei wneud.

 

Derbyniwyd diweddariad gan Gynrychiolydd Buddiannau Hamdden ar gynllun Clwb Hwylio Porthmadog i osod pontwns ar wal yr Harbwr. Nododd bod astudiaethau dichonoldeb yn parhau ac fe obeithir cadarnhau’r sefyllfa erbyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor Ymgynghorol. Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, nododd y cynrychiolydd bod gwaith i’w gwblhau cyn y gellir ymgynghori a defnyddwyr eraill yr Harbwr.

 

Dogfennau ategol: