Cyflwyno adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.
Cofnod:
Tywysodd y
Swyddog
·
Bod 58 cwch wedi angori yn yr Harbwr allanol, gyda
18 cwch wedi manteisio ar y cyfle i angori ar bontŵn Plas Heli. Cyflwynwyd
y cynnig yma dros dro oherwydd
ansicrwydd o ran cyflwr angorfeydd yn Ardal 5 a 6. Ar y cyfan golygai
hyn bod cyfanswm o 83 cwch wedi angori yn 2016 o gymharu â 87 cwch yn 2015.
·
Cadarnhawyd bod 287 cwch ar angorfa pontŵn
blynyddol yn yr Hafan, sef 68% o’r cyfanswm nifer angorfeydd pontŵn sydd
ar gael. Roedd hyn yn cymharu gyda 292 cwch a fu ar angorfa pontŵn yn 2015.
·
Gofynnir i aelodau dynnu
sylw’r Gwasanaeth i faterion yng nghyswllt y Côd Diogelwch Morwrol.
·
Bod yr Uwch Swyddog
Harbyrau yn adolygu’r côd diogelwch ac y bydd Uwch Arolygydd Gwylwyr y Glannau
yn ymweld â’r Cyngor yn mis Chwefror 2017 i’w archwilio ac i gyflwyno adborth
ar y côd.
·
Bod y Gwasanaeth yn
parhau i ddatblygu Mesuryddion Perfformiad mewn perthynas â rheolaeth yr
harbyrau. Cylchredir y mesuryddion i sylw’r aelodau ac y gobeithir y gallai’r
aelodau gyfrannu at y mesuryddion yn ystod 2017-18.
·
Cynhaliwyd archwiliad
gan Awdurdod Goleudai Tŷ’r Drindod ar 26 Gorffennaf 2016. Roedd adroddiad
2016 yn cadarnhau gwelliant yng nghyflwr a lleoliadau cymhorthion mordwyo
harbyrau yng Ngwynedd.
·
Bod cymhorthydd mordwyo
‘Hafan y Môr’ yn parhau i fod oddi ar ei safle. Nodwyd er nad oedd y Cyngor yn
gyfrifol am y cymhorthydd bod y Cyngor efo cyfrifoldeb i sicrhau bod perchennog
y cymhorthydd yn cydymffurfio efo gofynion Tŷ’r Drindod. Roedd y
Gwasanaeth wedi gohebu efo rheolwyr Hafan y Môr yn nodi’r gofyn i ail leoli’r
cymhorthydd ar ei safle fel mater brys.
·
Yn dilyn ymgynghori gyda’r Pwyllgor Ymgynghorol,
gweithredwyd ar fân welliannau i osodiad bwiau parth cyflymder uchaf ardal
Glandon ac yn ystod tymor yr haf gosodwyd bwiau ychwanegol gan fod cychod
pŵer yn tramwyo yn agos at y lan ar gyflymder uchel ar adegau. Nodwyd er
cwblhau man welliannau y derbyniwyd sawl cwyn gan y cyhoedd o ran cychod
pŵer yn mordwyo ar gyflymder uchel yn yr ardal. Roedd y Gwasanaeth wedi
adnabod y cwch ac fe anfonwyd llythyr o rybudd i’r perchennog.
·
Manylwyd ar sefyllfa
gyllidebol yr Harbwr a’r Hafan hyd at ddiwedd Medi 2016.
Cyfeiriwyd at Ardal 5 a 6 gan nodi'r angen i
gynllunio gwaith sylweddol ar yr angorfeydd oherwydd bod llaid wedi cronni yn
yr ardal gyda banciau yn cynyddu. Nodwyd bod nifer o gwsmeriaid a angorwyd yn
Ardal 5 a 6 yn 2015 wedi manteisio ar y cyfle i angori ar angorfeydd
pontŵn Plas Heli yn ystod 2016 a diolchwyd i Blas Heli am eu
cydweithrediad.
Adroddwyd y derbyniwyd dyfynbris o oddeutu
£8,000 (ar yr offer yn unig) yng nghyswllt tynnu’r holl angorfeydd presennol
allan o Ardal 5 a 6 gan ail osod un rhes o angorfeydd ar y llinell fwyaf
ffafriol, gan adael y cadwyni presennol a allai effeithio yn y dyfodol os
dymunir carthu. Eglurwyd yn yr hirdymor yr ystyrir carthu er mwyn cynyddu
capasiti ond nid oedd hyn yn gynllun posib ar hyn o bryd. Nodwyd bod y
Gwasanaeth yn deall bod pobl leol yn awyddus i aros yn yr ardal yma ond nid
oedd yn gost effeithiol ar hyn o bryd i barhau â’r sefyllfa bresennol.
Nododd cynrychiolydd Cymdeithas Perchnogion Cychod Pwllheli a’r Cylch bod angen gwell dêl ar
gyfer bobl leol a’i bryder os parheir efo’r drefn o roi cychod ar bontŵn
Plas Heli y byddai disgwyl bod y cychod lleol yn cael eu symud pan gynhelir
digwyddiadau.
Nododd Cynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli a
Phlas Heli y byddai gadael y cadwyni presennol yn rheswm i beidio carthu’r
ardal yma. Tynnodd aelod sylw nad oedd yr ardal yma wedi ei gynnwys yn y
Strategaeth Garthu presennol.
Mewn ymateb i sylwadau’r aelodau, nododd y
Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y derbynnir bod angen angorfeydd yn yr ardal
ac fe geisir dod i ddatrysiad a fyddai’n dderbyniol i bobl leol ynghyd â’r
Cyngor. Cytunwyd y byddai’r swyddog yn sicrhau bod un rhes o angorfeydd ar gael
yn ardal 5 a 6 ar gyfer 2017.
Manylodd Rheolwr
Harbwr Pwllheli ar y rhaglen waith cynnal a chadw a gofynnwyd i aelodau
hysbysu’r gwasanaeth o unrhyw waith arall sydd angen ei wneud.
Mewn ymateb i
bryder Cynrychiolydd Sefydliad y Bâd Achub o ran cryfder golau bwi’r Fairway,
nododd Rheolwr Harbwr Pwllheli y byddai’n edrych ar gryfder y golau.
Nodwyd bod y Gwasanaeth yn wyneb yr her
ariannol yn adolygu trefn goruchwyliaeth diogelwch a goruchwyliaeth nos. Nododd
cynrychiolydd Cymdeithas Cychod Hafan Pwllheli ei bryder
gwirioneddol y byddai risgiau iechyd a diogelwch ynghyd â risg o gynnydd mewn
trosedd os nad oedd goruchwyliaeth 24/7.
Rhoddwyd diweddariad ar y gwaith a gwblhawyd
yn unol â’r Strategaeth Carthu hyd yma, gan nodi bod y gwaith a wnaed gan y
‘bed leveller’ wedi bod yn llwyddiannus. Hysbyswyd y cwblheir gwaith carthu ceg
yr harbwr erbyn gwyliau Pasg 2017. Nodwyd yr angen i wneud arolwg hydrograffeg
o’r basn ar sianel i gadarnhau’r lefelau. Adroddwyd y lluniwyd briff i
Ymgynghoriaeth Gwynedd o ran costio gwaith i ddychwelyd y forddwyd i’w ffurf
flaenorol. Nodwyd y byddai costau sylweddol ynghlwm a chynyddu maint y forddwyd
oherwydd y trwyddedau a fyddai’n rhaid eu derbyn o dan reoliadau cynefinoedd i
weithredu.
Nododd
Cynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli a Phlas Heli ei obaith y gweithredir yn unol
â’r Strategaeth Garthu a’i farn y byddai ymestyn y forddwyd, er yn gostus, yn
golygu llai o waith carthu yn y dyfodol a’i bryder os na weithredir y
strategaeth y byddai incwm yn gostwng o’r herwydd. Ychwanegodd y dylid parhau i
ddefnyddio peiriant carthu math ‘cuttersuction’ er mwyn gwella dyfnder dwr yn y
sianel a basn yr Hafan.
Nododd yr aelodau
bod angen gweithredu y strategaeth garthu er osgoi dirywiad yn y dyfodol a
fyddai’n effeithio ar incwm yr Harbwr a’r Hafan ynghyd â’r ardal yn
gyffredinol.
PENDERFYNWYD gofyn am gadarnhad y bydd y Cyngor yn
gweithredu yn unol â’r Strategaeth Garthu.
Talwyd teyrnged i’r diweddar Mr Tony Hughes
a fu’n gyflogedig i’r Cyngor ers sawl blwyddyn yn dilyn cyfnod gyrfa
llwyddiannus gyda’r Llynges Frenhinol.
Adroddwyd y bwriedir argymell cynyddu
ffioedd yr Harbwr rhwng 0.5% a 1%, a’r Hafan 1% ar gyfer 2017/18. Nodwyd y
gwneir cais i’r Adran Gyllid i bontio gorwariant yr Hafan yn y flwyddyn
ariannol gyfredol ynghyd â chais i ail-edrych ar y targed incwm.
Nododd cynrychiolydd Cymdeithas Perchnogion
Cychod Pwllheli a’r Cylch y byddai cynyddu’r ffioedd fel y nodwyd yn dderbyniol
pe buddsoddir yn yr Harbwr a’r Hafan.
Nodwyd bod 2 drefn o ran ffioedd yn yr
Hafan, gyda trefn hanesyddol lle mae rhai cwsmeriaid yn talu at Uchafswm Hyd
Cwch (LOA) a cwsmeriaid mwy diweddar yn talu uchafswm gwerth yr angorfa pontwn
ar drefn ‘bandio’. Ystyrir unioni’r drefn ffioedd gan ddefnyddio trefniant LOA
yn unig ar gyfer yr Hafan. Tynnwyd sylw y byddai unioni’r drefn ffioedd yn
golygu lleihad o oddeutu £53,000 yn yr incwm a dderbynia’r Cyngor.
Nododd aelodau eu cefnogaeth unfrydol i
unioni’r drefn ffioedd yn yr Hafan gan nodi y byddai’r newid yn denu unigolion
i ddod a’u cychod i’r Hafan.
PENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor unioni’r drefn
ffioedd yn yr Hafan a defnyddio trefniant codi ffi LOA yn unig.
Cyfeiriodd Cynrychiolydd Cymdeithas
Perchnogion Cychod Pwllheli a’r Cylch at achosion o oryrru drwy’r Harbwr a
nododd yr angen i edrych ar sut y gellir rheoli’r sefyllfa. Mewn ymateb, nododd
y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y byddai’n siarad efo’r cwmni a oedd yn cynorthwyo gyda rheolaeth y
llithrfa, ac fe ellir ystyried ffocysu un o’r camerâu teledu cylch cyfyng ar y
sianel.
Ychwanegodd Cynrychiolydd Cymdeithas
Perchnogion Cychod Pwllheli a’r Cylch yr angen i roi mwy o wybodaeth i
ddefnyddwyr i dynnu sylw mai 4 knots yw’r cyflymdra uchaf yn y rhan yma ac fe
ddylid ystyried gosod y cyflymdra uchaf ar yr arwydd a roi’r ar y cychod.
Dogfennau ategol: