Cais diwygiedig - adeiladu pwll nofio awyr agored, ystafell beiriannau i'r
pwll nofio ynghyd a strwythyr cegin haf yn cynnwys popty pizza a bbq gyda
echdynnydd mecanyddol, terasau, thirlunio a ffens derfyn
AELOD LLEOL: Cynghorydd R H Wyn Williams
Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol
Cofnod:
Cais diwygiedig - adeiladu pwll nofio awyr
agored, ystafell beiriannau i’r pwll nofio ynghyd a
strwythur cegin haf yn cynnwys popty Pizza a bbq
gydag echdynnydd mecanyddol, terasau, thirlunio a ffens derfyn.
(a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y
cais gan nodi bod cais blaenorol wedi ei wrthod a chyflwynwyd cais diwygiedig
ar gyfer adeiladu pwll nofio awyr agored, ystafell
beiriannau i’r pwll nofio, pwmp gwres ynghyd a
strwythur cegin haf yn cynnwys popty “pizza a bbq” a gwaith tirlunio yng nghefn yr ardd. Nodwyd bod y safle ar lain cornel gyda thai
preswyl cyfagos a’i fod o fewn ffin ddatblygu Abersoch.
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr yn nodi
bod cynllun diwygiedig wedi ei dderbyn sy’n dangos gwelliannau priffyrdd i
gornel Lon Engan na chyflwynwyd gyda’r cais yn
wreiddiol mewn ymgais i wella gwelededd y ffordd ar gyfer holl ddefnyddwyr y
ffordd ac nid yn unig yr eiddo hwn. Nodwyd bod yr ymatebion i’r ymgynghoriad
wedi eu nodi yn yr adroddiad a thynnwyd sylw penodol at y gwrthwynebiadau sydd
wedi eu derbyn.
Nodwyd bod y gardd yn eithaf helaeth ac ystyrir bod maint yr adeilad a gynigir yn dderbyniol o safbwynt maint y cwrtil yn ei
gyfanrwydd. Yn yr un modd, cadarnhawyd
bod maint y pwll nofio yn dderbyniol. Ni ystyrir y byddai unrhyw effaith ar yr AHNE
gan y byddai’r datblygiadau wedi eu suddo i’r tirwedd.
Gwrthodwyd y cais blaenorol oherwydd pryderon
mwynderau tai cyfagos ond ystyrir bod y cais diwygiedig yn welliant a’r
pryderon wedi eu goresgyn. Derbyniwyd pryder gan gymdogion ynglyn
a lleoliad y teras, y pwll nofio ac adeilad mor agos
iddynt ond gan fod y rhain wedi eu lleoli ar hyd y ffin byddai’n anodd ei
wrthod ar sail effaith ar fwynderau preswyl cyfagos a chyfeiriwyd at y manylion
llawn ym mharagraffau 5.6 i 5.8 o’r adroddiad.
Ystyrir bod y gwrthwynebiadau wedi derbyn
ystyriaeth lawn a’r pryderon wedi eu goresgyn a bod y cais yn cydymffurfio a’r polisiau perthnasol ac felly argymhellwyd i’w ganiatáu yn
unol ag amodau perthnasol ynghyd ag amod
ychwanegol gan yr Adran Briffyrdd er sicrhau gwella’r gwelededd.
(b) Nododd yr aelod lleol (nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) y prif bwyntiau
canlynol:
·
Yn dilyn derbyn y cynllun diwygiedig a’r newidiadau i
wella gwelededd a diogelwch i’r gornel bod rhai o’r pryderon wedi eu goresgyn a
hyderir y bydd y gwelliant hwn yn cael ei gwblhau’n fuan
·
Gofynnwyd a fyddai modd sicrhau
bod y ffens derfyn yn un cadarn ac yn ogystal rhoi
amod i gyfyngu defnydd o gerddoriaeth hyd at 11.00 p.m. er sicrhau mwynderau preswylwyr a chymdogion cyfagos
(c) Mewn ymateb, esboniodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu nad oedd yn bosibl
gosod amodau o’r math uchod ynglyn a defnydd
cerddoriaeth oherwydd bod gan unigolion hawl i ddefnyddio gardd
i gymdeithasu. Pwysleisiwyd nad oedd y ty yn enfawr a phe byddai pryder o aflonyddwch / niwsans yn
codi byddai modd ymdrin â’r pryder bryd hynny.
Penderfynwyd: Caniatáu yn unol â’r amodau canlynol:
1. 5 mlynedd
2. Unol a’r cynlluniau
3. Llechi
4. Gorffeniad i gydweddu’r tŷ
5. Tirlunio yn y tymor plannu nesaf
6. Gwaith gwelliannau priffyrdd i’w
cwblhau cyn dechrau ar unrhyw waith pellach sy’n destun y caniatâd hwn
7. Unrhyw amodau Priffyrdd perthnasol sy’n
seiliedig ar y cynllun diwygiedig
8. Cytuno ar y math o ffens, yr amserlen
ar gyfer ei gosod, a’i gadw felly wedi hynny
Dogfennau ategol: