I dderbyn adroddiad gan Mr Sam Hadley a Mr Mark Peters, Network Rail.
(Copi’n amgaeedig)
Cofnod:
Croesawyd Mr Sam Hadley, Rheolwr Materion Cyhoeddus Llwybrau Cymru a Mr Mark Peters, Peiriannydd
Asedau i'r cyfarfod.
Roedd Mr Mark Peters wedi paratoi cyflwyniad
ar Draphont Abermaw ar ffurf
sleidiau ond yn anffodus nid
oedd yr offer angenrheidiol ar gael ac felly addawodd y byddai'n anfon y cyflwyniad i'r Swyddog Cefnogi Aelodau iddi hithau ei
anfon ymlaen i aelodau'r Pwyllgor.
Aeth yn
ei flaen i ddatgan fod y trenau
yn rhedeg ers y tân diweddar
ar Draphont Abermaw a hyderai mai dim ond ychydig
o waith adfer oedd ar ôl
i'w orffen ac y bydd hyn yn
cael ei wneud
cyn gynted â phosib.
Dywedodd Swyddog
Partneriaeth Rheilffyrdd y
Cambrian y byddai'r draphont
yn dathlu 150 mlynedd y flwyddyn nesaf ac roedd yn awyddus i wybod
am raglen y gwaith datblygu ar y draphont
a'r amserlen i gael gwybod am faint o amser na fyddai
modd ei defnyddio. Gofynnodd hefyd i Network Rail i fod yn ystyriol gan
leihau unrhyw darfu cymaint ag oedd yn bosib
yn ystod y tymor gwyliau prysur,
gan fod yr
ardal yn dibynnu yn llawer
iawn ar dwristiaeth.
Fel rhan
o'r dathliadau pen-blwydd, awgrymwyd y dylid dangos ffilm
enwog a chyffrous 'Ghost
Train' ac awgrymodd Mr Ben Davies, Trenau Arriva Cymru, hefyd y gellid defnyddio hanner un o'r trenau fel
sinema i ddangos y ffilm.
I ateb yr uchod, dywedodd
Mr Sam Hadley fod Siân
Lewis, oedd yn bresennol yn y cyfarfod diwethaf, bellach ddim yn
swyddog noddi i'r Cynllun Noddi
Masnachol (Network Rail) ac y bydd
yna noddwr newydd. Ychwanegodd hefyd y bydd Network Rail eisiau cymryd rhan yn
y dathliadau a bydd yn cyfrannu ato. Addawodd Mr Hadley
cyn gynted ag y byddai gwybodaeth ar gael, byddai
yn rhoi gwybod
i'r Swyddog Cefnogi Aelodau fel ei bod hithau
yn rhoi gwybod
i aelodau'r Pwyllgor.
Dywedodd aelod
ei fod yn
ymwybodol y byddai'r dathliad 150 mlynedd yn digwydd ym
mis Hydref er mwyn peidio â gwrthdaro
gyda Ras y Tri Chopa a gynhelir yn flynyddol ym
mis Mehefin.
I ateb y pryderon a godwyd, sicrhaodd Mr Hadley Aelodau'r Pwyllgor:
·
nad oedd gan Network Rail unrhyw fwriad i gau'r lein, er bod pobl
leol yn bryderus
y byddai'n cau ac roedd yn sylweddoli
pa mor werthfawr ydoedd i'r gymuned
·
na fyddai dim yn tarfu ar
y dathliad 150 mlynedd o
ran gwaith amddiffyn rhag y môr
·
na fyddai'r gwaith ychwanegol i wyneb y graig yn
Llanaber yn effeithio ar lein
y rheilffordd o gwbl a chafwyd sicrwydd y byddai'r peiriannau angenrheidiol yn mynd at y man gwaith o'r traeth.
I ateb cais Aelod Seneddol
Dwyfor/Meirionnydd am ragor
o wybodaeth am geisiadau cynllunio, dylunio ac ati ar Draphont
Abermaw, dywedodd Mr Hadley
nad oedd unrhyw eglurder ar y mater yma ond fe fyddai
yn ysgrifennu i ddiweddaru'r AS ac aelodau'r Pwyllgor hwn cyn
gynted ag y byddai wedi derbyn yr
wybodaeth.
Nododd yr
aelodau hefyd pan fo'r gwaith yn
cael ei ymgymryd:
·
Y
dylai Network Rail/Trenau
Arriva gyd-gysylltu i gael dau gerbyd ychwanegol
ar y trên o Abermaw i Bwllheli
·
Dylai Network Rail gyd-gysylltu
gydag Adran Priffyrdd Gwynedd am ffordd brysur yr A496 rhwng Abermaw a Dolgellau gan fod nifer
o ddamweiniau wedi digwydd arni a olygai fod yn
rhaid gwyro cerbydau drwy Faentwrog.
Dywedodd Mr Ben Davies, Trenau Arriva, os fyddai'r gwaith atgyweirio yn waith
tymor hir yna byddai'n achosi
problemau gan fod yn rhaid
i drenau gael eu harchwilio yn
unol â'r canllawiau diogelwch safonol bob tair wythnos.
Aeth Mr Hadley yn ei flaen
i nodi'r isod:
·
Roedd Mr Andy Thomas wedi
ei benodi i swydd Rheolwr Gyfarwyddwr
Llwybrau Cymru a'i flaenoriaeth oedd sicrhau bod Llwybrau Cymru'n cyflawni blaenoriaethau cynrychiolwyr etholedig a'r cymunedau maent
yn eu cynrychioli.
·
Diweddariad ar groesfannau rheilffordd
·
Rheilffyrdd Cymunedol
Yn ystod
y drafodaeth ddilynol, codwyd y materion isod gan yr
Aelodau:
(a)
Pryder a chwynion a dderbyniwyd am drafferthion a'r diffyg llefydd
parcio yng Ngorsaf Machynlleth gyda theithwyr yn gorfod gyrru
ymlaen i Gaersws
Wrth ymateb,
dywedodd Mr Sam Hadley bod y lifftiau
wedi eu comisiynu
yng Ngorsaf Machynlleth ac roeddent yn hollol hygyrch
ond roedd materion angen eu cwblhau yn
y bloc toiled. O ran y maes parcio, addawodd
Mr Hadley i drafod y mater gyda
Mr Ben Davies, Trenau Arriva Cymru,
ond nododd y byddai unrhyw welliannau
oedd yn fwy
ac uwchben yr hyn a ystyrid yn
waith gwella gorsaf, angen arian
trydydd parti.
Ychwanegodd Mr Rhydian Mason ei fod fel
rhan o'i waith fel swyddog
datblygu i'r lein rheilffordd yn ymgynghori gyda
Chyngor Sir Powys gan edrych ar amryfal
opsiynau i greu cyfnewidfa gorsaf reilffordd drwy gael gwell gosodiad,
creu cylch troi i fysiau a maes parcio gwell. Roedd tir a fedrai fod
ar gael ac y gellid ei ddefnyddio
wedyn i ddyblu maint y maes parcio. Y gobaith oedd y gellid fod
wedi cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru eleni, ond
yn anffodus roedd y cais yn
bell o fod yn barod gan fod
materion ar ôl gyda draenio
a rhai materion eraill oedd angen
eu goresgyn. Er y gwerthfawrogwyd fod y sefyllfa fel yr
oedd yn bell o fod yn ddelfrydol,
sicrhawyd y byddai newidiadau mawr ymhen amser ac y byddai cynllun cyfnewidfa ystyrlon a thrawiadol ym Machynlleth.
Yn y cyfamser,
cytunodd Mr Ben Davies i ymgynghori
gyda Rheolwr Gorsaf Machynlleth i osod arwyddion yn y maes parcio
i ddatgan mai dim ond defnyddwyr y rheilffordd a ddylai ei ddefnyddio.
(b)
Tynnwyd sylw’r swyddogion fod maes parcio Fairbourne
mewn cyflwr gwael ac angen ei dacluso.
Wrth ateb,
cytunodd Mr Sam Hadley a Mr Ben Davies i holi pwy oedd
yn gyfrifol am y maes parcio uchod.
(c) I ateb pryder y Cyng. Dewi Owen am Gyffordd Dyfi, dywedodd Mr Hadley ei fod yn gyfarwydd
gyda'r trafferthion ac roedd wedi trafod
hyn gyda’r Cyngor Cymuned, ac yn ôl yr
hyn a ddeallai roedd y giât mynediad
i gerbydau bellach wedi ei chloi. Os fyddai rhagor o wybodaeth am hyn byddai yn cael
ei anfon ymlaen.
Penderfynwyd: (a) Nodi’r adroddiad
a'r sylwadau uchod.
(b) Gwahodd Mr Andy
Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr
Llwybrau Cymru, i gyfarfod y Pwyllgor yn y gwanwyn.
(c)
Bod Mr Sam Hadley yn diweddaru'r
aelodau ar y materion isod cyn
gynted ag yr oedd yr wybodaeth
i law:
·
Traphont Abermaw o ran noddwr
newydd, manylion cais cynllunio,
·
Trafferthion parcio yng Ngorsaf Machynlleth
·
Perchnogaeth maes parcio Fairbourne a'r angen i'w dacluso
·
Cyffordd Dyfi
Dogfennau ategol: