Y
LLANGOLLEN, STRYD FAWR, BETHESDA, GWYNEDD, LL57 3AN
I ystyried y cais uchod
Cofnod:
Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb
oedd yn bresennol a chyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 10 munud i gyflwyno
sylwadau uniongyrchol ar y cais.
Ar ran yr eiddo: Mr
Joseph Barrett (ymgeisydd)
Aelod Lleol: Cynghorydd Ann Williams (Ogwen)
a) Adroddiad ac argymhelliad yr Adain Trwyddedu
Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo o’r newydd ar
gyfer Y Llangollen, Bethesda mewn perthynas â chyflenwi alcohol a chwarae
cerddoriaeth wedi ei recordio ar yr eiddo.
Amlygwyd bod gan
yr eiddo drwydded yn y gorffennol, ac fe ildiwyd y drwydded gan Punch Taverns (y perchnogion ar y
pryd) yn mis Tachwedd 2015. Yn flaenorol, roedd y gweithgareddau trwyddedig yn
cynnwys cerddoriaeth fyw yn ogystal â cherddoriaeth wedi ei recordio.
Tynnwyd sylw at
fanylion yr oriau arfaethedig yn yr adroddiad ynghyd a chymhariaeth y
gweithgareddau trwyddedig i’r drwydded flaenorol.
Nodwyd bod gan
Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei
gyflwyno yn unol â gofynion y Ddeddf Drwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.
Cyfeiriwyd at y
mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu
ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Nodwyd bod yr
Aelod Lleol a Chyngor Tref Bethesda yn
gefnogol i’r cais, ond bod deunaw llythyr wedi eu derbyn yn gwrthwynebu’r cais
ar sail yr amcanion trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus ac atal trosedd ac
anrhefn. Amlygwyd bod yr holl wrthwynebwyr yn cyfeirio sail eu pryderon at
ymddygiad gwrthgymdeithasol cwsmeriaid a materion niwsans cyhoeddus megis
sŵn a sbwriel, gan nodi bod llawer o broblemau wedi codi yn y gorffennol
pan roedd yr eiddo o dan berchnogaeth a rheolaeth eraill.
b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r
ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr
Trwyddedu.
·
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais
·
Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau
·
Gwahoddwyd deilydd y
drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau
·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn
cwestiynau i ddeilydd y drwydded.
·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn
cwestiynau i’r ymgynghorai
c)
Wrth ymhelaethu ar y cais nododd yr ymgeisydd ei
fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei
gyflwyno ac ategodd y sylwadau canlynol:
·
Bod problemau hanesyddol gyda’r sefydliad dros y 5
mlynedd diwethaf
·
Ei fod wedi buddsoddi a chanolbwyntio ar newid
rhagolygon y sefydliad drwy adnewyddu ac ailddodrefnu’r dafarn a symud y
byrddau pwl, y bwrdd dartiau a’r jiwc bocs oddi ar yr
eiddo er mwyn creu bwyty.
·
Bydd 10 aelod o staff yn cael eu cyflogi (lleol)
·
Bod yr oriau cau yn caniatáu i’r eiddo reoli
ymadawiad trefnus o bobl fel nad oes criw yn cronni ar y stryd ar ddiwedd noson
·
Bod bwriad creu 8 ystafell wely gydag ystafell
ymolchi yr un uwchben yr eiddo fel gwesty -
hyn yn creu 4 swydd rhan amser ychwanegol
ch) Mewn ymateb i gwestiwn,
cadarnhaodd yr ymgeisydd ei fod wedi cytuno i argymhellion yr Heddlu a bod
camerâu cylch cyfyng ynghyd ac offer recordio priodol wedi ei osod yn yr eiddo.
Ynglŷn ar ardal ysmygu, nododd bod cyntedd yn cael ei adeiladu ar gefn yr
adeilad i leihau sŵn wrth fynd i mewn ac allan i’r ardal ysmygu. Nodwyd
hefyd bod y blychau llwch hefyd wedi eu huwchraddio ac nad oedd unrhyw
gynlluniau i ymestyn yr ardal ysmygu.
d)
Yn manteisio ar ei hawl i siarad, nododd y Cynghorydd Ann Williams (Aelod Lleol a
chynrychiolydd Cyngor Cymuned Bethesda) y sylwadau canlynol:
·
Mai'r bwriad oedd creu bwyty fyddai yn anelu at
gwsmer gwahanol i gwsmer tafarn
·
Nad oedd bwriad chwarae cerddoriaeth fyw -
cerddoriaeth cefndir yn unig (llai o sŵn)
·
Gwir angen busnesau ar Stryd Fawr Bethesda
·
Y Llangollen yn ased i’r Stryd Fawr
·
Dim cwynion wedi eu derbyn gan yr Aelod Lleol na
Chyngor Cymuned
·
Buddsoddiad sylweddol wedi cael ei wneud i’r fenter
·
Cefnogol iawn i’r fenter
dd)
Cydnabuwyd y
llythyrau a dderbyniwyd o’r cyfnod ymgynghori
Wrth amlygu
absenoldeb gwrthwynebwyr y cais, gofynnodd y Cadeirydd i’r Rheolwr Trwyddedu
gadarnhau os oedd y gwrthwynebwyr wedi derbyn llythyr yn nodi dyddiad ac amser
y gwrandawiad. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Rheolwr Trwyddedu bod llythyr wedi ei
anfon at bob gwrthwynebydd gyda thystiolaeth yn cefnogi hyn.
Mynegwyd siom nad
oedd y gwrthwynebwyr yn bresennol i fynegi eu sylwadau ac i ymateb i gwestiynau
gan yr Is Bwyllgor. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â ffurf y
gwrthwynebiadau, hynny yw bod cynnwys a ffurf pob llythyr yn gyson, amlygodd y
Cyfreithiwr nad oedd gwaharddiad i gyflwyno deiseb, ond bod rhaid i’r Is Bwyllgor ystyried sylwedd y
dystiolaeth oedd yn cael ei gyflwyno.
Mewn ymateb i
gwestiwn, nododd yr Aelod Lleol ei bod wedi darllen y gwrthwynebiadau a
chadarnhaodd bod un o’r gwrthwynebwyr wedi ei ffonio yn pryderu am yr oriau
cau. Ynglŷn â sylw at ganiau cwrw, amlygodd nad oedd caniau cwrw yn cael
eu gwerthu yn Y Llangollen.
e) Wrth grynhoi ei
gais, nododd yr ymgeisydd mai cynnal bwyty oedd y prif nòd - rhedeg yr eiddo fel tafarn wledig gyda bwyty
ac ystafelloedd preswyl, ac nid annog pobl i ddod yno i yfed. Cadarnhaodd hefyd
mai ef oedd perchennog y dafarn drws nesaf.
f)
Wrth ystyried y cais ystyriwyd yr holl dystiolaeth
a gyflwynwyd. Rhoddwyd sylw penodol i
egwyddorion Deddf Trwyddedu 2003
• Trosedd ac Anhrefn
• Diogelwch y Cyhoedd
• Rhwystro Niwsans Cyhoeddus
• Amddiffyn Plant rhag Niwed
ynghyd â chanllawiau’r Swyddfa Gartref a
pholisi trwyddedu’r Cyngor.
PENDERFYNWYD
caniatáu y cais yn ddarostyngedig
i argymhellion yr Heddlu
Rhoddwyd y
drwydded fel a ganlyn:
1.
Gweithgareddau trwyddedig ac oriau yn unol â’r cais
2.
Bod y materion oedd wedi eu cynnwys yn rhan M o’r
cais yn cael eu hymgorffori fel amodau ar y drwydded
3.
Ychwanegu'r amodau a argymhellwyd gan yr Heddlu
mewn perthynas â theledu cylch cyfyng i’r drwydded.
Rhoddodd yr
Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i sylwadau partïon â diddordeb oedd yn byw yn
Stryd Glanrafon a Stryd Fawr Bethesda. Roedd y trigolion yn codi pryderon am
ardrawiad posib caniatáu’r drwydded, ar ymddygiad meddw, gwrthgymdeithasol,
sbwriel a sŵn. Derbyniwyd bod
pryderon o’r fath yn berthnasol i bob un o’r pedwar amcan trwyddedu, ond ni
chafodd yr Is-bwyllgor unrhyw fanylion o ddigwyddiadau / problemau yn y
gorffennol o ran dyddiadau, amser, natur, amledd ayyb o’r cyfnod yr oedd gan yr
eiddo drwydded. Heb wybodaeth o’r fath nid oedd modd i’r Is-bwyllgor benderfynu
a fyddai rhoi’r drwydded yn debygol o arwain at ragor o broblemau fyddai’n
tanseilio’r amcanion trwyddedu.
Nododd yr
Is-bwyllgor bod sylwadau’r gwrthwynebwyr yn dilyn yr un ffurf, gan godi amheuon
a oedd y sylwadau yn rhai dilys neu yn ddeiseb neu ymgyrch wedi ei deilwra fel
cyfres o sylwadau. Gan nad oedd presenoldeb y partïon â diddordeb yn y
gwrandawiad i ymhelaethu ar eu pryderon, teimlodd yr Is-bwyllgor mai ychydig
iawn o bwysau y gellid ei briodoli i’r sylwadau hyn.
Yn gryno roedd yr
Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais, ynghyd â’r amodau
teledu cylch cyfyng a argymhellwyd gan yr Heddlu yn gydnaws â’r
amcanion trwyddedu.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn
ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn bresennol. Hysbysebwyd hefyd o’u hawl i
apelio i’r dyfarniad o fewn 21 diwrnod o dderbyn y llythyr hwnnw.
Dogfennau ategol: