skip to main content

Agenda item

I gyflwyno adroddiad y Swyddog Addysg Ardal Gwynedd

Cofnod:

2.       CYNLLUN STRATEGOL Y GYMRAEG MEWN ADDYSG - DRAFFT

 

Diolchodd y Swyddog Addysg Ardal am y cyfle i drafod ymhellach y drafft o’r Cynllun yn ystod y cyfnod ymgynghori.  Eglurwyd bod y Pennaeth Addysg wedi gweithio’n agos gyda’r swyddogion i baratoi’r drafft o’r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a gofynnwyd am sylwadau’r aelodau ar y Cynllun drafft.

 

Derbyniwyd sylw gan aelod nad oedd y Cynllun yn ei gyfanrwydd yn ddigon ymestynnol o ran dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a bod y Polisi Addysg dwyieithog yn gwaethygu’r sefyllfa drwy ddysgu un ai yn y Saesneg neu yn ddwyieithog.

 

Adroddwyd bod Swyddogion yr Adran Addysg yn gweithio ar y cyd ag Ymgynghorydd Allanol i gyflawni Astudiaeth a fydd yn ymateb i gwestiynau a sylwadau’r aelodau ar faterion lleol.  Disgwylir adroddiad yr Astudiaeth a fydd yn cynnwys casgliadau ac argymhellion ym mis Ionawr 2017.

 

Derbyniwyd y sylwadau canlynol gan yr aelodau ar y Nod ac Amcanion a’r saith Deilliant:-

 

Nod ac Amcanion

 

Cryfhau’r trydydd pwynt bwled i ddarllen:  “Yn CA2, parhau i ddatblygu meistrolaeth disgyblion .....”

 

 

Deilliant 1 – Mwy o blant saith oed yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

 

·         Angen cryfhau’r trydydd pwynt bwled i sicrhau cyfundrefn sy’n rhoi sylfaen gadarn yn y Gymraeg cyn cyflwyno Saesneg.

 

·         Nodwyd bwriad y cyfarfod oedd i drafod y Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg.  Er hynny, awgrymwyd bod angen cryfhau brawddeg y Polisi Iaith presennol: “nod cyffredinol y Polisi Iaith yw dwyieithrwydd gan osod sylfaeni a thargedau cadarn”.

 

 

·         Angen targedau mwy heriol os am gyrraedd targed y Llywodraeth o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050.

 

·         Angen gwersi Cymraeg fel pwnc drwy’r blynyddoedd i gael continwwm iaith.

 

·         Cynnwys yr angen i gynnal astudiaeth ardrawiad iaith cyn cychwyn ad-drefnu ysgolion.

 

·         Angen i ganiatáu plant o bob oedran i fynychu Canolfannau Iaith yn ôl yr angen, nid plant Blwyddyn 2 a hŷn yn unig.

 

 

Deilliant 2 – Mwy o ddisgyblion yn parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.

 

·         Angen targedau mwy heriol ac angen sicrhau cysondeb yn y defnydd o’r diffiniad ‘ail-iaith’ wrth fesur perfformiad yn erbyn y targedau.

 

          Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau ynglŷn â’r targedau eglurwyd bod gan yr Adran Addysg ffigyrau a thargedau lleol ond bod templed y Llywodraeth yn mynnu targed cyfansawdd ar gyfer y sir.

 

 

Deilliant 3 – Mwy o fyfyrwyr 14-16 oed yn astudio ar gyfer cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg

a

Deilliant 4 – Mwy o fyfyrwyr 14-19 oed yn astudio pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg, mewn ysgolion, colegau a dysgu seiliedig ar waith.

 

          Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod ynglŷn â chyrsiau galwedigaethol cydweithredol ôl 16 a ddarperir gan Goleg Menai ar gyfer ysgolion ardal Arfon yn unig, eglurwyd bod y Cynllun yn adrodd ar ysgolion yn hytrach na disgyblion.  Nodwyd bod sefyllfa Coleg Meirion Dwyfor yn wahanol.

 

 

Deilliant 5 – Mwy o fyfyrwyr â sgiliau uwch yn y Gymraeg

         

          Disgyblion Y Cyfnod sylfaen enillodd ddeilliant 5+ ar gyfer asesiadau athro mewn Cymraeg (Lefel 2+/Deilliant 5+)

          Mewn ymateb i sylw gan aelod ynglŷn â chysondeb asesiadau athro o ysgol i ysgol adroddwyd bod GwE yn edrych yn benodol ar y maes o gymedroli a chysoni. 

 

          Adroddwyd ar enghraifft o lwyddiant y Siarter Iaith ers ei sefydlu drwy fod mwy o blant yn dewis Ysgol Uwchradd a ganfyddir yn Ysgol Uwchradd Gymreig ym Mangor.  Adroddwyd y byddir yn rhoi strategaeth newydd ar waith yn y Sector Uwchradd yn 2017 a bod trafodaethau wedi cychwyn gyda’r penaethiaid i osod targed gwaelodlin.

 

 

Deilliant 6 - Darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) cyfrwng Cymraeg.

 

·         Angen sicrhau ethos Gymraeg yn y ddarpariaeth ac yn benodol cerddoriaeth.

 

 

          Deilliant 7 – Cynllunio’r gweithlu a datblygiad proffesiynol parhaus (DPP)

 

·         Mynegwyd pryder aelod am safon sillafu athrawon.  Mewn ymateb adroddwyd yr adnabuwyd yr angen i barhau i ddatblygu cyfathrebu gyda Phrifysgol Bangor ar sawl mater i geisio dylanwadu a rhoi sylwadau ac y byddir yn dilyn y mater sillafu i fyny.

 

·         Angen sicrhau bod pob deiliad swyddi yn gallu cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg i gefnogi’r datganiad bod addysg Gymraeg yn arwain at gyflog lefel uwch a gwella siawns yr ifanc.

 

         

          Y Templed Adrodd

 

Mewn ymateb i sylw aelod ar y templed adrodd newydd, adroddwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cychwyn ar y broses o ymgynghori ar effeithiolrwydd y templed.  Nodwyd bod gweledigaeth Gwynedd yn ehangach a chryfach a'i bod yn bosib cyrraedd targed 2050 drwy greu cymunedau Cymraeg a thempled mwy perthnasol i sicrhau hynny.

 

Y camau nesaf

 

Adroddwyd y byddir yn

·         cyflwyno sylwadau’r aelodau i’r Pennaeth Addysg

·         20 Rhagfyr 2016 - cyflwyno’r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2017-20 i’r Llywodraeth.

·         Derbyn Cynllun drafft yn ôl gan Lywodraeth Cymru.

·         Mis Ebrill - Awdurdodau lleol i ddechrau gweithredu’r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg.

 

Atgoffwyd yr aelodau bod y ddogfen gyhoeddus wedi ei lansio i ymgynghoriad statudol ar 24 Hydref am gyfnod o 8 wythnos a bod modd i’r aelodau ymateb fel unigolion pe dymunir.  Adroddwyd nad oes amser i gyflwyno’r adroddiad eto a rhoi sylwadau pellach yn dilyn dyddiad cau’r ymgynghoriad.

 

Diolchwyd i bawb am eu sylwadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn y sylwadau am ystyriaeth ar gyfer Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2017-20.

 

         

 

Dechreuodd y cyfarfod am 10.30 y.b. a daeth i ben am 11.55 y.b.

Dogfennau ategol: