Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad
y Pennaeth Cyllid, a oedd yn nodi
yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, y disgwylir i’r Pwyllgor Archwilio
graffu rhai materion ariannol gan gynnwys adroddiadau
monitro cyllideb, lle’n briodol.
Gosododd yr Aelod Cabinet Adnoddau y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr
adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 22 Tachwedd 2016. Tynnwyd sylw at y penderfyniadau canlynol i sylw’r
pwyllgor i’w craffu -
“Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd yr ail chwarter (sefyllfa 30 Medi 2016) o’r Gyllideb Refeniw,
ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran /
gwasanaeth, gan ofyn i’r Aelodau Cabinet a’r penaethiaid adrannau perthnasol
gymryd camau priodol ynglŷn â materion o dan eu harweiniad/rheolaeth.
·
Trosglwyddo (£135k) o gyllideb gorfforaethol i'r Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant i gyllido’r costau ychwanegol o ganlyniad i'r newid
yn ymwneud â chodi tâl am y chwe wythnos gyntaf o
ofal preswyl a nyrsio.
·
Caniatáu i'r Adran Rheoleiddio ddefnyddio (£200k) o'u
tanwariant i gyllido cynlluniau penodol i wella cyflwr meysydd parcio.
·
Trosglwyddo (£300k) o'r Adran Rheoleiddio i'r Gronfa
Ddiswyddo Gorfforaethol er mwyn cynorthwyo efo'r newidiadau sydd o'n blaenau
fel Cyngor.
·
Cynaeafu (£300k) o'r casgliad ffafriol Treth y Cyngor, a
(£290k) o danwariant Budd-daliadau, ynghyd â (£200k) o'r tanwariant a gynhwysir
o dan 'Eraill', a'i drosglwyddo fel a ganlyn:
- defnyddio (£20k) o’r tanwariant
fel cyfraniad ariannol i Bwll Nofio annibynnol
Harlech er mwyn gwneud taliad pontio un tro ar gyfer y cyfnod hyd at 31 o Fawrth 2017, yn unol â phenderfyniad y Cabinet ar y 4 o
Hydref 2016.
- defnyddio
(£135k) i gyllido oblygiadau ariannol newid yn y Ddeddfwriaeth Gofal 2014 gan
yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant.
- y gweddill o (£635k) i'w neilltuo i Gronfa
Trawsffurfio”
Eglurodd y Pennaeth Cyllid y defnyddir yr arian a gynaeafwyd ar gyfer blaenoriaethau’r
Cyngor. Diolchwyd i’r Adrannau a’r
Aelodau Cabinet am eu rheolaeth gyllidebol.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol ymatebodd y swyddogion i ymholiadau’r
aelodau fel a
ganlyn:
·
O ran y gallai cau’r canolfannau croeso effeithio ar yr incwm
a dderbynnir mewn meysydd parcio, ni ragwelir effaith
sylweddol gan fod symudiad tuag
at archebu llety ar-lein;
·
O ran gorwariant y Gwasanaeth Morwrol o £108,000, roedd Hafan Pwllheli
wedi ei fewnoli
yn 2007 cyn y cwymp ariannol yn 2008 ac ni ellir
amcan os byddai’r sefyllfa ariannol wedi bod yn well os fyddai’r
Hafan wedi aros yn rheolaeth
cwmni preifat gan fod llai
o ofyn gyda mwy o gyflenwad. Y gellir gofyn i’r
Adran Economi a Chymuned edrych ar yr opsiwn
o allanoli’r Hafan, ond roedd y sefyllfa
wedi cymhlethu ers adeg y trosglwyddiad,
gyda rheolaeth yr Hafan a’r
Harbwr wedi ei gyfuno, a dyfodiad
Plas Heli;
·
Mai ffioedd parcio oedd rhan
fwyaf o’r incwm o dan y pennawd
‘Gwasanaethau Parcio a Gorfodaeth Parcio’ yn hytrach na dirwyon parcio. Yn dilyn
cynyddu’r nifer o feysydd parcio y codir tal ynddynt,
ynghŷd â’r a’r nifer uchel
o ymwelwyr, roedd yr incwm wedi
cynyddu;
·
Yn dilyn penodiad parhaol y Pennaeth ac Uwch Reolwyr newydd, bod yr Adran Oedolion,
Iechyd a Llesiant yn ail-ddylunio ei raglen arbedion.
Sicrhawyd bod y sefyllfa tangyflawni yn derbyn sylw;
·
Y rhagwelir tanwariant o dan y pennawd Gwasanaethau Ol-16 yn yr Adran
Plant a Chefnogi Teuluoedd yn dilyn lleihad
ar hyn o bryd yn y galw
am gynlluniau cefnogol
Ol-16.
Cafwyd trafodaeth ar Hafan
Pwllheli gan nodi y dylid gofyn
i’r Adran Economi a Chymuned ddarparu gwybodaeth o ran y sefyllfa cyn mewnoli
a’r sefyllfa bresennol o ran y sefyllfa ariannol, niferoedd defnyddwyr ac angorfeydd. Nododd y Rheolwr Archwilio y cynhelir archwiliad yn Hafan
Pwllheli ac un elfen yr
ystyrir oedd trefniadau talu ffioedd a’r anawsterau
o ran sefydlu trefn taliadau debyd uniongyrchol a oedd yn debygol o gael
effaith ar yr incwm.
Nododd aelod y dylid edrych
ar y sefyllfa o ran trethu carafanau gan fod rhai
meysydd carafanau ar agor gydol
y flwyddyn a’u perchnogion yn defnyddio’r gwasanaethau ond ddim yn
cyfrannu o ystyried bod y Cyngor yn edrych
ar godi premiwm
o 50% ar ail gartrefi. Mewn ymateb, nododd
y Pennaeth Cyllid bod yr hawl gan
y Cyngor i drethu eiddo oedd
yn ail gartref ond yn achos
carafanau roeddent yn cael eu
cynnwys yn asesiad y safle carafanau yn ei
gyfanrwydd o ran treth busnes. Ychwanegwyd yr ysgrifennwyd i ofyn am rym
i’r Cyngor i godi treth
wahanol ond dim ond grym o ran ail gartrefi a dderbyniwyd. Roedd y Cyngor yn gweithredu
tu fewn i’r
rheoliadau.
Nododd
yr Aelod Cabinet Adnoddau mai trefn
genedlaethol oedd y drefn dreth busnes. Nododd aelod y dylid cynnal ymchwiliad
craffu yng nghyswllt trefniadau trethu meysydd carafanau yn yr
un modd a wnaed efo tai gwyliau.
Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cyllid bod yr Ymchwiliad
Craffu Tai Gwyliau a Threthi wedi awgrymu
unwaith bod y Cyngor yn defnyddio’r grym i godi
premiwm ar ail gartrefi bod y Cyngor yn defnyddio cyfran
o’r incwm treth i ddarparu
tai fforddiadwy. Nodwyd y byddai hyn yn cynorthwyo
Llywodraeth Cymru i sicrhau mwy
o dai fforddiadwy i bobl leol
ac fe geisir eu hargyhoeddi efo agweddau eraill
o’r agenda trethiannol gan ofyn am rym
cynllunio i’r Cyngor yng nghyswllt
tai domestig oedd yn mynd yn
dai gwyliau yn hytrach na’r
drefn fympwyol bresennol.
Mewn ymateb i bryderon
yr aelodau o ran codi premiwm ar
ail gartrefi, nododd yr Aelod Cabinet Adnoddau bod yr Ymchwiliad Craffu Tai Gwyliau a Threthi wedi gwyntyllu’r pryderon yn fanwl.
Eglurodd yr Uwch Reolwr
Refeniw a Risg bod carafanau a oedd wedi derbyn hawl
cynllunio i’w defnyddio fel cartref
yn cael eu
trethu yn unol â threfniadau Treth y Cyngor ac fe ellir codi
premiwm, tra na ellir codi
premiwm ar unrhyw garafan ble mae amod
cynllunio yn rhwystro unigolion rhag byw yno
am o leiaf 4 wythnos y flwyddyn.
PENDERFYNWYD:
(i)
nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol
yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau;
(ii)
gofyn i’r Adran
Economi a Chymuned (gyda chefnogaeth yr Adran Gyllid)
gyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor o ran Hafan Pwllheli cyn mewnoli a’r
sefyllfa bresennol;
(iii)
gofyn i’r Pwyllgor Craffu
Corfforaethol ystyried cynnal ymchwiliad craffu yng nghyswllt
trefniadau trethu meysydd carafanau.
Dogfennau ategol: