Agenda item

Derbyn cyflwyniad gan Rhian Hughes, Arloesi Gwynedd Wledig.

Cofnod:

Atgoffwyd yr aelodau y derbyniwyd cyflwyniad gan yr Uwch Swyddog Datblygu Twristiaeth yng nghyfarfod y Cyd-Bwyllgor ar 18 Tachwedd 2015 ar gynlluniau posib i dderbyn cyfraniad ariannol gan dwristiaid er mwyn ei fuddsoddi mewn ardal benodol.

 

Croesawyd Rhian Hughes (Swyddog Thematic Arloesi Gwynedd Wledig, Menter Môn) ac Alun Fôn Williams (Uwch Swyddog Datblygu Twristiaeth, Cyngor Gwynedd) i’r cyfarfod. Derbyniwyd cyflwyniad ar gynllun peilot rhodd ymwelwyr a sefydlwyd yn ardal Eryri gan Bartneriaeth Eryri sef Rhodd Eryri. Nodwyd bod Menter Môn wedi cael tendr i dreialu’r cynllun drwy gynllun grant LEADER sydd yn ariannu peilota prosiectau arloesol. Adroddwyd bod 25 busnes yn rhan o’r cynllun Rhodd Eryri ac y gobeithir y bydd rhagor yn y dyfodol.

 

Dangoswyd ffilm fer a oedd yn hyrwyddo cynllun Rhodd Eryri. Nodwyd bod potensial ar gyfer cynllun o’r fath yn ardal Llŷn ac fe fyddai Menter Môn yn gallu peilota’r cynllun am oddeutu £5,000.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau, ymatebwyd fel a ganlyn:

·        Bod peilot cynllun Rhodd Eryri yn rhedeg o fis Gorffennaf 2016 tan fis Medi 2017 er mwyn cynnwys yr holl dymhorau. Nodwyd y cynhelir digwyddiad ym mis Ionawr lle cyhoeddir y cyfanswm a gasglwyd hyd yn hyn.

·        Bod cynllun tebyg yn Ardal y Llynnoedd yn creu incwm o oddeutu £100,000 y flwyddyn gydag ond llefydd gwely a brecwast a gwestai yn rhan o’r cynllun. Nodwyd bod cynllun Rhodd Eryri yn cynnwys atyniadau a digwyddiadau yn ogystal.

·        Bod cynllun grant LEADER yn parhau am gyfnod o 5 mlynedd felly fe ellir aros dan ddiwedd peilot Rhodd Eryri cyn penderfynu os am dreialu cynllun o’r fath yn ardal Llŷn.

·        Pwysleisiwyd bod angen grŵp i redeg y peilot ond fe fyddai Menter Môn yn cefnogi’r grŵp ac fe ellir cadw'r costau i lawr gan ddefnyddio'r un brandio a thempled gwefan a grëwyd ar gyfer Rhodd Eryri gan ei deilwra i ardal Llŷn.

·        Nid oedd gorfodaeth i gyfrannu a’i fod i fyny i’r ymwelydd os am gyfrannu neu beidio.

·        Ni dderbyniwyd gwrthwynebiad i’r bwriad gan fusnesau yn Ardal Eryri ond roedd rhai ddim yn siŵr os oeddent eisiau bod yn rhan o’r peilot. Gwahoddir busnesau sydd yn rhan o’r cynllun ynghyd â busnesau sydd ddim a’r wasg i’r digwyddiad ym mis Ionawr ac fe obeithir y bydd yn ysbrydoli busnesau eraill i ddod yn rhan o’r peilot.

 

Diolchodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn am y diweddariad gan nodi ei fod yn syniad i’w ystyried a bod angen pwyso a mesur yr oblygiadau a thrafod efo eraill megis Tîm Llwybr yr Arfordir o ran peilota cynllun o’r fath yn ardal Llŷn.

 

Nododd aelod ei fod yn syniad y dylid ei ystyried ar ddiwedd peilot Rhodd Eryri er mwyn asesu ei lwyddiant. Ychwanegodd aelod y dylid derbyn adroddiad yng nghyswllt sefydlu cynllun o’r fath yn Llŷn.

 

Diolchodd y Cadeirydd am y cyflwyniad gan ofyn a fyddai’n bosib i aelodau’r Cyd-Bwyllgor dderbyn gwahoddiad i ddigwyddiad Rhodd Eryri ym mis Ionawr. Nododd Swyddog Thematic Arloesi Gwynedd Wledig y byddai’n cadw mewn cysylltiad ac yn anfon gwahoddiad i’r digwyddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid cyflwyno adroddiad yng nghyswllt sefydlu cynllun o’r fath yn Llŷn i gyfarfod o’r Cyd-Bwyllgor.