Cais o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 i benderfynu ar amodau dan adolygiad cyfnodol.
Caniatadau Cyf - C96A/0020/16/MW, C08A/0039/16/MW,
C12/0874/16/MW, C15/1344/16/MW
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Gwen Griffith
Cofnod:
Cais o dan Ddeddf yr Amgylchedd
1995 i benderfynu ar amodau dan adolygiad cyfnodol.
Caniatadau
Cyf - C96A/0020/16/MW, C08A/0039/16/MW, C12/0874/16/MW, C15/1344/16/MW
Tynnwyd sylw
at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.
(a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog
Cynllunio Mwynau a Gwastraff
ar gefndir y cais. Eglurwyd bod y chwarel yn un o’r
rhai pwysicaf yng Ngwynedd gyda
300 acer o dir
wedi ei leoli gyferbyn a’r Parc Cenedlaethol
gyda dynodiadau amgylcheddol o bwys o gwmpas y safle sef, Ardal
Cadwraeth Arbennig a safle o werth gwyddonol
arbennig.
Nodwyd yr angen i’r Pwyllgor ystyried dau beth;
i)
Pwysleisiwyd mai nid cais am ganiatad
cynllunio oedd gerbron y Pwyllgor, ond cais i adolygu rhestr amodau ar
4 caniatad dilys ar y safle gyda’r
bwraid eu cyfuno o dan un atodlen gyflawn o amodau cynllunio. Amlygwyd mai y drefn gyda chwareli
yw mai cyfrifoldeb gweithredwr y chwarel yw creu atodlen
o amodau cynllunio er mwyn i’r
Cyngor eu hystyried. Nodwyd bod hyn yn cael ei wneud bod 15eg mlynedd sydd yn gyfle
i adoygu y sefyllfa, cael gwared o amodau
amherthnasol, adolygu y gwaith a bod y safle yn cael ei
adfer, sicrhau dilyniant i’r gwaith,
ei fod yn
gynaladawy ynghyd a ystyriaethau archaeolegol ac amgylcheddol.
Nodwyd
bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno atodlen
amodau gyda’r cais a bod cytundeb rhwng y Cyngor a’r chwarel mai y bwriad yw
codi’r safonau i adlewychu anghenion cynllunio ac angehnion amgylcheddol fodern. Amlygywd bod sawl mater i’w ystyried gyda’r
cais e.e, ffrwydro, swn, llwch ac effaith ar fwynderau
pobl lleol a bod polisi C17 o’r CDU yn ystyried ceisiadau
o adolygiadau o ganiatadau cynllunio mwynau.
Adroddodd
y swyddog ei fod yn fodolon
gyda’r cais a bod datganiad amgylcheddol sylweddol wedi ei gyflwyno gyda’r
cais yn ystyried lleoliad y safle a’r effaith
ar yr ardal
o’r gwmpas..
ii)
Ystyried gwyro llwybr cyhoeddus. Eglurwyd bod gorchymyn a ganiatawyd 15 mlynedd yn ol i gau
a gwyro llwybr yn dod i ben mis
yn y mis nesaf a bod y chwarel yn awyddus i gau
y llwybr am 17 mlynedd pellach gan ystyried
materion iechyd a diogelwch o’r cyhoedd yn croesi llwybrau
hawlio y llwybr. Y bwriad yw rhoi
y llwybr yn ol mewn 17 mlynedd,
ond nodwyd bod trafodaethau yn cael eu cynnal
gyda’r cwmni i sefydlu llwybr o’r newydd fyddai
yn cysylltu tir agored y mynydd
gyda Lon Las Ogwen.
Tynnwyd
sylw at yr amodau cynlluniau manwl oedd wedi
eu rhestru fel atodiad i’r
adroddiad
(b)
Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod
lleol (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn):-
- pwysig cael amodau
i warchod y safle
- chwarel hynaf a mwyaf o ran maint yng Nghymru
- y
chwarel o fudd economaidd i Ddyffryn Ogwen
- angen gwarchod yr henebion (tynnwyd
sylw at yr adroddiad Archaeoleg)
- cynnig yr angen i CADW roi statws statudol i’r henebion
- angen gwarchod yr Ardal Cadwraeth
Arbennig ac atal defaid rhag pori
yma
- cynnig amod i sicrhau mewnbwn y gymuned drwy barhau
gyda’r Pwyllgor Cyswllt
- y
chwarel bellach yn creu effaith
ar dai Mynydd
Llandygai
- cytuno bod angen un cynllun gydag amodau
cadarn
(c) Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r Pwyllgor
Cyswllt, nodwyd nad oedd angen amod penodol i hyn ond ei fod yn cael sylw yn y
cytundeb 106 a derbyniwyd bod angen adolygu’r cytundeb yma. Er hynny,
ychwanegwyd bod y Pwyllgor Cyswllt yn un llwyddiannus gyda threfniadau
cydweithio da wedi eu sefydlu gyda’r chwarel i, ac awgrymwyd cynllunio ymlaen
i’r blynyddoedd nesaf yn hytrach na gosod amod.
(ch) Cynigiwyd
ac eiliwyd i dderbyn yr amodau
(d) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau
unigol:
- angen ystyried y Ddeddf Llesiant
- angen sicrhau defnydd o’r Iaith Gymraeg ar arwyddion y chwarel
- rhaid ystyried diogelwch unigolion gan sicrhau nad ydynt yn mynd ar
draws gwaith dydd i ddydd y chwarel - hanfodol nad yw'r lloriau yn dod i
gyswllt gydag unigolion sydd yn defnyddio'r hawliau tramwy gan ystyried yn
ofalus lleoliad y llwybrau cyhoeddus
- rhaid gwarchod henebion – pwysig eu bod yn cael eu parchu – hen hanes
yma. Cynnig eu bod yn cael eu ffensio i mewn
- angen gosod ffens o amgylch yr Ardal Cadwraeth Arbennig ac atal defaid rhag
pori arno
- wrth gysylltu'r llwybr newydd gyda Llon Las Ogwen rhaid sicrhau bod yr
un newydd yn agor cyn i’r hen lwybr gau
- angen sicrhau bod yr amodau yn cael eu parchu
(dd) Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag arwyddion Cymraeg, amlygwyd y gellid
cyfleu'r neges yma i berchnogion y
chwarel
Mewn ymateb i sylw am gadw at yr amodau, nodwyd nad oedd modd rheoli hyn
ac nad oedd rhaid i’r chwarel gadw atynt, ond ei fod o ddiddordeb i’r chwarel
ymateb i ofynion diogelwch.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â gwarchod yr henebion, cytunwyd bod
angen i’r chwarel fod yn fwy rhagweithiol a bod amod 41 wedi ei gynnwys ar
gyfer hyn.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn
unol â’r argymhellion
1) Awdurdodi Uwch Reolwr Gwasanaethau Cynllunio, Amgylchedd a Gwarchod y
Cyhoedd i ymestyn Gorchymyn Cau a Chreu Llwybrau Cyhoeddus 2002 ar gyfer
llwybrau cyhoeddus Rhifau 46 a 50.
2) Awdurdodi Uwch Reolwr Gwasanaethau Cynllunio, Amgylchedd a Gwarchod y
Cyhoedd i benderfynu ar y cynllun amodau o dan ddirprwyaeth.
·
Hyd y Cyfnod Gweithio 31
Rhagfyr 2032
·
Gwaith a Ganiateir a
Chydymffurfiad gyda'r Manylion / Cynlluniau a Gyflwynwyd.
·
Darpariaeth ar gyfer
dargyfeirio Llwybrau Cyhoeddus Rhifau 46 a 50,
·
Oriau Gweithio ar wyneb
y graig,
·
Dulliau gweithio a
chyfyngiadau chwythu,
·
Adfer a chynllun manwl
creu ac adfer cynefinoedd yn unol â manylion y cais,
·
Cynllun adfer ar gyfer y safle beiriannau erbyn 31
Rhagfyr 2030,
·
Adolygiad o’r gwaith bob
pum mlynedd,
·
Rheoli goleuadau
allanol,
·
Rheoli cyfyngiadau
sŵn yn ystod y dydd a’r nos,
·
Rheoli llwch ffo a
darparu a chynnal gorsaf dywydd,
·
Cadw pridd a deunydd
adfer,
·
Cyfyngu ar hawliau
datblygu a ganiateir,
·
Cyfyngu ar glirio
llystyfiant ar rai adegau penodol o’r flwyddyn oni bai y gellir
profi’n ysgrifenedig na fyddai’r gwaith yn amharu ar adar ac ymlusgiaid,
·
Diweddaru monitro cen,
·
Cynllun rheoli cynefin gweundir ar gyfer yr ardal
iawndal ecolegol yn unol â’r manylion a
gyflwynwyd,
·
Gwaith adfer ar y ffrwd i’w wneud yn unol â’r cynllun a gyflwynwyd,
·
Ffensio i’w gytuno gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol
ac â Chyfoeth Naturiol Cymru,
·
Monitro'r llif yn y ffrwd fel rhan o’r adolygiad blynyddol ac asesu sut
y mae’n gweithio, asesu hydroleg Gwaun Gynfi ac a oes
angen unrhyw waith cynnal a chadw, ei gytuno’n ysgrifenedig gyda’r Awdurdod
Cynllunio Lleol ac â Chyfoeth Naturiol Cymru.
·
Monitro cynefin Gwaun Gynfi,
·
Cofnodi a lliniaru archeolegol,
·
Arolwg a monitro rhywogaethau ymwthiol,
·
Ffensio’r nodweddion archeolegol i’r gogledd o
wyneb y chwarel (corlan sawl adran)
(rhestr manylach o’r amodau cynlluniau wedi eu rhestru fel atodiad i’r adroddiad)
Dogfennau ategol: