Dymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le
AELOD LLEOL: Cynghorydd Angela Russell
Cofnod:
Dymchwel tŷ presennol a chodi
tŷ newydd yn ei le
(a) Ymhelaethodd y Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan
nodi'r bwriad o ddymchwel tŷ presennol ac adeiladu tŷ annedd newydd
ynghyd a gwaith cysylltiol i hynny. Lleoliwyd y safle o fewn ffin ddatblygu
Llanbedrog - o fewn Ardal Gwarchod y Dirwedd a Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol
Eithriadol Llyn ac Ynys Enlli. Ceir mynediad i’r safle ar hyd ffordd breifat
oddi ar y ffordd ddosbarth 2 gerllaw’r safle.
Nodwyd y byddai’r tŷ arfaethedig yn un deulawr ac wedi ei leoli ar
safle’r tŷ presennol. (sydd mewn
cyflwr gwael ar hyn o bryd). Bydd dwy
ystafell wely i’r tŷ sydd o ddyluniad eithaf sgwâr o ran edrychiad. Bydd y
waliau allanol yn cael eu gorffen mewn byrddau pren a byddai’r to yn un eithaf
fflat gyda pheth goleddf iddo. Bydd dau lecyn parcio o fewn cwrtil yr eiddo.
Tynnwyd sylw at y
polisïau perthnasol yn yr adroddiad
Amlinellwyd bod y bwriad wedi ei gyflwyno fel cais i ddymchwel tŷ
presennol a chodi tŷ newydd, fodd bynnag nodywd nad oedd polisi penodol o
ran dymchwel a chodi tŷ newydd o fewn ffiniau datblygu yn CDUG. Ategwyd
bod polisi C1 yn datgan mai ‘o fewn ffiniau datblygu trefi a Phentrefi...y bydd
prif ffocws ar gyfer datblygiadau newydd’ gyda pholisi CH4 hefyd yn berthnasol
gan ddatgan mewn egwyddor y caniateir cynigion i adeiladu tai newydd ar
safleoedd sydd heb eu dynodi ac sydd o fewn ffiniau datblygu pentrefi os gellid
cydymffurfio â holl bolisïau perthnasol y Cynllun a’r meini prawf perthnasol.
Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, mae dyluniad yr eiddo arfaethedig
yn un cyfoes a chydnabuwyd y byddai gwahaniaeth barn debygol am ddyluniad
cyfoes Ystyriwyd bod y bwriad yn cynnig tŷ o faint, graddfa a ffurf fyddai
ar y cyfan yn cyd-fynd â chyd-destun y safle.
Gyda mwyafrif o’r ffenestri gydag edrychiad deheuol ystyriwyd na fyddai
hyn yn creu effaith ar fwynderau cyffredinol a phreswyl cymdogion ac ni
ystyriwyd fod y bwriad yn golygu gorddatblygiad o’r safle nac yn achosi niwed arwyddocaol o ran sŵn traffig.
Eglurwyd
bod llwybr cyhoeddus yn rhedeg gerllaw’r safle a bod yr Uned Llwybrau yn
awyddus i sicrhau fod llwybr cyhoeddus rhif 12 Llanbedrog yn cael ei ddiogelu
yn ystod ac ar ddiwedd y datblygiad.
Nodwyd, gan fod y llwybr yn agos iawn i’r datblygiad ac y gallai gwaith
adeiladu amharu ar y llwybr ystyriwyd mai priodol fuasai gosod amod i sicrhau
bod y llwybr yn cael ei ddiogelu.
Ystyriwyd fod y bwriad i
adeiladu tŷ newydd ar y safle yn dderbyniol o safbwynt y polisïau
perthnasol ac yn cydymffurfio gyda’r polisïau a chanllawiau lleol a
chenedlaethol a nodwyd yn yr adroddiad.
(b) Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais yn unol â’r argymhelliad
(c) Mewn ymateb i sylw nad oedd polisiau ar gyfer ‘dymchwel ac ail godi’ tai
ac o’r awgrym y dylid datblygu
polisi i warchod hyn o ran safbwynt
niweidio'r amgylchedd, nodwyd y byddai materion fel hyn yn cael ei drafod o dan
bolisïau amgylcheddol, ond derbyniwyd y safbwynt bod angen polisi i warchod
adeiladu tu fewn i’r ffin datblygu. Awgrymwyd y byddai yn fater fydd angen ei
graffu i’r dyfodol.
Mewn ymateb i sylw mai cais i adeiladu tŷ o’r newydd oedd yn cael
ei gyflwyno, nodwyd bod gwasanaethau eisoes yn gwasanaethu’r adeilad presennol
a gyda’r safle o fewn ffin datblygu'r pentref, buasai adeiladu tŷ o’r
newydd yn dderbyniol.
(ch) Yn
ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:
- nad oedd y dyluniad yn
gweddu cymeriad ac ardal Penllyn – rhaid ystyried dyluniad sydd yn cydymdeimlo
a’r ardal o gwmaps y datblygiad
- gall osod cynsail i
eraill gyflwyno cynlluniau cyfoes
- nid yw addas ar gyfer y
stryd – yn creu effaith ar y tai eraill
- bod y dyluniad yn un i’w
groesawu – dim angen cadw at gynlluniau traddodiadol
- rhaid ystyried materion cynaladwyedd, cynlluniau ecogyfeillgar a defnyddio deunyddiau naturiol a symud
ymlaen gyda’r oes
- croesau'r fenter
Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd yr Uwch Reolwr bod y dyluniad yn un
oedd yn mynd i hollti barn, ond nodwyd bod cymysgedd o wahanol ddyluniadau
eisoes o fewn yr ardal. Derbyniwyd bod y dyluniad yn un cyfoes
PENDERFYNWYD caniatáu y cais yn unol â’r argymhelliad
Amodau:
1. Cychwyn
o fewn 5 mlynedd.
2. Unol â chynlluniau.
3. Cytuno
gorffeniadau allanol.
4. Amod
Dŵr Cymru.
5. Diogelu’r
llwybr cyhoeddus rhif 12 Llanbedrog gerllaw.
6. Cwblhau’r
llefydd parcio a throi yn unol â'r cynllun a'u bod yn weithredol cyn i’r eiddo
gael ei feddiannu am y tro cyntaf.
7. Tirlunio.
8. Tynnu hawliau datblygu
ganiateir ar gyfer ffenestri ychwanegol.
Nodyn:-
1. Sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar angen i gydymffurfio
gyda’r canllawiau a gynhwysir ynddynt.
2. Tynnu sylw’r ymgeisydd y byddai’n briodol i ddefnyddio enw
Cymraeg ar gyfer yr eiddo o ystyried hunaniaeth diwylliannol amlwg yr ardal.
Dogfennau ategol: