Ail
gyflwyniad o gais a wrthodwyd o dan C16/0711/35/LL ar gyfer newid defnydd i
lety aml feddianaeth
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Eirwyn Williams
Cofnod:
Ail gyflwyniad o gais a wrthodwyd o dan C16/0711/35/LL ar
gyfer newid defnydd i lety aml feddiannaeth
(a) Ymhelaethodd y Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y cais yn ymwneud a newid defnydd
tŷ gwesty presennol i lety amlfeddiannaeth 10 ystafell wely.
Disgrifiwyd yr eiddo fel adeilad par oedd wedi ei leoli o fewn ffiniau Criccieth, ac oedd
wedi gweithredu tan yn ddiweddar fel tŷ gwesty, 10 ystafell wely. Nodwyd
bod fflatiau hunangynhaliol hefyd ar y llawr islawr ac nad oedd bwriad gwneud
unrhyw newidiadau allanol i’r adeilad.
Adroddwyd
bod y cais blaenorol o dan C16/0711/35/LL wedi ei wrthod gan nad oedd
tystiolaeth ddigonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais yn dangos bod yr eiddo
wedi ei farchnata’n aflwyddiannus am bris rhesymol a theg fel llety gwyliau am
gyfnod parhaol o 12 mis.
Tynnwyd
sylw at y polisiau perthnasol yn yr adroddiad gan
gyfeirio at bolisi CH11 o’r Cynllun
Datblygu Unedol Gwynedd sydd yn ymwneud a throsi adeiladau o fewn ffiniau
datblygu pentrefi a chanolfannau lleol ar gyfer defnydd preswyl; mae’n caniatáu
cynigion os gellir cydymffurfio a meini prawf sy’n
ymwneud ag angen lleol, ardrawiad ar lety gwely a gwasanaeth cymunedol a
meddiannaeth y tŷ.
Amlygwyd bod gwrthwynebiadau wedi eu derbyn oedd yn
cyfeirio at effaith y newid mewn defnydd ar fwynderau’r ardal a thrigolion
cyfagos o’i gymharu â’r defnydd presennol. Mewn
ymateb, er y byddai natur defnydd yr adeilad yn wahanol (defnydd preswyl llawn
amser yn hytrach na defnydd gwyliau) ni ystyriwyd na fydd y defnydd bwriedig fel llety amlfeddiannaeth yn debygol o fod yn
ddefnydd dwysach na’r defnydd gwyliau; gan fod
potensial i bob ystafell fod yn llawn drwy’r adeg gan
bobl ar eu gwyliau ar hyn o bryd.
Ategwyd bod 6 llecyn parcio presennol o flaen yr
adeilad; ac ystyriwyd oherwydd natur y llety amlfeddiannaeth sy’n destun y
cais; agosatrwydd y safle i ganol y pentref a meysydd parcio cyhoeddus; fod y
ddarpariaeth yma yn ddigonol.
Ni ystyriwyd fod y bwriad yn groes i unrhyw bolisiau perthnasol, a bod y wybodaeth ddigonol wedi ei
gyflwyno gyda’r cais i ddangos bod yr eiddo wedi ei farchnata am gyfnod digonol
i gydymffurfio gyda gofynion polisi CH11 o’r CDUG.
(b)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd yr ymgeisydd
y pwyntiau canlynol:-
-
na fyddai unrhyw newid i ddefnydd yr adeilad
-
y bwriad yw paratoi cartref
i staff / nyrsys Cartref Gofal cyfagos drwy gynnig lle
addas iddynt fyw o dan yr
un to
-
ni fydd dim mwy o bobl yn aros
yn yr adeilad
i’r hyn sydd
yn cael ei
ganiatau
-
nid yw y sefyllfa ddim gwahanol i’r
sefyllfa bresennol o ran preifatrwydd
(c)
Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.
(ch) Mewn ymateb i gwestiwn cadarnhawyd mai i
Gartref Gofal The Pines y byddai’r nyrsys yn gweithio
(d)
Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:
-
angen ystyried beth fuasai yn
digwydd petai yr adeilad yn
cael ei werthu
-
beth fuasai yn digwydd
petai'r cartref gofal yn cau
(dd) Mewn ymateb i’r sylwadau, amlygodd yr Uwch
Reolwr nad oedd yr Adran Cynllunio yn gallu rheoli defnydd yr adeilad na gosod
amod i wneud hynny. Nodwyd nad oedd unrhyw amheuaeth bod angen y math yma o
lety yng Nghriccieth. Cadarnhawyd na fyddai unrhyw
fwriad newid defnydd yr adeilad.
PENDERYFNYWD caniatau y cais yn unol a’r
argymhellaid
1.
5 mlynedd
2.
Unol a’r cynlluniau
Nodyn Dwr Cymru
Dogfennau ategol: