Ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid yn
hysbysu Aelodau’r Pwyllgor o’r cynnydd gyda datblygu Pŵl Buddsoddi Cymru i
reoli asedion buddsoddi'r wyth Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yng Nghymru ar sail gydweithredol; ac i geisio cymeradwyaeth y Pwyllgor ar gyfer y Cytundeb
Rhwng-Awdurdodau i’w argymell i’r Cyngor llawn dderbyn, er mwyn ymrwymo i
sefydlu Pŵl Cymru Gyfan a llywodraethu'r Cydbwyllgor perthnasol.
Nodwyd mai cwmni Burges
Salmon oedd wedi llunio’r Cytundeb Rhwng
–Awdurdodau gyda chyfraniad gan
swyddogion cyllid a swyddogion cyfreithiol yr wyth gronfa. Roedd y cytundeb yn
adlewyrchu'r hyn oedd wedi ei drafod dros y misoedd diwethaf.
Amlygwyd nad oedd y ddogfen yn derfynol, ond
gofynnwyd i’r aelodau ddirprwyo hawl i’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad a’r
Pennaeth Cyfreithiol â’r Cadeirydd i gytuno unrhyw
newidiadau i’r Cytundeb Rhwng-Awdurdod cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn am
gymeradwyaeth ar 2 Mawrth 2017. Nodwyd bod angen gwneud mân addasiadau cyn ei
gyflwyno, ond bod y cytundeb, o ran ffurf, yn eithaf agos i’w le.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y
sylwadau canlynol gan Aelodau unigol:
·
Dylid anelu i sicrhau bod y Gymraeg yn ganolog i waith
y Pŵl
·
Bydd angen i’r awdurdod lletya drefnu bod dogfennau
ar gael yn ddwyieithog a bydd cyfarfodydd ffurfiol, cyhoeddus yn cael eu cynnal
yn ddwyieithog
·
Bod angen lleoliad addas ar gyfer cyfarfodydd
Cydbwyllgor y Pŵl
Mewn ymateb i’r sylw, nodwyd bod y materion
iaith wedi eu hamlygu mewn cyfarfod o Gadeiryddion y Pŵl ar 11/1/2017 ac
wedi ei ‘dderbyn fel dealltwriaeth’. Amlygodd y Cyfreithiwr bod posib ychwanegu
hyn i’r cytundeb. Cydnabuwyd bod safonau darpariaeth iaith yn amrywio dros Gymru.
Cynigiwyd ac eiliwyd y dylid sicrhau bod
cyfarfodydd swyddogol ffurfiol Cydbwyllgor y Pŵl yn dilyn trefn
dwyieithrwydd llawn, ac y dylid cynnwys cymalau priodol yn y cytundeb.
Wrth fynegi diolch am y gwaith oedd wedi ei
wneud i lunio’r cytundeb, gwnaed cais i'r swyddogion nodi, pe byddent yn
anghyfforddus gydag unrhyw sefyllfa, eu bod yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor.
Mewn ymateb i’r sylwadau nododd y
Cyfreithiwr, wrth sefydlu Partneriaethau, rhaid peidio gosod elfennau caeth.
Amlygwyd bod materion allweddol, lefel uchel yn parhau ar lefelau lleol a bod
hyn yn rhan o’r cytundeb. Nodwyd hefyd y byddai’r cydbwyllgor yn mabwysiadu
rheolau lleol.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â
gwahaniaethau mewn rheoliadau cynghorau mewn aelodaeth pwyllgorau, ac yn
benodol y cyfnod Cadeiryddiaeth, nodwyd na fyddai trefniadau Gwynedd yn cael eu
haddasu i gydymffurfio â rheolau a threfniadau cynghorau eraill.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â Gwynedd yn
cynnig eu hunain fel awdurdod lletya, derbyniwyd bod y sylw yn fater trafodaeth
a bod modd cynnig hyn i’r cydbwyllgor petai hyn oedd dymuniad y Pwyllgor.
Amlygodd y Cyfreithiwr bod Gwynedd yn arwain ar nifer o brosiectau, ac felly
byddai angen sicrhau bod adnoddau yn eu lle cyn mentro - byddai angen adolygu
hyd a lled y gwaith i gyfarch y gofynion. Eglurwyd y byddai’r adnodd lletya yn
cael ei gyllido gan yr wyth gronfa ac felly gellid ystyried y sylw fel ymateb i
gyfle.
PENDERFYNWYD,
i. Bod
y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd yn datblygu
Pŵl Buddsoddi Cymru ac yn cefnogi ymrwymo i’r Pŵl.
ii. Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r Cytundeb
Rhwng-Awdurdod drafft, ac yn cefnogi ei argymell i’r Cyngor llawn ar 2 Mawrth
2017.
iii. Bod y
Pwyllgor yn argymell sefydlu Cyd-Bwyllgor Cymru Gyfan yn unol â’r Cytundeb a bod cyfarfodydd swyddogol o’r cydbwyllgor yn
dilyn trefn dwyieithrwydd llawn.
iv. Bod y Pwyllgor yn dirprwyo hawl i’r
Pennaeth Cyllid mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth
Cyfreithiol a’r Cadeirydd i gytuno unrhyw newidiadau i’r Cytundeb
Rhwng-Awdurdod cyn ei gyflwyno i’r Cyngor am gymeradwyaeth.
Dogfennau ategol: